– Senedd Cymru am 5:16 pm ar 22 Mehefin 2016.
Yr eitem nesaf, felly, yw’r ddadl yn enw UKIP—y ddadl ar yr Undeb Ewropeaidd. Cyn imi ddechrau’r ddadl hon, hoffwn atgoffa’r Aelodau am yr hyn a ddywedais yr wythnos diwethaf ynglŷn ag ymddygiad yn y Siambr ar y ddadl ar yr Undeb Ewropeaidd yr wythnos diwethaf. Rwyf yn mawr obeithio y cawn ddadl mewn cystal ysbryd yr wythnos hon ag y cawson ni yr wythnos ddiwethaf. Rwy’n galw ar Neil Hamilton i wneud y cynnig.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Rwy’n meddwl, i ddechrau, y byddai’n deg cydnabod na fyddai’r refferendwm hwn yn digwydd o gwbl oni bai am fy mhlaid, ac ni fyddai fy mhlaid yn bodoli oni bai am yr ymchwydd o deimlad yn erbyn yr Undeb Ewropeaidd, sydd wedi bodoli ers peth amser.
Pan ymunasom â’r Gymuned Ewropeaidd, fel roedd bryd hynny, yn 1973, byddai unrhyw un yn meddwl, o’r hyn rydym wedi’i glywed yn ystod yr ymgyrch hon, fod Prydain yn wlad ymynysol. Yn wir, roeddem eisoes yn aelod o sefydliad rhyngwladol—Cymdeithas Masnach Rydd Ewrop. Y ffordd y cafodd y Gymuned Economaidd Ewropeaidd ei gwerthu i bobl Prydain yr holl flynyddoedd hynny’n ôl oedd fel rhyw fath o estyniad o’r ardal masnach rydd. Ond wrth gwrs, fel y gwyddom bellach, ac fel y byddai unrhyw un a oedd wedi gwneud unrhyw ymchwil ar yr hyn rydym yn awr yn ei alw’n Undeb Ewropeaidd wedi gwybod bryd hynny, yr hyn ydoedd o’r cychwyn oedd prosiect gwleidyddol i greu rhyw fath o unol daleithiau Ewrop. Nid oedd pobl Prydain erioed eisiau undeb gwleidyddol. Yn wir, gwnaeth Edward Heath, y Prif Weinidog yn 1973, yr honiad rhyfeddol nad oedd yn galw am ildio unrhyw sofraniaeth hanfodol. Wel, mae’r UE yn ateb o’r 1940au i broblem o’r 1930au. Wrth gwrs, nid oes neb eisiau rhyfel eto yn Ewrop, ond ni chredaf y gall neb, yn gredadwy, hybu’r rhagdybiaeth y byddai Almaen sy’n cryfhau â bwriadau tiriogaethol mewn perthynas â’i chymdogion. Felly, mae’r broblem y crëwyd yr UE i’w datrys yn gwbl amherthnasol yn yr unfed ganrif ar hugain.
Pan ymunasom yr holl flynyddoedd hynny’n ôl, nid oedd neb yn disgwyl y byddai gennym, ar y dyddiad hwn, 28 o wledydd yn yr UE, gydag 19 ohonynt ag arian sengl. Ni fyddai neb wedi credu y byddai 500 miliwn o bobl â hawl awtomatig yn awr i ddod i’r wlad hon i fyw ac i weithio. Ac nid wyf yn credu y byddai neb wedi credu ychwaith y byddai’r UE yn gallu dweud wrthym pa fath o sugnwyr llwch y caem eu prynu yn y wlad hon, nac ychwaith y byddai’n rhaid i Brif Weinidog y wlad hon dreulio dyddiau lawer wedi’i gloi mewn ystafelloedd tywyll yn gofyn am ganiatâd yr UE i newid y rheolau ar bwy sydd â hawl i fudd-daliadau lles Prydain.
Felly, mae’r Undeb Ewropeaidd rydym ynddo yn awr yn wahanol iawn i’r un y disgwyliai pobl Prydain berthyn iddo o ganlyniad i ymuno yr holl flynyddoedd hynny’n ôl. Wrth gwrs, yn y 1970au, roedd y Deyrnas Unedig yn anobeithiol yn economaidd, ac roedd Ewrop wedi gwneud lawer yn well yn economaidd yn y cyfnod ar ôl y rhyfel. Yn awr, mae’r gwrthwyneb yn wir. Yr UE sy’n anobeithiol yn economaidd ac mae Prydain ar gynnydd, i raddau o leiaf. Ers dechrau’r ganrif hon, ni chafwyd y nesaf peth i ddim twf economaidd yn yr Undeb Ewropeaidd. Yn yr oddeutu 30 mlynedd ers 1980, mae cyfran yr UE o fasnach y byd wedi plymio. Roedd yn 30 y cant yn 1980. Mae bellach yn 15 y cant ac yn gostwng yn gyflym. Mae diweithdra ledled Ewrop yn gywilyddus: diweithdra o 49 y cant ymysg pobl ifanc Gwlad Groeg, 45 y cant yn Sbaen, 39 y cant yn yr Eidal, 30 y cant ym Mhortiwgal a 25 y cant yn Ffrainc oherwydd ardal yr ewro. Mae hyn yn rhan o’r prosiect gwleidyddol iwtopaidd a ddechreuwyd yr holl flynyddoedd hynny’n ôl, ac er gwaethaf y dinistr a achosodd i wledydd sydd wedi dod yn llai ac yn llai cystadleuol gyda’r Almaen yn y bôn, maent yn dal i wthio yn eu blaenau beth bynnag y gost mewn dioddefaint dynol. Erbyn hyn mae gan yr Almaen warged masnach endemig yn yr UE, ac mae gan yr holl wledydd eraill hynny ddiffyg masnach endemig. Gwaethygu’n unig y gall y broblem ei wneud, nid gwella.
Nawr, yr hyn y mae’r refferendwm hwn yn ymwneud ag ef yw democratiaeth, nid cenedlaetholdeb. A’r broblem yw nad yw’r UE yn ymateb i farn boblogaidd. Mae gennym un comisiynydd Ewropeaidd; rwy’n meddwl mai nifer fach iawn o bobl mewn gwirionedd a fyddai’n gallu ei enwi pe baech yn gofyn i bobl ar y stryd. Mae gennym 8 y cant o’r pleidleisiau yng Nghyngor y Gweinidogion, ac rydym yn ethol 73 o 751 Aelod o Senedd Ewrop. Nid oes unrhyw ddemos Ewropeaidd; felly, ni all Ewrop byth fod yn ddemocratiaeth.
Yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf, gwelsom brosiect ofn yn rhemp yn y wlad. Mae’r ansicrwydd o wneud y penderfyniad yfory i adael yr UE wedi bod yn y penawdau. Ychydig iawn o bobl sydd wedi siarad am y posibilrwydd na fydd yna bleidlais yfory dros y status quo. Beth bynnag fydd yn digwydd yfory, fe fydd yna newid, ac ni allwn ragweld beth fydd y newid yn yr Undeb Ewropeaidd. Mae adroddiad y pum llywydd, a gyhoeddwyd heb fod mor bell yn ôl—ychydig fisoedd yn ôl—yn rhagweld eu bod yn mynd i symud tuag at integreiddio a chanoli pellach, ar gyfer yr 19 o wledydd yn ardal yr ewro fan lleiaf. Ni allwn fod yn ddiogel rhag canlyniadau hynny oherwydd byddwn yn un o’r 9 gwlad o 28 a fydd ar y tu allan i’r grym canolog hwnnw. Ac mae’r syniad y caiff Prydain ei heithrio rhag y grymoedd hynny’n nonsens wrth gwrs.
Dywedir wrthym y byddwn yn neidio i’r tywyllwch drwy bleidleisio dros annibyniaeth genedlaethol yfory. Mae’n rhyfedd meddwl am hanes y sylw hwnnw, oherwydd, wrth gwrs, dyna a ddywedodd yr Arglwydd Derby am Fil diwygio Disraeli, a roddodd bleidlais i’r dosbarthiadau gweithiol diwydiannol. Dyna oedd y naid yn y tywyllwch bryd hynny. Ac wrth gwrs, byddai’n naid i’r tywyllwch mewn un ystyr yfory os byddwn yn adfer democratiaeth i’r wlad hon am yr un rheswm yn union. Ac am yr un rheswm yn union ag roedd Deddf diwygio 1867 yn llwyddiant, bydd gadael yr UE yn llwyddiant i Brydain yfory.
Y senario waethaf yw y byddai gennym, drwy adael y farchnad sengl, rwystr o 3 i 4 y cant o dariffau i’w goresgyn. Y canlyniad ar y llaw arall yw y byddai—.
Mae’n ddrwg gennyf, a gaf fi ymyrryd? Os ydych yn siarad am gydrannau ceir—ac mae llawer o gydrannau ceir yn cael eu gwneud yng Nghymru—mae’r ffigur hwnnw mewn gwirionedd yn 9.8 y cant, sef bron 10 y cant. Byddai hynny’n gwneud llawer o ffatrïoedd cydrannau ceir yng Nghymru yn anghystadleuol, a fyddai’n golygu bod swyddi’n cael eu colli ac mae hynny’n golygu y byddai yna lai o dreth, llai o arian i dalu am ein GIG a llai o arian i dalu am ein gwasanaethau yng Nghymru. Rwy’n credu ei fod yn annerbyniol.
Rwy’n hollol ffyddiog na cheir unrhyw dariffau ar gydrannau ceir modur oherwydd—.[Torri ar draws.] Wel, gadewch i mi roi’r ffeithiau i chi’n syml. Rydym yn mewnforio 820,000 o gerbydau y flwyddyn o’r Almaen ac mae gennym ddiffyg yn y fasnach ceir modur gyda’r Almaen sy’n £10 biliwn y flwyddyn i gyd. Nid wyf yn credu y bydd y Canghellor Merkel, wrth iddi wynebu etholiad yn yr Almaen y flwyddyn nesaf, yn hyrwyddo achos rhyfel masnach gyda Phrydain fel y ffordd orau i’w phlaid ennill. [Torri ar draws.] Mae Matthias Wissmann, llywydd cymdeithas ddiwydiant modurol yr Almaen yn dweud bod cadw Prydain yn yr UE yn fwy arwyddocaol na chadw Gwlad Groeg yn yr ewro.
Mae ganddynt ddiddordeb mewn gwerthu ceir Almaenig i ni lawn cymaint ag y mae gennym ni ddiddordeb mewn gwerthu ceir Prydeinig iddynt hwy. Mae allforion peirianneg Almaenig i Brydain yn £7 biliwn y flwyddyn. Mae allforion ceir yn £18 biliwn y flwyddyn. Felly, nid wyf yn credu y ceir rhyfel masnach rhwng Prydain a’r Almaen. Fe ildiaf.
Diolch i’r gŵr bonheddig am ildio, ond a gaf fi ofyn iddo: beth y mae’n ei wybod nad yw rheolwr gyfarwyddwr Ford Europe a chyfarwyddwr fy ffatri leol yn ei wybod, a hwythau wedi ysgrifennu at eu gweithwyr i dynnu sylw at yr union risgiau y mae’n dweud eu bod nid yn unig ddibwys, ond nad ydynt yn bodoli hyd yn oed? Beth y mae’n ei wybod nad yw Toyota ym Mhrydain yn ei wybod? Beth y mae’n ei wybod nad yw Rolls-Royce yn ei wybod?
Beth y mae’r arbenigwyr yn ei wybod?
Ydym, rydym yn hoffi arbenigwyr. Mae’r dyfodol yn ei hanfod yn anrhagweladwy—fe wn i hynny—ond mae synnwyr cyffredin yn dweud wrthym na fydd yr Almaen eisiau rhyfel masnach gyda Phrydain pan fyddai’n eu brifo hwy’n llawer mwy nag y mae’n ein brifo ni [Torri ar draws.] Y Trysorlys—. Mae yna derfyn ar faint o weithiau y gallaf ildio.
Roedd rhagolwg Armagedon y Trysorlys ychydig wythnosau’n ôl yn unig yn rhagweld y gwaethaf y gallai George Osborne ei daflu atom, ac er eu bod yn honni y gallant ragweld sut gyflwr fyddai ar yr economi yn 2030, byddai’n braf pe gallent ragweld cyflwr yr economi yr wythnos nesaf. Nid yw erioed wedi cyflawni un o’i ragolygon ar gyfer twf economaidd neu ddiffyg y Llywodraeth yn yr oddeutu pum mlynedd y bu’n Ganghellor. Ond mae wedi honni ei fod yn gwybod, fel arbenigwr, beth sy’n mynd i ddigwydd yn y flwyddyn 2030, a’r hyn y mae’r adroddiad hwnnw’n ei ddweud yw, os ydym yn yr UE, gallwn ddisgwyl cael 37 y cant o dwf mewn incwm gwario yn yr oddeutu 15 mlynedd nesaf. Y tu allan i’r UE, byddai’n dwf o 29 y cant mewn incwm.
Felly, ni fydd yna gwymp yn yr economi. Hyd yn oed yn ôl senario waethaf rhagolwg y Trysorlys, byddai’n dwf o 29 y cant yn hytrach na 37 y cant. Ond nid wyf yn rhoi unrhyw sylw i’r amcanddyfaliadau hyn o gwbl, gan mai rwtsh i mewn a rwtsh allan ydyw gyda’r cyfrifiadur. Mae’r cyfan yn dibynnu ar y rhagdybiaethau a ddefnyddiwch. Felly, naw wfft i ragolwg David Cameron y byddai hyn yn dinistrio’r economi. Mewn gwirionedd, yr hyn y mae wedi’i wneud, wrth gwrs, yw dinistrio’r gwir. Ac fel y disgrifiodd ei hun chwe blynedd yn ôl, fel etifedd i Blair, rwy’n meddwl, allan o enau plant bychain a’r rhai’n sugno.
Yr hyn y bydd pleidleisio i adael yr UE yfory yn ei wneud yw ein galluogi i adfer rheolaeth ar rai o’r penderfyniadau polisi pwysicaf sy’n effeithio ar y wlad hon, ac yn arbennig, wrth gwrs, rheolaeth ar ein ffiniau, oherwydd bod mewnfudo direolaeth, sy’n ychwanegu dinas o faint Caerdydd at boblogaeth y DU bob blwyddyn o gynnydd yn y boblogaeth yn unig, wedi gwasgu’n fawr ar gyflogau nes bod yr isafswm cyflog i filiynau o bobl bellach yn uchafswm cyflog. Ar gyfer cynnydd o 10 y cant mewn mewnfudo, mae ymchwil Banc Lloegr ei hun wedi dangos bod gostyngiad o 2 y cant yng nghyflogau pobl lled-grefftus a heb sgiliau.
Mae prisiau ynni wedi cael eu gwthio i fyny gan gynlluniau ynni gwyrdd gwallgof yr UE ac ardollau ynni gwyrdd. Yn ôl pob tebyg gallem haneru costau ynni Tata ym Mhort Talbot pe bai gennym reolaeth dros ein prisiau ynni ein hunain. Gallem gymryd rheolaeth ar ein polisi masnach ein hunain eto. Fel yr Unol Daleithiau, gallem osod ardoll o 522 y cant ar fewnforion dur wedi’i rolio’n oer o Tsieina, sy’n cael ei allforio’n is na chost ar farchnadoedd y byd, yn hytrach na’r 24 y cant y mae’r UE wedi’i argymell—
A wnewch chi dderbyn ymyriad ar ddur?
Rwy’n ofni na allaf dderbyn ymyriad.
Ar ddur.
Nid yw’n derbyn ymyriad. Ewch ymlaen.
Unwaith eto, byddem y tu allan i holl reolau cymorth gwladwriaethol yr Undeb Ewropeaidd, sy’n ein rhwystro rhag rhoi cymorth i ddiwydiannau megis y diwydiant dur ym Mhort Talbot.
Byddem yn gallu rheoli ein trethi anuniongyrchol. Ni allodd y Llywodraeth Lafur dddiddymu’r TAW ar danwydd gwresogi domestig yn 1997, felly mae gennym bellach dâl o 5 y cant ar filiau gwresogi pawb, ac mae hynny oherwydd nad yw’r UE yn caniatáu i ni gael rheolaeth ar ein TAW ein hunain. Yr un modd ar damponau, sydd hefyd wedi bod yn y newyddion yn ddiweddar, unwaith eto, ond yw? Felly, mae yna gymaint o wahanol ffyrdd y gall angenrheidiau bywyd fod wedi’u trethu ac nid oes gennym unrhyw ffordd o wneud penderfyniad i gael gwared arnynt.
O ran y prosiect ofn, nid oes gennym ddim i’w ofni ond ofn ei hun, gan fod hwn yn gyfle i Brydain ac yn gyfle i Gymru am y tro cyntaf ers 40 mlynedd, unwaith eto, i gymryd yr awennau yn ein gwlad ein hunain. Mae prosiect ofn wedi canolbwyntio yn y Siambr hon ar gronfeydd strwythurol i’r Cymoedd a gorllewin Cymru yn benodol; clywsom hynny eto y prynhawn yma yn ystod y cwestiynau. Wel, dros y chwe blynedd diwethaf, roedd hynny’n cyfateb i oddeutu £3.5 biliwn. Dyna £600 miliwn y flwyddyn ar gyfartaledd. Byddai’r cynnydd net a fyddai’n dod i Drysorlys Prydain o ganlyniad i adael yr UE yn £10 biliwn—byddai hynny ynddo’i hun yn dair gwaith y gyllideb honno. Gallem wneud popeth a wneir ar hyn o bryd gan yr UE, a llawer mwy, ond i ni adfer ein hannibyniaeth genedlaethol. Ac nid yw £3.5 biliwn mewn chwe blynedd ond yn ddiferyn yn y môr o gymharu â’r diffyg blynyddol o £75 biliwn o dwll sydd gan George Osborne yn y cyfrifon cyhoeddus.
Yn yr un modd, ar hawliau gweithwyr, byddech yn meddwl na fu erioed unrhyw hawliau gweithwyr gennym yn y wlad hon cyn i ni ymuno â’r Undeb Ewropeaidd, ac eto cyflwynwyd y Ddeddf Cyflog Cyfartal yn 1970, Deddf Diogelu Cyflogaeth yn 1975 a’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw yn 1975 hefyd.
Felly, yr hyn y mae’r pleidiau eraill yn y Siambr hon sydd yn erbyn gweld Prydain yn adennill ei hannibyniaeth yn dioddef ohono yw tlodi uchelgais. Yr hyn rydym yn ymladd drosto yma yw democratiaeth yn y wlad hon. Mewn gwirionedd, gan fod y Blaid Lafur wedi canolbwyntio ar fater hawliau gweithwyr, rhaid eu bod yn awgrymu na fydd yna byth Lywodraeth Lafur ym Mhrydain eto, a gyda Jeremy Corbyn yn arweinydd, pwy all eu beio am feddwl hynny? Ond y broblem y maent yn methu â’i nodi yw mai pobl Prydain, yn y pen draw, sy’n gwneud y penderfyniadau hyn, ac os bydd Llywodraeth yn gwneud penderfyniadau nad ydynt yn eu cymeradwyo, mewn democratiaeth, gallwch gael gwared arnynt. Yn yr UE, ni allwch wneud hynny. Os nad ydych yn hoffi penderfyniadau’r Comisiwn Ewropeaidd, nid oes y nesaf peth i ddim y gallwch ei wneud i’w goresgyn. Felly, mae’n ddiffyg pathetig o hunanhyder ac ymddiriedaeth ym marn y bobl.
Ac am Blaid Cymru, mae’n ffurf hynod o ryfedd ar genedlaetholdeb i fod eisiau anfon pŵer nid i lawr ymhellach at y bobl, ond ymhellach i fyny ac i ffwrdd oddi wrthynt. Byddai’n well ganddynt gael eu llywodraethu o Frwsel nag o San Steffan, sy’n rhyfeddol a braidd yn—[Torri ar draws.] Sy’n syniad braidd yn eithriadol i blaid genedlaetholgar, oherwydd pe baem yn gadael yr UE, gallem ddatganoli’r polisïau y maent yn gyfrifol amdanynt o Frwsel i lawr yma i Gaerdydd. Roeddem yn arfer gweld graffiti wedi’i beintio ledled Cymru pan oeddwn yn fachgen—’Rhyddid i Gymru’—ac nid yw eu plaid, wrth gwrs, yn credu mewn rhyddid i Gymru, am eu bod yn credu na ddylem fod yn ddim mwy na rhanbarth o’r Undeb Ewropeaidd.
Yn y bôn, yr hyn y mae’r Blaid Lafur a Phlaid Cymru yn credu yw nad yw bobl y wlad hon yn gallu gwneud y gwaith o redeg ein gwlad ein hunain drosom ein hunain, ac yfory, bydd pobl y wlad hon yn cael cyfle i bleidleisio’n bendant dros adfer ein rhyddid unwaith eto.
Hoffwn geisio mynd i’r afael â dwy o brif ddadleuon y rhai hynny sydd eisiau i ni gerdded i ffwrdd oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd. Nawr, pa bryd bynnag y pwysleisir manteision aelodaeth, mae’r bobl sydd am droi eu cefnau ar ein partneriaid Ewropeaidd yn dweud dro ar ôl tro, ‘Nid arian yr UE yw hwn, ond ein harian ein hunain rydym yn ei gael yn ôl’, ac rydym wedi’i glywed eto y prynhawn yma. Wrth gwrs, mae’r DU yn gwneud cyfraniad i’r UE; ac fe ddylem. Y rhai ohonom sy’n credu yn yr UE, rydym yn credu mewn undod. Rydym yn credu y dylai’r rhan wannaf o Ewrop gael ei helpu gan y rhannau cryfaf, ac mae Cymru’n elwa o hynny. Wrth gwrs, mae gan bob clwb ffi aelodaeth, ac yn gyfnewid am hynny, rydym yn cael manteision, nid yn lleiaf y mynediad heb dariff i’r farchnad sengl. Os byddwn yn tynnu’n ôl o Ewrop, byddwn yn dal i wynebu costau. Byddai’n dal yn rhaid i ni dalu am fynediad i’r farchnad hon, a hynny heb unrhyw allu i ddylanwadu ar ei rheolau.
Ond mae’r swm o arian rydym yn ei drosglwyddo i Frwsel, i ddefnyddio’r termau difrïol rydym wedi ymgyfarwyddo â hwy ar ôl 30 mlynedd o bropaganda tabloid a gwrth-Ewropeaidd, ac mae wedi naddu ymaith—mae’r swm o arian yn gymharol fach. Dywed y Trysorlys ein bod yn gwneud cyfraniad net o £8.4 biliwn y flwyddyn, sy’n llai nag 1 y cant o holl wariant y Llywodraeth. Felly, gadewch i ni edrych ar hyn yn rhesymol. Dyna faint ein cyfraniad. Dyna faint y swm o arian rydym yn ei drosglwyddo i Frwsel: 1 y cant o holl wariant Llywodraeth y DU, digon i ariannu’r GIG ar draws y DU am 19 diwrnod y flwyddyn.
Nawr, rwy’n meddwl ein bod wedi cael ymgyrch refferendwm gyfan gwbl anonest ac annymunol, ac yn goron arni cafwyd y lluniau ‘chwiban y ci’ gwarthus a ffiaidd o Nigel Farage yn sefyll o flaen posteri o ffoaduriaid, gan apelio at yr elfennau mwyaf gwael o anobaith pobl a achoswyd gan wleidyddiaeth caledi. Rwy’n credu y dylai UKIP fod â chywilydd llwyr ohonynt eu hunain am y lefel isel o wleidyddiaeth y maent wedi’i gyflwyno i’r ymgyrch hon.
Drwy wrando ar y bobl ar garreg y drws? Diolch.
Wel, mae gan y bobl ar garreg y drws, David Rowlands, gwynion dilys—cwynion dilys—ac nid yw gwleidyddiaeth y gwter a gafwyd gennych chi yn gwneud dim i ddod ag atebion i broblemau pob dydd—[Torri ar draws.] Os ydych am ymyrryd, codwch ar eich traed, ond nid yw brygawthan fel pysgodyn aur yn gwneud unrhyw les i neb. Mae pobl ar garreg y drws yn wirioneddol ofnus, ac rydych yn chwarae gyda’r elfennau gwaethaf a mwyaf gwael, a dim o’r—
Parchwch y bobl ar garreg y drws, os gwelwch yn dda.
Wel, nid oedd hynny’n werth aros amdano mewn gwirionedd, oedd e? [Chwerthin.] Rwy’n gwrando ar y bobl ar garreg y drws. Rwy’n cael trafodaethau hir a phoenus gyda phobl ar garreg y drws yn egluro wrthynt fod y problemau a wynebwn—ac mewn etholaethau fel Llanelli, rydym yn wynebu llwyth ohonynt—sy’n ymwneud ag ardaloedd wedi’u gadael ar ôl oherwydd y model economaidd sydd gennym yn y wlad hon, ac nid oes dim o hynny’n mynd i gael ei helpu drwy dynnu allan o’r Undeb Ewropeaidd.
Mae Neil Hamilton wedi siarad am weithgynhyrchu ceir y prynhawn yma. Yn Llanelli mae gennym ffatri gweithgynhyrchu ceir lwyddiannus, sy’n eiddo i gwmni tramor. Mae gennym chwaer ffatri mewn rhan arall o’r UE. Os ydym yn gadael, a ydym o ddifrif yn dweud bod y penderfyniadau yn y tymor canolig a’r tymor hir ynglŷn â buddsoddi cyfalaf sydd i’w gwneud gan bencadlys y gwaith hwnnw yn mynd i ffafrio ffatri y tu allan i’r bloc masnachu gyda thariffau neu y tu mewn i’r bloc masnachu heb dariffau? Nid yw pobl yn derbyn hynny. Rydych yn defnyddio gwleidyddiaeth anonest. Felly, gadewch i ni fod yn glir fod y—
A wnaiff yr Aelod ildio?
Gwnaf, yn wir.
Os mai’r cwmni y mae’n siarad â hwy yw Ford, onid yw’n ymwybodol fod gan Ford ffatri yn y wlad hon—yn y DU o leiaf, yn Southampton—a aeth yn lle hynny, a gaeodd yn Southampton, a symud i Dwrci, a thalwyd amdani ag arian yr Undeb Ewropeaidd, a dalwyd gan ein trethdalwyr ein hunain?
Rwy’n sylweddoli ei fod yn newydd i’r rhannau hyn, ond nid oes gan Ford ffatri yn Llanelli, ac mae’r grymoedd rydych yn eu disgrifio yn rymoedd byd-eang—grymoedd byd-eang rydym wedi’n harfogi’n well i ymdrin â hwy drwy fod yn rhan o floc masnachu cryf.
Felly, nid yw addewidion annidwyll yr ymgyrch i adael ynglŷn â’r hyn y byddent yn ei wneud gyda mynydd tybiedig o arian yn werth y papur y cawsant eu hysgrifennu arno.
Felly, daw hynny â mi at yr ail o’r dadleuon a glywsom yma gan yr asgell dde, ac nid y ffaith fod yr UE wedi sicrhau heddwch yn Ewrop dros y 70 mlynedd diwethaf, ond ein haelodaeth o NATO. Ac wrth gwrs, mae’r addewid o amddiffyniad milwrol Americanaidd wedi bod yn allweddol yn ystod y rhyfel oer, ond mae heddwch yn ymwneud â mwy nag absenoldeb rhyfel. Adeiladwyd tair cenhedlaeth o heddwch ar haenau o hyder a dealltwriaeth rhwng pobloedd ac yn hollbwysig—yn hollbwysig—ar y sefydliadau i ddatrys gwahaniaethau. Ar fy ngwyliau darllenais drwy lyfr hanes grymus Christopher Clark am y cyfnod yn arwain at y rhyfel byd cyntaf, ‘The Sleepwalkers’. Mae’n nodi mai un o’r rhesymau pam nad arweiniodd cythrwfl economaidd yr argyfwng yn ardal yr ewro at ymladd, er bod digwyddiadau 1914 wedi gwneud hynny, oedd bodolaeth sefydliadau goruwchgenedlaethol pwerus. Trwy fod yn rhan o’r UE, rwy’n falch ein bod wedi chwarae rhan mewn cynghrair sydd wedi dwyn sefydlogrwydd a ffyniant i gyfandir sydd â hanes o ansefydlogrwydd. Nid damwain mo hynny. Canlyniad integreiddio amyneddgar a phoenus ydyw: economaidd, democrataidd ac ie, biwrocrataidd. Ond rhowch gyfarwyddebau i mi yn lle demagogiaeth unrhyw ddiwrnod.
Croesawaf y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon. Yfory bydd cyfle i bob dinesydd dros 18 oed o bob rhan o’r DU benderfynu a ydym yn parhau i fod yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd neu a ydym yn dod yn annibynnol unwaith eto. Democratiaeth yw hyn. Gall pobl benderfynu a gallant ddewis drostynt eu hunain. Ni fydd yn fawr o syndod i neb fy mod yn credu bod Cymru yn well ei byd allan o’r UE. Bydd fy nghyd-Aelodau yn cyflwyno’r dadleuon economaidd, y dadleuon ynglŷn â diogelwch a’r dadleuon gwleidyddol pam y byddai Cymru ar ei hennill y tu allan i’r UE.
Rwyf am ganolbwyntio fy sylwadau heddiw ar y dadleuon iechyd dros adael. O dan y gyfraith Ewropeaidd, mae Llywodraethau a dinasyddion o wledydd eraill Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ad-dalu’r DU am y gost o ddarparu triniaeth GIG i bobl y maent yn gyfrifol amdanynt, yn union fel y mae’r DU yn ad-dalu gwledydd eraill yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir am y gost o ddarparu triniaeth i bobl rydym yn gyfrifol amdanynt. Fodd bynnag, mae ffigurau a gafwyd gan yr AS Llafur, John Mann, yn dangos diffyg enfawr i’r DU. Talodd y DU y swm anhygoel o £674 miliwn i wledydd Ewrop am eu costau iechyd y llynedd, ond £49 miliwn yn unig a gawsom yn ôl. Rydym yn rhoi cymhorthdal tuag at ofal iechyd gwledydd eraill yr UE. [Torri ar draws.] Mae’n wir.
A wnewch chi ildio ar yr union bwynt hwnnw?
Na, Huw, am fy mod i’n ceisio mynd drwy rywbeth. A yw hynny’n iawn?
Fodd bynnag, a yw’n iawn fod pobl y tu allan i’r Deyrnas Unedig nad ydynt yn talu treth ac yswiriant gwladol yn cael parhau i fanteisio ar ein gwasanaeth gofal iechyd rhad ac am ddim, neu a ddylem fynnu y dylai’r rhai sy’n byw y tu allan i’r DU gael yswiriant iechyd? A’r bygythiad mwyaf i’n GIG yw cyfarwyddebau’r UE. Yn 2011 cyflwynodd yr UE gyfarwyddeb gofal iechyd y rhybuddiodd ASau Llafur y gallai arwain at dranc y gwasanaeth iechyd gwladol a ariennir yn gyhoeddus. Mae trafodaethau’n parhau ar bartneriaeth fasnach a buddsoddi arfaethedig yr UE neu’r cytundeb TTIP arfaethedig gydag UDA, a allai effeithio’n ddifrifol ar y GIG ac arwain at breifateiddio ein gwasanaeth iechyd gwladol.
Yn ddiweddar rhybuddiodd ‘The British Medical Journal’ mai’r risg i’r GIG fyddai na allai byth fforddio dod â gwasanaeth yn ôl yn fewnol ar ôl ei roi allan ar gontract ac mae uwch-gwnsleriaid y frenhines wedi rhybuddio bod TTIP yn creu risg real a difrifol i benderfyniadau Llywodraeth y DU yn y dyfodol mewn perthynas â’r GIG. Os ydym yn parhau i fod yn yr UE, golyga hyn y bydd cadw’r GIG mewn dwylo cyhoeddus yn fwyfwy anodd. Ac mae gwleidyddion Llafur ar bob lefel a’r undebau llafur i gyd wedi ymosod ar TTIP, ac eto mae’r un gwleidyddion yn dadlau y dylem aros yn rhan o’r UE.
Nid yw’r UE yn gallu diwygio. Yn wyneb y posibilrwydd o adael yr UE, ni allent hyd yn oed gytuno ar y newidiadau pitw y ceisiodd ein Prif Weinidog llywaeth eu hennill. Mae’r UE o dan ddylanwad y corfforaethau mawr ac arian mawr. Mae hyn yn amlwg o’r trafodaethau TTIP a chyflwyno llawer o ddeddfau sy’n tanseilio’r GIG. Mae swyddogion yr UE wedi gosod cyfyngiadau drud a helaeth ar ddatblygu cyffuriau canser, gyda’r gyfarwyddeb treialon clinigol yn creu problemau difrifol, ac yn oedi’r gwaith o gynnal profion ar gyffuriau sy’n achub bywyd.
Bydd y llys Ewropeaidd yn gwneud defnydd cynyddol o’r siarter hawliau sylfaenol i reoli mwy ar iechyd y cyhoedd os byddwn yn pleidleisio dros aros. Mae parhau i fod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd yn berygl clir a real i fodolaeth ein GIG. Rwy’n dweud: peidiwch â gadael i Frwsel gymryd rheolaeth ar ein GIG, peidiwch â chaniatáu iddynt fygwth diogelwch cleifion, ond yn anad dim, peidiwch â chaniatáu iddynt ddarostwng ein GIG i drachwant corfforaethau mawr yr Unol Daleithiau, a diogelwch ddyfodol ein GIG drwy bleidleisio dros adael yfory. Diolch yn fawr.
Mae ymgyrch refferendwm hir iawn ar fin dod i ben, diolch byth, ac rwy’n siŵr y bydd llawer yn cytuno nad yw tôn, natur a chynnwys yr ymgyrch hon wedi bod yn hysbyseb arbennig o dda i ymwneud democrataidd. Wrth i’r ymgyrch wynebu ei horiau olaf, mae’n ymddangos bod yr ochr dros adael yn arbennig yn dymuno canolbwyntio ar ddau faes sylfaenol, sef mewnfudo a sofraniaeth. Yn anffodus, ar y ddau fater, mae’r ochr dros adael wedi ceisio eu gorau glas i beidio â gadael i’r ffeithiau fynd o ffordd stori dda. Clywyd y ffeithiau ar fater mewnfudo droeon, ac nid wyf yn dymuno treulio gormod o amser yn eu hailadrodd y prynhawn yma, heblaw i ddweud fy mod yn credu’n gadarn fod ymfudo wedi gwneud Cymru’n gyfoethocach mewn ystyr ddiwylliannol ac economaidd. Bydd yna bob amser her mewn cymdeithasau agored a democrataidd i sicrhau cydbwysedd rhwng amlddiwylliannedd ac integreiddio, ond nid yw termau dadl a thrafodaeth o’r fath ond yn ddefnyddiol pan gânt eu cynnal mewn ysbryd o oddefgarwch, yn hytrach na cheisio cynyddu ofnau’r ochr arall. Efallai y bydd cyd-destun o’r fath yn bodoli rhyw ddydd.
Hoffwn fynd i’r afael yn benodol â mater sofraniaeth, sy’n aml yn cael ei gyfuno’n fwriadol ag egwyddor democratiaeth gan lawer o’r rhai sydd eisiau i Brydain adael yr UE. Wrth wrando’n ofalus ar y rhai sy’n gwneud yr achos dros ailddatgan sofraniaeth y wladwriaeth, gelllid maddau i rywun am feddwl ein bod yng nghwmni Thomas Cromwell, yr holl ganrifoedd hynny’n ôl. Bryd hynny, roedd yna ddadleuon ynglŷn ag a oedd sofraniaeth y Senedd yn disodli’r ysgrythur; yn awr, mae’n fater o sofraniaeth seneddol yn erbyn rheoliadau’r UE.
Ni chafwyd erioed amser gogoneddus o sofraniaeth seneddol absoliwt, hyd yn oed yn ystod dyddiau’r ymerodraeth. Yn yr ugeinfed ganrif, yn dilyn dinistr rhyfel, cafodd cytuniadau rhyngwladol a oedd yn creu hawliau sylfaenol i unigolion a chonfensiynau byd-eang yn gwahardd hil-laddiad eu derbyn fel rhai cyffredinol a thu hwnt i’r hyn a elwid yn sofraniaeth unrhyw genedl neu wladwriaeth. Ac ar y cyfandir hwn, a olchwyd â gwaed dros lawer o’r ganrif ddiwethaf, penderfynodd cenhedloedd ddod at ei gilydd mewn ysbryd o heddwch ac undod. Ac ar y pwynt hwn, hoffwn bwysleisio fy mod yn ystyried yr awgrym y byddai i’r DU adael yr UE yn arwain at ryfel yn anneallus a di-chwaeth, ond peidiwch â gadael i neb fychanu’r ffaith fod yr Undeb Ewropeaidd wedi gosod y seilwaith ar gyfer heddwch sy’n gwneud rhyfel rhwng ei aelodau’n amhosibl.
O safbwynt Cymru, wrth gwrs, gallwn gymharu a chyferbynnu dau undeb gwahanol iawn rydym yn aelodau ohonynt. Mae’r DU yn seiliedig ar yr egwyddor fod y Senedd yn San Steffan yn oruchaf. Nid oes angen unrhyw gyfansoddiad ysgrifenedig arnom yma i wybod mai dyna’r realiti gwleidyddol yn wir. Yma mae gennym undeb anghyfartal, anwastad a adeiladwyd i bara, nid i ffynnu. Mae gan yr UE, er ei holl ddiffygion a’i amherffeithrwydd, a’r heriau y mae’n eu hwynebu, egwyddorion sybsidiaredd a chonsensws wedi’u hadeiladu i mewn i’w wead sylfaenol. I’r rhai ohonom sy’n caru Cymru, rhaid i ni ystyried lle y bydd y pŵer pe bai’r DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd yfory. Bydd pleidlais dros adael yn gyfystyr â throsglwyddo swyddogaethau o’r bartneriaeth Ewropeaidd i ddwylo Whitehall, a fydd yn rhydd i wneud fel y mynn i gymunedau Cymru. Bydd pleidlais dros adael yn golygu bod Ewrop yn gadael Cymru ar ôl yng nghysgodion Palas San Steffan ym meddiant sefydliad wedi meddwi ar hunanhyder newydd.
A wnewch chi ildio?
Nid wyf am ildio.
Mae ‘aros’ yn arwain at sicrhau’r cyfle gorau i’n cenedl gael dyfodol cenedlaethol ei hun mewn teulu priodol o genhedloedd. Diolch yn fawr iawn.
Bu’n ymgyrch hir, ac efallai mewn sawl ffordd, bydd pawb ohonom yn falch o weld ei chefn, beth bynnag yw’r canlyniad.
Ni allwch gnoi gwm pan fyddwch yn siarad â’r Cynulliad Cenedlaethol.
Iawn. Ymddiheuriadau am hynny.
Ewch ymlaen â’ch cyfraniad.
Mae’n ddrwg gennyf, nid oeddwn yn ymwybodol—
Diystyrwch unrhyw beth a ddywedwyd wrthych mewn man arall. Parhewch â’ch cyfraniad.
Diolch i chi, Lywydd. Ni fwriadwyd unrhyw amarch.
Caf fy nhemtio i ofyn: ble mae dechrau ar yr UE? Rydym wedi cael ein peledu â chymaint o ffeithiau a ffigyrau o’r ddwy ochr, y rhan fwyaf ohonynt yn gwrthdaro â’i gilydd wrth gwrs. Mae yna gymaint o agweddau ar y cwestiwn i’w hystyried. Rydym eisoes wedi trafod rhai ohonynt. Mae’n amhosibl cynnwys y cyfan ohono mewn un araith, felly cyfyngaf fy hun i’r mater y mae Aelodau Llafur yn aml yn ei godi, sef hawliau gweithwyr, ac maent yn gwbl gywir i wneud hynny. Ond yn fy marn i, rhaid i mi nodi nad oes unrhyw lefel o hawliau gweithwyr wedi’i hordeinio’n ddwyfol. Roedd gennym ddeddfwriaeth hawliau gweithwyr yn y DU cyn i ni ymuno â’r Undeb Ewropeaidd, a bydd yn dal i fod gennym ar ôl i ni adael. Y cwestiwn yw: pa lefel o hawliau gweithwyr? [Torri ar draws.] Dyna yw’r cwestiwn yn wir, ond y pwynt yw hwn: mai mater yw hynny i Lywodraeth etholedig yn y DU ei benderfynu, nid criw anetholedig o fiwrocratiaid yr UE.
Os yw etholwyr y DU yn anghytuno â pholisïau cyflogaeth Llywodraeth etholedig y DU, gallant bob amser bleidleisio i gael gwared ar y Llywodraeth yn yr etholiad nesaf. Dyna yw’r hyn a elwir yn ddemocratiaeth, a dyna rydym wedi’i gael yn y wlad hon ers amser hir, ac mae bellach yn cael ei rwystro gan yr UE. Wrth gwrs, mae gan Aelodau Llafur bob cyfle i argyhoeddi etholwyr y DU ynglŷn â’r angen am raglen fwy adain chwith gan fod ganddynt yn awr arweinydd mor abl yn Jeremy Corbyn. Fy marn i ar hawliau gweithwyr yw bod yna ddwy fersiwn mewn gwirionedd. Ceir y fersiwn y mae’r Aelodau Llafur yn ei phedlera, sy’n dibynnu ar reoliadau a ddaw gan lywodraethau, a cheir fersiwn y byd go iawn, sy’n dibynnu ar alw a chyflenwad llafur yn y farchnad gyflogaeth. Yn senario’r byd go iawn, mae cyflogau ac amodau gwaith yn gwella wrth i’r galw am weithwyr gynyddu mewn diwydiant. Heb gyflenwad parod o lafur amgen, caiff penaethiaid eu gorfodi i dalu eu gweithwyr yn briodol, eu trin yn weddol dda a buddsoddi yn eu hyfforddiant hyd yn oed. Ond ers 1975, y tro diwethaf i ni bleidleisio mewn refferendwm Ewropeaidd, mae mwy na 200 miliwn o weithwyr wedi dod i mewn i farchnad lafur yr UE. [Torri ar draws.] Na. Yr effaith anochel fu ostwng cyflogau a gwaethygu amodau gwaith i weithwyr o Brydain. Mae mwy a mwy o dramorwyr yn cyrraedd ac yn cael eu defnyddio gan fusnesau mawr fel llafur rhad. Dyna un ffactor pwysig pam y mae cyflogau ar y pen gwaelod ar ei hôl hi, a pham y mae gennym yr hyn a elwir yn ‘ddiwylliant Amazon’. Mae’r realiti yn hunllef i weithwyr Prydeinig.
Nawr, mae Llafur wedi gwneud môr a mynydd ynghylch y bobl sy’n cefnogi’r ymgyrch dros adael. Wel, efallai ei fod yn griw brith o gymeriadau, ond mae’n anochel mewn refferendwm o’r fath fod rhai elfennau rhyfedd yn rhannu’r daith â chi. Rydych chi, y rhai sydd am aros, yn rhannu’r daith gyda David Cameron a George Osborne, penseiri caledi, fel rydych yn ein hatgoffa o hyd. Rydych hefyd yn rhannu’r daith gyda Goldman Sachs, J.P. Morgan, y Gronfa Ariannol Ryngwladol—a oes angen i mi barhau? Ar yr ochr sy’n ffafrio gadael, nid yn unig y mae gennych aelodau o UKIP a Cheidwadwyr—[Torri ar draws.]
Gadewch i’r Aelod barhau, os gwelwch yn dda.
Diolch i chi, Lywydd. Ar yr ochr sy’n ffafrio gadael, nid yn unig y mae gennych aelodau UKIP a’r Ceidwadwyr. Mae gennym hefyd bobl Llafur fel Frank Field, Gisela Stuart, John Mann a Dennis Skinner. Nid oes digon wedi’i wneud o’r ffaith fod David Owen, un o’r Ewroffiliaid mwyaf brwdfrydig tan yn ddiweddar, bellach yn argyhoeddedig ynglŷn â Phrydain yn gadael yr UE. Yn y pen draw, mae’n rhaid i chi benderfynu a ydych am ochri â’r gweithwyr neu’r rheolwyr.
I orffen, dyma ddau gyfweliad byr o ‘The Sunday Times’ flwyddyn neu ddwy yn ôl, sydd, o’u cymryd gyda’i gilydd, yn egluro’r pwynt yn eithaf da yn fy marn i. [Torri ar draws.] Ie, wel mae’n rhaid iddo fod yn ddetholus—mae yna lawer o ddeunydd ar gael. Esgusodwch fi? Am bwynt asynnaidd.
Ewch ymlaen. Ewch ymlaen. Ewch ymlaen.
Yn gyntaf, darn yn dyfynnu Darren Hunt—
Rydym yn edrych ymlaen at glywed y ddau gyfweliad. Ewch ymlaen.
Diolch. Yn gyntaf, y darn yn dyfynnu Darren Hunt, rheolwr cwmni adeiladu yn Scunthorpe. Dyma’i eiriau ef: ‘Mae’n anodd iawn cael pobl o Brydain i mewn. Mae’n ymddangos nad oes diddordeb gan bobl bellach mewn ennill cyflog drwy chwys eu hwyneb. Mae’n siomedig ein bod yn gorfod mynd i Ewrop i gael gweithwyr, ond nid oes gennym unrhyw ddewis. Y peth da am bobl dwyrain Ewrop yw bod ganddynt agwedd hen ffasiwn ac nid oes arnynt ofn gwaith caled. Nid ydynt yn poeni am weithio oriau hir ar benwythnosau ac maent yn barod i fwrw iddi.’
Felly, dyna safbwynt busnes. I gyferbynnu â hynny, dyma eiriau Eddie Sullivan, cogydd hyfforddedig 33 oed: ‘Rwyf wedi gweithio ers y diwrnod roeddwn yn 16 oed, ond erbyn hyn mae bron yn amhosibl dod o hyd i swydd dda yma. Roedd fy swydd ddiwethaf yn un ran amser mewn siop drydanol ar barc manwerthu. Cawn fy nhalu lai na £60 gros am 10 awr yr wythnos. Mae’r swyddi sydd i’w cael i’w gweld yn mynd i fewnfudwyr. Nid yw pobl leol yn cael cyfle. Mae cyflogwyr yn gwybod y bydd y tramorwyr yn derbyn unrhyw waith a byth yn cwyno na chwestiynu cyflogau, amodau—[Torri ar draws.]—Na, eisteddwch—
Na. Mae’r Aelod yn dirwyn ei sylwadau i ben yn awr.
[Yn parhau.]—’a byth yn cwyno na chwestiynu cyflogau, amodau neu oriau.’
Felly, dyna ni. Ar ochr pwy rydych chi, chi waredwyr y dosbarth gweithiol? A ydych ar ochr y gweithwyr neu’r rheolwyr? Diolch.
Y bleidlais yfory yw’r penderfyniad pwysicaf i Brydain ei wneud ers cenhedlaeth. Bydd yn gosod cyfeiriad pendant ar gyfer ein gwlad, nid yn unig i’r genhedlaeth hon, ond i genhedlaeth ein plant hefyd. Mae’n hanfodol bwysig fod pawb sy’n bwrw eu pleidlais yn edrych ar y darlun hirdymor. Nid yw’r penderfyniad yn ymwneud â’r fan hon yn awr, ond bydd yn siapio’r 30 i 40 mlynedd nesaf o ddyfodol Prydain. Ni ddylai’r penderfyniad fod yn gystadleuaeth boblogrwydd rhwng gwleidyddion heddiw. Nid Boris neu Dave sy’n cyfrif, ond ein plant a’n hwyrion. Dyna pam y mae’n rhaid i bawb feddwl am hynny pan fyddant yn pleidleisio yfory.
Dyma pam rwyf am gyfeirio fy sylwadau at fy etholwyr yn Nhorfaen yn benodol ac at bobl Cymru yn ei chyfanrwydd. Yn Nhorfaen, rwyf am i chi feddwl yn galed am y rhagolygon ar gyfer eich plant a’ch wyrion. Hoffwn i chi gofio mai Brwsel, yn aml iawn, dros y blynyddoedd diwethaf, sydd wedi sefyll gyda ni a’n plant pan oedd San Steffan wedi troi’i chefn a cherdded i ffwrdd. Meddyliwch am y prosiectau cyflogaeth fel Pontydd i Waith, sydd wedi arwain at £5.4 miliwn o gyllid yr UE ar gyfer darparu cyfleoedd a hyfforddiant i bobl ifanc yn Nhorfaen, neu arian yr UE sy’n helpu i ddarparu cymorth cyflogaeth achrededig yn lleol, megis yng nghanolfan Cwmbrân i bobl ifanc.
Os yw’r bleidlais yfory dros adael yr UE, beth fydd yn digwydd i’r math hwn o ymrwymiad parhaus i swyddi, sgiliau ac adfywio? A ydym eisiau dibynnu ar Farage, Gove neu Boris Johnson? Dyma’r bobl a drodd eu cefnau arnom, a roddodd y dreth ystafell wely i ni ac a fydd yn torri buddsoddiad fel mater o ideoleg. Gwn fod llawer yn poeni am gyflymder newid yn ein cymunedau, ond ni fydd pleidleisio dros adael yr UE yn ateb i’r pryderon hyn. Nid yw’r dadleuon ar fewnfudo gan yr ymgyrch dros adael yn ddim byd ond olew neidr.
Os telir cyflogau is i rai ar draul gweithwyr lleol, yr ateb yw cyflog byw gweddus—wedi’i orfodi a’i blismona’n briodol. Os ceir prinder sgiliau, yr ateb yw buddsoddi mewn hyfforddiant. Pan fydd y sefyllfa dai yn anodd, yr ateb yw cartrefi gweddus a fforddiadwy i bawb. Nid yw’r Cymoedd yn llawn—rydym wedi bod yn gwaedu pobl—mae ein poblogaeth wedi bod yn gostwng ers cenedlaethau. Rhaid i hynny ddod i ben os yw ein cymunedau yn mynd i oroesi. Ni allwn lywio ein ffordd drwy’r problemau a wynebwn drwy droi ein cefnau ar y byd a dymuno y bydd y problemau hynny’n diflannu. Rhaid i newid ddod, ond y ffordd orau o siapio’r newid hwnnw yw cadw ein sedd wrth y bwrdd Ewropeaidd.
I bleidleiswyr Cymru gyfan, rwy’n gofyn: pa fath o Gymru fyddwch chi’n pleidleisio drosti yfory? A fydd yn un sy’n croesawu’r £150 miliwn y mae Ewrop yn ei gynnig i fetro’r Cymoedd, neu’n un sy’n afradu’r buddsoddiad trawsnewidiol hwnnw? A fydd yn Gymru sy’n defnyddio’r £90 miliwn y mae Ewrop yn ei gynnig i gwblhau’r gwaith ar fand eang cyflym iawn ac yn mynd â Chymru gysylltiedig i mewn i’r unfed ganrif ar hugain, neu Gymru sy’n parhau’n gadarn yn yr ugeinfed ganrif?
A wnewch chi edrych ar y darlun hirdymor er lles eich plant a’ch wyrion? A ydych eisiau iddynt deimlo’n ymrwymedig i Ewrop rydd, ddemocrataidd a sefydlog—rhydd i deithio, astudio a gweithio yn yr economi rydd fwyaf ar y Ddaear, ac elwa o’r manteision enfawr y mae hynny’n ei gynnig? Neu a fyddwch yn cynnig ansicrwydd a dyfodol datgysylltiedig iddynt? A fyddant yn etifeddu Cymru wedi’i thorri i ffwrdd oddi wrth yr economi fwyaf yn y byd, ac a fyddwch yn gamblo gyda’u rhagolygon gwaith a’u ffyniant? Yfory, cofiwch pam y sefydlwyd yr UE a pham y mae ei sefydlogrwydd yn y dyfodol yn allweddol i’r dyfodol y bydd ein plant a’n hwyrion yn ei etifeddu. Cofiwch fod yr UE, yn anad dim, yn ymwneud â heddwch. Bydd UKIP yn dweud wrthych mai NATO sydd wedi cadw’r heddwch yng ngorllewin Ewrop ers 1945, ac maent yn gwadu rôl yr UE. Maent yn anghywir. Mae’n wir fod NATO wedi bod yn anhepgor yn y cylchoedd milwrol a gwleidyddol, ond mae’r UE wedi bod yn anhepgor hefyd, yn y meysydd cymdeithasol, economaidd a diwylliannol. Mae cynghreiriau milwrol yn bwysig, ond ni allant gyflawni heddwch ar eu pen eu hunain. Roedd Ewrop yn 1914 yn fôr o gynghreiriau milwrol. Mae ein plant yn awr yn byw mewn Ewrop lle mae rhyfel rhwng gwledydd democrataidd Ewrop y tu hwnt i amgyffred, a hynny oherwydd bod ein UE wedi cysylltu dwylo, nid yn unig yn filwrol, ond yn gymdeithasol ac yn economaidd hefyd. Mae’r sefydlogrwydd hwnnw wedi rhoi 70 mlynedd o heddwch i ni. Peidiwch â gwadu’r cyfle gorau i gael 70 mlynedd arall o’r un peth i’n plant a’n hwyrion.
Os yw Prydain yn pleidleisio dros adael yfory, bydd yn bleidlais dros dorri buddsoddiad mawr iawn ei angen i fy etholaeth mewn swyddi, sgiliau a seilwaith, gan ein gollwng i bydew ansicrwydd economaidd a’n gwneud yn dlawd. Os yw Prydain yn pleidleisio dros adael yfory, yna rydym yn ansefydlogi’r UE ei hun, ac mae’r byd yn mynd ychydig yn fwy peryglus—efallai nad ar unwaith ac efallai nad i ni, ond i’n plant a’n hwyrion yn sicr. Felly, galwaf ar bawb i edrych ar y darlun hirdymor. Pan fyddwch yn sefyll yn y bwth pleidleisio, er bod y bleidlais yn gyfrinachol, ni fyddwch ar eich pen eich hun. Bydd dyfodol eich plant a’ch wyrion yn sefyll drws nesaf i chi. Peidiwch â gamblo â’r dyfodol hwnnw. Cadwch ef yn ddiogel.
Mae llawer wedi cael ei wneud, yn enwedig yn y Siambr hon, am y manteision i Gymru o’r hyn a elwir yn arian Ewropeaidd. Rydym wedi clywed Aelod yn dweud heddiw fod y £10 biliwn a roddwn i Ewrop yn gwbl amherthnasol. Ond pan fydd rhan o hynny’n dod yn ôl i Gymru, maent yn ei alw’n gwbl hanfodol i economi Cymru. Felly, nid yw un peth yn cyd-fynd â’r llall. Felly, a gaf fi geisio goleuo’r rhai sydd i’w gweld yn amddifad o’r gallu i amgyffred y ffaith syml iawn nad oes y fath beth ag arian Ewropeaidd? Yr arian y mae Cymru’n ei gael o Frwsel, fel gyda gweddill y DU, yw arian Prydain yn dod yn ôl i ni ar ôl i Frwsel fynd â mwy na 50 y cant i roi cymhorthdal i brosiectau ar draws tir mawr Ewrop gyfan. Mae’n dilyn felly, hyd yn oed i’r mwyaf di-glem ynghylch materion ariannol, os ydym am gadw’r holl arian hwn yn y DU, byddem i gyd yn elwa o gadw’r 50 y cant sy’n cael ei wario ar hyn o bryd gan Ewrocratiaid Brwsel. Mae’r pwys gormodol a roddir ar yr arian Ewropeaidd hwn yn aml yn arwain at y ddadl gyfeiliornus na fyddai Senedd Prydain, pe baem yn gadael y DU, yn rhoi ei chyfran deg i Gymru o’r £50 o fonws. [Torri ar draws.] Rwy’n galw hon yn ddadl gyfeiliornus gan fod rhaid bod y bobl sy’n ei lledaenu yn awgrymu bod y 40 o ASau sy’n cynrychioli Cymru yn San Steffan—gyda’r rhan fwyaf ohonynt yn ASau Llafur wrth gwrs—yn ddirym i sicrhau nad yw Cymru yn wir yn cael ei chyfran deg o’r arian hwn. Ymhellach, a ydynt yn awgrymu bod y pedwar ASE sydd gennym yn y Senedd Ewropeaidd yn rym llawer mwy effeithiol na’r 40 rydym yn eu hanfon i San Steffan?
Yn olaf, ond nid yn lleiaf—[Torri ar draws.] Mae’n ddrwg gennyf, na. Yn olaf, ond nid yn lleiaf, gadewch i ni osod yr arian Ewropeaidd hwn mewn persbectif go iawn. Ceir tystiolaeth o barodrwydd San Steffan i fuddsoddi yng Nghymru yn y ffaith fod Cymru yn derbyn tua £14.7 biliwn yn fwy gan Lywodraeth y DU nag y mae’n ei dalu mewn trethi. Mae hynny bob blwyddyn. Mae hyn, wrth gwrs, yn llawer mwy na chyfanswm yr arian y mae Cymru wedi’i gael o Ewrop dros yr 16 mlynedd diwethaf i gyd. Mewn unrhyw ddadansoddiad cywir a diduedd o’r ffeithiau, a heb unrhyw wleidyddiaeth plaid, mae’n dilyn y byddai Cymru ar ei hennill o adael yr archwladwriaeth Ewropeaidd hon.
O ran y mater hwn ynglŷn â’r archwladwriaeth Ewropeaidd, a gaf fi orffen drwy ddweud fy mod yn ei chael yn annealladwy fod y ddwy blaid a elwir yn bleidiau sosialaidd yn y Siambr hon yn cefnogi banciau mawr, busnesau mawr, ac elît gwleidyddol yn erbyn buddiannau’r dosbarthiadau gweithiol yng Nghymru?
Rwy’n credu ei bod yn bwysig canolbwyntio ar ffeithiau ac nid ar brosiect ofn. Dylem ganolbwyntio ar brosiect—[Torri ar draws.]
Beth am eich prosiect ofn chi—y trydydd rhyfel byd?
Dylem ganolbwyntio ar—[Torri ar draws.]
Onid yw hwnnw’n brosiect ofn?
Fe gymeraf ymyriad; byddai’n ddifyr, heb os. [Torri ar draws.]
Ewch ymlaen.
Fi sydd i benderfynu a yw’r Aelod yn mynd yn ei flaen, nid chi.
Mae’n ddrwg gennyf, Lywydd.
Ewch ymlaen, Adam Price.
Gyda llaw, nid oes gennyf wrthwynebiad i’r Aelodau gnoi gwm—mae’n gweithio i Chris Coleman; efallai y dylem i gyd ddechrau.
Edrychwch, rwy’n meddwl y dylem ganolbwyntio ar y diddordeb cenedlaethol i Gymru, ac yn enwedig mewn perthynas â’r economi, rhaid i mi ddweud fy mod yn meddwl bod llawer ohonom yn iawn i ofni. Oherwydd, wyddoch chi, mae’n ffaith, onid yw—mae cyfansoddiad sectoraidd yr economi yng Nghymru yn wahanol? Mae gennym sector gweithgynhyrchu lawer mwy o faint, mae amaethyddiaeth yn bwysicach i ni, ac mae hynny’n arwain at batrwm masnachu gwahanol. Ni yw un o’r unig rannau o’r DU sydd â gwarged masnach sylweddol gyda’r UE. Fel y clywsom gan arweinydd UKIP, mae gan y DU ddiffyg masnach enfawr; nid yw’n wir am Gymru. Cymru, fesul y pen, sydd â’r gwarged masnach mwyaf gyda’r UE, ac o ganlyniad i hynny mae’n gwneud cyfraniad cadarnhaol hollbwysig i’n holl gynnyrch domestig gros. Hynny yw, os cofiwch eich economeg lefel A; wyddoch chi, Y = C + I + G + (X - M). Allforion net: yng Nghymru, mae gennym warged, sy’n cyfateb i tua 10 y cant o’n holl gynnyrch domestig gros o ran masnach mewn nwyddau. Rydym yn economi sy’n sensitif i allforio. Os yw’r gwarged masnach yn mynd i lawr, mae’n effeithio’n uniongyrchol ar ein cyfoeth economaidd a’n ffyniant. Gwelsom hynny eisoes, mewn gwirionedd, yn 2014. Cawsom gipolwg bach ar hynny; aeth allforion i lawr 11 y cant. Beth a ddigwyddodd? Cawsom—. Nid wyf am dderbyn rhagor o ymyriadau gennych. Beth a ddigwyddodd? Beth a ddigwyddodd o ganlyniad i hynny? Aeth twf gwerth ychwanegol gros i lawr yng Nghymru, iawn, gan fod perthynas uniongyrchol rhwng ein gwarged mewn masnach a’n heconomi yn ei chyfanrwydd.
Nawr, ni all neb wybod i sicrwydd beth fydd yn digwydd i’n heconomi o ganlyniad i Brydain yn gadael yr UE. Mae’r ymgyrch dros adael wedi cynnig pedair senario wahanol; nid ydym yn gwybod pa un a gawn. A dyna’r broblem. Mae ansicrwydd yn wenwynig i fusnes, i fuddsoddiad, yn enwedig mewn gweithgynhyrchu lle mae’r amseroedd arwain angenrheidiol ar gyfer prosiectau buddsoddi rhwng tair a saith mlynedd. Dyna’r allwedd. Nid yw’n fater o delerau masnach—wyddoch chi, pa un a fydd yn rhaid i ni dderbyn tariffau neu a fydd yna gwymp gyfadferol o ran y gyfradd gyfnewid; yr ansicrwydd fydd yn lladd economi Cymru o ganlyniad i adael yr UE. Ni chafwyd llawer o arbrofion pan fo cenhedloedd wedi troi cefn ar berthynas fasnachu lwyddiannus, ac mae yna resymau da pam. Pam y byddech y gwneud hynny? Yr unig enghraifft y gall economegwyr ddod o hyd iddi yw’r hyn a ddigwyddodd i economi’r Ffindir pan gollodd hanner ei hallforion i’r Undeb Sofietaidd dros nos yn sgil cwymp yr Undeb Sofietaidd—cwymp o 55 y cant yn y buddsoddiad o ganlyniad i hynny—mewn gwirionedd, dyna’r cyfangiad economaidd gwaethaf a dyfnaf i wlad ddiwydiannol ers y 1930au. Dyna beth allai fod yn wynebu Cymru. Dyna’r ddadl economaidd; mae yna ddadleuon eraill yn ogystal, sydd yn nes at ein synnwyr o bwy rydym.
Pan fyddwn yn canu ‘Hen Wlad fy Nhadau’ yng Nghymru, rydym yn ei chanu fel Ewropeaid Cymreig. Wyddoch chi, y Celtiaid oedd tadau Ewrop. Daethom i mewn, gyda llaw, drwy Asia Leiaf, a elwir erbyn hyn yn Dwrci. Do, crëwyd rhai o ogoniannau gwareiddiad Ewrop gennym ar y ffordd yn ein gorymdaith i’r gorllewin yn La Tène a Hallstatt. Mae Cymru ei hun yn gyfuniad o’r etifeddiaeth Geltaidd honno a gwareiddiad Rhufeinig. Pan fyddwn yn canu’r gân arall honno, ‘Yma o Hyd’, rydym yn golygu Ewrop hefyd, am ei bod yn cynnwys o’i mewn y chwedl wych am greu’r genedl Gymreig, mai Magnus Maximus—Macsen Wledig—llengfilwr Rhufeinig a aned yn Galicia a sefydlodd ein cenedl. Baner filwrol Rufeinig yw baner y ddraig goch y buom i gyd yn ei chwifio’n gynharach—’draco cocus’ mewn Lladin llafar a ddysgais, a chithau Neil Hamilton, yn Nyffryn Aman—y ddraig goch. A dau yn unig o’r mil o eiriau Lladin yn yr iaith Gymraeg yw’r rheini. Nid yn unig mai ni yw Prydeinwyr gwreiddiol yr ynysoedd hyn, ni yw’r Ewropeaid gwreiddiol hefyd. Nid yn unig eich bod yn ceisio ein torri i ffwrdd oddi wrth gyfandir, rydych yn ein torri i ffwrdd oddi wrth ein hanes ein hunain mewn gweithred o hunanladdiad torfol.
Os yw Prydain yn gadael yr UE yn erbyn ein hewyllys ein hunain, yna efallai y gallwn atgoffa ein hunain am eiriau Raymond Williams:
Rwyf am i’r Cymry—sy’n dal i fod yn bobl radical a diwylliedig—drechu, diystyru neu fynd heibio i Loegr.
Os yw Lloegr eisiau mynd ymaith i ryw arwahanrwydd ysblennydd, yna efallai fod arnom angen ymgyrch newydd, ‘ailymuno’, ond y tro hwn fel cenedl ein hunain yn Ewrop.
Rwy’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol—Mark Drakeford.
Diolch yn fawr, Lywydd. Wel, mae yna gynnig gerbron Cynulliad Cenedlaethol y prynhawn yma sy’n nodi tri phrawf ar gyfer penderfyniad i fynd â Chymru allan o’r Undeb Ewropeaidd, ac fel y dangoswyd yn ddiau yn ystod yr awr olaf, mae’r cynnig yn methu ar bob un o’r profion hynny y byddent am i ni eu derbyn. Ni fyddai Cymru yn gryfach, yn fwy diogel ac yn sicr ni fyddai’n fwy llewyrchus pe baem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, fel y mae’r cynnig hwn yn awgrymu.
Nawr, bydd y rhai ohonom sy’n cofio ac a oedd yn rhan o’r ymgyrch i sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol hwn yn cofio, er nad oedd gennym unrhyw gonfensiwn cyfansoddiadol o’r math a sefydlwyd yn yr Alban, roedd gennym grŵp trawsbleidiol a thraws-sector effeithiol iawn a ddadleuai’r achos yn y slogan a ddefnyddid ar y pryd—y byddai Cynulliad Cenedlaethol yn rhoi llais cryfach i Gymru yn Ewrop. A diolch i waith llawer o’r Aelodau yma a llawer iawn o bobl eraill ar draws Cymru, cafodd y gosodiad hwnnw ei gyflawni’n uniongyrchol iawn. Mae ein hiaith a’n diwylliant yn gryfach drwy ein haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd. Mae ein sylfaen ymchwil mewn gwyddoniaeth ac yn ein prifysgolion yn gryfach oherwydd ein bod yn yr Undeb Ewropeaidd. Mae ein hamddiffyniad cymdeithasol i weithwyr a defnyddwyr yn gryfach oherwydd y mesurau diogelu a sicrhawyd drwy’r Undeb Ewropeaidd.
Lywydd, mae Cymru’n fwy diogel hefyd. Mae ansawdd ein dŵr yn fwy diogel oherwydd camau gweithredu cyffredin ar draws yr Undeb Ewropeaidd. Mae ansawdd a diogelwch bwyd yn fwy diogel oherwydd eu bod yn cael eu gwarchod gan ein haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd. Mae ein haelodaeth o’r rhwydweithiau ledled yr Undeb Ewropeaidd ar y defnydd anghyfreithlon o gyffuriau yn gwneud ein dinasyddion yn fwy diogel yma yng Nghymru. Mae ein gallu i ymdrin â throseddau trawswladol a phla modern terfysgaeth, drwy beirianwaith Undeb Ewropeaidd, yn ein gwneud yn fwy diogel bob dydd. Dyna farn y ffigyrau uchaf yn y maes—pennaeth MI5, pennaeth MI6, pennaeth Pencadlys Cyfathrebu’r Llywodraeth, pump o gyn-benaethiaid NATO, pennaeth Europol ym Mhrydain, a’n cynghreiriaid yn Awstralia, Canada, Seland Newydd a’r Unol Daleithiau.
Nawr, Lywydd, nid wyf yn rhy hoff o ddyfynnu gwleidyddion Ceidwadol, ond nid ydym wedi clywed llawer ganddynt y prynhawn yma. Felly, gadewch i mi wneud iawn am hynny, mewn ffordd fach iawn, drwy ailadrodd ac addasu yr hyn a ddywedodd Ruth Davidson, arweinydd y Ceidwadwyr yn Senedd yr Alban, ddoe: os yw’n fater o ddewis rhwng gwrando ar yr holl bobl hynny a gwrando ar y rhai a gynigiodd y cynnig hwn, rwy’n mynd i bleidleisio dros yr arbenigwyr bob dydd o’r wythnos a ddwywaith ar ddydd Sul hefyd. Ac maent yn gwneud hynny, ac maent yn dweud hynny, am y rhesymau a fynegodd Lynne Neagle mor huawdl yma y prynhawn yma—am fod aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd yn gwneud y dyfodol yn fwy diogel i’n plant a’n hwyrion hefyd.
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ildio? Rwy’n ofni bod yn rhaid i mi geisio’i helpu gan iddo gyfeirio at grŵp y Ceidwadwyr. Nid wyf yn siarad ar ei ran; rwy’n siarad fel unigolyn yn unig. Ond wrth siarad am fanteision yr Undeb Ewropeaidd, mae’r ochr sy’n ffafrio gadael yn dweud ei bod wedi ildio sofraniaeth hanfodol ac nad yw’n werth y pris, ond os ydym wedi ildio sofraniaeth hanfodol, sut ar y ddaear rydym yn cael refferendwm yfory ar aelodaeth?
Wel, dyna bwynt eithriadol o dda gan yr Aelod. Mae’n cysylltu â thrydedd ran y cynnig y cawn ein gwahodd i’w gefnogi y prynhawn yma, rwy’n credu: sef y byddem rywsut yn fwy llewyrchus pe baem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd; y byddem yn fwy llewyrchus heb y 500 o gwmnïau o wledydd eraill yr UE sydd â gweithfeydd yng Nghymru, ac yn darparu mwy na 57,000 o swyddi; y byddem, rywsut, yn fwy llewyrchus pe bai’r 70,000 o bobl yng Nghymru sydd wedi elwa o gyllid yr Undeb Ewropeaidd i’w helpu i gael gwaith—pe na bai hwnnw ar gael i ni; a phe bai ffermio yng Nghymru, rywsut, yn fwy llewyrchus heb y €300 miliwn o gyllid Ewropeaidd y mae’n ei gael bob blwyddyn. Mae’r syniad y byddai Cymru yn well ei byd y tu allan i Ewrop yn gynnyrch yr economeg fwdw a ddisgrifiwyd i ni y prynhawn yma. Yn ei lle, cawn gynnig dirwasgiad wedi’i wneud ein hunain a’i achosi gennym ni ein hunain, gweithred enfawr o ffolineb economaidd, encilfa rhag realiti cymhleth y byd rydym yn byw ynddo mewn gwirionedd; ac ar ei orau, encil i’r llinellau ochr ac i ymylon y byd go iawn; ar ei waethaf, encil i lurguniadau ffiaidd poster sy’n camfanteisio ar arswyd plant ac anobaith eu rhieni, wedi’u dal mewn digwyddiadau mor bell y tu hwnt i’w cyfrifoldeb neu eu rheolaeth eu hunain.
Felly, Lywydd, dyna ni: rydym am gael Cymru sy’n gryfach, yn fwy diogel ac yn fwy ffyniannus, ac rydym yn gwybod sut i gyflawni hynny hefyd. Mae Cymru’n elwa’n aruthrol o’n haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd. Mae Cymru yn perthyn i Ewrop, mae angen i Gymru aros yn Ewrop ac yfory, gadewch i ni bleidleisio i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud hynny.
Rwy’n galw nawr ar Neil Hamilton i ymateb i’r ddadl.
Yn anffodus, munud yn unig sydd gennyf i ymateb, felly ni allaf—byddaf ar gael wedyn i barhau â’r drafodaeth. Ond rwy’n rhyfeddu at yr Aelodau eraill yn y tŷ hwn sydd â safbwynt gwahanol i fy un i ar yr Undeb Ewropeaidd. Eu gwangalondid a’u pesimistiaeth ynglŷn ag ysbryd a chymeriad y Cymry—eu bod, rywsut neu’i gilydd, yn analluog i wneud eu ffordd yn y byd. Am yr arbenigwyr honedig rydym i fod i ddibynnu arnynt: ai dyma’r un arbenigwyr a argymhellodd ein bod yn ymuno â’r ewro, yr un arbenigwyr a fethodd ragweld yr argyfwng bancio ac a oedd, mewn llawer o achosion, yn gyfrifol amdano? Pobl wych, onid ydynt? Rwy’n siŵr ein bod i gyd yn hapus iawn i gael eu cyngor ar yr adeg hon.
Yn y bôn, yr hyn y mae’r ddadl hon yn ymwneud ag ef yw—mae rhwng democratiaeth a biwrocratiaeth. Y bobl sy’n gwneud y penderfyniadau sy’n effeithio ar ein bywydau bob dydd: a ydych yn mynd i’w hethol ai peidio? Os ydynt yn gwneud y penderfyniadau anghywir, sut rydych chi’n cael gwared arnynt? Dyna oedd y cwestiwn roedd Tony Benn bob amser yn arfer ei ofyn pan fyddai’n cyfarfod â rhywun â phŵer: ‘O ble y cawsoch y pŵer? Sut rydych chi’n mynd i’w ddefnyddio ac os gwnewch gamgymeriad, sut rydym yn mynd i gael gwared arnoch?’ Sut rydych chi’n cael gwared ar y Comisiynwyr ym Mrwsel os ydynt yn gwneud set wahanol o benderfyniadau i’r rhai y maent yn eu gwneud yn awr, penderfyniadau rydych yn digwydd bod yn eu hoffi, mewn gwirionedd? Os nad ydych yn hoffi’r penderfyniadau a wnant, beth wnewch chi wedyn? Wedyn rydych chi’n gaeth. Gyda gwleidyddion etholedig, bob hyn a hyn o leiaf, gallwch bleidleisio i gael gwared arnynt, a dyna beth rydym yn mynd i’w wneud yfory: rhoi’r pŵer yn ôl yn nwylo’r bobl.
Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.