1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 27 Medi 2016.
9. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella gwasanaethau iechyd meddwl yn ystod y Pumed Cynulliad? OAQ(5)0155(FM)
Rydym wedi gwneud nifer o ymrwymiadau ynghylch iechyd meddwl a lles yn y rhaglen lywodraethu, a byddwn cyn bo hir yn cyhoeddi’r cynllun tair blynedd nesaf i gyflawni ein strategaeth iechyd meddwl, 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl'.
Diolch am yr ateb, Brif Weinidog. Yn 2014, cyhoeddodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg adroddiad ar yr ymchwiliad i wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed. Canfu'r pwyllgor y bu cynnydd o 100 y cant mewn atgyfeiriadau ar gyfer y gwasanaethau hyn, ond bod y ddarpariaeth yn annigonol i ddiwallu’r cynnydd hwn. Mewn cyfarfodydd diweddar gyda'r pwyllgor, dywedodd Comisiynydd Plant Cymru mai dim ond unwaith y mae’r grŵp Law yn Llaw Plant a Phobl Ifanc, sy'n ymrwymedig i ddiwygio gwasanaethau iechyd meddwl i blant a phobl ifanc, wedi cyfarfod ers i’r grŵp gychwyn. Er bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi £7 miliwn o gyllid ychwanegol i'r gwasanaethau, nid oes ymrwymiad eglur yn y rhaglen lywodraethu bod y llywodraeth am ddiwygio CAMHS. Ni fydd taflu arian at y broblem yn golygu y bydd yn diflannu. A wnaiff y Prif Weinidog ymrwymo i ddiwygio’r gwasanaethau hyn ac esbonio sut y bydd yn gwneud hynny?
Rwyf yn anghytuno â'r Aelod. Roedd angen chwistrelliad o arian; mae hynny wedi digwydd. Rydym yn gweld y manteision. Mae llai o blant yn derbyn gofal y tu allan i'r ardal. Mae'r amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau CAMHS arbenigol wedi gostwng 21 y cant. Ac, wrth gwrs, mae gwasanaethau newydd ar gyfer anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd ac awtistiaeth yn cael eu sefydlu ar draws Cymru. Mae mwy i'w wneud, wrth gwrs, ond rydym yn gweld gwelliannau gwirioneddol i blant sydd â phroblemau iechyd meddwl.