1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru ar 5 Hydref 2016.
1. Pa waith sydd ar y gweill gan y Gweinidog i wella trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru? OAQ(5)0049(EI)
Rydym yn cydnabod pwysigrwydd system drafnidiaeth gyhoeddus effeithiol, fforddiadwy ac integredig ledled Cymru gyfan. Mae’r cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2015, yn nodi buddsoddiad ar gyfer trafnidiaeth a seilwaith ar gyfer gwasanaethau o 2015 hyd at 2020 ym mhob rhan o Gymru.
Yn ôl yn 2013, cyhoeddodd Pwyllgor Menter a Busnes y Cynulliad adroddiad o’r enw ‘Dyfodol Masnachfraint Rheilffyrdd Cymru a’r Gororau’, ac un o’r argymhellion allweddol a wnaed gan y pwyllgor wrth baratoi ar gyfer y fasnachfraint nesaf ar gyfer Cymru a’r gororau, a fydd yn digwydd ymhen dwy flynedd, yw, a dyfynnaf,
‘Datblygu a chyhoeddi strategaeth cerbydau fel mater o frys’.
Roedd yr adroddiad yn dweud bod angen
‘sicrhau bod penderfyniadau pwysig ynglŷn â chydweddiad cerbydau ar gyfer trydaneiddio a deddfwriaeth hygyrchedd yn cael eu cymryd mewn da bryd i osgoi’r costau uwch a’r tarfu sy’n deillio o oedi’.
A allwch ddweud wrthym ble mae’r strategaeth cerbydau, os gwelwch yn dda, ac os nad yw’n bodoli, a allwch ddweud wrthym beth y mae eich Llywodraeth wedi bod yn ei wneud dros y tair blynedd diwethaf?
Rydym wedi bod yn archwilio’r cerbydau, sydd o dan bwysau drwy Brydain gyfan wrth gwrs, ond rydym wedi bod yn archwilio’r cerbydau yng Nghymru a’r cerbydau sydd ar gael i Gymru ers i’r adroddiad hwnnw gael ei gomisiynu a’i gwblhau. Rydym yn trafod y mater gyda phartneriaid cyflenwi posibl fel rhan o’r fasnachfraint nesaf, ac wrth nodi’r allbynnau fel ffordd newydd a blaengar o lunio masnachfraint, rydym yn disgwyl i’r cynigwyr posibl hynny allu ateb gofynion teithwyr Cymru.
Nawr, gwyddom fod nifer y bobl sy’n teithio ar drenau yng Nghymru wedi cynyddu mwy na 10 miliwn yn ystod y 10 mlynedd diwethaf. Gwyddom hefyd, yn ystod y 15 mlynedd nesaf, y bydd oddeutu 74 y cant yn fwy o bobl yn teithio ar y rheilffyrdd. Felly, mae gwir angen mynd i’r afael â’r diffyg cerbydau ar frys, a dyna pam rydym wedi bod yn gweithio gyda’r sector ac yn archwilio beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod cerbydau ar gael ar ein rhwydwaith.
Rwy’n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno y dylem geisio sicrhau bod ein systemau trafnidiaeth gyhoeddus yn cyfrannu at gyflawni ein nodau amgylcheddol a thwf ein heconomi werdd. Pa ystyriaeth y mae wedi ei rhoi i sut y gellir defnyddio cymorth ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau bws i hyrwyddo’r defnydd ehangaf posibl o fysiau allyriadau carbon isel?
Hoffwn ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn a dweud bod safon wirfoddol ansawdd bysiau Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth eleni, yn annog cwmnïau bysiau ledled Cymru i gyflwyno cerbydau allyriadau isel, yn enwedig yn yr ardaloedd hynny lle y caiff ansawdd yr aer a anadlwn ei fygwth gan allyriadau niweidiol lle y ceir tagfeydd traffig parhaus. O dan y cynllun hwnnw, mae awdurdodau lleol yn gallu blaenoriaethu cerbydau allyriadau isel o dan ofynion estynedig y safonau, ac os caiff y safonau eu cyrraedd, gallant hawlio taliad premiwm sydd ar gael drwy grant cymorth Llywodraeth Cymru i wasanaethau bws.
Ysgrifennydd y Cabinet, yn ystod yr haf, un mater a ddaeth i fy sylw gan etholwyr oedd cymudwyr yn cael eu gadael heb wasanaeth trên mewn gorsafoedd ar lein y Cambrian. Nid problem ynglŷn â chanslo trenau ar fyr rybudd yn unig yw hon, ond un sy’n ymwneud â’u canslo heb unrhyw rybudd. Felly, nid oes unrhyw wasanaethau bws ar waith i helpu cymudwyr a adawyd heb wasanaeth trên er bod yr orsaf yn dal i ddangos bod y trên ar fin cyrraedd. Tybed, Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych yn ymwybodol o’r broblem hon, ac a yw’n rhywbeth y byddech yn barod i edrych arno?
Ydy. Yn wir, cyfarfûm ag Aelodau ar draws y pleidiau ddydd Llun yng ngogledd Cymru ac addewais iddynt y byddwn yn darparu gwybodaeth gan Trenau Arriva Cymru ynglŷn â’u hymdrechion i fynd i’r afael â’r hyn sydd wedi bod, yn fy marn i, yn haf o ddarpariaeth annerbyniol o ran gwasanaethau trên. Mae’n dangos yn glir nad yw’r fasnachfraint bresennol yn addas at y diben, a dyna pam y mae’n rhaid i ni sicrhau bod y nesaf yn ateb gofynion teithwyr er budd pobl Cymru sy’n defnyddio’r gwasanaeth hwnnw.