1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 27 Medi 2016.
5. Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei darparu i Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn dilyn y penderfyniad i godi ei statws i ‘ymyrraeth wedi'i thargedu’? OAQ(5)0169(FM)
Rydym ni’n cydweithio’n agos â Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg. Bydd y Llywodraeth yn darparu cefnogaeth ar ôl cytuno â’r bwrdd iechyd pa gymorth sydd ei angen arno.
Diolch yn fawr am yr ateb yna, Brif Weinidog. A allaf i, ymhellach i hynny, ofyn a ydych chi’n ffyddiog fod gennych chi’r ‘capacity’ yn rhengoedd eich adran chi yma yn y Cynulliad i roi’r cymorth angenrheidiol i’r bwrdd iechyd yma yn Abertawe, o gofio bod byrddau iechyd eraill hefyd o dan fesurau arbennig?
Dim ond un bwrdd iechyd sydd o dan fesurau arbennig, sef Betsi Cadwaladr. Rydym ni’n ffyddiog iawn yn y ffordd rydym ni wedi sicrhau bod Betsi Cadwaladr yn troi rownd. Felly, mae beth rŷm ni wedi’i dargedu ynglŷn â’r byrddau iechyd eraill yn mynd i sicrhau ein bod ni’n gweld gwelliannau er mwyn osgoi, wrth gwrs, unrhyw sefyllfa lle byddan nhw’n gorfod mynd yn yr un cyfeiriad.
Cyn i mi ddechrau, a gaf i ddatgan buddiant gan fod fy ngwraig yn radiograffydd yn PABM, ond ni fyddaf yn trafod cynhesrwydd nac oerni ei dwylo? Brif Weinidog, mae PABM mewn sefyllfa ymyrraeth wedi’i thargedu oherwydd gwasanaethau canser a gofal heb ei drefnu. Mae’r ddwy ran o hynny yn dibynnu ar wasanaethau diagnostig. Rydym wedi gweld problemau gyda gwasanaethau diagnostig yn y gorffennol, gyda hyd rhestrau aros nad oedd yn dderbyniol i bawb o bosibl, ond a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch Prifysgol PABM a'r staff, yn arbennig, sydd wedi gweld y rhestrau aros hynny yn dod i lawr mewn gwirionedd, ac felly rydym wedi gweld diagnosteg yn gwella yn PABM?
Gwnaf, mi wnaf, ac ar ddiwedd mis Gorffennaf bu gostyngiad o 78 y cant yn nifer y bobl sy'n aros dros wyth wythnos am un o'r profion diagnostig penodedig, o'i gymharu â mis Gorffennaf 2015.
Brif Weinidog, mae adroddiad perfformiad integredig y bwrdd iechyd ym mis Gorffennaf 2014 yn datgan, a dyfynnaf, bod
Y Bwrdd Iechyd yn parhau i brofi heriau sylweddol o ran cyflawni'r targed atgyfeirio Amheuaeth o Ganser Brys yn arbennig.'
Ar y pryd, roeddent yn cyrraedd 86 y cant o'r targed yn hytrach na'r 95 y cant yr oedd y Llywodraeth yn ei ddisgwyl. Er gwaethaf y pwynt a wnaethpwyd gan David Rees yn awr, sef bod y materion hynny wedi eu hadrodd ddwy flynedd yn ôl, pa gefnogaeth a roesoch chi i PABM ar y pryd? Beth sy'n wahanol am y cymorth yr ydych yn ei roi iddynt nawr, ac os oedd ei angen ddwy flynedd yn ôl, pam na chafodd ei roi bryd hynny?
Wel, os edrychwch chi ar y ffigurau, os edrychwn ni ar y perfformiad 62 diwrnod ar gyfer canser, mae mwy o bobl yn dechrau ar eu triniaeth o fewn targed amser y llwybr 62 diwrnod ar gyfer canser. Mae'r un peth yn wir am y llwybr 31 diwrnod—80.4 y cant yn uwch. Os edrychwn ar arosiadau 12 awr mewn adrannau Damweiniau ac Achosion Brys y llynedd, mae’r ffigurau hynny wedi gostwng 63 y cant ers mis Mawrth eleni. Felly, rydym yn gweld gwahaniaethau mawr o ran nid yn unig diagnosteg, ond o ran triniaeth canser, ac yn wir o ran perfformiad adrannau Damweiniau ac Achosion Brys.
Brif Weinidog, y rheswm y mae PABM yn mynd i dderbyn ymyrraeth wedi'i thargedu yw oherwydd perfformiad gwael mewn gofal canser heb ei drefnu. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos mai dim ond 83 y cant o gleifion sydd wedi cael diagnosis trwy'r llwybr amheuaeth o ganser brys sy’n dechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod. Rydym i gyd yn gwybod bod triniaeth ac ymyrraeth brydlon yn lleihau'r risg y bydd y canser yn lledaenu ac yn cynyddu'r siawns o oroesi. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i PABM er mwyn eu galluogi i ddileu oedi wrth roi triniaeth ac i wella'r cyfraddau goroesi canser yn fy rhanbarth i?
Rwy'n credu fy mod eisoes wedi ateb y cwestiwn yna pan roddais yr ystadegau o ran y perfformiad 62 diwrnod a'r perfformiad 31 diwrnod. Weithiau, wrth gwrs, mae clinigwyr yn dweud wrthyf nad yw mor hawdd â hynny i ddechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod oherwydd natur y canser ei hun, ble y mae yn y corff ac, yn wir, yr angen i edrych yn ofalus iawn ar gael y driniaeth sydd wedi’i thargedu fwyaf ar gyfer yr unigolyn. Os ydych yn unigolyn sydd â chanser, wrth gwrs, wel, ie, mae angen i chi gael sicrwydd cyn gynted â phosibl. Rwy'n deall hynny—yr angen dynol iawn hwnnw. Dyna pam, wrth gwrs, yr ydym yn gweld y gwelliannau ym mherfformiad PABM yn y maes hwnnw.