Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 5 Gorffennaf 2016.
Brif Weinidog, yn ystod cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet fis diwethaf, llwyddais i dynnu sylw at adroddiad gan Brifysgol Sheffield Hallam, a nododd effaith niweidiol anghyfartal toriadau i fudd-daliadau lles y Llywodraeth Dorïaidd ar gymunedau tlotach, gan gyfeirio'n benodol at gyfyngu’r budd-dal tai lleol i’r gyfradd tai lleol. Cynnig arall o dan y trefniadau newydd yw codi'r trothwy y telir ar y gyfradd llety a rennir oddi tano—h.y. dyna'r gyfradd isaf—o 25 mlwydd oed i 35 mlwydd oed, gan ei gwneud yn anoddach i bob pwrpas, os nad yn amhosibl, i bobl iau allu fforddio tai cymdeithasol. A gaf i annog y Prif Weinidog, mewn unrhyw drafodaethau gyda Llywodraeth y DU ar y mater hwn, i rybuddio yn erbyn y newid hwn, sydd eisoes yn arwain at rai cyrff tai cymdeithasol yng Nghymru i gwestiynu a allant barhau i ddarparu tai cymdeithasol ar gyfer y grŵp oedran hwnnw?