11. 10. Dadl: Cynllun Cyflawni ‘Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:50 pm ar 5 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour 5:50, 5 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am gyflwyno cynllun cyflawni Llywodraeth Cymru 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' heddiw? Mae i’w groesawu'n fawr. Cyflwynodd y weinyddiaeth Lafur ddiwethaf fesurau a welodd gynnydd sylweddol yn y cyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a dywedodd y dylai pobl sy'n derbyn y gwasanaethau hyn gael cynllun gofal a thriniaeth ar waith. Er ein bod yn gwybod bod angen gwneud mwy yn hyn o beth, rwy’n meddwl ein bod ni oll yn cytuno mai dyma'r ffordd iawn i fod yn symud.

Fel yr ydym wedi clywed, mae problemau iechyd meddwl yn effeithio ar o leiaf un o bob pedwar o bobl Cymru, ac mae'n aml yn cael ei gysylltu â thlodi, fel achos ac fel symptom. Yn ddi-os, mae tlodi yn cynyddu'r straen a’r poen meddwl a all arwain at iechyd meddwl gwael. I’r rhai sy'n dioddef o broblemau iechyd meddwl, gall sicrhau a chadw cyflogaeth ac ymdopi â heriau ariannol o ddydd i ddydd fod yn rhwystr mawr.

Mae penderfyniad y weinyddiaeth ddiwethaf i gynyddu a chlustnodi gwariant ar gyllid iechyd meddwl yn rhoi cyfle i gael mwy o fynediad at gefnogaeth, gwella llwybrau a gwella canlyniadau i ddefnyddwyr gwasanaethau.

Bydd y cynllun cyflawni iechyd meddwl yn elfen hanfodol o ran cyflawni'r canlyniadau hyn, ond hoffwn i ganolbwyntio ar un maes penodol, sef y rhaglen cymorth cyntaf iechyd meddwl, sy’n rhaglen allweddol yn y strategaeth 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' o ran codi ymwybyddiaeth, yn enwedig yn y gweithle.

Trwy eu cysylltiad â byrddau partneriaeth lleol, mae'n amlwg bod gan gyrff cyhoeddus swyddogaeth yn hyn o beth drwy gydlynu strategaethau er mwyn sicrhau bod y cynllun yn cael ei weithredu. Mae ganddynt hefyd swyddogaeth fel cyflogwyr i gymryd yr awenau ar ddarparu ymwybyddiaeth o iechyd meddwl, o ran y ddarpariaeth o wasanaethau o ddydd i ddydd ac ymysg eu staff eu hunain.

Mae gan awdurdodau addysg lleol ran hanfodol i'w chwarae wrth godi ymwybyddiaeth am faterion iechyd meddwl ymysg plant mewn ysgolion, gan gynnwys gweithio i roi terfyn ar y stigma yr ydym wedi clywed cymaint amdano ynghylch salwch meddwl a mynd i'r afael ag unrhyw anoddefgarwch a bwlio sydd ynghlwm wrth hynny.

Mae'n wir fod y rhan fwyaf o'n cyflogwyr gwasanaethau cyhoeddus yn darparu gwasanaethau cynghori ar gyfer eu staff. Ond yn aml nid yw'r rhain yn mynd mor bell â darparu cymorth ychwanegol i'w helpu i nodi a yw eu hiechyd meddwl mewn perygl neu i ddarparu gwasanaethau cymorth pellach ar gyfer rhai sy'n nodi eu bod yn dioddef o broblemau iechyd meddwl.

Fodd bynnag, mae i'w groesawu bod nifer cynyddol o awdurdodau lleol, byrddau iechyd a gwasanaethau cyhoeddus eraill yng Nghymru yn dechrau cydnabod mantais darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth o iechyd meddwl, yn aml mewn partneriaeth â'u hundebau llafur. Mae fy undeb fy hun, Unsain, er enghraifft, wedi datblygu pecyn hyfforddiant cynhwysfawr yn y maes hwn ar gyfer ei aelodau. Mae hefyd rai enghreifftiau gwych o gwmnïau mawr, fel Admiral a Dŵr Cymru, sy'n darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth iechyd meddwl cynhwysfawr ar gyfer eu gweithwyr, nid yn unig i'w helpu yn eu hymgysylltiad â chwsmeriaid, ond hefyd i gefnogi cydweithwyr yn y gweithle. Mae'r cwmnïau hyn yn gweld codi ymwybyddiaeth ynghylch materion iechyd meddwl fel rhan allweddol o'u rhwymedigaethau iechyd a diogelwch.

Rwy’n gobeithio, felly, i gydnabod pwysigrwydd cyflwyno'r strategaeth hon, y bydd mwy o gyrff cyhoeddus yn barod i groesawu rhaglenni cymorth cyntaf iechyd meddwl a darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth, ar gyfer eu gweithlu ac er mwyn darparu eu gwasanaethau.