2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 4 Hydref 2016.
7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fframwaith cymhwysedd digidol Llywodraeth Cymru? OAQ(5)0176(FM)
Gwnaf. Fe'i rhoddwyd ar gael i ysgolion ar 1 Medi.
Diolch i chi am yr ateb cyflym, Weinidog. Gall troseddwyr ddefnyddio llwyfannau cyfryngau cymdeithasol ar-lein i gysylltu â phlant nad ydynt yn ymwybodol o fwriadau sinistr a allai fod y tu ôl i sgwrs sy’n ymddangos yn ddiniwed. Mae'r NSPCC wedi galw am i wersi diogelwch ar-lein fod yn rhan o'r cwricwlwm fel y gall plant adnabod arwyddion yr ymddygiad hwn a'i beryglon. A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau y bydd gwersi diogelwch ar-lein yn rhan o'r fframwaith cymhwysedd digidol yng Nghymru?
Mae hyn yn rhan o'r hyn y bydd y fframwaith yn ceisio ei gyflawni. A dweud y gwir, gwn fod ysgolion yn rhoi gwersi o ran diogelwch ar y rhyngrwyd—rwy’n sicr wedi bod yn ymwybodol o hynny gyda fy mhlant fy hun a bydd gan eraill yr un profiad. Mae'n wir i ddweud, gan adeiladu ar y gwaith da y mae ysgolion wedi ei ddangos hyd yn hyn, ein bod ni eisiau gwneud yn siŵr bod plant mor llwyr ymwybodol ag y gallant fod o’r hyn sy'n cuddio allan yna ar-lein. Rydym ni’n gwybod, i lawer o droseddwyr, y byddant yn gwneud ymdrech fawr, weithiau, i geisio rhoi plant ifanc mewn sefyllfa lle maent yn agored i niwed, ac felly, mae eu diogelwch yn hollbwysig.
Mae’r fframwaith cymhwysedd digidol, wrth gwrs, yn un o nifer o fframweithiau sy’n mynd i gael eu cyflwyno dros y blynyddoedd nesaf. Un gofid sydd wedi cael ei fynegi, wrth gwrs, yw diffyg amser o fewn y flwyddyn academaidd bresennol i hyfforddi ac arfogi athrawon ac addysgwyr i allu cymryd mantais lawn o’r fframweithiau newydd yma. Gan gofio mai dim ond rhyw bum diwrnod sydd ar gael ar gyfer hyfforddiant, fel y cyfryw, i athrawon mewn blwyddyn, sut ydych chi’n bwriadu sicrhau eu bod nhw’n cael eu harfogi er mwyn defnyddio’r fframweithiau newydd yma i’w llawn bwriad?
Wel, mae dau beth. Mae’r cwricwlwm newydd yn rhoi cyfle i ni sicrhau bod yna amser nid dim ond i ddysgu ond hefyd i hyfforddi. Yn ail, wrth gwrs, gyda datganoli telerau a chyflogaeth athrawon, bydd yna gyfle i ailystyried beth fydd natur hyfforddiant a pha fath o hyfforddiant a fyddai’n fwy o les i athrawon. Mae’r system bresennol wedi bod yna am flynyddoedd mawr. Nid yw hynny’n meddwl na allwn ni ddim ei ailystyried e er mwyn rhoi mwy o hyfforddiant i athrawon, ac i roi iddyn nhw beth sydd ei heisiau arnyn nhw.