3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru ar 6 Gorffennaf 2016.
4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am addysg bellach? OAQ(5)0002(EDU)[W]
Mae addysg bellach yn gwneud cyfraniad sylweddol at ddatblygu sgiliau yng Nghymru, gan wella rhagolygon dysgwyr o ran cyflogaeth a gyrfaoedd a pherfformiad cwmnïau a gwasanaethau cyhoeddus. Mae colegau addysg bellach hefyd yn helpu i gynyddu ffyniant economaidd a gwella lles unigol a bywyd cymunedol.
Rwy’n diolch i’r Gweinidog am ei ateb. Fel mae’n ymwybodol, mae lot o drafodaethau wedi bod ynglŷn â sut gall colegau addysg bellach fod yn rhan o raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. A ydy’r Gweinidog yn cytuno y dylai’r rhaglen honno gynnwys colegau addysg bellach? Yn wir, ym maniffesto’r Blaid Lafur roedd addewid y byddai’r £2 biliwn o fuddsoddiad yn cynnwys colegau addysg bellach. Wrth gwrs, mae buddsoddi yn meddwl lot mwy nac adeiladau. A fydd y Gweinidog yn fodlon rhannu â ni yn y Cynulliad rhywbryd ei weledigaeth ar gyfer buddsoddiad cyfalaf a hefyd, efallai, ran o’r strategaeth benodol ar gyfer addysg bellach yng Nghymru?
Rwy’n hapus iawn i wneud hynny. Yn amlwg, mae gennym ni strategaeth addysg bellach sy’n rhan o strategaeth hirdymor ar gyfer addysg ar ôl 16, ac mae hynny’n cynnwys sgiliau ac addysg bellach ei hun. Rydym ni’n mynd i barhau i fuddsoddi mewn cyfalaf, fel mae’r Aelod wedi awgrymu, ond hefyd rydym ni’n trio ac yn edrych ar sut rydym ni’n diogelu’r gyllideb ar gyfer addysg bellach yn y flwyddyn yma. Mi fydd yr Aelod yn ymwybodol bod y gyllideb addysg bellach wedi dioddef rhywfaint yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond bydd Aelodau hefyd yn ymwybodol bod y gyllideb bresennol yn dangos bod yna 2 y cant o gynyddiad mewn ariannu addysg bellach ar gyfer y flwyddyn ariannol yma.
A gaf fi dynnu sylw’r Gweinidog at Goleg Penybont, a osodwyd ar y brig y llynedd o blith ein sefydliadau addysg bellach yng Nghymru mewn perthynas ag iechyd a lles, cymorth a chefnogaeth, gwybodaeth a chyngor, ac ymatebolrwydd i fyfyrwyr? Ond yn ogystal â lefelau ardderchog o foddhad myfyrwyr a llwybrau academaidd rhagorol, mae hefyd yn helpu i ddarparu prentisiaethau o safon ar y cyd â chyflogwyr lleol a rhanbarthol. Felly, a all y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y sefyllfa bresennol gyda’r ardoll brentisiaethau mewn perthynas â Chymru? Mae’n ymddangos y gallem fod ar ein colled yn hynny o beth. Ond hefyd, ar ôl y bleidlais i adael yr UE, beth yw’r sefyllfa o ran yr arian o gronfa gymdeithasol Ewrop a oedd yn mynd tuag at brentisiaethau a chefnogi prentisiaethau? Sut y mae gwneud iawn am y diffyg a allai ddod yn amlwg bellach yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf a gwneud yn siŵr ein bod yn gallu cadw’r buddsoddiad hwnnw mewn prentisiaethau o safon yn ein colegau addysg bellach ledled Cymru?
Mae’r cyfrifoldeb dros brentisiaethau a’r meysydd hynny ym mhortffolio’r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, ac mae hi yma yn y Siambr, a bydd wedi clywed y cwestiwn hwnnw ac yn ymateb maes o law rwy’n siŵr. Ond a gaf fi ddweud hyn: mae’n bwysig ein bod yn sicrhau bod safon yr addysg a ddarperir gan addysg bellach yn cael ei fonitro, ei ddeall a’i ddathlu yn y ffordd y mae’r Aelod wedi ei wneud? Byddwn yn cynnal adolygiad dros y tair blynedd nesaf i sicrhau bod gennym yr arweinyddiaeth a’r ymatebolrwydd i gyflogwyr, yn ogystal â’r cryfder cyllidol sy’n angenrheidiol o fewn sefydliadau unigol, a byddaf yn adrodd wrth y Siambr am y cynnydd ar hynny.
Ond yn gyffredinol, fel y dywedodd y Prif Weinidog wrth y Siambr ddoe, gwyddom fod £650 miliwn yn mynd i gael ei golli bob blwyddyn o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Nid wyf yn meddwl bod llawer o bobl yn y Siambr hon sy’n credu am funud y bydd Prif Weinidog Prydain yn gwneud addewid i sicrhau y bydd pob ceiniog o hwnnw’n cael ei roi i Gymru. Gwyddom na allwn ymddiried yn y Torïaid gyda phethau o’r fath. Felly, gwyddom ein bod yn wynebu anawsterau sylweddol yn y blynyddoedd nesaf, a’r modd y gwneir y cytundebau cyffredinol o ran Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a’r Undeb Ewropeaidd wrth i ni wynebu’r blynyddoedd i ddod fydd yn effeithio ar ein gallu i ariannu’r prosiectau hyn yn y dyfodol.
Rwy’n sylweddoli, Weinidog, fod prentisiaethau yn rhan o gylch gwaith Gweinidog portffolio arall, ond rwy’n siwr eich bod yn gwybod am gynllun prentisiaeth Sir Benfro, sy’n anelu at gynyddu nifer y bobl ifanc sy’n cael hyfforddiant yn y sector ynni ar draws Sir Benfro, cynllun a gefnogir gan sefydliadau megis Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau, sy’n noddi cyflogwyr. Nawr, mae hon, wrth gwrs, yn enghraifft wych o fusnesau lleol a darparwyr addysg yn gweithio gyda’i gilydd i ddatblygu prentisiaethau sy’n bwysig i’r economi leol. Felly, a allwch ddweud wrthym beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog a chynorthwyo mwy o fusnesau i ymgysylltu â sefydliadau addysg bellach, fel Coleg Sir Benfro, fel bod colegau addysg bellach Cymru ar y blaen yn y gwaith o gyflwyno rhaglenni sy’n adlewyrchu marchnadoedd sgiliau lleol mewn gwirionedd?
Cytunaf yn llwyr â’r pwynt a wnaeth yr Aelod yn ei gwestiwn. Rwy’n meddwl bod y berthynas rhwng cyflogwyr a cholegau a sefydliadau addysg bellach yn gwbl allweddol er mwyn cyflwyno rhaglen brentisiaeth sy’n ateb anghenion y boblogaeth leol a’r economi leol. Un o’r disgwyliadau sydd gennyf yw bod pob sefydliad addysg bellach yn ymatebol i gyflogwyr lleol. Gwyddom fod hynny’n wir am y rhan fwyaf, a gwyddom hefyd, lle mae gennym nifer o gyflogwyr mawr ac arwyddocaol—. Cyfeiriodd yr Aelod at awdurdod porthladd Aberdaugleddau; gallech gyfeirio yn yr un modd at y purfeydd yn yr un math o ardal. Lle y ceir cyflogwyr mawr iawn, gwyddom fod yr ymatebolrwydd yno eisoes. Weithiau os oes gennych economi sy’n cael ei dominyddu gan fentrau bach a chanolig eu maint, rwy’n pryderu nad yw pob un o’r anghenion hynny’n cael eu deall yn llawn ar draws y wlad i gyd, a dyna un maes y byddaf yn canolbwyntio arno yn ystod y blynyddoedd nesaf.