9. 8. Datganiad: Bygythiadau o ran Clefydau Anifeiliaid Egsotig, y Tafod Glas a Chynllunio Wrth Gefn

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:28 pm ar 5 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 4:28, 5 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch, Simon Thomas, am y cwestiynau yna. O ran brechu, soniais fod brechlyn ar gael a dyma'r unig ddull effeithiol o amddiffyn anifeiliaid a allai fod yn agored i’r tafod glas. Yr amser gorau i frechu yw yn gynnar yn y flwyddyn, cyn i'r tywydd cynnes ddod, a gwn ein bod yn dal, o bosibl, i aros amdano. Bydd hynny wedyn yn darparu amddiffyniad. Felly, rwy’n meddwl bod y math hwnnw o waith wedi ei wneud yn gynharach yn y flwyddyn, ond, yn amlwg, wrth i ni fynd drwy'r haf, mae’r brechiad hwnnw yn dal i fod yn berthnasol pe byddai ffermwyr eisiau gwneud hynny.

Soniais y byddai brechiadau yn cael eu rhoi ar gael gan wneuthurwyr, ac, mewn gwirionedd, mae dau wneuthurwr brechlyn wedi datgan eu bod yn bwriadu sicrhau bod eu brechiadau ar gael o'r mis hwn ymlaen, felly mae honno’n drafodaeth y mae'r prif swyddog milfeddygol a’i chynghorwyr yn ei chael.

O ran capasiti, rwy’n credu gan fod gennym gymaint mwy o filfeddygon yn mynd allan i ffermydd i gynnal profion ar gyfer TB, er enghraifft, erbyn hyn, rwy’n credu pan fo’r milfeddygon hyn yn mynd ar y fferm, maent yn gwneud gwaith ychwanegol, os mynnwch chi, oherwydd maent yn ymgysylltu â ffermwyr ac yn sôn am fioddiogelwch a’r hyn y gall ffermwyr ei wneud i amddiffyn yn erbyn clefydau. Felly, rwy'n hapus iawn â'r capasiti sydd gennym ni ar hyn o bryd. Rwy’n credu eich bod yn codi pwynt pwysig iawn ynglŷn â milfeddygon sydd gennym o'r UE, ac, fel y dywedwch, rydym yn gwerthfawrogi eu gwaith yn fawr iawn ac yn sicr mae croeso mawr iddynt yng Nghymru.

Roeddwn i’n falch iawn o wneud y cyhoeddiad ynghylch y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac mae'r cyfleusterau sy'n cael eu rhoi ar waith yno—nid ysgol filfeddygol gyflawn, ond rwy’n meddwl ei fod yn gam cyntaf pwysig y gallwn adeiladu arno.