1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 28 Mehefin 2016.
Rydym yn symud nawr at gwestiynau gan arweinwyr y pleidiau, ac mae’r cwestiwn cyntaf i’r Prif Weinidog yr wythnos yma gan arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.
Diolch i chi, Lywydd. Brif Weinidog, hoffwn uniaethu’n gyntaf oll â'r teimladau a fynegwyd gan Aelodau eraill—nid oes lle ar gyfer unrhyw anoddefgarwch, ac, yn enwedig, hiliaeth, yn unrhyw ran o'n gwlad, boed hynny yma yng Nghymru neu yn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig. Ac rwy’n sefyll ysgwydd wrth ysgwydd ag unrhyw Aelod ac unrhyw sefydliad sy'n sefyll i amddiffyn y rhyddid hwnnw, i wneud yn siŵr y gall pobl siarad yn rhydd ac yn agored mewn unrhyw ran o'r wlad hon. Ac ni allwn ganiatáu i unrhyw deimlad sy’n mudlosgi i halogi'r ddemocratiaeth sydd mor annwyl i ni, i ni ein hunain ac i'r wlad wych hon sydd gennym ni.
Brif Weinidog, hoffwn ofyn i chi—. Yr wythnos diwethaf, cawsom y refferendwm, rydym yn deall y canlyniad, mae'r canlyniadau’n datblygu o'n blaenau, a bydd trafodaethau’n cychwyn yn fuan. Dros y penwythnos, dywedasoch nad eich etholiad chi oedd hon, ar y rhaglen 'Sunday Supplement'. Mae'r refferendwm sydd newydd gael ei gynnal yn un hollbwysig, ac, mewn gwirionedd, er clod i chi, dywedasoch, yn ôl ar ddechrau ymgyrch y refferendwm, mai hon oedd y bleidlais bwysicaf ers cenhedlaeth ac yn bleidlais am byth. A allwch chi fy sicrhau i mai dim ond camgymeriad cyfryngol oedd hwnna ar 'Sunday Supplement', ac y gwnaethoch chi ymgysylltu'n llawn, ac na wnaethoch chi ystyried y refferendwm hwn fel refferendwm rhywun arall i’w ymladd?
Wel, nid dyma’r tir y byddwn i wedi ei ddewis, na’r amseriad—dywedais hynny wrth y Prif Weinidog. Ond mae'n bwysig ein bod ni wedi cael y refferendwm, ac mae'r canlyniad yn hysbys erbyn hyn.
Nid yw’n gymeradwyaeth frwd felly, yw hi, Brif Weinidog? Rwyf yn credu ei bod hi’n bwysig i ni ddeall sut y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn paratoi ar gyfer canlyniad y refferendwm. Yn amlwg, mae'r Canghellor wedi cadarnhau bod Llywodraeth y DU, waeth beth fo’i safbwynt yn y refferendwm hwnnw, wedi bod yn paratoi ar gyfer y ddwy sefyllfa. Ac, yn amlwg, ceir bobl sy'n derbyn arian a grantiau Ewropeaidd, a bydd hynny'n parhau, cyhyd ag ein bod yn rhan o’r gronfa Ewropeaidd ac yn talu i mewn iddi. Ond pa waith a gafodd ei wneud a’i gomisiynu gennych chi fel Prif Weinidog, o fewn Llywodraeth Cymru, i wneud yn siŵr bod y ddau ganlyniad yn cael eu modelu a bod Llywodraeth Cymru yn y sefyllfa orau posibl i gynorthwyo gyda gwybodaeth a chymorth, beth bynnag fyddai canlyniad y refferendwm hwnnw?
Wel, bydd hynny’n rhan o'r ddadl yn nes ymlaen. Ond, gallaf ddweud ei bod yn amhosibl modelu’r canlyniad. Nid oes gennym unrhyw syniad sut y bydd y cytundeb terfynol yn edrych. Tan y bydd gennym ni ddealltwriaeth o hwnnw, a ydym ni’n gwybod a fydd mynediad at y farchnad sengl? Rydym ni’n gwybod bod pobl Cymru wedi pleidleisio i adael yr UE. Y tu hwnt i hynny, nid ydym yn gwybod pa fath o fodel yr ydym ni'n mynd i’w gael ymhen dwy flynedd a tan i ni weld y model hwnnw bydd yn anodd iawn cynnig barn arno. Gwn ei fod o blaid pobl yn symud yn rhydd; dywedodd hynny heddiw. Mae hefyd o blaid arian Cymru’n cael ei gadw yn Llundain, yn y Trysorlys, sy’n rhywbeth arall a ddywedodd heddiw. Mae'n rhaid i mi ddweud wrtho fod llawer o bobl wedi dweud wrthyf ar garreg y drws, pan ofynnwyd iddynt am brosiectau cyllid arian Ewropeaidd yn eu cymunedau, dywedasant, ‘Ein harian ni oedd ef beth bynnag'. Rwyf wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog yn dweud fy mod i’n disgwyl i bob un ceiniog—pob un geiniog—y byddwn yn ei cholli pan na fyddwn yn gymwys i dderbyn cyllid Ewropeaidd mwyach, i gael ei thalu gan Lywodraeth y DU a bod yr arian hwnnw’n dod i Gymru. Mae ef wedi dweud heddiw nad oes ots ganddo os yw'r arian hwnnw o dan glo yn y Trysorlys yn San Steffan. Yr arian hwn yw’r arian sydd yno ar gyfer pobl Cymru. Nid lle Trysorlys y DU na’i le yntau yw amharu ar eu hawliau.
Brif Weinidog, ni ddywedais 'o dan glo yn y Trysorlys'. Dywedais y bydd model newydd ar gyfer y ffordd y bydd Llywodraeth yn gweithredu mewn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig. Rwyf wedi gofyn dau gwestiwn i chi heddiw. Y cwestiwn cyntaf oedd: a wnaethoch chi ymrwymo eich hun yn llawn i'r refferendwm? Ni wnaethoch ymateb i'r cwestiwn hwnnw. Gofynnais i chi pa waith modelu yr oedd Llywodraeth Cymru wedi ei wneud i ymdrin â chanlyniad y refferendwm—nid y trafodaethau; canlyniad y refferendwm—oherwydd ceir rhyngweithio yn ddyddiol gyda sefydliadau ledled Cymru sydd wedi cael eu cefnogi gan Lywodraeth Cymru ac sy’n derbyn arian Ewropeaidd? Ac mae hwnnw’n gwestiwn cwbl resymol i’w ofyn: pa waith paratoadol a wnaed gan Lywodraeth Cymru i ymdrin â dau ganlyniad posibl y refferendwm? Nid ydych chi wedi rhoi ateb i mi ar hynny.
O ran y trydydd cwestiwn felly, os nad wyf i'n mynd i gael unrhyw atebion gennych chi heddiw, a wnewch chi estyn allan at bob math o farn wleidyddol i sicrhau bod eu safbwyntiau’n cael eu cynrychioli yn y trafodaethau o Gymru yn y dyfodol, oherwydd yn amlwg, o’r pleidiau o fy mlaen, ni chafodd y safbwyntiau hynny eu cynrychioli yng nghanlyniad y refferendwm? Ac mae'n bwysig bod pob barn yn cael ei hystyried fel y gall llais Cymru gael ei glywed yn eglur, yn uchel ac, yn anad dim, gan wneud yn siŵr bod yr ymrwymiadau sydd eu hangen arnom yn cael eu dychwelyd i Gymru, ac mae hynny'n golygu bod pob ceiniog sy’n ddyledus i Gymru yn cael ei derbyn yma yng Nghymru a’i gwario yma yng Nghymru.
Wel, gallaf ddyfynnu ei union eiriau wrtho’n uniongyrchol. Dywedodd, 'Pam ddylai Llywodraeth Cymru drin yr arian?' Dyna’n union a ddywedodd yn y gynhadledd i'r wasg, a dywedodd, 'Pam na ddylai'r arian ddod yn syth o San Steffan, gan osgoi deddfwrfa a Llywodraeth etholedig pobl Cymru?' Mae wedi sôn dro ar ôl tro am yr angen i Brydain, fel y dywedodd yn ei ddadl, fwynhau ei rhyddid a'i sofraniaeth, fel y dywedodd. Mae'n meddwl ei bod yn druenus na ddylai pobl Cymru gael mynediad at arian sydd ar gael iddyn nhw nawr. Mae angen iddo fe, fel arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, ddechrau meddwl fel pe byddai’n Gymro a dechrau edrych ar bethau o safbwynt Cymru oherwydd, rwy’n dweud wrthych chi nawr, mae mewn gwahanol sefyllfa i UKIP er tegwch iddyn nhw, gan fod UKIP wedi bod yn dweud, 'Dylai, dylai pob ceiniog o'r arian hwnnw ddod i Gymru a chael ei gwario yng Nghymru'. Nid yw e’n dweud hynny. Nid yw e’n dweud hynny, ac mae'n hen bryd i ni gael syniadau mwy eglur gan y Ceidwadwyr. Do, rwy’n gwybod bod pobl wedi pleidleisio i adael. Ni fydd dim yn newid hynny. Ni all unrhyw beth atal hynny. Nid oes ganddo fe unrhyw syniad beth fydd yn digwydd nesaf—dim syniad o gwbl. Byddwn yn esbonio’r ffordd ymlaen o’n safbwynt ni, gan gofio'r hyn y mae pobl wedi ei ddweud—nid oes modd dianc rhag yr hyn y mae pobl wedi ei ddweud—ond, fel y dywedais, o'n safbwynt ni, mae hwn yn arian sydd wedi bod yn dod i Gymru, mae hwn yn arian a ddylai barhau i ddod i Gymru. Dyna hawl pobl Cymru. Mae'n hawl nad yw ef yn ei barchu.
Arweinydd yr wrthblaid, Leanne Wood.
Diolch, Lywydd. Rwyf i’n craffu arnoch chi heddiw â chalon drom, Brif Weinidog. Byddaf yn ymateb yn llawn i ddadl yr UE yn ddiweddarach. Ond, mae'n bwysig canolbwyntio ar yr hyn yr ydych chi’n gyfrifol amdano nawr ac, yn arbennig, y ddarpariaeth o wasanaethau cyhoeddus, er gwaethaf y cythrwfl gwleidyddol ehangach. A gaf i ddweud a rhoi ar y cofnod yn gyntaf oll y dylai bob un ohonom gondemnio’r cynnydd a adroddwyd mewn digwyddiadau hiliol ers cynnal y refferendwm? Nid oes unrhyw le i hiliaeth yng nghymdeithas Cymru a gwn eich bod yn cytuno â mi ynglŷn â hynny.
Gan symud ymlaen nawr at y GIG, mae ein GIG yn elwa ar gymysgedd o staff cynhenid a rhyngwladol. Mae tua 500 o feddygon o'r Undeb Ewropeaidd yn gweithio yn y GIG yng Nghymru. Dros yr wythnosau nesaf, byddant yn cyflawni llawdriniaethau, yn achub bywydau, yn iachau cleifion, fel pe na byddai’r refferendwm erioed wedi digwydd. A allwch chi’n gyntaf oll ddweud wrthym faint o arian ychwanegol yr ydych chi'n ei ddisgwyl i'r GIG yng Nghymru o ganlyniad i'r addewid a wnaed gan yr ymgyrch i adael? Yn ail, a fyddech chi’n barod i gyfathrebu â’n holl staff gwasanaethau cyhoeddus o wledydd eraill yr UE, a dweud wrthynt yn uchel ac yn eglur bod croeso iddyn nhw o hyd yma yng Nghymru?
O ran y cwestiwn cyntaf, mae hi’n gwybod yr ateb cyn iddi ofyn i mi, sef nad ydym yn disgwyl unrhyw arian o ganlyniad i'r addewid hwnnw; mae wedi ymddatod eisoes. Mae'r rhai â’i gwnaeth wedi cyfaddef nad dyna’n union yr oedden nhw’n ei olygu. Felly, dyna ni—byddwn yn aros i weld beth fyddan nhw’n ei wneud pan fyddant yn mynd i mewn i lywodraeth. Ond rwy’n cytuno'n llwyr â'r hyn y mae hi'n ei ddweud: ni fyddai ein GIG yn gweithio heb staff meddygol a nyrsio o wledydd eraill, ac mae'n gwbl hanfodol eu bod yn teimlo bod croeso o hyd iddyn nhw yng Nghymru. Gwn ei bod wedi dweud hynny’n gryf. Rwy’n ymuno â hi yn hynny, oherwydd ein bod ni’n gwybod bod cymaint o ddinasyddion gwledydd eraill wedi darparu cymaint o ofal a chymaint o iachâd a thriniaethau i gymaint o'n pobl, ac mae croeso iddyn nhw yn ein gwlad.
Diolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog. Mae'r posibilrwydd o adael yr Undeb Ewropeaidd eisoes wedi rhoi economi'r DU mewn ansicrwydd dwfn. Ond, i Gymru, ceir risg ychwanegol i fuddsoddiad cyfalaf ar gyfer rhai o ymrwymiadau eich maniffesto, ac i ddiwydiant hefyd. Bwriedir i fetro’r de-ddwyrain, er enghraifft, gael ei ariannu yn rhannol gan gronfeydd strwythurol Ewrop, a allai gael eu sicrhau tan 2020 yn unig, os gellir eu sicrhau o gwbl. A allwch chi ddweud wrthym, felly, beth fydd yn digwydd nawr i fetro de Cymru, ac i’r prosiectau trafnidiaeth yr ydych chi wedi eu haddo ar gyfer y gogledd hefyd? Gan droi at ddiwydiant hefyd, a allwch chi ddweud beth sy’n debygol o ddigwydd i Tata Steel a dyfodol Port Talbot nawr, yn ogystal â gweithfeydd dur eraill yng Nghymru?
O ran y cwestiwn cyntaf, ysgrifennais at Brif Weinidog y DU ddoe. Gofynnais iddo sicrhau pob ceiniog y byddem ni’n ei cholli, i wneud yn siŵr bod hynny’n dod i Gymru. Os caiff yr addewid hwnnw ei gadw, yna gallwn fwrw ymlaen â'r metro a phrosiectau eraill. Os nad yw’r addewid hwnnw’n cael ei gadw, yna mae bylchau ariannol sylweddol mewn nifer o brosiectau a fyddai o fudd i bobl Cymru. Felly, rwy’n disgwyl i’r addewid hwnnw a wnaed mor gyhoeddus gael ei gadw. O ran Tata, mae wedi creu ansicrwydd—llawer mwy o ansicrwydd dros y diwrnodau diwethaf. Yr anhawster yw bod y diwydiant ceir yn dal yn ôl tan iddo weld sut gytundeb masnach fydd ar gael. Maen nhw wedi dweud hynny’n gyhoeddus. Gan fod Tata yn cyflenwi cymaint o weithgynhyrchwyr ceir yn y DU, yna mae'n amlwg bod y diwydiant dur hefyd mewn sefyllfa lle nad yw'n gwybod beth sy'n digwydd. Mae ansicrwydd yn beth gwael. Fy marn i yw y dylai erthygl 50 gael ei rhoi ar waith cyn gynted â phosibl. Rwy'n credu bod aros misoedd a misoedd amdano ddim ond yn ychwanegu at yr ansicrwydd hwnnw. Gwell bod pobl yn gwybod lle maen nhw’n sefyll yn hytrach na pheidio â gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd am fisoedd lawer a blynyddoedd lawer. Ond nid yw ansicrwydd byth yn mynd i fod o gymorth o ran buddsoddiad: dyna pam mae’n rhaid i’r broses ddechrau cyn gynted â phosibl, a chael ei chwblhau cyn gynted â phosibl.
Gan droi nawr felly at y darlun ehangach o fewn y DU a thu hwnt, hoffwn weld trefniadau’n cael eu gwneud i ddiogelu statws cyfansoddiadol Cymru, ein deddfwriaeth, ein cyllid, a'n perthynas fasnachu â gweddill Ewrop tra byddwn yn tynnu'n ôl dros y blynyddoedd nesaf. Mae Llywodraeth y DU yn sefydlu uned gwasanaeth sifil benodol i lywyddu dros Brexit, ac mae Prif Weinidog y DU wedi dweud y bydd pob Llywodraeth ddatganoledig yn cymryd rhan lawn yn y broses o wneud penderfyniadau dros drafodaethau’r UE. Mae angen i ni fod yn eglur: nid pleidlais i ganolbwyntio unrhyw bwerau ychwanegol yn San Steffan oedd pleidlais yr wythnos diwethaf, a gwnaed addewidion yn ystod yr ymgyrch honno i sicrhau ein cyllid. Sut gwnewch chi symud yn gyflym nawr i sicrhau'r cytundeb gorau posibl i Gymru yn yr holl gythrwfl hwn, a sut gwnewch chi weithio gydag eraill i achub y sefyllfa dros y wlad hon hyd eithaf ein gallu, yn enwedig o ystyried yr anhrefn yn Llywodraeth y DU ac yn eich plaid eich hun yn San Steffan?
Wel, y peth cyntaf y mae’n rhaid i ni ei gyfleu yw sefydlogrwydd yng Nghymru a sicrwydd i fyd busnes. Rwyf wedi gofyn i'r Ysgrifennydd lunio nifer o bwyntiau y gallwn eu gwneud i fyd busnes i wneud yn siŵr ei fod yn deall ein bod yn sicr yn gweld Cymru fel man sydd ar agor i fusnes. Mae hynny'n hynod o bwysig. O ran yr hyn sydd i ddod yn y dyfodol, rwy’n croesawu'r hyn a ddywedodd y Prif Weinidog o ran cynnwys Cymru, ond gwn nad yw'n gallu siarad dros Brif Weinidog nesaf y DU, a allai fod â gwahanol farn. O ystyried hynny, byddwn yn sefydlu tîm arbenigol yn ein swyddfa ym Mrwsel a fydd yn gyfrifol am siarad a thrafod yn uniongyrchol â'r Comisiwn Ewropeaidd. Nid oes yn rhaid i hynny fod yn hytrach na gweithio gyda Llywodraeth y DU, ond mae angen i ni wneud yn siŵr bod gan Gymru lais, a llais cryf. Ni allwn ddianc rhag y ffaith bod Cymru wedi pleidleisio i adael, felly nid oes cwestiwn o geisio mynd y tu ôl i ddyfarniad yr etholwyr, ond nid yw hynny'n golygu nad oes rhaid i ni weithio'n galed i wneud yn siŵr bod Cymru’n cael y cytundeb gorau posibl. Mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod ni’n gwneud hynny. Ni fyddwn yn ymddiried yn rhai o'r bobl yr wyf i wedi eu gweld, os byddant mewn Llywodraeth yn Llundain ym mis Medi, i gael y cytundeb gorau i Gymru, ac mae hynny'n hollbwysig, a dyna’r ydym ni’n bwriadu ei wneud.
Arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton.
Brif Weinidog, nid wyf yn disgwyl i chi groesawu canlyniad y refferendwm ddydd Iau diwethaf gyda chymaint o frwdfrydedd ag y gwnes i, ond pleidleisiodd Cymru yn bendant dros adael yr UE, ac yn wir pleidleisiodd fwyafrif ym Mhen-y-bont ar Ogwr a’r Rhondda i adael yr UE, ond roedd sefydliad gwleidyddol Cymru—Llafur, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol—yn unffurf o blaid aros, ac roedd holl ACau y pleidiau hynny yn y lle hwn o blaid aros. Yr hyn rwy’n awyddus i’w wneud nawr yw edrych ymlaen at y dyfodol, ac ailadroddaf yr hyn a ddywedasoch funud yn ôl, bod UKIP yn credu y dylai pob un bunt y mae’r UE yn ei wario o arian trethdalwyr Prydain yng Nghymru ar hyn o bryd ddod i Lywodraeth Cymru i gael ei gwario yma. Felly, byddwn yn rhoi pob cefnogaeth posibl i chi yn yr ymdrech hon. Oni fyddai'n well, felly, yn yr ysbryd o gydweithredu y gwnaethoch gychwyn eich gweinyddiaeth yn y Cynulliad hwn, i gynnwys arweinydd y Ceidwadwyr a minnau yn y broses o ddadlau’r achos dros Gymru gyda Llywodraeth y DU, gan y byddai’n cael ei gryfhau gyda lleisiau ychwanegol y rhai a oedd mewn gwirionedd o blaid y canlyniad y pleidleisiodd pobl Cymru drosto?
Wel, fy ymateb—. Hynny yw, mae’n iawn; dyna ni, gwelsom y canlyniad. Mae fy ymateb i yr un fath ag ymateb ei blaid ef yn 2011 i'n refferendwm yng Nghymru, pan gollwyd hwnnw gan eich plaid chi. Ond mae'n rhaid i ni ei dderbyn. Dyna ni. Symudwn ymlaen nawr gyda thirlun gwleidyddol newydd. Rwyf eisoes wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog. Rwy’n disgwyl cael ymateb. Mae pobl Cymru wedi pleidleisio dros Lywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â’r ymateb hwnnw. Rwy'n credu ei bod yn bwysig bod y pleidiau’n deall eu swyddogaethau wrth i'r trafodaethau fynd yn eu blaenau, oherwydd yr hyn na allwn ni ei wneud yw bod mewn sefyllfa lle mae cytundeb masnach ar y bwrdd heb unrhyw fewnbwn gan Gymru. Byddai hynny'n gwbl annemocrataidd a pheryglus, yn fy marn i, o ran y ffordd y mae pobl yn gweld y DU. Felly, rwy’n berffaith fodlon i weithio ar y ffordd ymlaen, a bydd y tîm y byddwn yn ei sefydlu ym Mrwsel yn ein helpu i wneud hynny.
Bydd y Prif Weinidog, rwy'n siŵr, yn cytuno â mi bod hyn yn cynnig cyfleoedd gwych i Gymru nawr. Rwy’n sylweddoli ei fod wedi canolbwyntio ar y risgiau a'r ansicrwydd cyn ymgyrch y refferendwm, ond nawr bod gennym ni’r cyfleoedd gwych y mae rhyddid i weithredu yn eu rhoi i ni, mae’n rhaid i ni fanteisio arnynt a gwerthu Cymru yn y byd ehangach ar y sail honno. Mae hefyd yn cynnig i ni—ac rwy’n ategu'r hyn yr ydym ni newydd ei glywed gan arweinydd Plaid Cymru yma—rhagor o gyfleoedd i ddatganoli pŵer. Yn arbennig, bydd y cyfle gennym nawr i gymryd rheolaeth dros ein polisi ar amaethyddiaeth, sy'n golygu y gallwn deilwra polisi wedyn i'n hanghenion ein hunain sy’n addas ar gyfer ffermwyr yng Nghymru, yn hytrach na gorfod cyfaddawdu eu buddiannau oherwydd buddiannau ffermwyr mewn 27 o wledydd eraill yn yr UE. Felly, unwaith eto, hoffwn ailadrodd fy nghais i’r Prif Weinidog gynnwys y pleidiau—ac eithrio’r rhai sy’n rhan o’r gwahanol gompactau y cytunwyd arnynt—yn y trafodaethau pwysig iawn hyn, a fydd yn cael eu cynnal yn ystod y ddwy flynedd nesaf, i wneud yn siŵr ein bod ni’n cael y cytundeb gorau posibl i Gymru a phobl Cymru o'r broses hon.
Wel, nid oes amheuaeth y bydd cyfranogiad, wrth gwrs, gan yr holl bleidiau wrth i’r trafodaethau hynny barhau, ond mae'n arwydd o ailgyfochri rhyfedd gwleidyddiaeth fy mod i'n gwrando ar arweinydd UKIP yn bod yn fwy cefnogol i ddatganoli nac arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru. Dyna eironi’r sefyllfa. Mae'n gwbl gywir: nid yw amaethyddiaeth Prydain yn bodoli—ni fydd yn bodoli. Ceir amaethyddiaeth Cymru, a Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Nid oes polisi amaethyddol ar gyfer Prydain. Mae’r un peth yn wir am bysgodfeydd. Er enghraifft, ar ôl i’r trafodaethau ddod i ben, dim ond dyfroedd Cymru y bydd gan gychod Cymru fynediad atynt, ac felly bydd angen trafodaethau rhwng y gwahanol weinyddiaethau ar fynediad, yr wyf yn siŵr na fyddant yn peri problemau, beth bynnag. Mae'n bwysig, a dyna pam yr wyf i eisiau cyfarfod yn fuan â chynrychiolwyr y diwydiant pysgota yng Nghymru a chynrychiolwyr y diwydiant ffermio yng Nghymru fel y gallwn ddechrau gweithio ar sut y mae polisi amaethyddol Cymru yn edrych. Mae hynny'n golygu y bydd yn bolisi sydd wedi ei gynllunio i ofalu am y ffermwyr mynydd hynny sy’n cael trafferthion ar y mynyddoedd, gyda phridd anodd a thywydd garw, yn hytrach na'r rhai sy'n gwneud yn dda iawn diolch yn fawr iawn mewn ardaloedd o Gymru sy'n hawdd iawn eu ffermio. Felly, mae'n hynod o bwysig ein bod yn llunio polisi amaethyddol sydd wedi’i deilwra i anghenion Cymru, ac wedi’i deilwra i anghenion ffermwyr Cymru. Mae hynny'n rhywbeth y byddaf yn gweithio arno gyda'r undebau ffermio yng Nghymru.
A wnaiff y Prif Weinidog ymuno â mi heddiw hefyd i gondemnio ein Canghellor, George Osborne, y mae’n ymddangos nad yw wedi sylweddoli bod y refferendwm wedi dod i ben ac sy’n dal i barhau â phrosiect ofn, ac sydd wedi cyhoeddi heddiw y bydd toriadau i wariant a chynnydd i drethi yn yr hydref gan fod yn rhaid i ni fyw yn unol â’n modd, a bod y rhain yn eiriau gwael o geg Canghellor gwaethaf Prydain ers tro byd, sydd wedi dyblu’r ddyled genedlaethol mewn pum mlynedd ac sy’n dal i gynnal diffyg cyllideb o £60 biliwn neu £70 biliwn y flwyddyn? Nid oes unrhyw reswm o gwbl yn deillio o'r refferendwm i orfodi’r cynnydd i drethi na thoriadau mewn gwariant dim ond oherwydd yr anwadalrwydd yn y tymor byr yn y marchnadoedd ariannol, a fydd yn cael ei ddatrys yn fuan.
Mae arweinydd UKIP yn optimist. Mae'n dweud bod manteision yma: nid yw'n amlwg ar unwaith, mae’n rhaid i mi ddweud, beth yw'r manteision. Rydym ni mewn cyfnod o ansicrwydd, ac mae ansicrwydd yn wael. Mae pum deg y cant o'r hyn yr ydym ni’n ei allforio o Gymru yn mynd i'r Undeb Ewropeaidd, ac felly bydd natur y cytundeb sydd gennym ni o ran y farchnad honno yn gwbl hanfodol i'n lles yn y dyfodol. A tan y byddwn yn gwybod sut y bydd y cytundeb hwnnw’n edrych, mae'n anodd iawn deall pa heriau, cyfleoedd o bosibl, fydd yna i fusnesau Cymru. Ond rwyf yn gwybod, oherwydd bod busnesau yn dweud wrthyf, eu bod yn dal yn ôl o ran buddsoddi nawr tan eu bod yn cael y sicrwydd hwnnw. Un ffordd neu'r llall—a’i fod wedi ei benderfynu un ffordd neu'r llall—mae'n rhaid cael sicrwydd, ac nid wyf yn credu bod aros misoedd lawer i ddechrau’r broses drafod ffurfiol—am flynyddoedd cyn bod penderfyniad terfynol—o fudd i fyd busnes. Mae'r penderfyniad wedi ei wneud; mae’n rhaid bwrw ymlaen ag ef nawr cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, ac mae'n rhaid cael cytundeb ar y bwrdd a ddylai, yn fy marn i, gael ei gadarnhau gyda'r pedair Senedd genedlaethol o leiaf. Bydd honno’n broses gymhleth ac anodd, ond, yn blwmp ac yn blaen, mae’r angen am sicrwydd i’n busnesau yn gwbl hanfodol; ni fyddant yn buddsoddi tan fydd ganddynt syniad o’r sefyllfa yn y pen draw, ac rydym ni ymhell iawn o’r fan honno.