2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru ar 13 Gorffennaf 2016.
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynediad at wasanaethau GIG yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0020(HWS)
Diolch am y cwestiwn. Mae’r mwyafrif helaeth o bobl yn cael mynediad at y GIG drwy ofal sylfaenol. Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i wella mynediad at ofal sylfaenol, gan weithio gyda chlystyrau. Bydd hyn yn cynnwys mentrau newydd megis gwella gwasanaethau fferyllfeydd a gwasanaethau sy’n seiliedig ar ffisiotherapi a therapïau eraill hefyd. Wrth gwrs, byddwn yn cynnal ein hymrwymiad i ddarparu gofal o ansawdd uchel yn ein hysbytai hefyd.
Nid yw’n syndod i mi, Ysgrifennydd y Cabinet, nad ydych yn crybwyll y targedau amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, sydd wrth gwrs wedi eu methu’n rheolaidd a hynny ers blynyddoedd lawer yma yng Nghymru. Ac wrth gwrs, mae gan yr ysbyty sy’n gwasanaethu fy etholwyr, Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan, rai amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth ofnadwy y mae ar hyn o bryd yn gweithio o’u mewn: apwyntiadau clust, trwyn a gwddf, 36 wythnos, ar gyfer yr apwyntiad claf allanol cyntaf yn unig; deintyddiaeth adferol, 35 wythnos; orthodonteg, 76 wythnos rhwng atgyfeirio a’r apwyntiad cyntaf; rheoli poen, 42 wythnos. Mae’r rhestr yn ddiddiwedd. Pa bryd rydych chi’n mynd i dynnu eich bys allan a chael trefn ar y sefyllfa hon, er mwyn i fy etholwyr gael mynediad at wasanaethau pan fydd eu hangen arnynt?
Diolch am y cwestiwn, wedi’i ofyn yn eich dull tawel ac urddasol arferol. Hoffwn nodi, wrth gwrs, wrth gwyno na chyfeiriwyd at amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, nad oedd unrhyw gyfeiriad at amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn eich cwestiwn. Os ydych eisiau cwestiwn am amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth wedi’i ateb, yna gofynnwch y cwestiwn. O ran amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth ar draws y GIG, rydym wedi gweld gwelliannau sylweddol yn y chwe mis diwethaf mewn gwirionedd. [Torri ar draws.] Atebaf eich cwestiwn os ydych am fod yn dawel a gadael i mi siarad. Yn y chwe mis diwethaf, gwelsom gynnydd sylweddol o ran amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth yng Nghymru—gwelliant gwirioneddol drawiadol ar draws y GIG. Ond rydym yn cydnabod bod gennym heriau go iawn o ran cynnal a gwella prif berfformiad, gan gynnwys amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, yn ogystal â datrys a diwygio’r gwasanaethau sy’n cyflawni hynny. Yr hyn na allwn ei wneud yw disgwyl gweld gwelliant parhaus mewn amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth os na fyddwn yn newid y modelau gofal rydym yn eu gweithredu. Ni fydd rhoi mwy o adnoddau tuag at hynny ar ei ben ei hun yn darparu’r math o wasanaethau y mae pobl yn eu disgwyl ac yn eu haeddu.
Felly, mae angen i ni reoli dau beth: mae angen i ni wneud yn siŵr, ar adeg anodd gyda llai o adnoddau ariannol, ein bod yn gwneud yn siŵr ein bod yn gweld gwelliant yn y prif berfformiad, ac ar yr un pryd, fod y ffordd y caiff y gofal hwnnw ei ddarparu yn newid hefyd. Dyna pam fod y rhaglen gofal wedi’i gynllunio, gyda chynlluniau ar gyfer orthopedeg, clust, trwyn a gwddf, ac offthalmoleg, i enwi dim ond tri maes, yn bwysig iawn, gan mai newid y ffordd rydym yn darparu’r gwasanaethau hyn yw’r ateb go iawn i gael y gofal o ansawdd uchel a ddisgwylir gan y niferoedd enfawr o bobl sy’n dod i gael y triniaethau hyn bellach. Felly, rwy’n optimistaidd ynglŷn â’r hyn y byddwn yn gallu ei gyflawni yng Nghymru, ac rwy’n gobeithio y bydd eich etholwyr, ac eraill, yn gweld gwahaniaeth go iawn yn ansawdd y gofal a ddarperir, canlyniadau’r gofal hwnnw, a’r profiad o’r gofal y maent yn ei dderbyn gan ein gwasanaeth iechyd gwladol.
Ysgrifennydd y Cabinet, a fyddech yn cytuno bod rhoi mynediad cyflymach i gleifion at y gwasanaeth neu’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol priodol yn hanfodol i sicrhau bod pobl yn cael eu trin cyn gynted â phosibl? Felly, pa gamau sy’n cael eu rhoi ar waith yng ngogledd Cymru i sicrhau bod gan gleifion y dewis i gael eu trin gan y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol cywir, gan gefnogi ein meddygon teulu ar yr un pryd?
Wel, rwy’n cytuno’n llwyr â’r pwynt a wneir, ac mae hyn yn rhan o’r her o ymdrin â’r prif amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth mewn gwirionedd, oherwydd nid oes angen llawdriniaeth ar lawer o’r bobl sydd ar restrau ar hyn o bryd, ac felly, mae’n ymwneud yn rhannol â gwneud yn siŵr eu bod yn mynd i’r lle iawn ar yr adeg iawn ar ddechrau eu taith ofal. Felly, er enghraifft—rwyf wedi siarad am hyn o’r blaen a byddaf yn parhau i’w ddweud, oherwydd ei fod yn enghraifft dda ac amlwg iawn—gwasanaethau ffisiotherapi a gofal sylfaenol. Mae gan oddeutu 30 y cant o’r bobl sy’n mynychu apwyntiadau meddygon teulu broblemau cyhyrysgerbydol. Gallai bron bob un o’r bobl hynny weld y ffisiotherapydd yn gyntaf, a bydd problemau’r mwyafrif o’r bobl hynny yn cael eu datrys gan y ffisiotherapydd. Os oes angen eu hatgyfeirio wedyn, naill ai at feddyg teulu neu arbenigwr, gall hynny ddigwydd. Bydd hynny’n rhyddhau pwysau oddi ar y meddyg teulu—a hefyd yr hyn rydym yn ei wneud mewn fferylliaeth. Mae’r cynllun Dewis Fferyllfa yn bwysig iawn, nid yn unig oherwydd gwerth y cynllun mân anhwylderau, sy’n werthfawr ynddo’i hun—ac rydym wedi gweld enghreifftiau o ganrannau sylweddol o bobl yn cael eu cyfeirio’n briodol oddi wrth y meddyg teulu at fferyllfa—ond hefyd y cyfle i ddarparu mwy o wasanaethau mewn fferyllfeydd cymunedol, gan ryddhau amser a phwysau er mwyn i feddygon teulu allu gweld pobl sydd eu hangen go iawn a’r arbenigedd y maent yn ei ddarparu. Felly, bydd honno’n thema gyson gan y Llywodraeth hon, a chredaf y bydd cleifion yn gweld gwahaniaeth a gwelliant pendant o ganlyniad i hynny.
Yn dilyn penderfyniad gan benaethiaid iechyd Caer i gau uned gofal arbennig i blant sydd wedi’u geni dan 32 wythnos oed yn ysbyty’r Countess of Chester, oherwydd cynnydd yn y marwolaethau yno, a’i symud nawr i Arrowe Park, a allwch chi ddweud wrthym ni ba effaith y bydd hyn yn ei chael ar fabanod o Gymru a gwasanaethau gofal dwys i fabanod newydd-anedig yn y gogledd?
Diolch i’r Aelod am y cwestiwn—rwy’n ymwybodol o’r mater, sy’n amlwg yn un difrifol. Mae gennym drefniadau comisiynu priodol ar gyfer gofal lle mae angen i fabanod deithio, ond mae’r teithio ychwanegol posibl yn fater sydd angen i ni ei ystyried, a sut rydym yn cefnogi teuluoedd. Rwy’n awyddus i wneud yn siŵr fod gennym sicrwydd ynghylch safon y gofal a ddarperir o ran y gofal y mae angen i ni ei gomisiynu, lle bydd angen i bobl ddefnyddio gwasanaethau dros y ffin, yn naturiol, mewn gwahanol rannau o Gymru, ond hefyd fod ein teuluoedd yn cael cefnogaeth pan fydd angen iddynt fynd dros y ffin i gael y gofal arbenigol hwn, a hefyd, o ran y gofal arbennig a ddarparwn yng Nghymru, ein bod yn sicrhau ein hunain ynglŷn ag ansawdd a chynaliadwyedd y gofal hwnnw hefyd. Felly, mae hynny’n golygu bod gennym ddewisiadau anodd o ran canolbwyntio’r gofal arbenigol hwn yn briodol, a sicrhau bod pobl yn cael mynediad o safon uchel at y gofal gorau, yn hytrach na dim ond sicrhau ein bod yn darparu llawer o wasanaethau gwahanol nad ydynt yn gynaliadwy ac nad ydynt yn darparu gofal o’r ansawdd iawn y credaf fod teuluoedd a babanod yn ei haeddu.