1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru ar 22 Mehefin 2016.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynglŷn â rôl prosiectau ynni cymunedol fel rhan o strategaeth newid hinsawdd Llywodraeth Cymru? OAQ(5)0014(ERA)[W]
Diolch. Mae’n bosibl mai newid yn yr hinsawdd yw’r bygythiad mwyaf i genedlaethau’r dyfodol ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i leihau allyriadau net Cymru o leiaf 80 y cant erbyn 2050. Bydd gan brosiectau ynni lleol, a lleihau pellteroedd rhwng cynhyrchu a defnydd yn fwy cyffredinol, ran hanfodol i’w chwarae yn cyflawni hyn.
Diolch. Yn ystod tymor y Cynulliad diwethaf, mi wnaeth fy rhagflaenydd, Alun Ffred Jones, weithio’n ddiflino er mwyn sicrhau llwyddiant dau gynllun hydro cymunedol wrth iddyn nhw ddechrau’r broses o gynnig cyfle i’r cyhoedd brynu cyfranddaliadau yn y prosiectau yma. Maen braf gen i ddatgan bod y prosiectau yma wedi bod yn hynod lwyddiannus, gan ddenu nifer o gymdogion y cymunedau hynny i brynu cyfranddaliadau yn y prosiectau, ac mae Ynni Ogwen Cyf ac YnNi Padarn Peris bellach yn mynd ar eu taith. Mae Ynni Anafon yn Abergwyngregyn hefyd yn gynllun hydro cymunedol llwyddiannus iawn. Ond, efo’r prosiect Ynni Ogwen yn benodol, mi wnaeth hi gymryd dwy flynedd i’r cynllun dderbyn ei drwydded echdynnu dŵr, sef yr ‘abstraction licence’ gan Gyfoeth Naturiol Cymru, sy’n mynd yn bell tu hwnt i’r pedwar mis sydd yn eu canllawiau statudol nhw i brosesu ceisiadau o’r math yma.
Mewn sesiwn dystiolaeth i’r pwyllgor amgylchedd fis Tachwedd y flwyddyn ddiwethaf, mi ddywedwyd bryd hynny mai diffyg staff ac adnoddau gan Gyfoeth Naturiol Cymru oedd ffynhonnell y broblem. A ydy’r Gweinidog wedi gwneud unrhyw asesiadau o’r adnoddau sydd eu hangen gan Gyfoeth Naturiol Cymru i gyflawni ei rwymedigaethau yn llawn, ac, os felly, a ydych chi’n fodlon fod ganddo fo’r adnoddau digonol i wneud hynny, ac, os na, a fedrwch chi ymrwymo i wneud asesiad o’r fath yma ac adrodd yn ôl i’r Cynulliad, os gwelwch yn dda?
Diolch. Roeddwn yn falch iawn ein bod yn cefnogi Ynni Ogwen ym Methesda. Dyna’r cynllun peilot cyntaf o’i fath yn y DU, felly rwy’n credu bod llawer y gallwn ei ddysgu ohono yn ôl pob tebyg, o ystyried mai hwnnw yn amlwg oedd y cyntaf, ac rwy’n gwybod eu bod yn treialu model o annog defnydd lleol o ynni drwy gynhyrchu gwasgaredig. Fe fyddwch yn derbyn fy mod yn newydd iawn yn y portffolio. Rwyf wedi cyfarfod â Cyfoeth Naturiol Cymru. Yn amlwg, maent yn cael cyllid sylweddol gennym a’u cyfrifoldeb hwy yw trefnu a sicrhau bod ganddynt y staff sy’n angenrheidiol i gwmpasu pob rhan o’r prosiect. Ond mae’n rhywbeth y byddaf yn sicr yn ei drafod gyda hwy yn fy nghyfarfod nesaf a gynhelir yr wythnos nesaf, rwy’n credu. Ond gan ei fod yn gynllun peilot, rwy’n credu bod llawer y gallwn ei ddysgu gan Ynni Ogwen ym Methesda.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r strategaeth hinsawdd hefyd yn gosod targedau ar gyfer gwella defnydd effeithlon o ynni yn ein cartrefi. Mae rhan o’r dull o gyflawni hyn yn cynnwys rhoi cladin allanol ar rai o’r adeiladau sy’n cael eu defnyddio’n eang, ond hefyd ar stoc a adeiladwyd cyn 1919, sy’n adeiladau bloc solet neu waliau solet yn bennaf. Mae’r cladin allanol yn ei gwneud hi’n bosibl i’r eiddo hwnnw ddefnyddio ynni’n effeithlon, ond gallai hefyd gyfyngu ar allu’r eiddo hwnnw i anadlu, sy’n achosi anawsterau. A wnewch chi gomisiynu ymchwil ar effaith y cladin allanol ar y mathau hyn o adeiladau, fel y gallwn sicrhau nad yw’n achosi problemau hirdymor i ni, ond yn hytrach ei fod yn rhoi manteision hirdymor i ni?
Credaf ei bod yn bwysig iawn i ni wybod a yw’n mynd i achosi anawsterau neu fanteision i ni, felly, os nad yw’r ymchwil hwnnw wedi’i wneud o’r blaen, byddaf yn sicr yn ystyried ei roi ar waith.
Weinidog, rwyf wedi gofyn i chi o’r blaen am fanteision cymunedol cynlluniau ynni adnewyddadwy. Rwyf am ofyn i chi eto am ei fod yn fater pwysig iawn i fy etholwyr. Pan oedd fferm solar yn cael ei chynllunio yn Llanfable rhwng Trefynwy a’r Fenni yn fy ardal, fe’i gwrthwynebwyd gan bobl leol. Ar ôl i’r cynllun gael ei basio, daethant i wybod yn ddiweddarach eu bod wedi colli’r cyfle i lobïo dros y buddion cymunedol sydd fel arfer yn gysylltiedig â chynlluniau o’r fath, ac nid yw’r cwmni dan sylw wedi ymateb rhyw lawer i’w hymholiadau. Rwy’n sylweddoli bod yna agwedd ar hyn sydd heb ei datganoli, ond a wnewch chi ddweud wrthyf ym mha ffyrdd y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio cryfhau’r gweithdrefnau a’r canllawiau hyn fel na all cwmnïau osgoi darparu buddion cymunedol gwerthfawr pan fo cynlluniau’n cael eu hadeiladu mewn cymunedau?
Ie, os ydym am sicrhau bod gennym y prosiectau cymunedol hyn, rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn fod pobl yn deall eu manteision—ei fod yn real iawn iddynt, a’u bod yn gallu cymryd rhan ynddo. Felly, byddaf yn sicr yn edrych ar hynny. Rwy’n credu fy mod eisoes wedi dechrau edrych ar hynny. Y tro cyntaf i chi ddwyn y mater i fy sylw, gofynnais i swyddogion. Fel y dywedwch, mae rhan o hyn wedi’i gadw’n ôl, ond unwaith eto, byddaf yn hapus iawn i gyflwyno sylwadau i’r Gweinidog perthnasol yn Llywodraeth y DU.