2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 11 Hydref 2016.
5. Faint o bwys y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar ddarlledwyr sy'n derbyn arian cyhoeddus, o ran darparu lefelau uchel o raglenni gwreiddiol? OAQ(5)0201(FM)
Rydym ni’n credu y dylen nhw bortreadu cymunedau a diwylliant amrywiol Cymru yn briodol. Gwnaethom sicrhau bod siarter newydd y BBC yn cynnwys diben cyhoeddus llawer cryfach i ddarparu’r cynnwys hwnnw.
Diolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog. Dywedodd prif weithredwr S4C, wrth roi tystiolaeth i'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yr wythnos diwethaf, bod 57 y cant o'u rhaglenni wedi cael eu dangos o'r blaen o'i gymharu â tharged o 20 y cant pan lansiwyd S4C ym 1982. Bydd cyllid o ffi trwydded y BBC ar gyfer S4C yn parhau i fod yn £74.5 miliwn y flwyddyn tan 2022, ac mae S4C hefyd wedi derbyn £7 miliwn gan Lywodraeth y DU. Felly, pa gamau all Llywodraeth Cymru eu cymryd i danlinellu pwysigrwydd rhaglenni gwreiddiol, cyffredinol, pan fo rhaglenni fel rhaglen ddwyieithog lwyddiannus ‘Y Gwyll’ yn cael eu canmol gan bawb a phan fo fy etholwyr yn pryderu am ddiffyg cynrychiolaeth bywydau Cymreig Saesneg eu hiaith neu ddwyieithog ar draws y rhwydwaith sector cyhoeddus?
Gan ein bod ni’n adolygu'r siarter, bydd ymrwymiad ar y BBC i adlewyrchu cymunedau amrywiol Cymru a gwledydd a rhanbarthau eraill y DU. Bydd yn rhaid iddo bellach nodi sut y bydd yn datblygu yn sgil y dyletswyddau newydd hynny, gan gynnwys gwella gwasanaethau i Gymru. Bydd yn ofynnol iddo adrodd yn fanwl ar sut y mae'n gwneud hynny. Mae hwnnw'n ddatblygiad newydd ac yn un yr ydym ni’n credu y bydd yn helpu i atal ac, yn wir, gwrthdroi'r dirywiad araf o ran rhaglenni Saesneg eu hiaith a wneir yng Nghymru.
O gofio’r bleidlais Brexit, ac, yn deillio o hynny, yr angen efallai i wella gwybodaeth pobl Cymru o beth sy’n digwydd yn y lle yma, beth sy’n digwydd yng Nghymru, gwella portread Cymru, a beth yn union y gallwn ni ei wneud yn y lle yma a beth nad ydym ni’n gallu ei wneud, pa drafodaethau, felly, ydych chi wedi eu cael gyda phwysigion y BBC ac eraill ynglŷn â’r angen dybryd i wella portread Cymru y tu mewn i Gymru a’r tu allan i Gymru?
Mae yna broblem mewn rhai rhannau o’r BBC lle nad oes yna lot o ddealltwriaeth o Gymru. Un o’r pethau rwyf i wedi trafod gyda’r BBC yw a ddylem ni gael Newyddion 6 ein hunain ac efallai Newyddion 10 hefyd. Mae hynny’n rhywbeth bydd yn rhaid inni ystyried yn y pen draw ynglŷn ag a fyddai hynny’n rhywbeth y byddwn eisiau ei weld ac ym mha ffordd y byddai hynny’n cael ei wneud. Mae’n wir i ddweud, wrth gwrs, bod yna brinder gwybodaeth gan bobl Cymru ynglŷn â beth sy’n digwydd fan hyn, beth rŷm ni’n ei wneud, ac, wrth gwrs, beth sy’n digwydd yng Nghymru ei hunain. Felly, mae yna ddyletswydd i sicrhau bod yna fwy o fanylion a mwy o newyddion ar gael i bobl Cymru sydd yn briodol i bobl Cymru hefyd.
Brif Weinidog, mae'r siarter drafft hwn yn cynnig cyfle i graffu ar y BBC ymhellach, gan gynnwys penodiad cyfarwyddwr anweithredol i'w gytuno gan Lywodraethau’r DU a Chymru. Ymhlith pryderon na fydd yr un pwysigrwydd, fodd bynnag, yn cael ei neilltuo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru â Thŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi, pa sylwadau ydych chi’n eu gwneud ar ran y Cynulliad hwn er mwyn sicrhau ein bod yn rhan o’r broses honno o wneud penderfyniadau o ran penodi cyfarwyddwr anweithredol yn ogystal â gweithrediadau pellach y BBC?
Mae'n bwynt pwysig y mae’r Aelod yn ei godi. Mae'n rhywbeth yr ydym ni’n ei ystyried ar hyn o bryd. Yr hyn y gallaf ei ddweud yw y bydd gan y Cynulliad bwerau bellach i graffu ar y BBC—nid yw wedi digwydd o'r blaen, wrth gwrs—i alw arno i ymddangos gerbron y Cynulliad a’i ddwyn i gyfrif yn uniongyrchol, sy'n ei wneud yn gyfartal â Senedd y DU.
O ran y mater y mae'r Aelod yn ei godi, mae'n rhywbeth sy’n dal, fel y dywedais, yn destun trafodaeth o ran gallu a swyddogaeth y Cynulliad Cenedlaethol yn rhan o'r broses honno.