2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 4 Hydref 2016.
5. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r cyfle i weithio gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol? OAQ(5)0183(FM)
Rydym ni’n gweithio gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ar draws ystod o faterion, gan gynnwys y cyfrifiad, wrth gwrs, ystadegau economaidd, Arolwg Cenedlaethol Cymru ac, wrth gwrs, datblygu’r campws data newydd.
Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Mae campws gwyddoniaeth data newydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cael ei sefydlu yng Nghasnewydd. Nod y campws yw datblygu arbenigedd sy’n arwain y byd ym maes gwyddoniaeth data ac elwa ar ddata economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol cyflymach a chyfoethocach. Bydd y campws hefyd yn gwneud gwaith ymchwil arloesol er lles y cyhoedd, gan fanteisio ar dwf a’r ffynonellau arloesol sydd ar gael. Bydd nifer o brentisiaethau gwyddoniaeth data o dan gynllun Llywodraeth Cymru yn cael eu llenwi, a bydd MSc mewn dadansoddi ar gyfer llywodraeth yn dechrau yn 2017, gan weithio gyda nifer o brifysgolion. Bydd hyn yn helpu i ddatblygu arbenigedd sylweddol yn y maes hwn, ac mae'n cynnig cyfle i greu canolfan ddata o amgylch y Swyddfa Ystadegau Gwladol yng Nghasnewydd trwy ddenu cwmnïau eraill. Beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i gefnogi ac annog y datblygiad hwn er budd economi Cymru?
Mae creu’r campws yn hwb mawr i’r rhanbarth; mae'n dangos bod y sector technoleg hwnnw’n ffynnu, ac rydym ni wedi bod yn gweithio gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol i’w helpu i sicrhau’r manteision mwyaf posibl i Gymru. Mae'n cynnig cyfle i ni fel Llywodraeth archwilio'r defnydd o ffynonellau newydd o ddata, ac i annog defnydd mwy deallus o ddata a dadansoddi yn y sector cyhoeddus. Rydym ni eisoes yn ystyried pa brosiectau posibl y gallem ni fwrw ymlaen â nhw gyda chymorth y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Yn dilyn ailddosbarthiad cymdeithasau tai gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, a wnewch chi, Brif Weinidog, nodi a ydych chi’n bwriadu gwneud newidiadau deddfwriaethol tebyg i rai Llywodraeth y DU yn Lloegr i gadw statws cymdeithasau tai o fod yn fusnesau cymdeithasol annibynnol, yn dilyn, wrth gwrs, newidiadau a ddaeth yn sgil Deddf Tai ac Adfywio 2008 Llywodraeth ddiwethaf y DU?
Cyfeiriaf yr Aelod at yr ateb a roddais i Simon Thomas yng nghwestiwn 1.
O ran canolfan ddata’r Swyddfa Ystadegau Gwladol a'r cysylltiad gydag economeg, roeddwn i’n gweithio fel economegydd gynt ac yn elwa’n sylweddol ar gysylltiadau gydag ystadegwyr y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Roedd adeg pan oedd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn rhoi pwyslais ar werthu data a'u defnyddio i ddod â refeniw i’r Llywodraeth, ond mae ganddi bolisi o ddata agored erbyn hyn. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno y dylai Llywodraeth Cymru gefnogi hynny yn ei dull ei hun, a hefyd y gallai fod cyfleoedd enfawr i gwmnïau ddod i Gasnewydd, elwa ar ei chysylltiadau sy’n gwella a’r cyflenwad crai hwnnw o ddata ac ystadegwyr arbenigol y bydd gennym ni yng Nghasnewydd?
Mae’n rhaid ystyried y pethau hyn; rwy’n deall hynny. Bydd y prif swyddog digidol yn ystyried materion fel hyn, ond gwyddom, er enghraifft, ein bod wedi gweld ym mis Mawrth eleni cyhoeddiad y cynllun data agored cyntaf ar gyfer Cymru, ac mae hwnnw'n cynnwys ein syniadau ar sut y gellir datblygu’r mater hwnnw yn y dyfodol.