Part of the debate – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 5 Gorffennaf 2016.
Diolch i chi, Nick Ramsay. Rwy'n siŵr fod sioe arddangos Cerdd Gwent yn arddangosfa aruthrol o dalent a sgiliau, ond hefyd o arbenigedd proffesiynol ac ymrwymiad y proffesiynau cerddoriaeth ac addysg. Ac, wrth gwrs, byddai wedi bod yn bartneriaeth, rwy'n siŵr, â llywodraeth leol, yn ogystal ag ysgolion, a gwn y bydd gan Ysgrifennydd y Cabinet ddiddordeb mawr i weld canlyniad hynny yn y De-ddwyrain.
Wrth gwrs, mae'r digwyddiad arall yr ydych yn sôn amdano yn bwysig iawn—digwyddiad y Cyngor Prydeinig yr oeddech yn bresennol ynddo. Rydym yn gweithio gyda'r Cyngor Prydeinig, a hefyd sefydliadau a phrifysgolion iaith ar draws y byd, i rwystro a gwrthdroi'r gostyngiad yn nifer y bobl sy’n dewis astudio ieithoedd tramor modern. Yn wir, rwy’n cofio digwyddiad yn fy etholaeth i, yn ysgol Bryn Hafren, sy'n arwain y blaen—ym mhob consortiwm ceir ysgol arweiniol—pan gyhoeddwyd 'Dyfodol Byd-eang' y llynedd, sef cynllun pum mlynedd i wella ac i hyrwyddo ieithoedd tramor modern. Felly, rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet eisiau rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â sut mae’r cynllun hwnnw’n cael ei gyflwyno, ond mae'r Cyngor Prydeinig, a’i sefydliad iaith, yn rhan allweddol yn y datblygiad 'Dyfodol Byd-eang' hwnnw.