1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 18 Hydref 2016.
2. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen ddeddfwriaethol ar gyfer y Pumed Cynulliad? OAQ(5)0215(FM)
Gwnaf. Cyhoeddais raglen ddeddfwriaethol flynyddol gyntaf y pumed Cynulliad hwn ar 28 Mehefin.
Diolch am hynna, Brif Weinidog. Tybed pryd allech chi ddisgwyl gweld prif hanfodion polisi unrhyw ddeddfwriaeth newydd sy'n cael ei phasio yn ystod y pumed Cynulliad yn cael eu gweithredu. Faint o amser ydych chi’n credu fyddai rhwng Cydsyniad Brenhinol i bolisi, trwy statud, a chael ei weithredu a’i ddarparu ar lawr gwlad? Y cefndir i hyn, wrth gwrs, yw'r ddadl awtistiaeth yr wythnos diwethaf, pan roddwyd cryn sylw i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a basiwyd gyda Chydsyniad Brenhinol ym mis Ebrill 2014, ac eto rydym ni’n dal i ddisgwyl am ganlyniadau polisi o hynny. Felly, mater o chwilfrydedd yw hwn. Diolch.
Mae llawer ohono’n dibynnu ar y ddeddfwriaeth ei hun. Yr hyn y gallaf ei ddweud wrth yr Aelod yw bod y Gweinidog wedi cytuno y bydd swyddogion yn cyfarfod â'r Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol i drafod Bil drafft y gymdeithas. Trefnwyd y cyfarfod hwnnw ar gyfer 14 Tachwedd. Rwy’n hyderus, fodd bynnag, bod yr ysgogiadau deddfwriaethol a pholisi gennym ni i barhau i wella bywydau pobl ag awtistiaeth a'u teuluoedd a'u gofalwyr, wrth gwrs. Bydd cynllun gweithredu diwygiedig ar anhwylderau'r sbectrwm awtistig yn cael ei gyhoeddi fis nesaf. Bydd hwnnw’n cael ei ategu gan gynllun cyflawni â chanlyniadau mesuradwy. Ac rydym ni wedi ymgynghori'n ddiweddar ar y cynllun gweithredu drafft, sy'n rhoi sylw i flaenoriaethau ar gyfer rhanddeiliaid. Felly, ydy, mae’r ddeddfwriaeth honno yn dal i symud ymlaen, ond serch hynny, fel y dywedwyd yr wythnos diwethaf, byddwn yn monitro'r sefyllfa, byddwn yn gweithio gyda'r Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol, a byddwn yn cadw'r drws yn agored i ddeddfwriaeth os bydd angen hynny.
Brif Weinidog, ar 28 Mehefin, dim ond newydd benderfynu gadael yr UE oedd y wlad. O ganlyniad i hynny, mae’n bosibl y gallai fod goblygiadau deddfwriaethol yma yng Nghymru. Pa ddadansoddiad y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud mewn gwirionedd i ystyried y goblygiadau i’r rhaglen ddeddfwriaethol yr ydych chi’n ei chyflwyno, yn seiliedig ar y ffaith y gallem ni weld llawer mwy o ddeddfwriaeth yn dod o Frwsel o ganlyniad i’r ymadawiad hwnnw?
Mae'n anodd iawn ar hyn o bryd, wrth gwrs, archwilio beth fyddai'r sefyllfa mewn gwirionedd, o ystyried y ffaith ein bod ni’n disgwyl am ddyfarniad y Goruchaf Lys, o bosibl, o ran y defnydd o'r uchelfraint frenhinol, a'r effaith y byddai honno'n ei chael, o bosibl, ar ddiddymu cyfraith statud, rhywbeth nad yw’r uchelfraint wedi'i chynllunio i’w wneud. Tan y byddwn ni’n gweld canlyniad y broses honno, a chanlyniad y broses dros y ddwy flynedd nesaf, mae'n anodd, ar hyn o bryd, gwybod pa effaith fydd ar eitemau unigol o ddeddfwriaeth sy’n cael eu pasio gan y Cynulliad. Wrth gwrs, yr hyn yr ydym ni’n disgwyl fydd yn digwydd yw y bydd y cyfle yn codi ar ryw adeg i gynnig cyfle i’r Cynlluniad benderfynu a ddylai gael ei rwymo i gyfraith yr UE yn y dyfodol, oherwydd, ar hyn o bryd wrth gwrs, ni allwn basio unrhyw ddeddfwriaeth sy’n gwrthdaro neu’n anghydnaws â chyfraith yr Undeb Ewropeaidd. Yn amlwg, bydd hynny'n newid yn y dyfodol.
Wrth lansio eich rhaglen ddeddfwriaethol, Brif Weinidog, roeddech chi’n sôn am ddau ddarn o ddeddfwriaeth a oedd yn fater o drafodaeth rhwng ein dwy blaid ninnau, sef y darn ar Ddeddf awtistiaeth, sydd eisoes wedi cael ei chrybwyll, a Deddf arall, yn ymwneud â diddymu’r amddiffyniad o gosb rhesymol, fel y mae’n cael ei alw, ar gyfer cosbi plant. A fedrwch chi gadarnhau, yn ystod tymor y Cynulliad hwn, eich bod chi’n dal, fel Prif Weinidog, am gyflwyno deddfwriaeth yn y ddau faes yma?
Ynlgŷn â’r ail eitem fanna, wrth gwrs mae hwn yn rhywbeth rydym ni eisiau symud ymlaen ag ef, ar sylfaen drawsbleidiol—mae’n rhaid i fi ddweud hynny, ond rydw i wedi dweud hyn o’r blaen. Ynglŷn â’r sefyllfa o ran awtistiaeth, a gaf i ddweud wrtho fe beth wnaeth y ddwy blaid ei gytuno yn ôl ym mis Mehefin? Ac fe ddywedaf i e yn Saesneg, achos yn Saesneg y cafodd e ei gytuno:
agree we work together, through the liaison committee, to consider how best to deliver separate legislation on autism. In due course, to place the autism spectrum disorder strategic action plan on a statutory footing. This work will need to take into account the impact of the new all-age autism service, refreshed autistic spectrum disorder strategic action plan, and the implementation of the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014.
Felly, cadarnhau beth ddywedais i, a chadarnhau beth sydd wedi cael ei gytuno rhwng y ddwy blaid.