Part of the debate – Senedd Cymru am 3:22 pm ar 5 Gorffennaf 2016.
Rwy'n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad. Fel y mae’n ei ddweud, mae’r materion hyn yn gynhenid gymhleth, ac mae deddfwriaeth yn anochel yn dechnegol. Cafodd hyn ei gadarnhau imi, o leiaf o ran y Cynulliad hwn, pe byddai angen, wrth imi geisio ymgyfarwyddo â'r gweithdrefnau, o leiaf i ryw raddau. Gwyliais, ar sianel y Senedd, ei ragflaenydd yn cyflwyno’r Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru)—sydd bellach yn Ddeddf—yn fedrus, ac rwy'n siŵr y bydd yn parhau i ymgymryd â'r swyddogaeth mewn modd yr un mor alluog.
Rwy’n croesawu, yn arbennig, ei ddatganiad na fydd dim newid er mwyn newid, a’i fod nawr yn dymuno gweld—o leiaf, i ddechrau—cyn lleied o wahaniaeth ag y bo modd rhwng y system yng Nghymru a system bresennol y DU yr ydym yn rhan ohoni; a chaiff dull trên drwodd ei groesawu, rwy’n siŵr, o leiaf gan ymarferwyr. Tybed a gaf i ofyn iddo’n benodol am sut y gallai hynny effeithio ar y dreth trafodiadau tir. Soniodd yn ei ddatganiad fod hyn wedi bod yn destun ymgynghoriad ar sail Cymru a Lloegr a’i fod ar hyn o bryd yn mynd drwy Senedd y DU. A yw hynny'n awgrymu ei fod yn hapus â’r dull hwnnw, ynteu a yw efallai’n ceisio gwneud newidiadau i berthnasedd a sail y dreth honno pan gaiff ei chyflwyno’n benodol i Gymru?
Yn ail, roeddwn eisiau—. Tua diwedd ei ddatganiad dywedodd y bydd fframwaith cyllidol synhwyrol yn paratoi'r ffordd i gyflwyno cyfraddau treth incwm i Gymru. Roeddwn ychydig yn ddryslyd. Yna dywedodd ei fod yn glir y dylai’r penderfyniad hwnnw barhau i orwedd â’r Cynulliad Cenedlaethol. Onid yw'n wir, ar hyn o bryd, mai refferendwm o bobl Cymru fydd yn gwneud y penderfyniad hwnnw yn y pen draw, a’i fod ef a'r Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan ill dau yn ceisio newid y trefniadau hynny i osgoi unrhyw refferendwm o'r fath? Wel, efallai ar ôl penderfyniad y Cymry 11 diwrnod yn ôl i bleidleisio yn erbyn aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd, nad yw mor hoff o refferenda, ond oni ddylem o leiaf dderbyn mai dyna yw'r sefyllfa ar hyn o bryd, a’i fod ef a'r Llywodraeth arall ar lefel y DU yn awr yn ceisio ei newid?