2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 19 Hydref 2016.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wariant cyfalaf diweddar awdurdodau lleol? OAQ(5)0042(FLG)
Diolch i’r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Ar ôl addasu ar gyfer y gwariant cyfalaf untro sy’n gysylltiedig â phrynu allan o system y cymhorthdal cyfrif refeniw tai, cynyddodd gwariant cyfalaf gan awdurdodau lleol 7.4 y cant yn 2015-16.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae ystadegau a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf yn dangos bod gwariant cyfalaf ar wasanaethau cymdeithasol wedi gostwng 45 y cant yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, o £22 miliwn yn 2014-15 i £12.6 miliwn yn y flwyddyn y ariannol ddiwethaf—y gostyngiad mwyaf o holl wariant cyfalaf llywodraeth leol. Mae’r gwariant refeniw hefyd wedi gostwng 0.4 y cant. Yn wyneb y gostyngiad hwn yn y cyllid, a fyddech mor garedig ag egluro ymrwymiad Llywodraeth Cymru i integreiddio iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn well a gweithio i gael gwared ar yr ansicrwydd sy’n wynebu llawer o adrannau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol?
Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn atodol. Pan gaiff addasiadau cyfrifyddu eu hystyried, credaf fod gwariant cyfalaf ar wasanaethau cymdeithasol wedi gostwng 1.1 y cant y llynedd mewn gwirionedd, ac roedd hynny’n cyd-fynd â’r amcangyfrifon roedd awdurdodau lleol wedi’u darparu ac nid yw’n ystyried y cyfalaf ychwanegol o £10 miliwn a ddarparwyd drwy’r gronfa gofal canolraddol, sy’n cael ei wario’n bennaf ar faterion yn ymwneud â gwasanaethau cymdeithasol.
Yn y gyllideb ddrafft a gyhoeddwyd ddoe, lle y gallwn, am y tro cyntaf ers nifer o flynyddoedd, roi cyllideb i awdurdodau lleol yng Nghymru heb doriadau arian parod ynddi, rwyf wedi clustnodi £25 miliwn at ddibenion gwasanaethau cymdeithasol, mewn ymateb i’r alwad gan yr awdurdodau lleol eu hunain, ond gan gydnabod yn glir y pwysau y mae’r gwasanaeth hwnnw’n ei wynebu.
Bydd gwaith adeiladu yn dechrau yn fy etholaeth yn fuan ar ysgol gynradd gymunedol newydd yng Nghwmaman, lle mae’r awdurdod lleol yn defnyddio cyllid ysgolion yr unfed ganrif ar hugain i ddarparu cyfleusterau ysgol sy’n addas i’r diben. A wnewch chi ymuno â mi, Ysgrifennydd y Cabinet, i longyfarch Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf am y ffordd y mae’n ymwneud â’r rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain i wella cyfalaf seilwaith, ond hefyd am y cyfleoedd addysgol y mae’n eu cynnig i blant a phobl ifanc?
Yn sicr, rwy’n ategu canmoliaeth Vikki Howells i gyngor Rhondda Cynon Taf, a chynghorau ledled Cymru yn wir am y modd y maent wedi croesawu rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Mae dros 150 o ysgolion a cholegau ledled Cymru yn gweld eu safleoedd yn cael eu hailadeiladu a’u hadnewyddu. Ond y pwynt a wnaeth fy nghyd-Aelod yn ei chwestiwn atodol tuag at y diwedd yw’r pwysicaf efallai. Mae ysgolion yn fwy nag adeiladau; mae’n ymwneud â’r neges y maent yn ei chyfleu i bobl ifanc am ba mor werthfawr ydynt i ni a’r cyfleoedd y bydd safleoedd priodol o’r math hwn yn parhau i’w darparu yn y dyfodol.
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymuno â mi i longyfarch Cyngor Dinas Caerdydd ar eu prosiect ar gyfer gwariant cyfalaf i gyflwyno deuodau allyrru golau a goleuadau stryd pyladwy yn y ddinas? A yw’n credu bod honno’n ffordd wych o ddefnyddio arian cyfalaf gyda buddiannau hirdymor?
Diolch i Julie Morgan am y cwestiwn hwnnw. Rwy’n credu bod hanes Caerdydd o ddefnyddio gwariant cyfalaf at ddibenion amgylcheddol o’r math hwn yn rhagorol. Mae’r bwriad diweddaraf i ddefnyddio gwariant cyfalaf ar oleuadau stryd yn y ddinas yn rhan o batrwm ehangach lle maent wedi defnyddio arian, sydd ar gael drwy Lywodraeth Cymru yn rhannol, ar gyfer effeithlonrwydd ynni goleuadau stryd, effeithlonrwydd ynni adeiladau cyngor a rhaglenni goleuo ysgol—yn Ysgol Gynradd Rhydypenau yn ei hetholaeth ei hun, er enghraifft. Mae’n enghraifft dda iawn o’r ffordd y mae awdurdodau lleol yn defnyddio’r cymorth sydd ar gael i ddatgarboneiddio’u gwariant, gan ddarparu gwell dyfodol, nid yn unig i’w dinasyddion eu hunain, ond i’n cenedl gyfan.