1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 1 Tachwedd 2016.
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am lefelau ardrethi busnes yng Nghymru? OAQ(5)0231(FM)
Ar gyfer 2017-18, 1.059 biliwn yw’r swm amcangyfrifedig o ardrethi annomestig a fydd yn cael eu dosbarthu i awdurdodau lleol a chomisiynwyr heddlu a throseddu yng Nghymru. Mae hynny wedi'i nodi yn y gyllideb ddrafft.
Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Rwy'n siŵr eich bod chi’n ymwybodol o’r lefel newydd enfawr o ansicrwydd, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, sydd wedi cael ei lwytho ar fusnesau bach gan y newidiadau cost enfawr sy'n deillio o ailbrisio ardrethi busnes. Nawr, rwy’n gwerthfawrogi’n gyffredinol ei fod yn niwtral o ran cost ac y bydd enillwyr a chollwyr bob amser, ond mae busnesau yn Sir Fynwy yn wynebu cynnydd o 11 y cant i’w hardrethi a fydd, os cânt eu gweithredu, yn bygwth rhoi llawer ohonyn nhw allan o fusnes. A ydych chi’n cytuno bod angen i ni ddeall canlyniadau’r ailbrisio hwn yn llawn cyn y gweithredu, a cheisio rhoi cymorth i'r busnesau hynny yr effeithir arnynt waethaf o leiaf?
Bydd cefnogaeth oherwydd, mewn ymateb i'r ailbrisio, bydd cynllun rhyddhad trosiannol newydd gwerth £10 miliwn yn cael ei gyflwyno i helpu busnesau bach y mae eu hawl i ryddhad ardrethi busnesau bach yn cael ei effeithio er gwaeth. Bydd hynny'n cael ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru.
Brif Weinidog, mae’r diwydiant dur yn dal i fod mewn argyfwng. Nid yw wedi diflannu. Mae gennym ni lawer o broblemau a heriau yn ein hwynebu o hyd, er bod y gweithluoedd ar draws Cymru wedi dangos ymrwymiad i wella proffidioldeb. Beth mae eich Llywodraeth yn bwriadu ei wneud o ran ardrethi busnes? Roedd hon yn broblem, yn sicr, yn gynnar yn y flwyddyn ac ystyriwyd eithriadau ar gyfer offer a pheiriannau. A fyddwch chi’n edrych ar hynny eto, ac a fyddwch chi’n edrych ar ardrethi busnes ar gyfer y diwydiant dur?
Wel, gallaf ddweud bod y data o'r ailbrisio presennol yn awgrymu y bydd gwerth ardrethol y diwydiant dur yn ei gyfanrwydd yng Nghymru yn gostwng yn sylweddol. Bydd hynny o gymorth iddynt. Felly rydym ni’n rhagweld y bydd hynny'n rhan o'r pecyn a fydd yn cynorthwyo’r diwydiant dur.
Rydym ni eisoes wedi rhoi pecyn ar y bwrdd. Mae angen i ni weld gweithredu nawr gan Lywodraeth y DU pan ddaw i bensiynau a phan ddaw i brisiau ynni. Hyd yn hyn, nid ydym wedi gweld digon o weithredu gan Lywodraeth y DU. Rydym ni’n parhau i’w hannog i ddangos penderfyniad yn y dyfodol.
Mae nifer o fusnesau hefyd, yn arbennig mewn ardaloedd gwledig, wedi cysylltu ag Aelodau Plaid Cymru i sôn am effaith y cynnydd y maen nhw’n ei wynebu ar hyn o bryd—tafarn, er enghraifft, sy’n wynebu cynnydd o 200 y cant. Rydym ni’n sôn am filoedd fan hyn. Mae un enghraifft gyda ni o’r Vale Country Club, sy’n trefnu priodasau yn Rhuthun, a’i werth ardrethol yn codi o £9,600 i £23,000. Gall y Prif Weinidog ddeall, wrth gwrs, yr effaith y mae’r math yna o newid yn mynd i’w gael ar y busnes a busnesau tebyg. A ydy e’n gyfle, efallai, i edrych ar y swm y mae wedi sôn amdano sydd wedi’i neilltuo ar gyfer help dros dro, i sicrhau na fyddwn yn gweld y cynnydd syfrdanol yma i ambell i fusnes sydd mewn sefyllfa ymylol, er mwyn sicrhau na fyddant yn cau oherwydd y cynnydd yma mewn ardrethi busnes?
Rwy’n deall y pwynt, wrth gwrs, ond rwy’n hyderus bod y cynllun rwyf wedi sôn amdano yn barod yn mynd i helpu llawer o fusnesau sydd wedi gweld cynnydd yn y swm y maen nhw’n ei dalu.
Mae’n rhaid cofio, wrth gwrs, i’r rhan fwyaf o fusnesau, y tro diwethaf yr aethon nhw drwy’r broses hon oedd yn ôl yn 2008, pan oedd pethau yn yr economi llawer yn well yn hanesyddol, a byddai’r lefel o dreth y byddant wedi bod yn ei thalu wedi bod yn uwch. Rydym ni wedi gweld hyn yn barod gyda’r diwydiant dur. Wrth gwrs, nid yw hynny’n meddwl bod pob busnes yn yr un sefyllfa, ond o achos y ffaith ein bod ni wedi cydnabod bod rhai busnesau yn mynd i weld cynnydd, dyna pam felly mae’r cynllun dros dro wedi cael ei ddodi mewn lle.
Brif Weinidog, mae ychydig dros draean o safleoedd busnes yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, ac ychydig yn llai na hanner yn yr Alban, yn elwa ar hyn o bryd ar ryddhad ardrethi busnes, o’i gymharu â dros 70 y cant o fusnesau Cymru. Edrychaf ymlaen at gyhoeddiad cynllun rhyddhad ardrethi parhaol Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau bach, ond a fydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau y bydd hwn yn dal i fod y pecyn rhyddhad ardrethi mwyaf hael yn y DU?
Byddwn yn ceisio darparu, ac yn ogystal â hynny rydym ni eisiau darparu sicrwydd ar gyfer cynllun a fu’n un dros dro erioed, er gwaethaf y ffaith ei fod wedi cael ei adnewyddu am nifer o flynyddoedd. Ond mae angen i ni wneud yn siŵr bod y sicrwydd hwnnw yno i fusnesau fel y gallant gynllunio ar gyfer y dyfodol.