– Senedd Cymru am 4:58 pm ar 21 Mehefin 2016.
The next item on the agenda is the statement by the Cabinet Secretary for Health, Well-being and Sport on the Welsh health survey. I call on the Cabinet Secretary, Vaughan Gething, to make the statement.
Diolch i chi, Lywydd. Mae arolwg iechyd Cymru yn rhoi trosolwg i ni o gyflwr iechyd y genedl. Mae'n cynnwys statws iechyd, y defnydd o wasanaethau iechyd ac ymddygiad sy'n gysylltiedig ag iechyd. Rwy’n gwneud datganiad heddiw ar y prif negeseuon, ond ceir mwy o ddysgu a dadansoddiad o'r arolwg yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Mae arolwg iechyd Cymru 2015, a gyhoeddwyd yn ddiweddar, yn dangos i ni fod 19 y cant o oedolion yn ysmygu ar hyn o bryd. Mae hynny i lawr o 26 y cant yn 2003 i 2004. Mae’r lleihad sylweddol hwn yn golygu ein bod wedi rhagori ar nod Llywodraeth Cymru i leihau cyfraddau ysmygu i 20 y cant erbyn 2016. Rydym yn awr ar y trywydd iawn i gyrraedd y targed uchelgeisiol o leihau lefelau ysmygu i 16 y cant erbyn 2020-ac nid oeddem wedi meddwl y byddem yn cyrraedd yno bob amser. Mae'r cynnydd hwn yn dyst i ymdrechion ystod o weithwyr proffesiynol sydd wedi gweithio i annog pobl ifanc yn enwedig rhag dechrau ysmygu, a’r cyngor a'r gefnogaeth a roddir i ysmygwyr sydd am roi'r gorau iddi. Rwy'n falch o gydnabod bod pobl Cymru wedi croesawu’r newid yn y diwylliant fel mai amgylcheddau di-fwg yw'r norm bellach.
Mae'n bwysig ein bod yn cynnal ac yn gwella ein hymdrechion. Rydym yn gwybod bod ysmygu'n lladd ac yn achosi niwed. Mae angen inni weithredu fel nad yw pobl ifanc yn dechrau ysmygu a bod ysmygwyr sydd am roi'r gorau iddi yn cael y cymorth gorau sydd ar gael. Gyda hyn mewn golwg, rydym ar hyn o bryd yn adolygu'r cynllun gweithredu ar reoli tybaco i sicrhau ein bod yn parhau i wneud popeth o fewn eich gallu i leihau lefelau ysmygu ymhellach yng Nghymru.
Mae gennym, am y tro cyntaf, wybodaeth benodol am y nifer o ddefnyddwyr e-sigaréts yng Nghymru. Pymtheg y cant o oedolion sydd wedi rhoi cynnig ar ddefnyddio e-sigaréts; gyda 6 y cant yn ddefnyddwyr presennol, ac mae 59 y cant o ddefnyddwyr presennol hefyd yn ysmygwyr ar hyn o bryd. Mae'r ffigurau hyn yn debyg i'r canfyddiadau o arolygon mewn mannau eraill yn y DU, a byddwn yn parhau i adolygu’r dystiolaeth ar ddefnyddio e-sigaréts.
Er nad yw lefelau yfed alcohol wedi gostwng eleni, maent yn aros ar y lefelau isaf ers i’r cwestiynau hyn gael eu cyflwyno yn 2008. At ei gilydd, mae yfed alcohol ymhlith oedolion iau wedi gostwng, ond bu cynnydd bychan o ran oedolion hŷn. Mae mynd i'r afael â chamddefnyddio alcohol yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru a bydd ein camau gweithredu yn cael eu nodi yn y cynllun cyflawni newydd ar gamddefnyddio sylweddau. Bydd y camau gweithredu yn cynnwys ffocws cryf ar fynd i'r afael â'r niwed sy'n gysylltiedig ag ymddygiadau yfed peryglus, yn enwedig ymhlith oedolion hŷn. Rydym yn disgwyl cyhoeddi’r cynllun hwnnw cyn toriad yr haf.
Mae ein camau gweithredu i leihau'r niwed a achosir gan alcohol yn cael eu hategu gan ganllawiau prif swyddogion meddygol newydd y DU, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr eleni. Mae'r rhain yn cynnwys un terfyn risg isel o 14 uned yr wythnos ar gyfer dynion a menywod, ac yn ei gwneud yn glir bod yfed unrhyw lefel o alcohol yn cynyddu'r perygl o ystod o ganserau a chlefydau eraill. Mae'r canllawiau newydd hefyd yn atgyfnerthu'r neges nad oes lefel ddiogel o alcohol i'w yfed yn ystod beichiogrwydd.
Byddwn yn parhau i ddadlau o blaid yr achos dros gyflwyno isafbris uned ar gyfer alcohol yng Nghymru. Byddai camau o'r fath yn targedu’r yfwyr trymaf yn benodol i atal niwed a achosir gan yfed gormod o alcohol, ac ar yr un pryd yn lleihau'r effaith ar yfwyr cymedrol.
Mae'r arolwg hefyd yn rhoi syniad o’r gyfran o'r boblogaeth sydd naill ai'n rhy drwm neu'n ordew. Tynnodd y Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd Cyhoeddus sylw yr wythnos diwethaf at y cynnydd araf ond cyson yn nifer yr oedolion a gaiff eu hystyried yn rhy drwm neu'n ordew ers cychwyn yr arolwg yn 2003-04. Yn ystod y cyfnod hwn o 11 mlynedd, mae'r gyfran o oedolion a gaiff eu hystyried yn rhy drwm neu'n ordew wedi codi o 54 y cant i 59 y cant, ac mae gordewdra yn unig wedi cynyddu o 18 y cant i 24 y cant. Mae lefelau hefyd yn cynyddu yn sgil amddifadedd ac maent ar eu huchaf ymhlith pobl ganol oed.
Yn syml, rydym yn gwybod mai’r rheswm pam mae pobl dros bwysau ac yn ordew yw’r anghydbwysedd rhwng calorïau a fwyteir a’r calorïau a ddefnyddir. Felly nid yw'n syndod bod y data hefyd yn dangos nad yw lefelau gweithgarwch corfforol yn gwella, a dim ond un rhan o dair o oedolion sy’n dweud eu bod yn bwyta eu pum dogn o ffrwythau a llysiau bob dydd. Mae hwn yn ddangosydd a ddefnyddir yn eang o ran deiet iach a chytbwys.
Mae gwella lles pobl yng Nghymru, a'u galluogi i fwyta'n well a symud mwy yn ymrwymiad maniffesto allweddol i ni, ac mae fy mhortffolio yn dwyn ynghyd nifer o gydrannau i symud yr agenda hon yn ei blaen. Yn ganolog i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a ddaeth i rym yn ddiweddar, mae’r bwriad i wella iechyd, lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. I gyflawni dyheadau’r Ddeddf, bydd yn rhaid i ni fod yn gymdeithas lle mae lles corfforol a meddyliol yn cael eu hyrwyddo i’r eithaf ac ymddygiadau sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol yn cael eu deall. Mae cynyddu lefelau gweithgarwch corfforol a gwella ein deiet yn elfennau allweddol er mwyn cyflawni'r dyheadau yn y Ddeddf.
Penodwyd cyfarwyddwr gweithgarwch corfforol cenedlaethol ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Chwaraeon Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddatblygu argymhellion i wella lefelau gweithgarwch corfforol.
Ynghyd â gwaith ar addysg a newid ymddygiad, rydym hefyd yn ceisio dylanwadu ar yr amgylchedd bwyd. Rydym yn ehangu safonau maeth mewn mwy o leoliadau, ac rydym ar hyn o bryd yn eu datblygu ar gyfer cartrefi gofal a lleoliadau blynyddoedd cynnar. Bydd angen i ni hefyd weithio gyda'r diwydiant bwyd ar lefel Cymru a'r DU. Mae angen i ni sicrhau bod cynhyrchion iachach ar gael ac annog y defnydd o gynllun Llywodraeth y DU i labelu maeth ar flaen pecynnau a hyrwyddo a marchnata cyfrifol. Roedd fy rhagflaenydd, wrth gwrs, yn pwyso am gamau gweithredu cryfach gan Lywodraeth y DU ar siwgr ac yn pwyso am atgyfnerthu’r cyfyngiad ar hysbysebu bwydydd afiach i blant. Roeddem yn falch o glywed y cyhoeddiad gan y DU am ardoll ar siwgr. Fodd bynnag, ni fydd yr ardoll ynddo’i hun yn datrys yr holl heriau sy’n ein hwynebu o ran y defnydd o siwgr.
Er fy mod wrth gwrs wedi fy nghalonogi o weld gostyngiad yn nifer yr oedolion sy'n ysmygu yng Nghymru, ar y cyfan mae'n amlwg bod llawer ohonom yn parhau i fwyta ac yfed gormod ac nid ydym yn gwneud digon o ymarfer corff. Mae cefnogi ac annog pobl i gymryd camau bach i wella eu ffordd o fyw a lleihau'r risg o salwch y gellir ei atal yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, nid yw hyn yn rhywbeth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud ar ei phen ei hun. Mae'n gofyn am weithredu ar y cyd gan amrywiaeth eang o sefydliadau o'r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol ac, wrth gwrs, gan yr unigolion eu hunain.
Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Diolch am y datganiad. Mae hwn yn arolwg pwysig iawn. Rwy’n gwerthfawrogi, wrth gwrs, mai dim ond penawdau rydym ni’n eu trafod heddiw ac rwy’n edrych ymlaen am ddadansoddiad mwy cyflawn maes o law.
Mae yna arwyddion cadarnhaol yma ar y ganran sy’n ysmygu, er enghraifft efo gostyngiad yn parhau ond, wrth gwrs, efo llawer iawn o ffordd i fynd. Rwyf yn cefnogi camau pellach gan y Llywodraeth yn y maes yma wrth geisio bwrw targedau mwy uchelgeisiol, ond fel un a wnaeth bleidleisio yn erbyn y Mesur iechyd cyhoeddus oherwydd yr elfen e-sigarennau, mi fuaswn i’n annog y Llywodraeth i weld e-sigarennau fel arf bwysig yn erbyn ysmygu. Rwyf yn falch bod y Llywodraeth yn cadw meddwl agored, fel y clywsom ni gan y Gweinidog heddiw. Mae yna rywfaint o oleuni yma o ran gorddefnydd o alcohol hefyd. Ond, os caf i droi rŵan at yr elfennau negyddol yn yr adroddiad yma.
If we turn to the big negative coming out of this survey, that’s the statistics on obesity. The alarm bells haven’t exactly just started to sound on obesity, they’re now ringing at a volume that should certainly be deafening enough to force governments to run not for cover but in pursuit of urgent action. It is a national scandal, it’s a catastrophic situation that I think we can all agree is threatening the well-being of current and future generations. I note the steps outlined by the Minister, including the appointment of a national physical activity director. I do regret, however, that obesity amongst children isn’t specifically addressed or addressed in detail today in this statement. It’s clear that we have an obesity epidemic in Wales among children that needs to be addressed urgently in terms of policy and resource. Does the Minister share my appetite to seek new ways of substantially increasing funding in this area?
On urgency, I wonder what lessons have been learnt from smoking-cessation strategies, because I don’t think we can afford to let the fight against obesity happen along similar timescales to the measures to reduce smoking, which have taken decades to take effect.
On the power of taxation, tobacco, along with alcohol, of course—heavily taxed. And though it did take some time, I’m glad that Labour did finally switch from rubbishing to supporting our calls for a levy on sugary drinks. Can I ask how the Minister now plans to work with the UK Government for early introduction of the levy that the UK Government has promised to pursue?
The Minister may know that the Parliamentary Office of Science and Technology published a report today on sugar and obesity. It calls for limiting sugar intake. It calls—yet another body—for the introduction of a levy. It also highlights similarities in approaches by the food industry and the tobacco industry to delay the introduction of regulation. So, can I ask finally if the Cabinet Secretary would comment on steps he would like to take, or is taking, to deal with these efforts to frustrate Government action?
Diolch i'r Aelod am ei gyfres o sylwadau a chwestiynau a’r dechrau cadarnhaol ar y cyfan, ac rwyf innau hefyd yn edrych ymlaen at weld mwy o ddysgu o'r arolwg wrth i ragor o waith dadansoddi gael ei wneud i helpu i lywio ein sefyllfa a lle’r ydym eisiau bod.
Rwy’n dechrau gyda'ch pwynt am e-sigaréts. Dim ond i ailadrodd ein bod yn parhau i adolygu'r dystiolaeth ar ddefnyddio e-sigarét, o ran pa mor gyffredin ydynt a'r ffordd y cânt eu defnyddio, eu heffaith botensial ar bobl ifanc a'r modd y maent yn cael eu marchnata, a'r cyflasynnau, ond yn enwedig yr effaith y mae defnyddio e-sigaréts yn ei chael. Rydym wedi clywed nifer o adroddiadau am effaith y defnydd o e-sigaréts, â'r datganiad eu bod yn 20 y cant yn llai niweidiol na thybaco. Ond wrth gwrs nid yw hynny'n golygu eu bod yn rhydd o niwed. Felly, mae angen deall i beth y cânt eu defnyddio, pam eu bod mor gyffredin, a beth yw’r effaith. Nid ydym yn deall eto beth fydd y defnydd tymor hir ohonynt, ond byddwn yn parhau i edrych ar y dystiolaeth ac yn cael ein harwain gan dystiolaeth ar y mater hwn.
Byddaf yn ymdrin â'ch pwyntiau am fwyd, maeth a siwgr gyda'i gilydd, os caf. Dim ond i addasu ychydig ar y sefyllfa ar hyn o bryd, nid ein bod yn dilorni’r syniad o ardoll ar siwgr; ond yn hytrach y syniad ynghylch sut y gellid ei neilltuo. Nid ydym erioed wedi bod o blaid neilltuo’r defnydd o’r ardoll ar siwgr yn y modd y cafodd ei gyflwyno i ddechrau, ond ni fu unrhyw anghytundeb erioed rhwng ein dwy blaid y gellid ac y dylid ystyried ardoll ar gynnyrch cynnwys siwgr uchel. Yr hyn sydd gennym yn awr yw ardoll ar siwgr mewn diodydd, ond nid yw'n ystyried pob rhan arall o fwyd yn ogystal â hynny. Rhan o'r gweithredu y mae fy rhagflaenydd wedi annog Llywodraeth y DU i ymgymryd ag ef yw gwneud mwy i hyrwyddo dewisiadau heblaw siwgr, yr ydym yn ei hyrwyddo ein hunain yng Nghymru, ond hefyd mae angen edrych eto ar reoleiddio ar gyfer siwgr mewn mwy na diodydd byrlymog yn unig.
Mae hyn yn mynd yn ôl at y pwynt nad yw bwyd, maeth a llawer o'r pwerau rheoleiddio dros fwyd a maeth a safonau maeth wedi'u datganoli. Mae cydbwysedd rhwng yr hyn y gallwn ac na allwn ei wneud, a dyna pam mae angen inni weithio gyda Llywodraeth y DU o hyd. Gallaf gadarnhau bod sgyrsiau parhaus rhwng y Llywodraethau ynghylch cyflwyno'r ardoll a gynigiwyd a sut y gallai neu efallai na fydd yn gweithio, ac y bydd y gwaith yn cael ei ddatblygu rhwng fy adran i a hefyd adran yr Ysgrifennydd Cyllid a Llywodraeth Leol hefyd. Rwy’n gobeithio y gallwn ddod yn ôl a dweud mwy wrth Aelodau'r Cynulliad pan fyddwn wedi cael sgyrsiau mwy adeiladol, a’n bod yn gallu dweud rhywbeth mwy wrthych na'r ffaith ein bod yn siarad ar y pwynt hwn.
Rwyf am ymdrin â'ch pwynt ynghylch gordewdra. Rydym wedi cydnabod ers amser fel gwlad bod gordewdra yn her sylweddol—yr effaith ar ganlyniadau iechyd cyhoeddus ar ystod eang o ddangosyddion afiechyd a chyflwr iechyd a'r effaith a gaiff ar fywydau pobl o ddydd i ddydd, a’r realiti ei bod yn fwy cyffredin mewn cymunedau lle ceir mwy o amddifadedd nag mewn eraill. Felly, nid oes lle i fod yn hunanfodlon. Rhan o'r anhawster yw ei fod yn mynd yn ôl i'r pwynt o sut yr ydym yn defnyddio’r canlyniadau hyn i ddeall beth sydd angen i ni wneud mwy ohono, a sut yr ydym yn gweithio’n fwy llwyddiannus ochr yn ochr â'r cyhoedd i'w hannog i wneud dewisiadau drostynt eu hunain, ond ein bod yn gwneud hynny mewn modd nad yw’n ymddangos ein bod yn pregethu wrth y cyhoedd neu’n eu maldodi ac yn dweud wrthynt beth mae'n rhaid iddynt ei wneud. Mae'n rhaid i ni wneud dewisiadau iachach yn ddewisiadau haws. Os edrychwn ar blant, er enghraifft, mae ychydig dros un o bob pedwar plentyn naill ai'n rhy drwm neu'n ordew. Dyna ein dealltwriaeth o'r rhaglen mesur plant, sy'n golygu bod tua 73 y cant ar bwysau iach. Ond ein problem ni yw nad ydym wedi gweld y math o golli pwysau mewn plant dros bwysau a gordew yr ydym am ei weld, ac i fynd i’r afael â hynny mae angen inni weld beth sy'n digwydd i blant cyn iddynt fynd i’r ysgol, yn ystod yr ysgol a thu allan yr ysgol hefyd. Mae angen newid diwylliant yn gyffredinol ar draws cymdeithas ac o fewn teuluoedd—felly dealltwriaeth o beth yw effaith deiet afiach ar blentyn ac effaith peidio â gwneud digon o ymarfer corff ar blentyn. Felly, mae ystod o wahanol bethau i ni eu gwneud. Ond gan fod y darlun yn gymhleth, nid yw hynny'n golygu na ddylem ddymuno gwneud rhywbeth am y peth ac na fyddwn yn dymuno gwneud rhywbeth am y peth. Fel y dywedais ar ddiwedd fy natganiad cychwynnol: mae hyn yn ymwneud â'r cyhoedd, cyrff gwirfoddol, y sector cyhoeddus a'r sector preifat ac unigolion eu hunain yn deall ac yn atgyfnerthu'r hyn y gallent ac y dylent ei wneud, a sut yr ydym ni yn gwneud y dewisiadau hynny’n haws iddynt, a bod pobl yn gallu gweld ar unwaith yr effeithiau gwell ar iechyd o fod ar bwysau iachach.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Angela Burns.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, hoffwn ddiolch i chi am y datganiad hwn. Rwyf innau hefyd yn croesawu’n fawr iawn rywfaint o'r newyddion yn y datganiad hwn. Rwyf wrth fy modd o weld bod ysmygu yn bendant wedi gostwng o 26 y cant i 19 y cant o oedolion. Mae'n ddiddorol nodi bod hynny'n cyd-fynd yn llwyr â nifer y bobl sy'n defnyddio e-sigaréts. Rwyf wrth fy modd o glywed y sylwadau a wnaethoch wrth Rhun ap Iorwerth, oherwydd gobeithio, gydag Ysgrifennydd Cabinet newydd yn ei le, y gallwn gael golwg newydd ar fater defnyddio e-sigaréts, oherwydd, os yw'n helpu pobl i roi'r gorau i ysmygu, mae'n sicr yn werth ei ystyried yn hytrach na'r gwrthwynebiad ystyfnig braidd a roddwyd iddo y tro diwethaf.
Gan droi drosodd at weddill y datganiad, hoffwn godi yn arbennig y mater o ordewdra i siarad am ddiabetes. Roeddwn wedi synnu’n fawr, mewn gwirionedd, o ddarllen yn arolwg iechyd Cymru eu bod yn dweud mai dim ond ychydig o gynnydd oedd mewn diabetes. Nid yw hyn yn cyd-fynd â llawer o'r rhethreg a glywn gan wahanol sefydliadau yn dweud bod diabetes ar gynnydd yng Nghymru. Tybed, Weinidog, a fyddech yn ystyried archwilio’r ffigurau hynny’n fanwl ac efallai gweld a allwn gael gwybod faint o'r bobl hynny sydd â diabetes math 1 o’i gymharu â math 2, oherwydd, fel y gwyddoch chi a minnau, mae math 2 yn rhywbeth y mae modd cael help i gael gwared arno drwy ddilyn deiet gwell, mwy o ymarfer corff a rhagor o gyngor a chymorth, yn wahanol i fath 1.
Yma hefyd o ran y gydberthynas â phobl ifanc yn ordew, codais hyn ar eich datganiad yr wythnos ddiwethaf am y gostyngiad yn nifer yr oriau sydd ar gael i chwaraeon mewn ysgolion. Mae angen inni gydnabod, unwaith eto, yn yr arolwg hwn mae'n dweud, mewn gwirionedd, rhwng 2004, pan ddechreuodd yr arolwg, a'r llynedd, 2015, bod yr ymarfer corff y mae pobl ifanc dan 16 oed yn ei wneud wedi gostwng, yn hytrach na chynyddu. Felly, mae’n ymddangos ein bod yn symud tuag yn ôl. Felly, hoffwn ofyn, Weinidog, beth yr ydych chi’n mynd i fod yn gallu ei wneud i gysylltu â'ch cydweithiwr ym maes addysg ynghylch sut mae sicrhau bod pobl ifanc, yn enwedig yr ifanc iawn, yn tyfu i fyny gyda’r arfer iach hwn o ymarfer corff da a fydd yn helpu i fynd i’r afael â’r maes penodol hwn? Nid oes modd gwneud hyn ar wahân; mae angen inni gael safbwynt integredig. Dyna pam fy mod yn meddwl tybed: ai dyna’r rheswm eich bod wedi penodi cyfarwyddwr gweithgarwch corfforol cenedlaethol? A yw hon yn swydd newydd gydag arian newydd, neu a oes rhywun eisoes yn gwneud y swydd hon ac yn mynd i fod yn cymryd y cyfrifoldeb hwn? Oherwydd, unwaith eto, er fy mod yn cytuno â byrdwn eich dadl yma, byddwn wedi meddwl, unwaith eto, bod hon yn rôl addysgiadol, a'r hyn sydd angen ei wneud, o fewn addysg, yw sicrhau bod pobl ifanc a phlant yn mynd ati i ddysgu a deall beth yw bwyd da, fforddiadwyedd, sgiliau coginio, gweithgarwch corfforol, ymdopi â’r bwlio a'r embaras y mae menywod ifanc, yn enwedig, yn eu hwynebu pan fyddant yn ceisio cymryd rhan mewn chwaraeon. A fyddai cyfarwyddwr gweithgarwch corfforol cenedlaethol yn edrych ar hyn i gyd? Ac, unwaith eto, pan fyddwn yn edrych ar feysydd o amddifadedd cymdeithasol—y rheini yw’r bobl sy'n ei chael hi’n anodd cael cyfleoedd i gymryd rhan mewn chwaraeon—tlodi, ac yn y blaen. Felly, unwaith eto, byddwn wedi meddwl y byddai hynny wedi cael ei drefnu ym mhob un o'r gwahanol raglenni cymdeithasol sydd gennym, yn hytrach na chreu swydd hollol newydd. Yn fyr, oni ddylai fod yn rhan annatod o bolisi'r Llywodraeth, yn hytrach na chael un tsar, neu a ydych yn credu y bydd y tsar hwnnw yn gallu cael effaith, a sut y byddwch yn mesur y tsar?
Roeddwn i'n meddwl ei fod yn ddiddorol iawn gweld, eto o fewn arolwg iechyd Cymru, eu bod yn y bôn yn dweud bod ein holl blant yn eithaf iach. Eto i gyd, nid yw hynny'n cyd-fynd yn hollol â’r adroddiad plant, pobl ifanc ac addysg ar y rhaglen Cynllun Gwên yn y Cynulliad diwethaf, lle canfuwyd bod gan tua 41 y cant o blant pum mlwydd oed yng Nghymru brofiad sylweddol o bydredd dannedd, mae tua 8,000 o blant wedi gorfod cael anesthetig er mwyn tynnu dannedd lluosog wedi pydru, a byddwch chi a minnau yn gwybod, mewn gwirionedd, mai drwy eich ceg yr ydych yn cael cymaint o afiechydon, cymaint o heintiau, a bod dannedd drwg mewn gwirionedd yn golygu y byddwch fel oedolyn yn agored i afiechyd. Felly, hoffwn wybod beth y gallech fod yn ei wneud gyda'r rhaglen Cynllun Gwên a beth y gallech fod yn ei wneud—oherwydd mae hyn, os mynnwch, yn borth i mewn i iechyd da. Mae cael dannedd da yn cyfateb i iechyd da, ac rwy'n synnu'n fawr nad yw'n cael ei nodi yn yr arolwg iechyd. Gan y byddwch yn ailgyfansoddi’r arolwg iechyd hwn, tybed a fyddech yn ystyried a ddylech fod yn gofyn cwestiynau ar yr ochr ddeintyddiaeth iddo.
Yn olaf, hoffwn wneud sylw ar y ffaith eich bod yn bwriadu ail-lansio'r arolwg cyfan hwn-arolygon iechyd yn y dyfodol. Rydych yn dweud mai hwn yw'r arolwg iechyd Cymru diwethaf o'r fath yn y fformat hwn, a byddwn yn hoffi gwybod yn y fformat newydda fyddwch yn cael cwestiynau tebyg iawn fel y gallwn barhau i gynllunio llwybr, neu a fyddwch chi'n dechrau o’r dechrau gyda set newydd gyfan, fel na allwn gael cymariaethau blwyddyn ar ôl blwyddyn? Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn i ni gael gwybod hynny, oherwydd, yn y pen draw, yn ein rôl graffu, drwy allu craffu ar eich perfformiad, flwyddyn ar ôl blwyddyn, y gallwn gael darlun o effaith y polisïau a gyflwynwyd gan eich Llywodraeth. I fod yn onest, Ysgrifennydd y Cabinet, mae gan eich Llywodraeth hanes o gael gwared ag ystadegau cymharol anghyfleus, a hoffwn i wybod, wrth symud ymlaen, a fydd yn dal yn bosibl cael y mesur cymharol hwnnw. Diolch.
Diolch i chi am y gyfres o gwestiynau. Hoffwn gydnabod y newyddion da ar ysmygu, yn arbennig, er nad yw'n deg i ddweud ei fod yn syml yn gydberthynas uniongyrchol â defnyddio e-sigaréts. Fel y dywedais yn gynharach, rhan o'r broblem yw bod mwy a mwy o bobl ifanc yn tyfu i fod yn oedolion nad ydynt yn ysmygu, ac mae hynny’n cael effaith wirioneddol ar gyffredinolrwydd ysmygu—newid diwylliannol sydd i’w groesawu sy'n digwydd, er nad wyf yn teimlo’n hunanfodlon ynghylch y cyfraddau na chyffredinolrwydd ysmygu ymysg pobl ifanc.
O ran gordewdra a diabetes, a'r berthynas rhwng y ddau, rydym, wrth gwrs, yn siarad am ordewdra a'i berthynas, yn benodol, â diabetes math 2, yn hytrach na math 1. Dyna yw’r twf sylweddol yr ydym wedi’i weld. Er gwaetha’r ffaith ei bod yn ymddangos bod y gyfradd twf wedi lefelu yn y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, mae hynny’n dal yn gadael problem enfawr, oherwydd rydym yn gwybod po fwyaf o bobl sydd gennym yn byw gyda diabetes math 2, y mwyaf tebygol y maent o alw ar y gwasanaeth iechyd, i fyw drwy gyfnodau o salwch a phob un o'r cymhlethdodau sylweddol sy'n cyd-fynd â diabetes. Cawsom Wythnos Diabetes genedlaethol yr wythnos diwethaf, ac nid wyf yn meddwl y gallwn byth flino ailadrodd nad yw'n gyflwr dibwys. Ymwelais â'r tîm yn Ysbyty Gwynedd gan edrych ar y gwaith y maent yn ei wneud—gwaith trawiadol iawn—yn Betsi Cadwaladr i gael llawdriniaeth yn hytrach na cholli rhannau o’r corff. Mae'n gyffrous gweld y lluniau o'r hyn sydd wedi digwydd gyda llawdriniaeth. Os mai’r dewis arall oedd colli rhan o’r corff, mae hynny’n cael effaith fawr ar ddisgwyliad oes rhywun yn ogystal ag ansawdd ei fywyd a'i allu i weithio a symud o gwmpas yn gymdeithasol. Rydych yn gwybod, y realiti yw bod pobl yn colli eu golwg, maent yn colli rhannau o’u corff o ganlyniad i ddiabetes. Mae'n gyflwr gwirioneddol ddifrifol, a dyna lle daw'r prif bryder am yr effaith ar ansawdd bywyd pobl, gallu pobl i weithio ac i fyw, ac mewn gwirionedd yn y gost y mae'n ei gynhyrchu ar gyfer gwasanaethau iechyd. Eisoes, mae tua 10 y cant o wariant y GIG, rydym yn meddwl, yn cael ei wario ar feysydd sy'n gysylltiedig â diabetes.
O ran eich pwyntiau yn gyffredinol am chwaraeon ysgol a gweithgarwch corfforol, a'r cysylltiadau rhwng ein gwaith ni a gwaith y portffolio plant a chymunedau ac, wrth gwrs, yr Ysgrifennydd Addysg, rydym yn cydnabod bod cysylltiadau amlwg ac uniongyrchol iawn rhwng sut yr ydym yn annog ac yn ei gwneud yn hawdd i blant fod yn egnïol yn gorfforol ac, unwaith eto, sut yr ydym yn meddwl am natur y gweithgarwch hwnnw. Felly, nid ydym yn meddwl yn unig am chwaraeon, er mor bwysig yw hynny fel rhan o'r darlun, ond mae gweithgarwch corfforol yn mynd llawer pellach ac yn llawer ehangach na hynny. Dyna'r sgwrs yr ydym yn ei chael, wrth i ni fynd trwy ddiwygio'r cwricwlwm hefyd, er mwyn deall sut y gallai fod yn edrych a sut yr ydym yn credu y dylai edrych, ac yna sut yr ydym yn mesur pwyntiau priodol i ddeall a yw ein plant yn fwy egnïol yn gorfforol. Ond mae'n mynd yn ôl eto at y pwynt a wneuthum ar y dechrau mewn ymateb i Rhun ap Iorwerth: mae hyn yn ymwneud â'r hyn y gallai ac y dylai’r Llywodraeth ei wneud, yn ei holl ffurfiau, yn ogystal â'r hyn y bydd unigolion yn ei wneud hefyd. Felly, nid yw’n ymwneud â’r plant yn unig ond hefyd y teuluoedd, a’r pwysigrwydd y maent yn ei roi ar weithgarwch corfforol ac, unwaith eto, pa mor hawdd yr ydym yn ei wneud iddynt gymryd rhan yn y gweithgarwch.
Mae swydd newydd y cyfarwyddwr gweithgarwch corfforol yn swydd ar y cyd, fel y dywedais yn gynharach, ond mae'n mynd at graidd nid yn unig yr hyn y mae'r Llywodraeth am ei weld, ond mewn gwirionedd mae Chwaraeon Cymru yn cydnabod nad yw’r rhan honno o'u cenhadaeth yn ymwneud yn unig â chwaraeon elitaidd. Mae o leiaf tair o bedair prif ran eu cenhadaeth yn fras yn sôn am gyfranogiad ac, os mynnwch, y cysylltiad â meysydd iechyd cyhoeddus o weithgarwch. Dyna beth y mae'n ymwneud ag e: gweithgarwch ar lawr gwlad, nid yn unig chwaraeon elitaidd. Rwy'n meddwl fod Chwaraeon Cymru yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf wedi bod yn barod i fod yn fwy agored am y ffaith fod hynny’n rhan o'u cenhadaeth a sut y dylid eu barnu nhw hefyd. Felly, mae'r swydd hon yn ymwneud â cheisio dwyn ynghyd yr hyn y gallem ac y dylem ei wneud ar draws gwahanol ganghennau’r Llywodraeth. Chwaraeon Cymru, fel corff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad, ac yna sicrhau ein bod wedyn yn cael rhywfaint o dargedau a cherrig milltir ystyrlon. Felly, byddwch yn gweld rhywbeth a fydd yn dod yn ôl i geisio rhoi syniad i chi ac Aelodau eraill o beth yw’r sefyllfa nawr a beth yr ydym yn dymuno ei wneud mewn gwahanol rannau o’r Llywodraeth, a'n partneriaid hefyd.
Dylwn hefyd ddweud, ar eich pwynt am gymunedau difreintiedig, mae gennym ystod o raglenni penodol, o StreetGames i Gymunedau yn Gyntaf, ond mae hefyd rhywbeth yma am gyrff llywodraethu prif ffrwd, er enghraifft, y pêl-droed ar hyn o bryd. Cymdeithas Bêl-droed Cymru—y gamp gyda’r cyfranogiad mwyaf yng Nghymru. Mae'n gêm weddol hawdd i'w chwarae; nid oes angen llawer o offer arnoch chi. Felly, mae'n ymwneud â meddwl am y ffordd yr ydym yn defnyddio chwaraeon, a’r chwaraeon hygyrch, i geisio cael pobl i ddangos diddordeb mewn gweithgarwch. Nid yw hynny bob amser yn ymwneud â gweithgareddau cynghreiriau, mae'n ymwneud â’r neges ehangach honno bod chwaraeon yn weithgarwch corfforol a hamdden yn rhan o'r hyn yr ydym am ei weld. Rhaid i hynny fynd i mewn i gymunedau o amddifadedd. Rwy’n amau mewn gwirionedd fod gan rai o'n prif chwaraeon stori well i’w dweud nag y gallant ei chyflwyno. Rwy'n edrych ymlaen at holi, gyda fy nghydweithiwr, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd, er mwyn deall beth sy’n digwydd mewn gwirionedd ac a ydynt yn bodloni eu cenadaethau eu hunain hefyd.
Yn olaf, rwy’n derbyn eich pwynt am y Cynllun Gwên, ond, mewn gwirionedd, mae wedi bod yn un o'r rhaglenni hynny sy’n gallu dweud bod y bwlch wedi cau rhwng cymunedau lle mae mwy o amddifadedd ac eraill. Nid yw hynny'n dweud ei fod yn berffaith, felly rydym yn awyddus i ddeall beth mae angen i ni wneud mwy ohono yn y dyfodol.
Yn olaf, ar eich pwynt am yr arolwg newydd, bydd arolwg newydd yn rhan o'r arolwg cenedlaethol newydd—ffordd fwy cydlynol o ymgymryd â'r wybodaeth hon mewn un darn yn hytrach na thri neu bedwar o arolygon mawr. Rydym yn dal i ddisgwyl data o ansawdd uchel sy'n ddefnyddiol i’r Llywodraeth, wrth ddeall yr hyn yr ydym yn ei wneud a'r hyn yr ydym am ei wneud, ond gallai fod yn fater i’r cyhoedd ac Aelodau'r lle hwn i ddeall yr effaith yr ydym yn ei chael ac i helpu'r broses o graffu. Yn sicr nid oes dyhead i geisio cuddio'r hyn yr ydym yn ei wneud. Mae'n syml yn ffordd o sicrhau bod gennym ddata priodol ac o ansawdd uchel. Os oes rheswm dros newid y ffordd y mae’r data hynny yn cael eu cyflwyno, dylem fod yn agored ynghylch y rheswm dros wneud hynny. Nid oes unrhyw awydd i geisio osgoi cymharedd, ond gall fod ein bod yn casglu gwahanol fathau o ddata sy'n fwy perthnasol. Os mai dyna beth yr ydym yn mynd i'w wneud, mae angen inni fod yn onest am y peth ac egluro mai dyna beth yr ydym yn mynd i'w wneud. Ond byddwn yn dal i ddisgwyl y bydd gennych ddigon o bethau i’n holi ni yn eu cylch ac i graffu arnom yn eu cylch. Does gen i ddim amheuaeth am hynny.
Yn olaf, am y datganiad hwn, llefarydd UKIP, Caroline Jones.
Diolch, Lywydd, a diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'r data arolwg iechyd Cymru unwaith eto yn tynnu sylw at yr angen i wella negeseuon iechyd cyhoeddus. Wrth gwrs, nid yw’r heriau o lefelau gordewdra cynyddol yn unigryw i Gymru. Fodd bynnag, mae'n gwbl syfrdanol i ddysgu bod bron 60 y cant o oedolion Cymru dros eu pwysau neu'n ordew. Ysgrifennydd y Cabinet, gyda llawer o ysgolion yn gwerthu eu meysydd chwarae, pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o’r effaith y bydd hyn yn ei chael ar gyfraddau gweithgarwch corfforol ymhlith pobl ifanc? Mae gennym lawer o raglenni lle'r ydym yn annog plant i chwarae, plant i fod yn weithgar a phlant i gerdded mwy, ond mae'n rhaid i ni roi’r cyfleusterau iddynt.
O ran ysmygu, mae'n newyddion da bod nifer yr ysmygwyr yn parhau i ostwng. Roeddwn yn falch o weld bod yr arolwg, am y tro cyntaf, wedi cynnwys data ar e-sigaréts, a bod Llywodraeth Cymru o'r diwedd yn rhoi sylw i’r dystiolaeth. Mae e-sigaréts yn un o'r cymhorthion mwyaf effeithiol ar gyfer rhoi'r gorau i ysmygu ym mlwch arfau’r ysmygwr. Ysgrifennydd y Cabinet, gyda thranc arolwg iechyd Cymru, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gasglu tystiolaeth am y defnydd o e-sigaréts?
Rydym ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn siomedig bod arolwg iechyd Cymru wedi cael ei derfynu gan Lywodraeth Cymru. Mae ein gwrthwynebiadau yn ymwneud â’r hyn sy’n ei ddisodli, sef arolwg cenedlaethol Cymru. Nid ydym yn credu, gyda'i maint sampl llai, y bydd y data mor gadarn. Roedd arolwg iechyd Cymru, drwy gydol pob blwyddyn, yn cofnodi barn tua 15,000 o oedolion a 3,000 o blant, gyda lleiafswm o 600 o oedolion o bob awdurdod lleol yng Nghymru. Bydd arolwg cenedlaethol Cymru ond yn cael barn tua 12,000 o oedolion yn unig. Mae'r arolwg yn cael ei gynnal yn bennaf yn ystod yr haf, ac mae'n ymddangos nad oes unrhyw isafsymiau penodol ar gyfer casglu data gan bob awdurdod lleol. Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi ein sicrhau ni y bydd y data a gesglir ar iechyd yn y dyfodol, mor fanwl a chadarn ag a gasglwyd yn arolwg iechyd Cymru? Ysgrifennydd y Cabinet, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn casglu barn pobl ifanc, sydd â hawl, fel sydd gennym ni, i ddweud eu dweud ar ein GIG ni? Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad yn 2014 i geisio barn defnyddwyr arolwg iechyd Cymru. Roedd y mwyafrif helaeth o'r ymatebwyr yn gefnogol i'r arolwg. Yn wir, roedd yr unig feirniadaeth a gafwyd yn ymwneud â phrydlondeb rhyddhau'r data. Gyda'r pwyntiau hyn mewn golwg, a allwch chi roi’r rheswm diweddaraf inni pam y gwnaed y penderfyniad i roi terfyn ar yr arolwg? Diolch. Diolch yn fawr.
Diolch i chi am y pwyntiau a'r cwestiynau penodol hynny. O ran gwerthu meysydd chwarae ysgolion, mae’r Llywodraeth hon yn un sy'n buddsoddi yn seilwaith ein hystadau ysgol, ac rydw i wedi ymweld â nifer eang o ardaloedd lle'r ydym mewn gwirionedd yn gweld gwelliant yng ngallu pobl i ddefnyddio mannau awyr agored yn benodol ar gyfer gweithgarwch corfforol a hamdden. Does dim esgus i’w roi am ddiffyg gweithgarwch corfforol ymysg plant oedran ysgol yn nhermau meysydd chwarae ysgolion ar hyn o bryd. Rwyf wir yn meddwl bod angen i ni ganolbwyntio ar yr hyn y gallwn ei wneud yn gadarnhaol yn y ffordd y mae’r cwricwlwm yn gweithio a'r ffordd y mae teuluoedd yn gweithio ar gyfer ysgolion, ac â’r neges ehangach sydd gennym am bwysigrwydd gweithgarwch corfforol a hamdden, a chydnabod nad yw’n broblem i ysgolion yn unig. Ar y cyfan, mae’n broblem fod y rhan fwyaf o'r gwersi hyn am fywyd yn cael eu dysgu y tu allan i'r ysgol, ac mae'n ymwneud â’r gweithio hwnnw ochr yn ochr â'r teulu i ddeall effaith, effaith gadarnhaol, gweithgarwch corfforol a hamdden.
Rydw i wedi ymdrin â'r mater am e-sigaréts ac rydw i wedi bod yn glir iawn: byddwn yn dal i adolygu’r dystiolaeth, ac fel y dywedais yn gynharach, byddwch wedi sylwi yn fy natganiadau mai ychydig dan chwech o bob 10 defnyddiwr e-sigaréts sydd yn ysmygwyr hefyd. Felly, mae angen inni ddeall, os oes perthynas rhwng e-sigaréts â rhoi'r gorau iddi, ac os nad oes, mae angen inni ddeall hefyd beth yw’r effaith hirdymor ar iechyd pobl o ddefnyddio e-sigaréts. Mae hynny'n rhan, rwy’n meddwl, o’r hyn y mae hyd yn oed y rhai a oedd yn gwrthwynebu mesurau'r Bil iechyd cyhoeddus blaenorol ar e-sigaréts yn pryderu amdano: y ffordd y cafwyd tystiolaeth eithaf clir bod rhai gweithgynhyrchwyr e-sigaréts yn targedu pobl ifanc yn y ffordd yr aethpwyd ati i farchnata’r cyflasau. Mae materion real a difrifol i ni eu hystyried yma, felly gadewch i ni beidio ag esgus na ddylem wneud hynny. Ond fel y dywedais yn gynharach, byddwn yn ystyried y dystiolaeth ar y defnydd o e-sigaréts a'u heffaith.
O ran yr arolwg cenedlaethol a dod ag arolwg iechyd Cymru i ben yn benodol, rydym yn cymryd barn ar gael ffordd fwy effeithlon o gynnal gwybodaeth a deall yr hyn y mae'r cyhoedd yn ei feddwl ac yn ei wneud. Nid wyf yn meddwl y gallech chi ddisgrifio arolwg cenedlaethol gyda gwybodaeth fanwl am fwy na 12,000 o oedolion fel rhywbeth nad yw’n gadarn ac o ansawdd uchel. Yn sicr ein disgwyliad yw y bydd gennym arolwg cenedlaethol cadarn ac o ansawdd uchel. Os cewch gyfle byth—dwi ddim yn gwybod ai cyfle yw'r gair iawn—ond, os cewch gyfle byth i siarad ag un o ystadegwyr Llywodraeth Cymru, rwy’n credu y byddwch yn gweld bod ganddynt ddiddordeb mawr yn ansawdd eu data a gallant siarad â chi yn hirfaith. Byddwn yn hapus iawn i drefnu i chi gael sesiwn hir iawn gydag un o ystadegwyr Llywodraeth Cymru fel y gallant fynegi eu barn am yr arolwg cenedlaethol os ydych wir yn poeni am ei effaith a'i ddefnyddioldeb ar gyfer deall ymddygiadau iechyd yn y gorffennol a'r hyn y mae'n ei ddweud wrthym am ddyfodol ein gwasanaethau cyhoeddus.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.