– Senedd Cymru am 2:29 pm ar 11 Hydref 2016.
Yr eitem nesaf ar yr agenda yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ar gymunedau cryf, ac rwy’n galw ar Carl Sargeant i wneud y datganiad.
Diolch i chi, Lywydd. Mae'r Llywodraeth hon yn benderfynol o ddarparu mwy o swyddi a swyddi gwell drwy economi gryfach a thecach. Rydym ni’n ymrwymedig i wella a diwygio ein gwasanaethau cyhoeddus ac rydym yn benderfynol o adeiladu Cymru unedig, gysylltiedig a chynaliadwy. O fewn fy mhortffolio, fy mlaenoriaethau yw lles a ffyniant economaidd. Rwy'n hollol benderfynol o’u bodloni. I wneud hynny, rwy’n credu'n gryf ei bod yn amser am ddull newydd i adeiladu cymunedau cryf.
Am 15 mlynedd, mae Cymunedau yn Gyntaf wedi cefnogi pobl mewn rhai o'n hardaloedd mwy difreintiedig. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae'r rhaglen wedi datblygu a newid, ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae wedi canolbwyntio’n fwy ar gyflogadwyedd, gan weithio ochr yn ochr ag Esgyn, a nawr ein rhaglen Cymunedau am Waith a’n rhaglen Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth. Mae hyn yn hanfodol oherwydd, yn ystod y 15 mlynedd hynny, mae ein heconomi a'n cymdeithas wedi wynebu newid a her ddigyffelyb. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae diwygiadau lles a newidiadau mewn cyflogaeth wedi cael effaith sylweddol ar deuluoedd a chymunedau. Nid oedd neb wedi dychmygu’r dreth ystafell wely neu’r contractau dim oriau pan lansiwyd Cymunedau yn Gyntaf. Yn y blynyddoedd i ddod, bydd yn rhaid i ni hefyd ymdopi â goblygiadau Brexit. Mae'n amlwg na all unrhyw un rhaglen ddiogelu cymunedau rhag newidiadau ar y raddfa hon. Roedd gan Cymunedau yn Gyntaf weithlu ymroddedig ac estynnaf fy niolch iddynt am wneud gwir wahaniaeth i filoedd o bobl. Wedi dweud hynny, nid wyf yn argyhoeddedig mai parhau i ganolbwyntio ar 52 o ardaloedd bach yw'r ffordd fwyaf effeithiol o ddarparu hyn ar gyfer Cymru.
Rwy'n ystyried cael gwared ar y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn raddol a sefydlu dull newydd i fynd i’r afael â heriau'r dyfodol. Mae gan bob rhan o Lywodraeth Cymru swyddogaeth wrth greu cenedl fwy ffyniannus o gymunedau cadarn. Dyna pam, drwy weithio gyda'n gilydd ar draws portffolios, rydym yn buddsoddi yn ffyniant ein cenedl: creu 100,000 o brentisiaethau i bobl o bob oed; treialu prosiect Swyddi Gwell yn Nes at Adref, sydd wedi’i gynllunio i greu canolfannau cyflogaeth a hyfforddiant mewn ardaloedd o amddifadedd economaidd uchel; darparu’r cynnig gofal plant mwyaf hael yn unrhyw le yn y DU i rieni sy'n gweithio, a sefydlu tasglu gweinidogol i ddatblygu dull newydd o wella ffyniant yng Nghymoedd y de; creu metros y gogledd a’r de; sicrhau bod pob plentyn yn cael y cychwyn gorau mewn bywyd o ganlyniad i grant amddifadedd disgyblion estynedig; a chyflawni’r gwaith o ran cynhwysiant ariannol, gan gynnwys cymorth ar gyfer gwasanaethau cynghori, undebau credyd a hyrwyddo llythrennedd ariannol.
Yn y cyd-destun hwn y byddwn ni’n ystyried o'r newydd yn ystod y misoedd nesaf sut y gall Llywodraeth Cymru gynorthwyo cymunedau cryf. Ac mae hyn yn golygu cymunedau sy'n cael eu grymuso a’u hymgysylltu, cymunedau sy'n barod ac yn gallu gweithio a chymunedau sy'n gallu cynnig y dechrau gorau mewn bywyd i blant—cymunedau diogel a chryf yr ydym ni oll ymroddedig i’w sicrhau. Bydd angen i'n dull newydd adlewyrchu yr effeithiau parhaus yn sgil y cyni economiadd. Yn amlwg, mae yna benderfyniadau anodd i’w gwneud. Rwyf eisiau canolbwyntio, felly, ar dri maes allweddol wrth symud ymlaen: cyflogaeth, y blynyddoedd cynnar, a grymuso.
Ynglŷn â chyflogaeth, rwy’n dymuno gweld cymunedau cryf lle mae modd cael gafael ar swyddi a phobl sydd â'r sgiliau cywir i'w llenwi. Mae cyflogaeth yn cynnig y ffordd orau, fwyaf cynaliadwy o ddianc rhag tlodi, ac mae'n hanfodol ar gyfer yr ymagwedd newydd at gymunedau. Rydym wedi gwneud ymrwymiad sylweddol i Esgyn a Chymunedau am Waith, a gallaf gadarnhau heddiw y bydd yr elfennau pwysig hyn o'r rhaglenni yn parhau fel y cynlluniwyd. Ar draws y Llywodraeth, rydym ni’n sicrhau ffyniant i bawb. Bydd creu cynnig gofal plant hael ar gyfer rhieni sy'n gweithio yn helpu i gael gwared ar un o'r prif rwystrau sy’n atal cyflogaeth, yn ogystal â darparu manteision hirdymor ar gyfer ein plant. Ar gyfer y blynyddoedd cynnar, mae cymunedau mwy cydnerth yn atal ac yn amddiffyn plant rhag effeithiau profiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Mae profiadau niwediol yn ystod plentyndod yn fygythiad mawr i les a ffyniant economaidd. Mae mynd i'r afael â phrofiadau niwediol yn ystod plentyndod yn gofyn i ni fod yn ddoethach o ran ymyrryd yn gynt ym mywydau aelodau ieuengaf ein cymdeithas.
Lywydd, nid wyf yn diystyru'r heriau o ran gwneud hyn, ond os ydym ni am dorri'r cylch dieflig, mae'n rhaid i ni symud ein hadnoddau i ganolbwyntio ar atal a diogelu. Gallwn wneud mwy yn ein cymunedau i amddiffyn yn erbyn y difrod sy’n cael ei achosi gan brofiadau niwediol yn ystod plentyndod, a heddiw, rwy’n gwahodd sefydliadau i ymuno â ni i ddatblygu parthau plant yng Nghymru, gan gydweithio’n ddidrafferth i wella canlyniadau ar gyfer plant a phobl ifanc. Bydd hyn, ynghyd â pharhad Dechrau'n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf, yn cefnogi plant dan anfantais i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd.
O ran grymuso, rwy’n dymuno i gymunedau cryf gael seilwaith lleol cryf ac arweinyddiaeth gref a chynhwysol. Mae byrddau gwasanaethau cyhoeddus, a sefydlwyd gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, yn cynnig dull hanfodol er mwyn cyflawni hyn. Mae gan awdurdodau lleol hefyd swyddogaeth allweddol o ran dod o hyd i ffyrdd o wella lles cymunedau lleol, drwy ymgorffori dulliau integredig, cydweithredol, hirdymor ac ataliol, wrth adlewyrchu amrywiaeth lawn y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Mae’n rhaid i awdurdodau lleol a darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus gymryd yr awenau yn awr. Byddaf yn ymgysylltu â nhw, yn eu herio a'u cefnogi i sicrhau llwyddiant. Byddaf yn cynnig y cyfle i’r awdurdodau lleol hynny sy'n arwain y ffordd, sy’n cael eu cefnogi gan eu darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus i ddatblygu dull mwy integredig a grymusol, i dreialu mwy o ryddid a hyblygrwydd ariannol ar draws rhaglenni. Bydd y dull hwn yn adeiladu ar waith Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i ddiwygio llywodraeth leol, gan sicrhau mwy o gyfranogiad mewn cymdeithas sifil a democratiaeth.
Rwyf hefyd yn disgwyl i gymunedau sy’n cael eu grymuso fod â gwasanaethau cyhoeddus integredig ac ymatebol. Dyna pam yr ydym yn ymrwymedig i gryfhau'r ddarpariaeth o ran iechyd a gofal cymdeithasol yn y gymuned, gan symud y rhain, lle bo modd, i ffwrdd o ysbytai ac i gymunedau. Mae ysgolion a cholegau hefyd yn chwarae rhan hanfodol, felly byddwn ni’n treialu model newydd o ganolfannau dysgu cymunedol, a fydd yn ehangu gallu’r gymuned i gael gafael ar wasanaethau, gan gynnwys gofal plant, cymorth rhianta a dysgu teuluol. Byddwn ni’n hyrwyddo’r broses o gydleoli ac integreiddio gwasanaethau, gan adeiladu ar fodelau llwyddiannus a ddatblygwyd ar draws Cymru a thu hwnt.
Caiff cymunedau cryf eu grymuso â llais cryf yn y penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau bob dydd. Byddwn ni’n datblygu ymagwedd ‘wedi’u creu yng Nghymru’ tuag at asedau cymunedol. Byddwn ni’n cyflwyno mesurau i’w hatal rhag cau heb fod angen, ac yn helpu cymunedau i gymryd perchnogaeth o asedau cymunedol, pan fo hynny'n briodol. Yn rhan o hyn, ac, yn wir, drwy gydol ein dull newydd o weithio gyda chymunedau, y mae swyddogaeth bwysig ar gyfer y trydydd sector.
Nid yw newid byth yn hawdd, ac ni allwn osgoi’r heriau newydd a difrifol sy'n ein hwynebu. Yn hytrach, mae'n rhaid i ni ddod o hyd i ffordd newydd i ymateb. Gan ddechrau yn awr, byddwn yn ymgysylltu â rhanddeiliaid mewnol ac allanol ar ein hymagwedd yn y dyfodol, gan gynnwys y cynnig i gael gwared ar y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf, a sut y byddwn yn parhau i ddarparu Cymunedau am Waith ac Esgyn. Byddwn ni’n gofyn am safbwyntiau am sut yr ydym yn ymgysylltu â chymunedau, eu cefnogi a’u cryfhau gan ddilyn ein dull newydd, sy'n canolbwyntio ar gryfhau cymunedau ymhellach, er mwyn hyrwyddo cyfleoedd i bawb. Rwy’n disgwyl gwneud datganiad pellach yn y flwyddyn newydd.
Nodaf ddatganiad Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwy’n credu ei bod yn bwysig i ni i ddweud, fel plaid, fod y rhaglen flaenllaw yr ydych chi’n cyhoeddi eich bod am gynnal adolygiad ohoni a chael gwared ohoni heddiw wedi bod yn destun cryn graffu dros y blynyddoedd yma yn y Cynulliad Cenedlaethol. Yn wir, rydym yn ôl pob tebyg wedi cael adolygiad ar ôl yr adolygiad, gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, y pwyllgor cymunedau, ac yn y blaen, yn pwyso a mesur sut y gallwn ni gynnal a chefnogi ein cymunedau.
Eto i gyd, hoffwn ofyn cwestiwn i Ysgrifennydd y Cabinet. Rwyf wedi darllen rhan olaf y datganiad ychydig o weithiau, ac rydych chi’n dweud y byddwch chi’n datblygu dull ‘wedi’i greu yng Nghymru’ tuag at asedau cymunedol, ac y bydd y trydydd sector yn chwarae rhan bwysig. Ond roeddwn i wirioneddol o’r farn mai dyna beth oedd bwriad Cymunedau yn Gyntaf, ac roeddwn i’n meddwl ein bod am drawsnewid cymunedau, fel y byddent, erbyn hyn, ar ôl blynyddoedd lawer o ddatganoli, wedi’u grymuso yn y modd yr ydych chi wedi ei nodi yn y datganiad. Felly, hoffwn ddeall, os ydych chi am gael gwared ar Gymunedau yn Gyntaf, beth fydd eich gweledigaeth ar gyfer gwneud gwahaniaeth yn y dyfodol? Ai cynllun mawr arall fydd y weledigaeth honno, megis Cymunedau yn Gyntaf, neu ai cynlluniau llai, mwy tameidiog o bosibl, oherwydd dyna pam, yntê, y gwnaethom ni symleiddio Cymunedau yn Gyntaf, er mwyn inni allu deall, o bosibl, pam nad oedd rhai o'r cynlluniau yn gweithio yn ein cymunedau mewn gwirionedd, ac eraill yn gweithio? Felly, hoffwn glywed ychydig mwy am hynny.
Nid wyf yn anghytuno â’r tlodi sydd wedi’i etifeddu yn bennaf o ganlyniad i ddad-ddiwydiannaeth—problemau sylweddol sy'n ein hwynebu o hyd. Ond, mae’n rhaid i mi ddeall sut yr ydych chi am fynd i’r afael â’r heriau penodol hynny yn awr. Fy marn bersonol i, ar ôl bod yma ers blynyddoedd lawer erbyn hyn, yw ein bod ni’n dda iawn am drin symptomau tlodi, ond nid yr hyn sy’n ei achosi. Ac felly mae angen i ni fynd i'r afael â hynny. Os na chafodd Cymunedau yn Gyntaf ei sefydlu mewn ffordd a oedd yn dileu tlodi yn ein cymunedau, mae angen i ni gael syniadau ffres, ond cydnabod wedyn, o bosibl, mewn llawer o feysydd, nad fu mor llwyddiannus ag yr ydych chi ac aelodau eraill o’ch plaid wedi honni yn ystod yr holl flynyddoedd y mae’r sefydliad hwn wedi bod mewn bodolaeth.
Ynglŷn â chyflogaeth, mae’r rhaglenni wedi’u hamlinellu yn y datganiad, ond a fydd hyn mewn gwirionedd yn mynd law yn llaw â datblygiad economaidd? Sut y byddwch chi’n gweithio gyda'ch cydweithiwr yn y maes hwnnw? A fyddwch chi’n gweithio'n agosach â'ch cyd-Weinidogion i sicrhau bod mwy o swyddi ar gael i bobl? Rwyf hefyd yn gofyn sut y bydd gofal plant yn cael ei ddiogelu pan fo Teuluoedd yn Gyntaf, sy'n darparu llawer o'r cynlluniau hyn ar draws fy rhanbarth i, ac mewn mannau eraill, wrthi’n yn cael ei adolygu ar hyn o bryd.
Hefyd—fel rhai pobl eraill yma heddiw mae’n debyg—nid wyf yn gwybod mewn gwirionedd beth yw parthau plant, felly byddai dda ceisio dysgu beth ydynt. Oherwydd mae gennym gryn dipyn o gynlluniau yn y maes hwnnw. Felly, pam y gwnaethoch chi ddewis gwneud hynny yng nghyd-destun cymunedau, ac nid drwy'r system addysg?
Yn amlwg, fy angerdd i yw cynhwysiant ariannol, felly hoffwn gael deall gennych chi, Ysgrifennydd y Cabinet, sut y byddwch chi’n mynd ati i gyflwyno'r cynllun gweithredu er mwyn diweddaru’r strategaeth sy’n ymwneud â chynhwysiant ariannol, y neilltuais i ac eraill lawer o amser iddi yn y Cynulliad blaenorol. Eto, rwy’n credu bod hwn yn sgil bywyd allweddol ac os gallwn ni gael pobl allan o dlodi drwy sicrhau bod ganddynt y sgiliau i adael yr ysgol, i adael gyda’r arfau hynny yn barod, o fewn y system, yna byddwn, yn fy marn i, yn gallu mynd i'r afael â rhai o’r agweddau sylfaenol ar dlodi.
Mae’r pwynt olaf yr hoffwn ei wneud yn ymwneud â'r rhan ynglŷn â grymuso a'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus. A ydych chi’n gweld hynny fel y prif faes y bydd y grymuso hwn yn deillio ohono? A ydych chi’n astudio gwledydd eraill a ffyrdd eraill o weithio, fel y gall cymunedau wir gymryd rhan mewn trafodaethau yng Nghymru? Oherwydd rwy’n credu fy mod wedi sefyll i fyny, fel y mae llawer o Aelodau o’ch ochr chi eich hun, pan fuom yn siarad am drosglwyddo asedau cymunedol a phan fuom yn siarad am wirfoddolwyr yn cymryd cyfrifoldeb dros wasanaethau yn eu cymunedau. Mae angen i ni ddeall sut y byddant yn gallu gwneud hynny heb fod ganddynt yr adnoddau ar gael mewn gwirionedd, ac efallai y rhagwelir hynny yn eich datganiad heddiw neu efallai ddim.
Felly, byddwn ni’n cadw llygad barcud ar yr hyn sy'n digwydd yma. Nid ydym yn gwrthod yr adolygiad, ond mae angen i ni ddeall pam yr ydych chi wedi dod i'r penderfyniad penodol hwnnw, yn enwedig o ystyried eich bod wedi lansio'r tasglu newydd—mae’n ddrwg gennyf, nid chi, ond eich cydweithiwr, Alun Davies—ar gyfer y Cymoedd, a sut y bydd hynny i gyd yn integreiddio gyda'i gilydd, oherwydd yr hyn nad ydym am ei weld yma heddiw yw mwy o seilos a mwy o Weinidogion yn gweithio yn erbyn ei gilydd, nid mewn ystyr negyddol ond yn eu hadrannau eu hunain, ac nid yn gweithio gyda'i gilydd fel cenedl i ddarparu ar gyfer pobl Cymru.
Diolch. Ysgrifennydd y Cabinet.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i Bethan Jenkins am ei chwestiynau ystyriol yn y fan yna. Rwy’n credu, er bod yr Aelod wedi crybwyll y mater ynglŷn â Chymunedau yn Gyntaf, mewn gwirionedd ceir llawer yn y datganiad, rwy’n credu, sy’n eithaf cyffrous ac yn gyfle i yrru Cymru yn ei blaen. Rhof rai enghreifftiau i’r Aelod o'r dewisiadau yr ydym wedi eu gwneud a'r rhesymeg y tu ôl i rai ohonynt.
Rydym yn gwybod bod rhaglen Cymunedau yn Gyntaf, am 15 mlynedd, wedi’i hymwreiddio yn ein cymunedau ac rydym wedi bod yn awyddus i sicrhau ein bod yn helpu cymunedau i dyfu. Ffyniant yw'r sbardun allweddol yma—swyddi a thwf a sgiliau. Mae ymrwymiad y Llywodraeth hon yn ddeublyg: cryfder economaidd wrth gynnig swyddi a sgiliau i bobl ar draws ein cymunedau a lles yn nhermau lles unigolion a'r gymuned.
Mae'r Aelod yn hollol gywir i godi'r mater ynghylch pam yr ydym ni wedi creu parthau plant neu ganolbwyntio ar ACEs yn yr adran hon, ac mae hyn oherwydd bod y trosoledd sydd gennyf yn yr adran hon yn ymwneud â phlant ac mae'n cyffwrdd â phob un o adrannau fy nghydweithwyr mewn rhyw ffordd neu’i gilydd. Rwyf eisoes wedi cael sgyrsiau gyda thri Aelod a chanddynt farn ar addysg, ac mae’n farn a rennir gan Ysgrifennydd y Cabinet. Oni bai ein bod yn gallu gwneud yn siŵr bod lles yn cael ei ymgorffori yng nghryfder y plentyn fel unigolyn, mewn gwirionedd mae cyrhaeddiad yn amhosibl iddynt. Nid oes modd i chi gael pobl sy'n dioddef o drais yn y cartref neu gamddefnyddio alcohol neu gamddefnyddio cyffuriau i ddysgu, felly mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr yr hyrwyddir lles yr unigolyn yn gyntaf. Dyna pam fod y dull atal ac ymyrryd o ran hyn a'r parthau plant—. Yr hyn y byddwn ni’n ei wneud yw gweithredu dull cofleidiol sy’n ystyried plant a'u teuluoedd mewn ardaloedd. Rydym ni’n mynd i ymgymryd â rhywfaint o waith ymyrraeth arbrofol ledled Cymru a gobeithio cyflwyno hynny yn ehangach wedyn.
Felly, beth arall ydym ni'n mynd i'w wneud wedyn? Os nad Cymunedau yn Gyntaf, beth fydd y rhaglen honno? Mae rhan o hynny yn ymwneud â'r drafodaeth y byddwn yn ei chael yn ystod y misoedd nesaf i ddeall y broses ymadael, ond hefyd yr hyn y mae angen i ni ei wneud i ddatblygu’r rhaglenni sydd gennym ar waith eisoes, a sut y gallwn eu gwella. Soniais yn fy natganiad am raglenni Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau'n Deg, sy'n ddwy raglen allweddol wrth fynd i’r afael â’r camau y cawsant eu sefydlu i'w cymryd. Ond, lle mae gennym rai awdurdodau lleol sy’n dweud wrthym, 'Os gallwn ni gael rhywfaint mwy o hyblygrwydd rhwng y ddwy raglen hynny'—. Rwyf wedi cael sgyrsiau gyda llawer yn y Siambr hon ynglŷn â lle’r oedd Cymunedau yn Gyntaf yn llym iawn o ran dull yn seiliedig ar le ar gyfer cefnogaeth. Bydd yr hyblygrwydd rhwng y ddwy raglen hynny, rydym yn gobeithio, yn gallu targedu’r ymyriaethau fel nad ydynt yn seiliedig ar le yn unig, ond ei bod yn bosibl i bobl sy’n byw y tu allan i'r ardaloedd hynny sydd wirioneddol angen y gefnogaeth allu cael gafael ar gefnogaeth o’r ardaloedd hyn. Mae'r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn elfen allweddol yn y ddeddfwriaeth a basiwyd gennym yn rhan o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'n ymwneud â chreu cynllun lles, adnabod eu cymuned a deall bod cynhwysiant ac ymgysylltedd yn rhan o egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Rwy’n disgwyl i'r Gweinidog, a hefyd y comisiynydd fod i fod yn gadarn wrth sicrhau bod hynny’n digwydd ar draws Cymru.
O ran y mater lle mae'r Aelod yn sôn am gynhwysiant ariannol, gwn fod gan yr Aelod hanes hirsefydlog o gynhwysiant ariannol, a byddaf yn cynnig y cyfle i gyfarfod â’m staff i siarad am y rhaglen cynhwysiant ariannol a beth arall y gallwn ni ei wneud ar gyfer cymunedau, a defnyddio ei harbenigedd yn y maes er mwyn helpu i ysgogi gwelliant mewn cymunedau ac ar eu traws yng Nghymru.
Rwyf yn croesawu eich datganiad. Rydych chi’n dweud eich bod am dorri'r cylch dieflig a symud adnoddau i ganolbwyntio mwy ar atal ac amddiffyn, ac rydych chi’n nodi swyddi, a rhoi'r sgiliau a'r gefnogaeth gywir i bobl ar gyfer y swyddi hynny, profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a grymuso—grymuso mewn cymunedau a grymuso cymunedau. Mae hyn i gyd yn rhywbeth yr wyf wedi bod yn dadlau drosto am flynyddoedd lawer ac yn ystod yr wythnosau diwethaf. Rwy'n gobeithio bod hyn yn golygu efallai y byddwch chi, yn y dyfodol, yn cefnogi rhai o'r cynigion hynny.
Wrth gynnig cael gwared ar raglen Cymunedau yn Gyntaf, rydych yn datgan:
‘Caiff cymunedau cryf eu grymuso â llais cryf yn y penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau bob dydd.... helpu cymunedau i gymryd perchnogaeth o asedau cymunedol, pan fo hynny'n briodol. Yn rhan o hyn, ac, yn wir, drwy gydol ein dull newydd o weithio gyda chymunedau, y mae swyddogaeth bwysig ar gyfer y trydydd sector.’
Pam, gyda'r fantais o allu edrych yn ôl, na wnaethoch chi dderbyn argymhellion adroddiad y comisiwn CGGC, 'Cymunedau yn Gyntaf—Ffordd Ymlaen', bum mlynedd yn ôl, a oedd yn dweud yr union beth hynny? Yn anffodus, er gwaetha’r dadleuon a gyflwynwyd gennyf i ac eraill ar y pryd, gwnaethoch chi’n bersonol wrthod hynny.
Am 15 mlynedd ar ôl i Gymunedau yn Gyntaf gychwyn, roedd lefelau tlodi plant yng Nghymru yn uwch na’r lefelau yn Lloegr, yr Alban a'r DU, ac felly hefyd yr oedd y ffigurau ar gyfer diweithdra ymhlith pobl o oedran gweithio. Hyd yn oed oedolion o oedran gweithio yng Nghymru sy’n byw mewn tlodi, a fesurir gan y lefel incwm canolrifol 60 y cant—. Mae’r lefel wedi aros yr un fath, yn ôl Bevan, ag yr oedd ym 1997, 1998, 1999 ac yn 2000—dechrau’r cyfnod o ddatganoli, dechrau’r rhaglenni Cymunedau yn Gyntaf.
Y llynedd, dywedodd y comisiwn ar symudedd cymdeithasol a thlodi plant yn ei adroddiad ar gyflwr y genedl fod:
Tueddiadau mewn cyflogaeth yn symud i'r cyfeiriad iawn, ond mae gan Gymru gyfraddau uwch o gyflogau isel na gwledydd eraill y DU, gan gadw llawer o blant mewn teuluoedd tlawd sy’n gweithio a bod:
Cyrhaeddiad addysgol yng Nghymru ar bob lefel... yn parhau i fod yn annerbyniol o isel.
Sut ydych chi’n ymateb i'r datganiad bod angen i Lywodraeth Cymru sicrhau y bydd gwasanaethau a chymorth ar gael i bob teulu, gan gynnwys y rhai hynny nad ydynt wedi'u lleoli yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig? Mae’n amlwg fod angen i ni ailystyried yn llwyr y ffordd yr ydym yn cefnogi ein cymunedau, rhywbeth y mae'r sector wedi bod yn ei ddweud ers hydoedd. A ydych chi’n cytuno, felly, fod angen i Lywodraeth Cymru ystyried ffyrdd o feithrin gallu mewn cymunedau lleol er mwyn iddynt allu cymryd yr awenau ar brosiectau adfywio yn hytrach na bod Llywodraeth Cymru yn penderfynu beth y dylai’r prosiectau a'r rhaglenni hynny fod yn uniongyrchol, neu drwy gomisiynu darparwyr rhaglenni?
Bythefnos yn ôl, cynhaliais ddigwyddiad gyda Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru, Lives Through Friends, a thîm o sefydliadau dan arweiniad defnyddwyr a dinasyddion yn y Cynulliad, i hwyluso sgwrs ynglŷn â sut y mae llawer mwy i fywyd na gwasanaethau, gan gydnabod bod llunwyr polisi, am yn rhy hir, wedi methu â meithrin cymdeithas ofalgar, ac yn gynyddol wedi ailddiffinio gofal yn drafodiad ariannol, ac yn sgil hynny wedi gwastraffu arian cyhoeddus, lleihau dinasyddiaeth a gwanhau cymunedau.
Mae Cyngor Gofal Cymru am gyflwyno dosbarthiadau arbenigol yn ymwneud â chydgynhyrchu a bydd gweithdai yn cael eu cynnal gan Ganolfan Cydweithredol Cymru. Sut y byddwch chi a'ch swyddogion yn ymgysylltu â'r rhaglenni hyfforddi hynny fel bod Llywodraeth Cymru yn gwbl ymwybodol o’r rhaglenni cymunedau cryf hyn sydd eisoes yn cael eu darparu yng Nghymru ac a allai arwain y ffordd ymlaen? Yn wir, nododd Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru fod y tîm 1000 o Fywydau yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn un o’r hoelion wyth sy’n cefnogi hwn a mentrau cydgynhyrchu eraill. Mae Swyddfa Archwilio Cymru ar flaen y gad wrth werthuso cydgynhyrchiol a mentrau newid ymddygiad. Mae Gweithio Gyda Nid I yn adeiladu rhwydwaith mawr yn y gogledd, ac mae cysylltiadau â'r Ysgol Ymchwil Gofal Cymdeithasol a llu o sefydliadau yn y sector statudol a'r trydydd sector eisoes yn gwneud i bethau ddigwydd ar lawr gwlad. Sut y byddwch chi’n ymgysylltu â hwy, eto, yn y gobaith o rannu syniadau cynllunio, dylunio a chyflwyno er mwyn datblygu hyn?
Yn olaf, o ran y thema honno, sut y byddech chi’n ymateb i bryderon a fynegwyd gan Oxfam Cymru, a ddywedodd fod dyfodol y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf, rhaglen fwyaf Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i’r afael â thlodi, yn dal i fod yn ansicr yn rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru, 'Symud Cymru Ymlaen', ac maent yn awgrymu diwygiadau i Gymunedau yn Gyntaf yn seiliedig ar y dull bywoliaethau cynaliadwy. Fel y maen nhw'n dweud, mae’r prosiect tair-blynedd hwn, sef Adeiladu Bywoliaeth a Chryfhau Cymunedau yng Nghymru wedi helpu dros 1,100 o bobl i gael trefn ar eu bywydau, gan helpu pobl i nodi eu cryfderau a'u hasedau er mwyn nodi’r problemau sylfaenol sy’n eu rhwystro rhag cyrraedd eu potensial. Maent yn dweud hefyd ei fod yn gwneud synnwyr ariannol, gan ei fod yn sicrhau adenillion cyfartalog o £4.39 am bob £1 sy’n cael ei gwario ar draws Cymru—rhywbeth, rwy’n credu, yr ydym wedi ei bwysleisio mewn dwy ddadl ddiweddar yn y Cynulliad. Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru, yn ôl yr hyn y maen nhw’n ei ddweud, sicrhau newid parhaol. A ydych chi felly yn cytuno â nhw y byddai ymgorffori'r dull bywoliaethau cynaliadwy neu’r dull datblygu yn seiliedig ar asedau ym mhob darpariaeth polisi a gwasanaeth yng Nghymru yn helpu pobl i ddianc rhag tlodi ac yn helpu i adeiladu cymunedau cryf? Diolch.
Diolch i chi, Lywydd, ac rwy'n ddiolchgar am gyfraniad Mark Isherwood. Rwy’n credu, yn sail i hynny i gyd, roedd Mark mewn gwirionedd yn dweud yn gynnil, 'Da iawn' wrth y Gweinidog, gan fy mod o’r farn ei fod mewn gwirionedd yn cytuno â ni, ar y sail ei fod yn ceisio cymryd clod am rywfaint o hynny. Ond, o ddifrif, cododd yr Aelod ambell fater y gallaf ymhelaethu arnynt. Pam na chymerwyd y penderfyniad bum mlynedd yn ôl, a pham y gwnaethom ni wrthod cytuno â'r argymhellion yn yr adroddiad? Wel, gwnaethom ni ddim; gwnaethom newidiadau i'r rhaglen ar y pryd a chynyddu'r cyfleoedd yn ymwneud â chyflogadwyedd, ac roedd yr adroddiad annibynnol diwethaf yn cefnogi'r model rhesymeg pan newidwyd pwyslais rhaglen 2012. Felly, fe wnaethom ni rai newidiadau. Ond, dyma ble yr ydym ni ar hyn o bryd. Fel y dywedais yn y datganiad, pan gafodd rhaglen Cymunedau yn Gyntaf ei datblygu, ni ragwelodd neb o gwbl gontractau dim oriau neu’r newidiadau yn ymwneud â Brexit neu’r materion cyflogaeth. Mae'r rhain yn bethau y mae'n rhaid inni fynd i'r afael â nhw yn awr ac yn y fan hon, ac rwyf wedi fy nghyffroi gan y cyfle newydd sbon yn gysylltiedig â’r rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf a'r rhaglen Dechrau'n Deg, sy’n ymyraethau llwyddiannus iawn—100,000 o brentisiaethau newydd ar gyfer bob oed a'r rhaglen gofal plant, sef y setliad gorau ar gyfer rhieni sy'n gweithio o ran gofal plant yn unrhyw le yn y DU, a fydd yn cael ei gyflwyno yn ein cymunedau i helpu a chefnogi'r bobl yr wyf i ac yntau yn eu cynrychioli.
O ran ymgysylltu, rwy'n awyddus iawn i weithio gyda'r holl sefydliadau i weld sut y gallwn ni sicrhau darpariaeth well ar gyfer ein cymunedau. Cododd yr Aelod rai rhaglenni penodol iawn, ac nid oes gennyf farn ar y rheiny, ond bydd gweithio gydag asiantaethau megis CGGC yn sicrhau y gallwn gyrraedd cymunedau y mae’r Llywodraeth weithiau’n ei chael hi’n anodd eu cyrraedd drwy’r rhaglen ymgysylltu.
Nid wyf yn cytuno â'r Aelod ynghylch barn Oxfam fod y Llywodraeth hon wedi colli ei ffordd wrth hyrwyddo a mynd i'r afael â thlodi. Dywedodd Jane Hutt yn gynharach am Ken Skates yn goruchwylio gwaith y Llywodraeth ar fynd i'r afael â thlodi, ac rwyf i’n gyfrifol am rai o'r rhaglenni, yn enwedig tlodi ymysg plant a phobl ifanc, ond cyfrifoldeb y Llywodraeth gyfan yw mynd i'r afael â'r mater o dlodi. Mae'r Prif Weinidog wedi bod yn glir iawn: nid yw’r ffaith nad yw’n cael ei grybwyll yn y rhaglen lywodraethu yn golygu nad oes gennym ddiddordeb. Os yw'r Aelod yn dymuno cynnwys popeth, yna byddai’n cwyno bod y rhaglen lywodraethu yn dair dogfen swmpus iawn sy’n rhestru popeth yr ydym yn ei wneud. A allaf sicrhau'r Aelod fod gan dlodi le amlwg ar yr agenda er mwyn sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â hyn ar draws y Llywodraeth, ac nid dim ond fi neu Ken Skates, ond holl Weinidogion y Llywodraeth hon?
Diolch yn fawr iawn. Rydym wedi cael rhai cyfraniadau helaeth gan y llefarwyr. Mae gennyf i nifer o bobl sy'n dymuno siarad, ac mae mwy yn ychwanegu eu henwau at y rhestr hefyd, felly a allaf ofyn i Aelodau yn awr os gallent gyflwyno eu cwestiynau yn gryno iawn? Nid yw hynny'n wahoddiad i chi roi araith tri munud o hyd—dim ond cyflwyniad byr i'ch cwestiwn ac yna gall eich cydweithwyr eraill i gyd siarad yn y ddadl hon. Mike Hedges.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf oll, hoffwn fynegi fy siom ynghylch y datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n credu bod Cymunedau yn Gyntaf yn gwneud gwaith rhagorol yn fy etholaeth i. Ond rwyf wedi dweud ers blynyddoedd y dylai Cymunedau yn Gyntaf a Dechrau'n Deg fod yn seiliedig ar gymunedau, nid yn cael eu llywio gan y ffordd y mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn penderfynu casglu data. Mae hynny yn gyffredinol wedi’i wrthod gan wahanol Weinidogion, gan gynnwys yr un presennol. A allaf ddechrau â phwynt cadarnhaol? Rwy’n croesawu parhad y cynllun Esgyn. Y cwestiwn sydd gennyf yw: ar ôl Cymunedau yn Gyntaf, beth sy'n mynd i ddigwydd i'r canlynol: gwaith sy’n cael ei wneud i leihau biliau cyfleustodau; cynlluniau rhoi’r gorau i ysmygu a hyrwyddo cartrefi di-fwg; hybu ymarfer corff a gweithgarwch corfforol; rhaglenni colli pwysau; ailgylchu dillad; y cynlluniau tyfu bwyd a bwyta'n iach; y rhaglen cynllunio ariannol personol; y cynllun dysgu fel teulu; cefnogi dysgu plant; clybiau gwaith cartref a’r holl waith rhagorol arall sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd gan Gymunedau yn Gyntaf yn fy etholaeth i?
Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am godi'r materion ynglŷn â’r pethau y mae Cymunedau yn Gyntaf yn eu gwneud yn dda iawn, ac rwyf hefyd yn clodfori’r gwaith sy'n cael ei wneud mewn llawer o gymunedau, a wnaed gan staff a gwirfoddolwyr ar draws y 52 o ardaloedd yng Nghymru. Ond, fel yr wyf wedi’i ddweud, mae'n rhaid i ni ystyried y sefyllfa bresennol sydd ohoni, ac rwy’n credu bod ymyraethau llawer cryfach y gallwn ni eu gweithredu drwy raglenni eraill. Ac mae’r holl bethau y mae'r Aelod yn eu codi yn bwysig; maen nhw’n bwysig iddo ef ac i'r gymuned y mae ef yn ei chynrychioli. Nid wyf yn dweud y dylem ni gael gwared arnyn nhw ychwaith; rwy’n dweud bod yn rhaid inni gael dull newydd er mwyn mynd i'r afael ag atal ac ymyrryd yn gynnar, fel yr wyf wedi’u rhestru yn fy natganiad. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r Aelod a chymunedau i benderfynu ar y ffordd orau o wneud hyn. Rwy'n credu bod llawer o hyn eisoes yn cael ei lywio gan bobl leol sy'n adnabod eu cymunedau yn dda iawn, sy’n gweithio ochr yn ochr â sefydliadau eraill fel Iechyd Cyhoeddus Cymru, sydd â hanes da a chadarn o ymdrin â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod a mynd i’r afael â rhai o'r materion y mae'r Aelod yn eu codi heddiw. Ceir ffyrdd eraill o ddarparu'r gwasanaethau hyn, ac edrychaf ymlaen at y drafodaeth a fydd yn digwydd ar ôl y datganiad hwn.
Weinidog, rwy’n edrych ar yr adran sy'n cyfeirio at wasanaethau cyhoeddus integredig ac ymatebol yn eich datganiad, a'r model newydd o ganolfannau dysgu cymunedol. Tybed a allech chi ddweud ychydig mwy wrth y Siambr am sut y byddai hynny’n gweithio mewn cysylltiad â, er enghraifft, syniadau presennol ynghylch ysgolion bro. Mae'n ymddangos i mi fod gan ysgolion bro lawer i'w gynnig wrth fynd i'r afael â thlodi. Gallant gefnogi addysg drwy sicrhau bod rhieni a'r gymuned yn cymryd mwy o ran yn yr ymdrech addysgol. Gallant wneud llawer o ran gofal plant a'r diwrnod ysgol estynedig. Gall ysgolion bro wneud llawer o ran chwaraeon, gweithgarwch corfforol, y celfyddydau a diwylliant, ac yn aml nid yw’r plant sydd dan yr amgylchiadau mwyaf difreintiedig yn gallu dibynnu ar eu mamau i’w cludo o gwmpas y lle—dim ond yn yr ysgol, efallai, y byddant yn cael y profiad ehangach hwnnw. Gwn ei fod yn anghyson ledled Cymru, Weinidog, o ran ysgolion bro, ac rwy’n credu y byddai'n wych pe byddem yn gallu datblygu mecanwaith a fyddai'n ei gwneud yn ofynnol i bob ysgol, nid dim ond ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, ond y stoc o ysgolion presennol, ganolbwyntio o ddifrif ar y gymuned yn y ffordd yr wyf wedi’i disgrifio ac mewn ffyrdd eraill. A tybed a allech chi sôn ychydig am ganolfannau dysgu cymunedol, sut y maent yn berthnasol i ysgolion bro a pha un a allwn ni weithredu’r mecanwaith er mwyn cyflwyno'r ddarpariaeth hon yn ehangach.
Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfraniad cadarnhaol y mae’r Aelod yn ei wneud ac yn ei godi o ran y gwaith pwysig ysgolion bro wrth newid eu cymunedau lleol. Mae’n galonogol clywed y byddai Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn falch o gyfarfod â'r Aelod, mewn gwirionedd, i drafod yr union faterion y mae'r Aelod yn eu codi.
Ynglŷn â’r mater yn ymwneud â gofal plant, fel y rhestrir yn y datganiad ynglyn â pharthau plant, mae hyn yn rhywbeth yr ydym am ei ddatblygu, a’r un egwyddor ydyw, John, o ran sut yr ydym yn gwneud yn siŵr fod gennym ni yn y tymor hir unigolyn ifanc sy’n tyfu i fyny yn iach. Nid yn unig y mae'n foesol gywir, ond yn gywir yn gyllidol ar gyfer y Llywodraeth hefyd, wrth edrych a chynllunio ar gyfer y tymor hir. Felly, yn sicr dyma’r pethau yr ydym ni am ganolbwyntio arnynt wrth ymyrryd yn gynnar. Rwyf eisoes yn falch o glywed bod fy nghydweithwyr yn y Cabinet, er bod ganddynt waith bob dydd i’w wneud o ran eu portffolio, yn dechrau meddwl yn wahanol ynglŷn â ble y dylem ni wneud ymyraethau clyfar yn awr—felly, nid dim ond mynd i’r afael â’r heriau sydd ynghlwm wrth waith bob dydd ond, mewn gwirionedd, cynllunio ar gyfer y dyfodol. Dyma’r union sefyllfa, o ran pobl ifanc, y mae angen i ni fod ynddi, oherwydd pan fyddwn ni’n gwneud y buddsoddiad hwn, byddwn ni’n gweld canlyniadau gwell, yn y tymor hir, i bobl ifanc wrth iddynt dyfu i fyny.
A gaf i ddiolch i chi am eich datganiad, Weinidog? A allaf ddweud o’r dechrau fy mod am dalu teyrnged i'r aelodau staff sy'n gweithredu Cymunedau yn Gyntaf yn fy etholaeth a thalu teyrnged hefyd i gyngor Torfaen am y ffordd y maent wedi arwain y prosiect, a dweud yn bendant ei fod, yn Nhorfaen, yn cyflawni canlyniadau gwirioneddol ym meysydd cyflogadwyedd, cynhwysiant ariannol, cynhwysiant digidol a lles? Rwy’n nodi eich ymrwymiad i gael gwared ar y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf fesul dipyn, ond, i mi, y rhan allweddol o'ch datganiad yw’r hyn yr ydych yn ei ddweud am sefydlu dull newydd er mwyn bodloni heriau'r dyfodol. Gyda hynny mewn golwg, roedd arnaf eisiau gofyn ychydig o gwestiynau i chi.
Wrth gwrs mae rhoi pwyslais ar gyflogadwyedd yn cael ei groesawu’n fawr, ond a ydych chi hefyd yn cydnabod mewn rhai cymunedau, yn enwedig ein cymunedau mwyaf difreintiedig, bod y cymunedau hynny yn aml yn wynebu cymaint o rwystrau sylweddol tuag at gyflogadwyedd fel bod gwir angen yn aml iddynt ddilyn y dulliau meddalach y mae Cymunedau yn Gyntaf wedi bod mor dda yn eu meithrin. A gaf i ofyn sut sefyllfa y byddech chi’n ei gweld yn y dyfodol yn nhermau’r cydgysylltiad, sy’n bodoli yn Nhorfaen heb os, rhwng Cymunedau yn Gyntaf, Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau'n Deg? Nid ydym yn dymuno gweld unrhyw un o'r cyfraniadau sylweddol iawn y mae Cymunedau yn Gyntaf yn ei wneud at y rhaglenni hynny, yn cael eu colli. Yn Nhorfaen, rydym ni’n gweithredu dull un cynllun ar gyfer y grantiau hyn fel eu bod i gyd yn cael eu cynllunio fel cyfanwaith unedig. Sut y byddwch chi’n sicrhau nad yw hynny'n peryglu'r gwaith hollbwysig yn y maes hwn?
Ynglŷn â diwygio lles, yn fy marn i mae Cymunedau yn Gyntaf wedi chwarae rhan bwysig iawn wrth sicrhau ein bod mewn gwirionedd yn gryf yn ystod y blynyddoedd anodd iawn hyn o ddiwygio lles. Sut y byddwch chi’n sicrhau—mae hyn hefyd yn gysylltiedig â’r hyn a ddywedodd Bethan Jenkins—nad yw’r gwaith hwnnw yn cael ei golli?
Yn olaf, mae eich datganiad yn cyfeirio at ymgysylltu â rhanddeiliaid mewnol ac allanol ar ein dull ar gyfer y dyfodol. A allwch chi ddweud ychydig mwy, os gwelwch yn dda, ynglŷn â sut yn union y bydd yr ymgynghori hynny’n digwydd a beth fydd y dyddiad cau yn debygol o fod? Diolch.
Diolch i'r Aelod. A gaf i hefyd dalu teyrnged i lawer o aelodau staff mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf ledled Cymru sy'n gwneud gwaith gwych wrth newid a chreu cymuned gref? Nid wyf yn amau gwaith a bwriad y rhai hynny, ond rydym ni mewn sefyllfa i drafod. Rydym yn awyddus i siarad ag unedau Cymunedau yn Gyntaf am y cynlluniau ar gyfer dyfodol y clystyrau hyn a sut y maent yn cael eu siapio. Mae'r Aelod wedi hyrwyddo ei hardal Cymunedau yn Gyntaf ers amser maith, ac rwyf eto’n ddiolchgar am ei hawgrymiadau yn ymwneud â’r aelodau staff sy'n gweithio yno ac am eu cydnabod nhw hefyd.
O ran y dyfodol, rwy’n gweld Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau'n Deg a'r dull hyblyg—ac mae’r Aelod yn gywir, yn enwedig yn ei hawdurdod hi, ynglŷn â’r hyblygrwydd rhwng y rhaglenni yno. Rwy'n credu bod llawer mwy o gyfleoedd ac mae’r Aelod yn iawn i ddweud am yr ymyraethau meddalach—rwy’n credu y bydd angen i’r rhan honno o waith Dechrau'n Deg neu Teuluoedd yn Gyntaf gyflawni hynny. Ochr yn ochr â'r rhaglen Esgyn a Chymunedau am Waith, sut y gallwn ni gefnogi pobl i gamu i’r farchnad ac felly sicrhau eu gallu i gael gafael ar yr adduned gofal plant y byddwn yn ei darparu ar gyfer rhieni sy'n gweithio? Mae hyn yn jig-so o ymyraethau y mae’n rhaid i ni eu trefnu i greu darlun clir iawn ac rwy'n ymwybodol o'r broses ymgynghori, y byddwn yn ei chychwyn heddiw, o ran ymgysylltu. Bydd cyfarfod cyntaf y clwstwr yn cael ei gynnal yn ystod y pythefnos nesaf, rwy’n credu, ac mae fy nhîm i eisoes yn dechrau siarad â phobl ar y ffôn y prynhawn yma ynglŷn â’r hyn sy'n dod nesaf.
O ran aelodau staff Cymunedau yn Gyntaf a'r gweithlu sy’n gysylltiedig â hynny, rwyf hefyd yn dymuno siarad â chymunedau. Rwy’n dymuno ymgysylltu â phobl yn eu cymunedau eu hunain er mwyn deall yr hyn sydd ei angen arnyn nhw hefyd. Felly, yn hytrach na gweithredu dull o'r brig i lawr, lle mae’r Llywodraeth yn dweud wrth gymunedau yr hyn yr ydym ni’n credu y dylent ei gael, beth y mae'r cymunedau o’r farn y dylen nhw ei gael? Mae hynny'n rhywbeth y mae fy nhîm yn gweithio arno. Byddwn yn gwneud rhywfaint o waith digidol—beth yw'r gair? [Torri ar draws.] Ymgynghori yw’r gair—a bydd hynny’n dechrau’n fuan iawn. Y cyfan sydd angen i ni ei wneud yw gweithredu hynny ar y rhyngrwyd er mwyn i bobl allu ymgysylltu â ni.
Diolch yn fawr iawn. Simon Thomas.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf wedi cael fy meirniadu’n sylweddol yn y Siambr hon yn y gorffennol, yn enwedig gan Aelodau gyferbyn, am awgrymu nad oedd Cymunedau yn Gyntaf yn effeithiol, nac yn gweithio fel y dylai. Deilliodd yr awgrym hynny o’m mhrofiad i fy hun o fyw mewn cymuned Cymunedau yn Gyntaf. Nid wyf am groesawu'r datganiad fel y cyfryw, fodd bynnag, gan nad wyf yn glir eto beth yw’r strategaeth genedlaethol yn erbyn tlodi yn awr. Ond a allaf ddweud wrth y Gweinidog fod £300 miliwn wedi’i wario ar ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf? Ac mae £100 miliwn wedi’i wario ers Adroddiad 2011 Swyddfa Archwilio Cymru a oedd yn dweud nad oedd y rhaglen yn gweithio ac nad oedd yn effeithiol wrth fynd i'r afael â'r prif nod, sef amddifadedd economaidd yn y cymunedau hynny. Mae tystiolaeth o hynny yn y ffaith bod y cymunedau gwreiddiol a oedd yn rhan o Gymunedau yn Gyntaf yn 2001, yn dal i fod y 100 o gymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Felly, o gofio hynny, nid yw wedi bod yn effeithiol. Wedi dweud hynny, cafwyd llawer o fesurau meddal yr wyf wedi’u gweld yn gweithio'n effeithiol wrth ddod â chymunedau at ei gilydd ac wrth weithio i wella hyder pobl. Felly, nid ydym am golli hynny ychwaith.
Ond fy mhrif gwestiwn i'r Gweinidog yn awr yw: sut y mae ef am sicrhau nad yw’r rhaglen newydd hon, neu’r gyfres o raglenni, am wastraffu amser yn gwneud yr un peth, ond yn hytrach yn mynd ati mewn gwirionedd i adeiladu ar yr hyn sydd gennym a’r hyn sydd eisoes yn effeithiol? A allaf awgrymu iddo wrando ar eiriau doeth John Griffiths, oherwydd yr hyn sydd gennym a’r hyn sydd eisoes yn effeithiol yw pan fo ysgolion cymunedol yn cymryd rhan wirioneddol yn eu cymunedau? Yr enghraifft orau yr wyf wedi’i gweld o hynny yw Ysgol Gymunedol Doc Penfro yn fy rhanbarth i, mewn ardal Cymunedau yn Gyntaf, sydd wirioneddol yn integreiddio popeth â’i gilydd. Hwn yw’r model ar gyfer y dyfodol. Rwy'n argymell ei fod yn mynd i’w gweld gyda Kirsty Williams os nad yw hi wedi— [Torri ar draws.]. Mae hi eisoes wedi bod. Yn sicr, rwyf i wedi bod sawl gwaith. Mae'n enghraifft wych o sut y gellir mynd ar drywydd y dull hwn. Ac yn hytrach na gwastraffu amser yn gwneud yr un peth, yn hytrach na siarad am barthau plant neu beth bynnag y bo, meddyliwch eto: mae gennym yr ysgolion, mae gennym y gallu, drwy ysgolion, i weithio ar draws ffiniau wardiau ac i weithio'n uniongyrchol gyda theuluoedd. Dyna'r ffordd orau ymlaen. Rhowch yr arian i Kirsty Williams. Rwy'n siŵr ei bod hi’n gwybod sut i'w wario [Chwerthin.]
Diolch i'r Aelod am ei gyfraniad. Ni fydd yn syndod nad wyf yn cytuno ag ef ar bob dim a ddywedodd; rwyf yn credu bod ymyraethau Cymunedau yn Gyntaf wedi gweithio mewn rhai meysydd ac wedi gweithio'n dda iawn mewn rhai meysydd, ac mae Lynne Neagle a'i chydweithwyr wedi cyfeirio at hynny. Rwy’n cytuno ag ef fod y mater ynglŷn ag ysgolion a lle yn rhywbeth y mae angen i ni ganolbwyntio mwy arno. Felly, mae Kirsty a minnau yn gweithio'n agos iawn ar yr adduned gofal plant a chamau gweithredu eraill lle’r ydym ni’n gwybod, os gallwn weithredu’r ymyraethau cywir ar gyfer pobl ifanc, y bydd hynny’n arbed i ni, yn y tymor hir, wrth fynd i'r afael â'r materion yn ymwneud â theuluoedd anhrefnus, a bydd y rhaglen profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a'r parthau plant yn cefnogi hynny hefyd. Felly, rydym yn mynd i gael rhai meysydd gwaith dwys iawn yn hynny o beth.
Rwy’n mynegi diddordeb: mae fy ngwraig yn gweithio mewn ysgol yn y gogledd ac mae’r ysgol newydd dderbyn adroddiad ysgol ragoriaeth gan yr arolygwyr. Es i yno ychydig wythnosau yn ôl er mwyn rhoi ambell lun yr oeddwn wedi’u paentio i’r ysgol dros y penwythnos, ond hefyd i weld sut yr oedd yr ysgol yn gweithredu. Rwy’n llwyr gytuno â'r Aelod: os gall yr ysgol newid y ffordd y mae pobl ifanc yn teimlo amdanynt eu hunain—hyder ac anogaeth—mae hynny’n rhywbeth y gallant ei gymryd o hynny. Rwy’n credu, er nad oes angen unrhyw help ar Kirsty Williams wrth chwilio am fy nghyllid yn y gyllideb, rwy'n falch iawn o allu gweithio gyda hi i wneud yn siŵr ein bod yn cael y gwerth gorau am arian ar gyfer ein hymyraethau ill dau. Mae hynny hefyd yn berthnasol nid yn unig i Kirsty, ond i bob cydweithiwr yn y Cabinet, hefyd.
Yn gyntaf, hoffwn groesawu eich pwyslais ar bwysigrwydd metro’r gogledd a'r de wrth sicrhau bod cymunedau anghysbell yn gallu manteisio ar gyfleoedd am swyddi a hyfforddiant ac os nad ydynt yn gysylltiedig, yn syml nid yw’r un cyfleoedd ar gael iddynt. Felly, rwy’n edrych ymlaen hefyd at eich prosiect Swyddi Gwell yn Nes at Adref, gan fy mod yn gwybod mewn llawer o gymunedau anghysbell, fod yna wrthwynebiad annatod i fynd yn rhy bell i ffwrdd.
Rwy’n gwerthfawrogi yn fawr iawn eich ymroddiad i fynd i'r afael â'r negeseuon yr ydym yn eu cael wrth ddadansoddi profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a'r niwed hirsefydlog y maen nhw’n eu cael ar blant. Mae'n rhaid i ni gofio mai’r ddau brofiad niweidiol mwyaf cyffredin yn ystod plentyndod yw cam-drin geiriol a rhieni’n gwahanu. Yn amlwg, gwraidd hyn yn aml yw bod pobl yn cael plant cyn iddynt ddod yn oedolion eu hunain. Felly, mae'n amlwg bod rhywfaint o waith i'w wneud yn hynny o beth i sicrhau bod pobl yn deall pa mor anodd, a heriol yw hi i gael babi a bod yr effaith yn para am oes.
Ond rwy’n awyddus i ymhelaethu ar rywbeth—. Er fy mod yn cytuno â John Griffiths a Simon Thomas ynglŷn â phwysigrwydd sicrhau bod ein holl ysgolion yn ysgolion bro, fel Ysgol Gynradd Llanedeyrn yn fy etholaeth i, yn ogystal ag Ysgol Doc Penfro, mae hyn yn methu'r pwynt, sef, os edrychwn ar dystiolaeth EPPI-Centre, sef yr astudiaeth hydredol fwyaf sydd erioed wedi'i chynnal ar ganlyniadau plentyndod, rydym yn gwybod bod y niwed wedi’i wneud erbyn bod y plentyn yn ddwy. Felly, ni allwn ddibynnu ar ysgolion i ddiwallu’r angen hwn. Felly, hoffwn wybod ychydig mwy am yr hyn y gellir ei wneud. Rydym yn gwybod mai'r ffordd fwyaf effeithiol o dorri'r cysylltiad hwnnw yw cael gofal plant wedi’i integreiddio, o ansawdd uchel.
Gwn fod eich pwyslais yn eich adran chi ar ddarparu'r gofal plant am ddim i rieni sy'n gweithio sydd â phlant tair a phedair blwydd oed. Mae gennym swydd benodol yma, sy'n cael ei chyflawni’n rhannol gan Dechrau'n Deg ond dim ond mewn rhai codau post, ac mae hynny i sicrhau bod ein bod yn diwallu anghenion y plant hynny ac yn darparu’r cymorth i rieni a’r addysg teulu hwnnw. Felly, hoffwn wybod ychydig mwy am y canolfannau dysgu cymunedol, a’r parthau plant hyn ar gyfer Cymru, a sut y gallwn ni ddechrau sicrhau bod y plant tlotaf sydd fwyaf mewn perygl o gael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn derbyn gofal plant o ansawdd uchel i'w helpu i gael y cychwyn gorau mewn bywyd yr ydym yn disgwyl i bob plentyn ei gael.
Diolch i'r Aelod am ei chefnogaeth a'r cwestiwn cynhwysfawr y mae hi’n ei godi. Fel y dywedais yn fy natganiad, mae'r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn un rhaglen ac mae’n rhaid i ni ddibynnu ar agweddau eraill ar yr hyn y mae ymyraethau’r Llywodraeth yn eu gwneud—yr hyn y mae’r Llywodraeth, llywodraeth leol, mudiadau'r trydydd sector yn ei gyfrannu at ein cymunedau—a sicrhau cryfder o gwmpas hynny. Rydym wedi ein herio yn ariannol—ym mhob agwedd ar y Llywodraeth a haenau’r Llywodraeth—ac mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr pan fyddwn yn gwneud yr ymyraethau hyn, ein bod yn gwneud ymyraethau clyfar yn seiliedig ar y dystiolaeth a gyflwynwyd o lawer o feysydd. Un darn penodol o waith yr wyf yn gwybod bod yr Aelod yn gyfarwydd ag ef yw gwaith gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn ymwneud â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. I bobl nad ydynt wedi gweld y rhaglen, byddwn i’n annog iddynt wneud hynny a sylweddoli mai dyna pam yr ydym yn cymryd y cam hwn i sicrhau bod ymyrraeth gynnar ac atal yn greiriau allweddol yn yr ymyrraeth ar gyfer ein pobl ifanc. Rydym wedi gweld y dinistr a all ddigwydd yn y tymor hir pan fo mwy a mwy o blant yn cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Rydym wedi gwneud rhywfaint o waith gyda'r bwrdd cyfiawnder ieuenctid ac roeddwn wedi synnu’n fawr—. A dweud y gwir, mae’r Aelod yn gywir: mae'n anodd iawn mynd i'r afael â rhan olaf hynny—y mater o aildroseddu. Pan wnaethom ni rywfaint o waith modelu ar y bobl ifanc, fe wnaethom ni mewn gwirionedd edrych yn ôl ar eu ffordd o fyw, ac fe gawsant bedwar neu bum profiad niweidiol yn ystod eu plentyndod, yr ydym ni’n gwybod, pe baem yn dechrau mynd i'r afael â'r materion hynny yn ymwneud â chamddefnyddio alcohol neu sylweddau neu garcharu, yna, mewn gwirionedd, y byddai pethau’n datrys eu hunain yn y pen draw. Felly, dyna beth yr ydym yn mynd i’w wneud gyda phobl a theuluoedd, a dyna’n rhannol y mater ynglŷn â pharthau plant, o ran sut yr ydym yn sicrhau bod plant o bob oed—mae'n ymwneud â chanolbwyntio ar y plentyn a'r teulu, i weld a allwn ni gyflwyno’r ymyraethau clyfar hyn. Mae cynllun peilot da iawn yn cael ei gynnal o’r rhaglen 1000-diwrnod, sy'n cael ei gweithredu yng Nghymru eisoes. Gallwn ddysgu llawer oddi wrth y rhaglen honno. Mae'n ymwneud â gwybod bod y ddwy flynedd gyntaf yn bwysig, cyn i'r plentyn gael ei eni, a’r hyn y mae angen i ni ei wneud yn ystod y cyfnod hwnnw.
Mae'r mater gofal plant yn rhywbeth yr ydym yn gweithio tuag ato. Rwy’n gobeithio, tua hydref y flwyddyn nesaf, y byddwn ni’n dechrau cyflwyno cynllun cymhleth iawn o ofal plant a gweithio, a sut y bydd hynny'n cyd-fynd ag amgylchedd yr ysgol hefyd, fel bod gennym 30 awr o ofal ar gyfer pobl ifanc, sy'n briodol ac o ansawdd. Fe gynaliasom y cyfarfod hwnnw y bore yma i ddweud y gwir, a oedd yn cynnwys trafodaeth ymhlith Gweinidogion ynglŷn â sut yr ydym yn cychwyn y rhaglen honno. Ond mae hyn yn ymwneud ag adeiladu cymuned gref gan ddefnyddio pob un o'n hoffer, yn hytrach na dim ond un. Dyna pam rwy'n ddiolchgar i allu rhannu â'r Siambr heddiw yr weledigaeth a'r dewisiadau i bob un ohonom ddod at ein gilydd gyda phob un o’r darnau hyn o'r jig-so, i wneud yn siŵr bod gennym ddyfodol da ar gyfer ein pobl ifanc, wrth symud ymlaen.
Rwy'n credu fy mod yn cytuno â llawer o'r hyn sy'n cael ei ddweud gan lawer o’m cydweithwyr, felly nid wyf am ailadrodd hynny a’i barhau—
Dim ond cwestiwn, os gwelwch yn dda.
Rwy’n mynd i wneud hynny. Yr hyn yr wyf eisiau ei ddweud, fodd bynnag, yw fy mod o’r farn bod angen inni gydnabod bod strategaethau yn erbyn tlodi wedi bod amlycaf o ran polisi Llywodraeth Cymru ers blynyddoedd lawer. Yn fy etholaeth fy hun, yn gyffredin â llawer o etholaethau eraill y mae eu cynrychiolwyr wedi siarad heddiw, rydym wedi gweld gwaith anhygoel yn cael ei wneud bob dydd—bob dydd—yn ymwneud â’r gymuned gymdeithasol, cynhwysiant digidol, ymdrin â chyn-droseddwyr, mynd i'r afael ag unigedd, datblygu sgiliau rhianta, cynorthwyo gyda diweithdra hirdymor. Gallem yn ôl pob tebyg fynd ymlaen ac ymlaen. Felly, mae llawer iawn o waith yn cael ei wneud. Felly, rwyf yn croesawu, Ysgrifennydd y Cabinet, y datganiad yr ydych chi wedi'i wneud heddiw, oherwydd rwy’n credu bod y mentrau yr ydych chi wedi'u cyhoeddi heddiw, yn enwedig y rhai sy’n canolbwyntio ar sicrhau canlyniadau cadarnhaol, yn ein llywio i'r cyfeiriad hwnnw sy’n parhau â'r gwaith sydd eisoes wedi’i gyflawni, ac yn sicrhau bod y mesurau sydd gennym i fynd i'r afael â thlodi yn sail i’r holl waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud wrth symud ymlaen.
Fodd bynnag, mae fy nghwestiwn yn ymwneud â pha un a all y Gweinidog ddweud wrthym a fydd y blaenoriaethau a’r rhaglenni yn erbyn tlodi mewn llawer o'n hardaloedd mwyaf difreintiedig, y mae'r rhan fwyaf ohonynt, neu lawer ohonynt, yn cael eu darparu gan Gymunedau yn Gyntaf, yn cael eu gweithredu ymhellach o dan y strategaeth newydd, ac, os felly, sut y bydd y trefniadau trosiannol hynny yn berthnasol, a pha un a ydyw wedi rhoi rhywfaint o ystyriaeth i sut y gallwn gadw sgiliau'r bobl sydd wedi cyflawni Cymunedau yn Gyntaf mor llwyddiannus yn rhai o'n hardaloedd mwyaf difreintiedig—ased rwy'n siŵr na fyddai ef yn dymuno’i golli ddim mwy nag y byddwn i.
Diolch i'r Aelod am ei chwestiynau. A gaf i ddweud bod y strategaeth trechu tlodi a’r strategaeth trechu tlodi ymhlith plant yn dal i fod yn fyw ac yn iach? Mae'r ddogfen honno yn dal i fod yno, ac rydym yn dal i weithio tuag at hynny. Cyfarfûm â Ken Skates i drafod sut y byddwn yn adnewyddu hynny a dechrau meddwl am yr ymyraethau newydd sydd gennym. Fel y dywedais yn gynharach, dim ond un o blith cyfres o offer a rhaglenni ymyrraeth y gallwn ni eu cyflawni yw Cymunedau yn Gyntaf. Yr wyf yn dal i fod wedi ymrwymo i weithio gyda'r gweithlu rhagorol yn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf. Dyna lle y byddwn yn dechrau’r drafodaeth am sut y byddwn yn dechrau fframio'r dyfodol o ran cyflwyno'r amryw raglenni y soniodd yr Aelod amdanynt. Yr hyn na allwn ni ei wneud yw troi ein cefnau ar gymunedau, ond yn hytrach, mae’n rhaid i ni eu helpu i dyfu allan o dlodi, ac nid sicrhau ein bod yn dedfrydu cymunedau i dlodi am oes. Mae'n rhaid i ni wneud rhywbeth gwahanol, ac mae'r technegau ymyrryd yr ydym yn sôn amdanynt yn y fan yma yn ymwneud â rhoi cydnerthedd personol i bobl ifanc i’w galluogi i dyfu. Mae hyn, rwy’n credu, yn ddewr iawn yn wleidyddol, gan fod llawer o’r pethau hyn yn bethau a fydd yn cymryd cenedlaethau. Mae'n debyg na fyddwn yn gweld effeithiau rhai o’n hymyraethau cynnar yn dod i’r amlwg am oddeutu 10 mlynedd. Ond mae'n rhaid i ni ddechrau yn awr, ac mae'n rhaid i ni wneud y newid hwnnw a bod yn ddewr, oherwydd, os na wnawn ni, buddugoliaeth wleidyddol tymor byr fydd hon. Y gwir yw, mae’n newid ein cymunedau er gwell ar gyfer y dyfodol, a dyna beth fydd y rhaglen newydd hon yn ei wneud yn fy marn i.
Diolch. Yn olaf, felly, Llyr Gruffydd.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Y cyfan yr wyf ei eisiau, Ysgrifennydd y Cabinet, yw ychydig mwy o eglurder o gwmpas eich parthau plant arfaethedig i Gymru. A yw’r parthau yn barthau daearyddol? A fyddant yn dilyn ôl troed ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf neu Dechrau'n Deg? Oherwydd rydych yn dweud hefyd yn eich datganiad nad ydych yn argyhoeddedig mai parhau i ganolbwyntio ar 52 o ardaloedd bach yw'r ffordd fwyaf effeithiol o gyflawni dros Gymru. Nawr, rydych chi yr un mor ymwybodol â minnau fod yna blant y tu allan i'r ardaloedd hynny sy'n wynebu tlodi a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod hefyd, felly efallai y byddai ychydig o eglurder yn cael ei werthfawrogi.
Ydw, rwy’n hapus iawn i wneud hynny. Mae'n gwestiwn defnyddiol iawn. O ran y parthau plant, rydym yn cynnig bod awdurdodau lleol yn gwneud datganiadau o fwriad yn awr i gyflwyno eu syniadau am sut y byddent yn hoffi eu gweithredu. Yn wir, rwy’n credu fy mod yn iawn wrth ddweud bod Ynys Môn eisoes wedi nodi eu bod yn dymuno bod yn ynys lle na cheir profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, sydd yn her eithaf trawiadol iddynt ymgymryd â hi. Rwy'n credu ei fod yn gynllun uchelgeisiol, ond does dim byd o'i le ar uchelgais. Dylem ni eu helpu i gymryd camau tuag at gyflawni hynny. Rwy'n credu y dylem fod yn dechrau meddwl am y dull y siaradodd Simon Thomas a John Griffiths amdano, felly, parthau plant o gwmpas ysgolion ac ardaloedd ysgol, i geisio gweld os allwn ni fynd o dan groen hynny. Mae 'na enghraifft wych o ysgol yn Washington a wnaeth hyn. Llwyddodd i weddnewid yr ysgol yn llwyr—ysgol heriol iawn—drwy ganolbwyntio ar ymagwedd Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod at ymyrraeth, a llwyddo i’w gweddnewid yn ysgol sy'n perfformio'n dda. Felly, mae yn gweithio. Ond, ar hyn o bryd, cynlluniau arbrofol—llawer o hyblygrwydd i weld beth sy'n gweithio a beth nad yw’n gweithio. Rwy'n credu bod yn rhaid i mi fod yn ddigon dewr i ddweud, 'Wel, mi rown ni gynnig arni, ac os nad yw’n gweithio, nid yw'n gweithio.' Ond fe dderbyniaf y feirniadaeth wleidyddol am hynny, am wneud rhywbeth am y rheswm cywir, yn hytrach nag am beidio â rhoi cynnig ar rai o'r pethau hyn. Mae'n rhaid i ni roi cynnig arnynt mewn lleoliadau gwledig a threfol a gweld beth y gallwn ni ei wneud yn nhermau graddfa hefyd. Felly, mae llawer i weithio arno, ond rydym yn cynnig hyblygrwydd i awdurdodau lleol i ddeall eu cymunedau yn well ac i wybod beth sydd ei angen arnynt.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet.