– Senedd Cymru ar 8 Tachwedd 2016.
Rydw i wedi derbyn cwestiwn brys o dan Reol Sefydlog 12.66, ac rydw i’n galw ar Eluned Morgan i ofyn y cwestiwn brys.
Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael â Llywodraeth y DU yn sgil cyhoeddiad y Weinyddiaeth Amddiffyn ei bod yn bwriadu cau nifer o safleoedd yng Nghymru? EAQ(5)0059(CC)
Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Ni chefais fy hysbysu gan Lywodraeth y DU cyn cyhoeddiad ddoe, ond, o ystyried ei natur, byddaf yn gofyn am drafodaeth frys, yn fuan gyda Gweinidogion y DU.
Diolch i chi, ac mae clywed na chawsoch hyd yn oed eich hysbysu am y cyhoeddiad hwn yn achosi cryn bryder i mi. Bydd y cyhoeddiad, wrth gwrs, ynghylch cau a gwerthu barics Aberhonddu, clos storio Pont Senni a barics Cawdor yn achosi ansicrwydd sylweddol yn y canolbarth a’r gorllewin a thu hwnt. Mae'r rhain yn ardaloedd sydd â thraddodiad milwrol hir a balch. Bu barics yn Aberhonddu er 1805, ac mae milwyr o’r barics wedi gwasanaethu ym mhob brwydr arfog ers dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae cau’r canolfannau milwrol hyn yn achos tristwch enfawr ac mae'n siom aruthrol i'r teuluoedd sydd wedi byw yno dros y degawdau diwethaf bod y cyfleusterau poblogaidd iawn hyn yn mynd i gael eu gwerthu. Bydd y cyhoeddiad hwn yn achosi ansicrwydd enfawr i'n teuluoedd yn y fyddin a bydd cau’r canolfannau yn cael effaith gymdeithasol ac economaidd ehangach yn Sir Benfro a Phowys.
Dywedodd yr Ysgrifennydd amddiffyn ddoe y bydd ei adran yn gweithio gyda'r gweinyddiaethau datganoledig i roi hwb i economïau lleol yng ngoleuni’r cyhoeddiad hwn, a hoffwn ofyn pa ddarpariaethau fydd yn cael eu rhoi ar waith i gynorthwyo gweithwyr sifil a milwrol na ellir eu hadleoli o’r canolfannau hyn mewn ardaloedd gwledig, sydd eisoes yn dioddef gyda rhagolygon cyflogaeth isel. Tybed a allai ef ddweud wrthym pa un a fydd yn ysgrifennu at y Gweinidog cyfrifol i ofyn sut y mae’n bwriadu cyflwyno’r cydweithrediad hwn y cyhoeddwyd ddoe ei fod yn mynd i’w gyflwyno.
Dywedodd yr Ysgrifennydd amddiffyn hefyd ddoe y bydd yr holl arian a gynhyrchir o werthu tir y safleoedd hyn yn cael ei fuddsoddi yn ôl mewn diwallu anghenion y lluoedd arfog. Er bod hyn, wrth gwrs, yn newyddion da i’r lluoedd arfog, a yw'r Gweinidog wedi gwneud unrhyw gyfrifiad o ran faint o arian fydd yn cael ei golli i Gymru wledig o ganlyniad i'r cyhoeddiad hwn? Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi gwneud llawer o ryddhau tir sy'n eiddo cyhoeddus ar gyfer adeiladu cartrefi newydd. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu ai’r bwriad yng Nghymru, hefyd, yw adeiladu cartrefi ar y safleoedd hyn?
Rwy'n ddiolchgar am y cwestiynau gan yr Aelod. Wrth gwrs, mae’r ardal y mae'n sôn amdani wedi ei thrwytho yn hanes y lluoedd arfog a'r gefnogaeth i gymunedau lleol hefyd. Yn wir, rwyf eisoes wedi cyfarfod â Joyce Watson, chi eich hun a Kirsty Williams, yr Aelod lleol, y bore yma, i siarad am yr union faterion hyn yr ydych chi’n eu codi. Byddaf yn gwneud hynny’n rhan o’m llythyr i’r Weinyddiaeth ynglŷn â hyn. Mae penderfyniadau ynghylch ystadau amddiffyn yn fater a gadwyd, ond ceir canlyniadau eraill, canlyniadau anuniongyrchol, o adael cymunedau. Rwyf yn credu bod gan y lluoedd arfog gysylltiad cryf a bod yn rhaid iddynt gynnal hwnnw am flynyddoedd lawer i ddod o ran unrhyw helbul a allai fod wedi ei achosi drwy adael cymuned fel eich un chi.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n siŵr fy mod i’n siarad dros lawer o bobl yn Sir Benfro pan ddywedaf fod milwyr barics Cawdor a'u teuluoedd yn rhan bwysig o'n cymuned leol ac yn gymorth mawr i'n heconomi leol. Felly, rwy'n hynod o siomedig a rhwystredig bod Llywodraeth y DU wedi gwneud y penderfyniad hwn. Rwyf hefyd yn drist bod y penderfyniad cynharach i gau’r 14eg Catrawd Signalau ar agenda’r Weinyddiaeth Amddiffyn erbyn hyn, o ystyried ein bod wedi ein hysbysu y llynedd y byddai'r barics yn aros ar agor. Rwy'n falch iawn o'r gefnogaeth y mae Sir Benfro wedi ei chynnig i’n personél lluoedd arfog a'u teuluoedd ym marics Cawdor dros y blynyddoedd. Mae’r teuluoedd hynny wedi cael eu hintegreiddio'n llawn i’n cymuned leol, ac mae'n bechod y bydd y cydlyniad cymunedol gwych hwnnw’n cael ei golli pan fydd y barics yn cau yn 2024.
Felly, yng ngoleuni bwriad Llywodraeth y DU i gau’r barics hyn ym Mreudeth, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu pa drafodaethau y bydd yn eu cael gyda'i gydweithiwr Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith ynglŷn ag effaith y penderfyniad hwn ar ddatblygu economaidd ac adfywio yn Sir Benfro yn y dyfodol? O gofio na fydd y cam arfaethedig o gau’r barics yn digwydd tan 2024, pa drafodaethau fydd Ysgrifennydd y Cabinet—a’i gydweithwyr yn y Cabinet yn wir—yn eu cael gyda Chyngor Sir Penfro a rhanddeiliaid lleol i gynllunio ymlaen llaw, ac yn wir i liniaru yn erbyn unrhyw effeithiau economaidd negyddol o ganlyniad i'r penderfyniad hwn,? Yn olaf, Lywydd, yn ychwanegol i gwestiynau Eluned Morgan, pa gymorth a chefnogaeth ychwanegol y gall Llywodraeth Cymru eu rhoi nawr i staff sy’n sifiliad a gyflogir yn y barics drwy'r cyfnod trosiannol hwn er mwyn sicrhau bod ganddynt fynediad at ystod lawn o gyfleoedd swyddi a hyfforddiant?
Diolch i'r Aelod am ei gwestiynau. Rwy’n rhannu ei rwystredigaeth a’i bryder ynghylch camau Llywodraeth y DU i gael gwared ar ganolfannau’r lluoedd arfog o Gymru. Mae'r lluoedd arfog yn cael eu gwerthfawrogi yng Nghymru, ac maen nhw’n dod â llawer o fanteision economaidd a chymdeithasol i gymunedau ar draws ein cymunedau—mae’r Aelod yn cyfeirio at nifer ohonynt.
Byddaf yn cychwyn deialog gyda Gweinidog Llywodraeth y DU ynghylch y lluoedd arfog o ran y camau gweithredu y credaf y dylen nhw eu cymryd. Nid wyf yn credu y dylen nhw gerdded i ffwrdd oddi wrth ymrwymiadau mewn cymunedau. Mae’r lluoedd arfog wedi bod gyda ni ers blynyddoedd lawer, ac mae croeso mawr iddyn nhw yma. Hoffwn gael sicrwydd nad yw'r ymadawiad ar gyfer y lluoedd arfog yn unig ond yn y gefnogaeth i'r gymuned leol hefyd mewn gwirionedd. Mae'r breswylfa ym mywyd sifiliad yn un pwysig. Rwyf eisoes wedi dechrau trafodaethau gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros seilwaith ynghylch gweithio ar y cyd, o ran adfywio economaidd. Gwn ei fod yn cyfarfod â'r arweinydd yn Sir Benfro yn fuan iawn, a byddwn yn parhau â’r trafodaethau hynny. Ond i gychwyn, mae’n rhaid i ni ddechrau’r deialog gyda Gweinidogion y DU, er mwyn cael ein hysbysu’n llawn am yr effaith o ran llinell amser a’r cynlluniau ymadael y maen nhw wedi eu cynnig.
Ysgrifennydd y Cabinet, yr wythnos hon, o bob wythnos, rydym ni’n myfyrio, a dweud y gwir, ar y cysylltiad rhwng y lluoedd arfog a'r cyhoedd, yn enwedig yn yr ardaloedd lle maen nhw’n byw. Mae'r cynlluniau hyn, trwy ganolbwyntio personél mewn llai o ganolfannau, yn arwain at berygl o erydu’r berthynas arbennig honno, a dyna un o’m hofnau. Fel y gwyddoch, cefais fy magu mewn barics yn y gorllewin ac roedd barics Cawdor bob amser yn rhan o'r gymuned honno, a gall yr un peth fod yn wir yn Aberhonddu.
Un o'r pethau efallai nad ydych yn ei wybod yw i mi ddechrau fy mywyd fel plentyn rhywun a oedd yn gwasanaethu yn y lluoedd arfog, yn Nhywyn yn gyntaf oll ac yna ym Maenorbŷr yn ail. Pan gaewyd y gwersylloedd hynny, fe wnaeth wadu cyfleoedd gwaith ac arian i'r cymunedau hynny a oedd wedi bodoli ers blynyddoedd lawer. Does dim ond rhaid i chi fynd yn ôl i'r cymunedau hynny, fel yr wyf i’n ei wneud, i weld yr effaith negyddol y mae cael gwared ar y gwasanaethau a’r swyddi hyn o'r cymunedau hynny wedi ei chael. Oherwydd, y peth arall sy'n digwydd pan fydd gennych chi luoedd arfog yn byw mewn etholaeth yw eu bod hefyd yn cyflenwi plant i'r ysgol leol ac yn helpu i gadw'r ysgolion hynny ar agor. Maen nhw hefyd, mewn rhai achosion, yn darparu staff er mwyn helpu i gadw eich ysbytai ar agor. Felly, mae'r effaith yn llawer mwy nag y gellid efallai ei gweld yn wreiddiol. Fel y dywedais, ar ôl cael fy magu yn y gymuned honno, rwy’n deall yn iawn yr effaith a fydd yn cael ei theimlo yn eithaf eglur, gan y bydd llawer iawn o’r personél yno yn gwirfoddoli yn y cymunedau hynny ac yn helpu i redeg clybiau a chymdeithasau eraill. Oherwydd yr un peth y gallan nhw ei wneud yw trefnu. Felly, mae’r effaith yn mynd i fod yn sylweddol. Gobeithio, pan fyddwch chi’n cael y sgyrsiau hyn, y bydd yr effaith gyffredinol yn cael ei thrafod, nid dim ond yr holl bethau eraill sydd wedi eu trafod—ac na wnaf eu hailadrodd—eisoes y prynhawn yma.
Rwy'n ddiolchgar iawn am eiriau’r Aelod lleol, yn disgrifio'r materion a fydd yn effeithio ar Sir Benfro a'r gymuned leol. Rwyf hefyd yn cydnabod nad yw hyn yn ymwneud â’r lluoedd arfog, ynddynt eu hunain, yn unig. Mae'n fater cydnerthedd cymuned gyfan. Credaf yn gryf fod gan bob Llywodraeth, o ba bynnag liw gwleidyddol, ddyletswydd i gefnogi cymunedau lle mae'r lluoedd arfog wedi eu lleoli a lle’r oeddent wedi eu lleoli. Ceir mater o etifeddiaeth yma y byddaf yn ei drafod gyda'r Gweinidog, a bydd y materion y mae'r Aelodau yn eu codi yn y Siambr gyda mi heddiw yn rhan o'r drafodaeth honno.
Nid wyf yn or-sentimental am leoliad y lluoedd arfog, ac rwy’n cofio i farics Aberhonddu gael eu defnyddio i drechu gwrthryfel y dosbarth gweithiol ym Merthyr Tudful ym 1831 hefyd, ond rwy’n credu ei bod yn bwysig ein bod ni’n gweld llawer o ganolfannau’r fyddin yn cael eu lleoli mewn cymunedau yng Nghymru. Rwy'n credu ei bod yn bwysig bod llawer o'n pobl ifanc sy'n gwasanaethu yn y lluoedd arfog yn gallu cynnal eu cysylltiadau gyda'u cymunedau eu hunain a chyda'u teuluoedd. Ac rwy’n meddwl ei bod yn dda i les y milwyr a phersonél arall y fyddin bod y cysylltiad lleol hwnnw ganddynt gyda chymunedau. Felly, mae'n siomedig iawn ein bod ni’n gweld penderfyniad unochrog yn cael ei wneud i ddadwreiddio cyfleusterau hirsefydlog sydd â chefnogaeth y gymuned leol a lle gall pobl integreiddio yn y ffordd honno.
Rwy’n siomedig iawn hefyd o glywed na hysbyswyd y Llywodraeth am hyn. Mae’n debyg nad oeddwn i’n disgwyl cael fy hysbysu fel Aelod o'r Cynulliad am yr hyn y mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn ei wneud, ond rwy’n meddwl ei bod yn anffodus iawn ein bod ni i gyd yn clywed gan y wasg pan fydd y pethau hyn yn effeithio'n uniongyrchol ar y cymunedau yr ydym ni’n eu cynrychioli. Pa drafodaeth all y Gweinidog ei chael nawr gyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn ynglŷn â'r ffaith fod Cymru, mewn gwirionedd, pan edrychwch chi ar y rhestr—pa un a yw’n recriwtio, neu’n gaffael—yn gorddarparu i'r Weinyddiaeth Amddiffyn, rydym ni’n gorddarparu i’r lluoedd arfog, ac rydym ni’n cael tan-ddarpariaeth o ran buddsoddiad yng Nghymru, o ran gwariant yng Nghymru, o ran dim ond lleoliad ffisegol ein dynion a menywod yn y lluoedd arfog yng Nghymru? Yn syml, nid oes lleoliad ar eu cyfer. Gan fod y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi dweud nad yw hyn yn golygu cau’r cyfleusterau hyn yn gyfan gwbl—er enghraifft, mae'n debyg fod barics Aberhonddu i fod i symud i rywle arall—pa drafodaeth mae e’n ei chael nawr, neu'n gallu ei chael, gyda Llywodraeth San Steffan ynglŷn â lle y gallai’r lleoliad hwnnw fod? A, beth yw'r gynhaliaeth, felly, ar bencadlys—pencadlys cysyniadol, beth bynnag—y fyddin yng Nghymru, fel petai, sef yr hyn y mae barics Aberhonddu, i bob pwrpas, yn ei ddarparu i lawer, yn fy marn i?
Fel cwestiwn olaf, ceir cymuned benodol sydd wedi gwasanaethu pobl Aberhonddu ers amser maith, wedi gwasanaethu ein lluoedd arfog ers amser maith ac yn frwd, ac sy’n amlwg iawn yn y gymuned yn Aberhonddu ac, yn wir, ym Mlaenau'r Cymoedd nawr, sef y gymuned Nepalaidd, sydd wedi bod mor ffyddlon i luoedd arfog y Deyrnas Unedig dros y blynyddoedd. Pa drafodaeth y mae’n gallu ei chael gyda’r gymuned honno nawr? Mewn un ystyr, mae dadwreiddio’r bobl o Aberhonddu yn eu dadwreiddio hwythau o’r cyd-destun a ddaeth â nhw yno ac yn eu galluogi—[Torri ar draws.] Wrth gwrs, nid ydynt yn y barics. Rwy’n gwybod hynny. Mae'n dadwreiddio, er hynny, lleoliad y gefnogaeth y maen nhw wedi ei chael gan gyd-filwyr yn y gorffennol, ac mae'n dadwreiddio’r cyd-destun sydd wedi dod â nhw i ganolbarth Cymru. Mae angen eu sicrhau bod croeso iddyn nhw yma o hyd ac y byddwn yn cyflwyno gwasanaethau cymorth i’w caniatáu i fyw eu bywydau yn y canolbarth yn y dyfodol.
Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Mae e'n iawn i ddweud bod cymunedau wedi eu ffurfio o gwmpas llawer o’r canolfannau hyn, a cheir cysylltiadau hirsefydlog rhwng y lluoedd arfog a chymunedau lleol. Mewn llawer o achosion, maen nhw’n gysylltiadau da iawn ac maen nhw’n gweithio yn y cymunedau—fel y dywedodd Joyce Watson, mae'n ymwneud â gwirfoddoli a rhannu sgiliau a chyfleoedd. Mae gennym ni berthynas dda iawn gyda'r lluoedd arfog—y fyddin, y llynges a'r Awyrlu Brenhinol— a gwasanaethau brys eraill yma yng Nghymru. Gwnaed y cyhoeddiad hwn gan Lywodraeth y DU, ac rydym ni’n siomedig hefyd na chawsom rybudd am hyn. Ceir canlyniadau anuniongyrchol o ymadael; nid wyf yn ymwybodol eto o'r darlun cyfan. Nid ydym wedi cael amser i ganfod beth yw’r pryderon hynny, ond wrth gwrs mae pobl mewn cymunedau fel y Gyrcas, y Nepalwyr a phobl ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed yn rhan o'r gymuned leol. Wrth gwrs, byddwn yn ystyried beth fydd yr effaith ar y gymuned honno ac ar gymunedau ehangach yn Aberhonddu, a hefyd yn Sir Benfro. Ond rwy’n dychwelyd at yr hyn a ddywedais yn gynharach: Rwy’n credu bod gan Lywodraeth y DU ddyletswydd i gefnogi strategaethau ymadael ar gyfer unrhyw gymunedau y maen nhw’n tynnu canolfannau oddi arnynt yma yng Nghymru.
Rwy’n rhannu'r siom a’r rhwystredigaeth a fynegwyd yn huawdl gan Ysgrifennydd y Cabinet ac Aelodau eraill sydd wedi siarad y prynhawn yma. Ond onid yw’r penderfyniad hwn yn un o lawer sy'n cael eu gwneud o ganlyniad i'r penderfyniad gan Lywodraeth y DU, wedi’i chefnogi’n frwd gan yr holl bleidiau eraill yn y Cynulliad hwn, i dorri'r gyllideb amddiffyn a lleihau’r fyddin i ddim ond 82,000 o ddynion a menywod sy’n gwasanaethu? Ac mae'n amlwg mai’r canlyniad fydd penderfyniadau o'r math hwn. Er bod y gyllideb cymorth tramor wedi ei glustnodi, mae'r gyllideb amddiffyn wedi ei thorri at yr asgwrn, felly rwy’n meddwl y dylai’r holl Aelodau, ym mhob plaid arall, dderbyn eu rhan yn y cyfrifoldeb am y penderfyniad sydd wedi ei wneud.
Penderfyniad Llywodraeth y DU yw hwn. Rwy'n siomedig bod yr Aelod yn meddwl ei bod yn briodol ymosod ar y gyllideb cymorth tramor—rwy'n credu bod honno'n angenrheidiol hefyd. Ond bydd yn rhaid ystyried effaith y penderfyniad hwn yn llawn. Byddaf yn sgwrsio ymhellach gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU o ran yr effaith y mae wedi ei chael yng Nghymru.
Diolch, Ysgrifennydd Cabinet.