– Senedd Cymru am 4:23 pm ar 8 Tachwedd 2016.
Yr eitem nesaf yw’r datganiad gan y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth ar fand eang cyflym iawn. Rwy’n galw ar y Gweinidog i wneud ei datganiad—Julie James.
Diolch, Lywydd. Yn dilyn fy natganiad ysgrifenedig ddoe rwyf eisiau ailddatgan y cynlluniau hynny ar gyfer buddsoddiad pellach mewn band eang cyflym iawn yn dilyn gorffen rhaglen Cyflymu Cymru y flwyddyn nesaf. Rydym ni wedi bod yn glir iawn ynglŷn â’n huchelgeisiau o ran y rhaglen 'Symud Cymru Ymlaen’ i gyflwyno band eang cyflym a dibynadwy i bob eiddo yng Nghymru. Ni ddylid diystyru ein cyflawniadau hyd yn hyn. Mae Cyflymu Cymru yn brosiect anferth sydd bellach wedi cyflwyno band eang cyflym iawn i bron i 614,000 o gartrefi a busnesau, ac wedi buddsoddi dros £162 miliwn o gyllid yr UE a chyllid cyhoeddus. I fod yn glir, mae hyn yn golygu bod 614,000 o safleoedd na fyddent wedi gallu cael band eang ffeibr cyflym heb ein hymyrraeth ni.
Nid ydym wedi gorffen eto. Yn ystod y flwyddyn olaf, bydd 100,000 o safleoedd ychwanegol yn cael band eang ffeibr cyflym. Bydd hyn yn golygu buddsoddi hyd at £62 miliwn arall. Ond nid dyna fydd ei diwedd hi. Rydym yn asesu’r ymatebion i'r ymgynghoriad diweddar gyda'r diwydiant telathrebu ar hyn o bryd ynglŷn â £12.9 miliwn ychwanegol i ehangu cwmpas y prosiect Cyflymu Cymru y flwyddyn nesaf. Dyma'r swm a ragwelwyd gan BT a fydd yn dychwelyd i’r pwrs cyhoeddus drwy’r cymal rhannu enillion yn rhan o’r contract Cyflymu Cymru cyfredol. Mae angen o hyd i ni gynnal dadansoddiad a deialog manwl â BT ac rydym ni’n disgwyl y bydd y cyllid ychwanegol hwn yn ein galluogi i gyrraedd safleoedd ychwanegol yn rhan o’r contract Cyflymu Cymru erbyn mis Rhagfyr 2017.
O gofio y bydd y contract Cyflymu Cymru yn dod i ben y flwyddyn nesaf, rydym eisoes wedi dechrau ar y gwaith paratoi angenrheidiol er mwyn sefydlu'r prosiect olynol ar gyfer buddsoddi mewn band eang. I ailadrodd, mae'r cymal rhannu enillion yn caniatáu i Lywodraeth Cymru elwa ar lwyddiant ein buddsoddiad yn rhwydwaith BT drwy’r prosiect Cyflymu Cymru. Caiff ein cyfran ni ei buddsoddi mewn cronfa, naill ai i’w hailfuddsoddi yn y prosiect neu ei dychwelyd, gan gynnwys llog, i Lywodraeth Cymru yn 2023.
Rydym yn rhagweld, yn seiliedig ar fodelu manwl, y bydd cronfa fuddsoddi Cyflymu Cymru yn y pen draw yn cynhyrchu rhwng £30 miliwn a £50 miliwn erbyn 2023 wrth i ddefnydd o’r gwasanaethau ffeibr a ariannir gan ein buddsoddiad gyrraedd rhwng 35 y cant a 50 y cant dros y cyfnod hwnnw. Byddwn yn cefnogi’r gweithgarwch hwn drwy ein hymrwymiad i ddarparu £20 miliwn dros y pedair blynedd nesaf i gefnogi'r gweithgarwch hwn ac i ysgogi buddsoddiad ychwanegol sylweddol.
Rydym yn y cyfnod cynnar o drafodaethau gyda Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru i sicrhau £20 miliwn ychwanegol o gronfeydd strwythurol er mwyn parhau â'r broses o gyflwyno band eang cyflym iawn. Rydym yn parhau i fod yn ffyddiog y bydd y cyllid ar gael, yn amodol ar gymeradwyaeth gan WEFO, o ganlyniad i warant Trysorlys y DU i anrhydeddu ceisiadau yr UE a gymeradwywyd cyn i’r DU adael yr UE. Byddwn yn parhau i roi pwysau ar Lywodraeth y DU i fuddsoddi mwy yng Nghymru a fydd yn adeiladu ar lwyddiant Cyflymu Cymru a chyfrannu at nodau polisi Llywodraeth y DU. Mae gennym ymrwymiad o £2 filiwn heb ei dalu gan Lywodraeth y DU hefyd tuag at brosiect newydd ar gyfer band eang cyflym iawn.
O gynnwys hyn i gyd, caiff rhaglen Cyflymu Cymru ei thanategu gan gyllideb sector cyhoeddus o hyd at £80 miliwn, a bydd hyn yn ei dro yn ysgogi cyllid cyfatebol gan y sector preifat i ehangu cwmpas band eang ymhellach i'r safleoedd anoddaf i’w cyrraedd ledled Cymru erbyn 2020. Bydd cynllun Allwedd Band Eang Cymru yn parhau i chwarae rhan, gan gyfrannu £1.5 miliwn ychwanegol dros y ddwy flynedd nesaf er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth hanfodol hwn yn gweithredu ochr yn ochr â phrosiect Cyflymu Cymru a phrosiectau olynol, a bod cyllid cyfatebol wedi’i sefydlu i ymestyn y cynllun am ddwy flynedd arall y tu hwnt i 2018.
Byddwn yn lansio adolygiad marchnad agored y mis hwn i sefydlu, ar lefel safle fesul safle, lle mae darpariaeth band eang cyflym iawn wedi ei gyflenwi hyd yn hyn a ble y mae’r farchnad yn bwriadu buddsoddi yn ystod y tair blynedd nesaf. Byddwn hefyd yn ymgysylltu â'r farchnad delathrebu dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf er mwyn helpu i lunio a llywio ein hardal ymyrraeth a’n strategaeth gaffael. Wrth ddatblygu'r ymyrraeth nesaf, bydd gwerth am arian yn parhau i fod yn flaenoriaeth, ac mae angen i mi atgoffa’r Aelodau na allwn ddarparu cysylltedd ffeibr heb ystyried y gost.
Ar hyn o bryd rydym yn gobeithio lansio'r broses gaffael ym mis Chwefror 2017 er mwyn gallu dyfarnu contract ym mis Ionawr 2018. Bydd cyrraedd yr ychydig y cant olaf yn heriol a bydd yn cymryd amser, ond o ddechrau yn awr, byddwn yn y sefyllfa orau bosibl pan ddaw'r prosiect Cyflymu Cymru i ben y flwyddyn nesaf. Diolch.
Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw, a diolch am y datganiad ysgrifenedig ddoe, sydd, wrth gwrs, yn ddefnyddiol cyn y datganiad heddiw. Rwy'n ddiolchgar iawn am hynny. Hoffwn feddwl fod canlyniad y cyhoeddiad heddiw yn ganlyniad y cyfraniadau a wnaed yn nadl y Ceidwadwyr Cymreig yr wythnos diwethaf.
Rwy’n gobeithio y caiff llawer o'r trigolion rhwystredig iawn hynny sydd eto i weld budd prosiect Cyflymu Cymru, eu calonogi gan y ffaith fod y cyllid ychwanegol wedi’i neilltuo ar gyfer sicrhau bod band eang cyflym iawn ar gael yn gyffredinol ac er mwyn ymestyn cwmpas band eang i'r safleoedd anoddaf eu cyrraedd, erbyn 2020. Bydd pobl yn amheus gan na chyflawnwyd ymrwymiadau blaenorol—nid wyf am ailadrodd dadl yr wythnos diwethaf—ond rwy’n croesawu'r buddsoddiad newydd heddiw.
Wrth i'r prosiect Cyflymu Cymru fynd yn ei flaen, mae’r ddadl, yn fy marn i, yn pellhau oddi wrth sicrhau bod band eang cyflym iawn ar gael i bobl, ac yn nes at y defnydd ohono. Ei flaenoriaeth, yn fy marn i, o ran gwerth am arian o'r pwrs cyhoeddus ac o ran darparu band eang cyflym a dibynadwy i bob eiddo yng Nghymru, yw rhoi llawer mwy o sylw i annog defnydd ehangach ohono. Rwy’n credu, yn anffodus, nad ydym wedi cael gwybod ryw lawer heddiw am y mesurau pendant y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i’w cymryd i ysgogi galw. Yn fy marn i, un peth yw cael seilwaith o'r radd flaenaf, ond os nad oes neb yn ei ddefnyddio, mae'r cyfle wedi’i wastraffu.
Un o'r beirniadaethau a gefais ynglŷn â’r contract gwreiddiol oedd mai dim ond 0.6 y cant o ddyraniad y gyllideb wreiddiol ar gyfer y prosiect Cyflymu Cymru a neilltuwyd i annog pobl i ddefnyddio band eang cyflym iawn. Gwnaeth y gwerthusiad o raglen band eang nesaf Cymru dynnu sylw hefyd at y diffyg cydgysylltedd a dull strategol o farchnata a chyfathrebu. Felly, byddwn i’n ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog nodi sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu annog defnydd cyffredinol.
Yn eich datganiad, Weinidog, rydych chi’n cyfeirio at y ffaith y bydd Llywodraeth Cymru yn elwa ar y cymal rhannu enillion yn rhan o’r contract Cyflymu Cymru, sy'n golygu y bydd rhwng £30 miliwn a £50 miliwn ar gael erbyn 2023 i’w ailfuddsoddi. O ystyried y ffaith bod pa un a yw’r cyllid hwn ar gael yn ddibynnol ar gynyddu’r nifer sy’n manteisio ar y cynllun, pa gyfran o'r £80 miliwn o gyllid cyhoeddus a gaiff ei neilltuo yn benodol ar gyfer annog datblygu band eang cyflym iawn yn yr ardal ymyrraeth?
Rydych chi hefyd wedi cadarnhau mai 29 y cant o'r ardal ymyrraeth sy’n manteisio ledled Cymru ar fand eang cyflym iawn. Fodd bynnag, a gaf i ofyn i chi ddarparu dadansoddiad o'r ffigurau fesul awdurdod lleol? Roedd y ffigurau diweddaraf a welais mewn cysylltiad â manteisio yn dangos, er gwaethaf y 96 y cant ym Mlaenau Gwent a’r 93 y cant ym Merthyr yn y drefn honno, dim ond 17 y cant a wnaeth fanteisio. Prin bod honno’n gyfradd wych o drosi.
Ac yn olaf, rwyf hefyd yn credu nad yw’r 35 y cant a’r 50 y cant y rhagwelir fydd yn manteisio, yn ganrannau digon uchelgeisiol. Awgryma adroddiad diweddar gan BT y gallai 80 y cant o'r holl eiddo yn y DU fod yn defnyddio band eang cyflym iawn erbyn 2020. Felly, a gaf i ofyn i chi pa fwriad sydd gennych o gynyddu eich targed 2015?
Diolch i chi am y cwestiynau yna. Ni soniodd Russell George am y ffaith iddo fynnu cael gwybod yn y pwyllgor fore dydd Iau diwethaf, pa bryd y byddai fy natganiad nesaf yn cael ei gyhoeddi, ac addewais iddo y byddai'n cael ei gyhoeddi cyn y Nadolig. Felly, roeddwn i’n rhyw obeithio y byddech chi’n rhoi clod i mi am ei gyhoeddi’n eithaf cyflym, dim ond dau ddiwrnod yn ddiweddarach.
O ran defnydd, mae gennym ymchwil annibynnol i ddangos i ni beth sy'n bosibl a beth sy’n uchelgeisiol. Fel sy’n wir gyda phob technoleg newydd, ceir cromlin safonol y mae’r pethau hyn yn ei dilyn, felly mae tua 29 y cant ar hyn o bryd oddeutu’r hyn y byddech chi’n ei ddisgwyl, ac mae hynny wedyn yn cyflymu wrth i dechnoleg ymwreiddio. Mae ein gwaith ymchwil annibynnol yn dangos i ni fod rhywle rhwng 35 a 50 y cant yn amcangyfrif realistig o'r hyn y gallem ni ei ddisgwyl. Yn amlwg, mae gennym ni ymgyrch farchnata ac mae gennym ni ymgyrch yn ymwneud â manteisio. Mae'r rhain, wrth gwrs, yn ategu’r holl ymgyrchoedd preifat a gynhaliwyd gan y darparwyr gwasanaeth rhyngrwyd i gyd—rydym i gyd yn cael lluoedd ohonyn nhw bob dydd. Maen nhw yn ychwanegol at hynny. Felly, nid wyf yn credu bod modd i chi ddweud nad yw pobl yn ymwybodol o fand eang. A bydd Russell George hefyd yn ymwybodol ein bod yn gweithredu mewn modd ychydig yn sensitif mewn rhai ardaloedd yng Nghymru, oherwydd nad ydym ni eisiau codi gobeithion pobl nad oes ganddynt fand eang hyd yn hyn yn ormodol.
Felly, yr hyn y byddwn yn annog yr Aelodau i’w wneud yw chwarae eu rhan ledled Cymru, fel y dywedais yn y ddadl yr wythnos diwethaf, i annog eu hetholwyr i fanteisio ar y band eang sydd ar gael iddyn nhw, ac annog etholwyr sydd, yn ddealladwy iawn, yn teimlo'n rhwystredig am nad oes band eang ar gael iddynt, i annog eu cymdogion y mae band eang ar gael iddynt i fanteisio arno, oherwydd, yn amlwg, mae'r arian a gawn ni drwy rannu enillion yn cynyddu ar gyfer pob un o'r canrannau hynny a gawn. Ac felly, mae'n neges gadarnhaol iawn, os gallwch chi berswadio eich cymdogion i ddefnyddio’r band eang sydd ar gael iddynt, yna bydd gan Lywodraeth Cymru ragor o arian i wneud yn siŵr ein bod yn gallu ei ddarparu i bobl eraill.
Wrth i’r ymgyrch ledaenu ar draws Cymru, fel y dywedais yr wythnos diwethaf, byddwn ni’n rhannu ag Aelodau ble y mae yn eu hardal benodol nhw, yn eu hetholaeth neu eu rhanbarth nhw, ac rydym ni wir yn gobeithio y bydd Aelodau yn ein cefnogi â’r marchnata hwnnw, oherwydd, yn amlwg, po fwyaf yr arian a gawn, y gorau. Pe byddem yn cyrraedd 80 y cant, byddai hynny'n wych, oherwydd byddai gennym gymaint yn fwy o arian i ddarparu band eang cyflym iawn neu unrhyw dechnoleg arall i bobl.
Ac ar y nodyn hwnnw, y pwynt yw, wrth gwrs, ar gyfer rhai o'r safleoedd anoddaf eu cyrraedd yng Nghymru, nid band eang ffeibr ar ffurf cebl i'ch tŷ fydd hynny. Ond mae'r dechnoleg yn symud yn gyflym, ac felly byddwn yn darparu band eang cyflym iawn i bobl; efallai mai microdon neu dechnoleg lloeren fydd hynny. Ar y sail honno, nid wyf yn dweud y byddwn ni’n gosod un contract monolithig i’w weithredu hyd at ddiwedd y prosiect Cyflymu Cymru; efallai y byddwn ni’n gosod contractau unigol mewn gwahanol ardaloedd, fel y gall BBaChau a darparwyr technoleg eraill gymryd rhan yn y broses gaffael honno, a byddem ni’n awyddus iawn i sicrhau bod hynny’n gallu digwydd.
Diolch yn fawr, Lywydd, a diolch i’r Gweinidog am y datganiad yma ar fand eang cyflym. Rydych yn sôn yn y datganiad bod gwaith modelu a rhagolygu gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn awgrymu y bydd cronfa fuddsoddi Cyflymu Cymru yn cynhyrchu rhwng £30 miliwn a £50 miliwn erbyn 2023, wrth i rhwng 35 y cant a 50 y cant dros y cyfnod hwnnw ddewis defnyddio’r gwasanaethau. So, beth sy’n deillio o hynny? Yn ôl gwerthusiad o raglen band eang y genhedlaeth nesaf yng Nghymru, mae disgwyl i’r lefel fanteisio gyrraedd 80 y cant erbyn 2020. A allaf i ofyn felly pa asesiadau y mae’r Llywodraeth wedi’u gwneud o unrhyw arian ychwanegol a gaiff ei gynhyrchu os yw’r asesiad hwn yn gywir? Ac yn dilyn y cwestiwn ar pam nad yw pawb sydd yn gallu cael band eang yn cael band eang a’r angen weithiau i godi ymwybyddiaeth, a allaf i ofyn a fydd unrhyw ran o’r buddsoddiad ychwanegol sydd wedi cael ei gyhoeddi heddiw yn cael ei ddyrannu er mwyn codi ymwybyddiaeth ac annog pobl i ddefnyddio’r ddarpariaeth, os ydy hi ar gael? Diolch yn fawr.
Wrth ailadrodd fy atebion i Russell George felly, mae gennym ymgyrch band eang lleol gwerth £1.15 miliwn a phrosiect busnes band eang cyflym iawn gwerth £12.5 miliwn, sy'n marchnata’r cynllun i fusnesau ac er mwyn annog defnydd. Rydym ni’n cydweithio'n agos â Busnes Cymru hefyd er mwyn sicrhau bod busnesau bach yn arbennig yn ymwybodol o'r hyn y gall band eang cyflym iawn ei gyflawni mewn gwirionedd ar gyfer eu busnes. Felly, nid yw’n ymwneud â defnydd yn unig i ni, mae'n ymwneud ag ysgogi twf economaidd Cymru, oherwydd hyd nes y bydd gennych chi fand eang cyflym, weithiau mae'n anodd iawn dychmygu’r hyn y gellir ei wneud ag ef mewn gwirionedd. Felly, mae gennym ni brosiect lle y mae cynghorwyr busnes yn helpu pobl i ddeall pa bethau eraill y gallent ei wneud yn eu busnes pe byddai ganddyn nhw fand eang cyflym iawn.
Ddoe, cefais y fraint o ymweld â chwmni bwyd Puffin draw yn Sir Benfro, cwmni da iawn, a gweld eu technoleg anhygoel y maen nhw’n ei defnyddio wrth gynhyrchu bwyd sylfaenol, wrth gwrs. Maen nhw wedi newid mewn gwirionedd o ddefnyddio band eang cyflym iawn— sef y rheswm pam yr oeddwn i yno i wneud y cyhoeddiad—i fuddsoddi yn ein cynllun taleb gwibgyswllt, oherwydd, gan eu bod yn deall yr hyn y gall y peth ei wneud ar eu cyfer nhw, maen nhw wedi sylweddoli bod buddsoddi mewn gwibgyswllt ar gyfer eu busnes yn fuddsoddiad busnes synhwyrol iawn. Felly, dyna beth yw ein nod mewn gwirionedd. Rydym ni’n bwriadu rhoi gwybod i bobl sut y gall buddsoddi ynddo fod o fudd iddyn nhw ac, felly, y gallai fod yn werth iddyn nhw fuddsoddi mewn adnoddau ychwanegol.
O ran yr hyn yr ydym ni wedi’i amcangyfrif o ran rhannu enillion, mae’r enillion a rennir yn cynyddu’n gyflymach o hyd, felly os cawn ni ganran uwch o ran defnydd cawn yr un lefel o rannu enillion. Rydym ni’n ei seilio ar 35 i 50 y cant gan fod hynny'n amcangyfrif rhesymol. Cofiwch nad targed yw hyn—nid wyf yn pennu targed isel i mi fy hun—amcangyfrif darbodus da o'r arian y gallai ei godi yw hwn. Os yw'n codi mwy o arian, yna byddwn ni’n sicrhau bod gennym ni’r darpariaethau cytundebol ar waith i wario'r arian ychwanegol, ac mae hynny i gyd er lles. Yn amlwg, wrth osod y contract, eto, nid ydym ni’n dymuno bod rhy uchelgeisiol, felly rydym ni’n ei osod gan ddilyn yr hyn y mae gwaith ymchwil annibynnol wedi ei ddweud wrthym sy’n lefel rhesymol o ddefnydd i'w ddisgwyl yn ystod y pedair blynedd nesaf, o ystyried y gromlin safonol ar gyfer defnyddio technoleg newydd y soniais amdani wrth Russell George wrth ateb ei gwestiwn cynharach.
Diolch i chi am eich datganiad, Weinidog. Rwy’n croesawu nod Llywodraeth Cymru i ddarparu'r seilwaith angenrheidiol ar gyfer cyflenwi band eang cyflym iawn i bob eiddo yng Nghymru. Mae'n newyddion da fod 614,000 o gartrefi a busnesau bellach yn gallu defnyddio band eang cyflym iawn os ydyn nhw’n dewis gwneud hynny. Fodd bynnag, nid yw eich datganiad yn nodi beth yw eich blaenoriaethau ynglŷn â pha eiddo fydd yn cael band eang cyflym iawn yn gyntaf yn ystod y cyfnod cyflwyno nesaf. Mae unigrwydd yn fater pwysig i lawer o bobl oedrannus a byddai cael gafael ar fand eang cyflym iawn yn rhoi gwell cyfle iddyn nhw gymdeithasu a chadw mewn cysylltiad ag anwyliaid. A wnaiff y Gweinidog egluro pa eiddo a gaiff ei flaenoriaethu ar gyfer gweithredu cam nesaf y cynllun band eang cyflym iawn ac yn arbennig pa un a gaiff cyflenwad y band eang hwnnw ei flaenoriaethu ar gyfer yr henoed a phobl sy’n gaeth i’w cartrefi?
Yr hyn yr ydym ni am ei wneud yn y cam nesaf yw ein bod yn gweithio ar y manylebau ar hyn o bryd, o ran pa un a ydym ni am gael meysydd blaenoriaeth, pa un a fydd blaenoriaethau daearyddol ac yn y blaen. Fel y dywedais, rwy’n rhagweld yn ôl pob tebyg y byddwn ni’n gosod cyfres o gontractau fesul swp mewn gwirionedd—er bod yn rhaid i chi dderbyn nad wyf mewn sefyllfa i ddweud hynny’n bendant ar hyn o bryd—ond gyda’r bwriad o ysgogi marchnadoedd busnesau bach a chanolig, ysgogi cwmnïau lleol, er enghraifft, ac yn y blaen. Yn y modd hwnnw hefyd, gallwn dargedu nifer o grwpiau blaenoriaeth ar yr un pryd yn hytrach na chyflwyno i un grŵp ar y tro. Cofiwch y gwneir hyn ar sail safle fesul safle. Byddwn mewn gwirionedd yn gwybod pa dŷ, yn hytrach na pha ardal cod post, yr ydym ni’n sôn amdano. Felly, byddwn ni’n gallu gwneud rhai pethau yn unigol nad ydym yn gallu eu gwneud gyda’r contract presennol. Wrth i ni wneud y darn hwnnw o waith ac wrth i ni ddod yn ymwybodol ohono, byddaf yn sicrhau bod y Cynulliad yn cael y newyddion diweddaraf yn unol â hynny.
Rwy’n croesawu diweddariad ychwanegol y Gweinidog i’r Aelodau ar y mater hwn. Dylwn i, ac rwyf wedi codi hyn o'r blaen, fod yn gyfarwydd â chael gafael ar fand eang cyflym iawn ac mae’n rhywbeth o bwys i etholaethau a busnesau yn Nelyn. Fodd bynnag, rwy’n cydnabod arweiniad Llywodraeth Cymru wrth gyflwyno band eang cyflym iawn a sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael arno, er gwaethaf yr heriau ymarferol yr wyf yn ymwybodol iawn ohonyn nhw o edrych ar fy mewnflwch a’m sach post, ac mae’r Llywodraeth ar y trywydd iawn i alluogi 96 y cant o’r eiddo yng Nghymru i gysylltu â band eang cyflym iawn erbyn 2017—rhywbeth na fydd y gwledydd eraill yn gallu ei gyflawni. Byddwch chi’n ymwybodol fod hyn o bosibl yn dod â manteision cymdeithasol ac economaidd enfawr i fusnesau a dinasyddion yn ein byd cynyddol ddigidol. A gaf i ofyn, Weinidog, o ran adolygiad ac ymgynghoriad y farchnad agored a amlinellwyd yn eich datganiad, byddwn i’n annog lledaeniad hyn ledled y wlad a chymunedau er mwyn bodloni anghenion a disgwyliadau cynyddol y dyfodol.
Yn union. Un o'r pethau y byddwn ni’n ystyried ei wneud yng ngham nesaf y prosiect yw sicrhau ei lwyddiant ar gyfer y dyfodol, ac, fel y dywedais, sicrhau ein bod ni’n gallu gwario unrhyw arian a gawn ni drwy rannu enillion ar sicrhau bod y prosiect yn llwyddo yn y dyfodol. Felly, un o'r pethau yr ydym ni’n awyddus iawn i’w wneud yw sicrhau ein bod ni’n defnyddio'r holl dechnolegau newydd sydd ar gael a'n bod ni’n sefydlu'r trefniadau caffael newydd gan roi pwyslais ar fanteisio i’r eithaf ar rai o'r technolegau newydd. Un enghraifft y gallwn ei rhoi yw, pe byddai gennych chi fand eang lloeren dair blynedd yn ôl, nid oedd eich cyflymder uchaf yn debygol iawn o fod yn fwy nag oddeutu 30 Mbps, ond erbyn hyn rwy'n ymwybodol o systemau microdon a lloeren sy'n cynhyrchu cyflymderau o 100 Mbps wrth lanlwytho a lawrlwytho. Felly, mae'r dechnoleg wedi datblygu’n hynod o gyflym yn ystod y tair blynedd diwethaf.
Hefyd yng Nghymru, mae gennym nifer fawr o fusnesau bach a chanolig arloesol iawn ac rwy'n awyddus iawn i wneud yn siŵr eu bod yn cael y cyfle i gymryd rhan yn y trefniadau caffael, fel y dywedais. Yn amlwg, caiff y trefniadau caffael eu gwneud yn iawn a bydd y broses ceisiadau yn anweledig, ac yn y blaen, ond yr hyn yr ydym ni eisiau ei wneud yw sicrhau ein bod ni’n ei gyflwyno mewn modd sy'n golygu bod y nifer fwyaf o fusnesau bach a chanolig arloesol o bob cwr o Gymru yn cael cyfle i wneud cais am y contract hwnnw, ac felly gallwn ni sicrhau'r gwerth gorau am arian yn y ffordd honno. Hefyd, ein bod ni’n defnyddio cyllid arloesedd y Llywodraeth er mwyn datblygu rhai o'r technolegau hynny y gwyddom y byddent yn gallu helpu ardaloedd mwy anghysbell. Yn arbennig, un o'r pethau yr ydym ni’n ei wneud yn rhan o’n prosiect datblygu busnesau, fel y dywedais yn gynharach, yw gwneud yn siŵr bod busnesau bach a chanolig wir yn deall yr hyn y gallant, mewn gwirionedd, ei wneud pan fydd ganddyn nhw fand eang cyflym iawn.
Yn etholaeth yr Aelod ei hun, er enghraifft, mae nifer fawr o fusnesau bach a chanolig yr wyf yn gwybod eu bod yn defnyddio band eang ar hyn o bryd, ond nad ydyn nhw efallai’n ymwybodol o rai o'r pethau y gallwch chi eu gwneud gyda lawrlwythiadau awtomatig dros nos, er enghraifft, ac anfonebu a bilio awtomatig ac yn y blaen. Felly, yr hyn yr wyf yn ei ofyn i’r holl Aelodau ei wneud yw cydweithio â Busnes Cymru, ac wrth i ni ei gyflwyno ar draws yr ardaloedd, gall yr Aelodau gymryd rhan. Gallant annog eu hetholwyr i weithredu yn yr ardal honno ac rwy’n gobeithio y bydd eich sach post yn newid i gynnwys llythyrau cadarnhaol, hapus, braf, yn hytrach na chynnwys llythyrau gan bobl sydd, yn ddealladwy, yn awyddus i fod yn rhan o’r rhaglen cyn gynted ag sy’n bosibl.
Rydych chi’n nodi, o ystyried y bydd y contract Cyflymu Cymru yn dod i ben y flwyddyn nesaf, eich bod chi eisoes wedi cychwyn ar y gwaith paratoi angenrheidiol i sefydlu prosiect olynol ar gyfer buddsoddi mewn band eang. Yn amlwg, mae Cyflymu Cymru ar 96 y cant. Cyfeiriais yr wythnos diwethaf yn y Siambr, ac rwy’n credu yn y pwyllgor, at gynllun arbrofol cronfa arloesedd gwerth £10 miliwn Llywodraeth y DU, a weithredwyd drwy gydol 2015, gan ystyried eu proses nhw o weithredu ar gyfer y 5 y cant olaf yno. Adroddodd hwnnw ei ganfyddiadau ym mis Chwefror. A gafodd Cymru ei chynnwys yn hwnnw neu beidio, ac os na chafodd, a fyddwch chi’n seilio eich trefniadau cyflwyno ar hynny, neu os na fyddwch, pam ydym ni ddwy flynedd y tu ôl i Loegr?
Yn olaf, yr wythnos diwethaf, gofynnais gwestiynau i chi yn y ddadl yr ydych chi eisoes wedi cyfeirio ati ynghylch FibreSpeed yn y gogledd. Tybed a allech chi ateb faint o filiynau o arian cyhoeddus a gafodd ei wario ar brosiect Llywodraeth Cymru, sy'n deillio o dendr Llywodraeth Cymru, a aeth o chwith yn ofnadwy, nad aeth i unman, a pham y rhoddwyd FibreSpeed yn y sefyllfa honno.
O ran FibreSpeed, rwy’n credu y byddai'n well os bydd yr Aelod a minnau’n gohebu drwy e-bost. Os hoffech ysgrifennu ataf a nodi'r union gwestiynau yr hoffech iddyn nhw gael eu hateb—rydym wedi cael y sgwrs hon yn y pedwerydd Cynulliad hefyd—rwy’n fwy na pharod i’w nodi eto i’r Aelod.
O ran a ydym ni’n ystyried yr ymchwil arloesedd, yr ateb yw 'Ydym', ond nid yw'n benodol i Gymru. Fel y dywedais mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod yn gynharach, caiff y camau olaf newydd, os mynnwch chi, o ran cyflwyno band eang cyflym iawn, eu gweithredu ar sail safle fesul safle, gan mai dim ond nifer fechan sydd ar ôl gennym ni bellach, felly gallwn ymdrin â phroblemau unigol. Rwy'n ofni mai dyna fydd y sefyllfa mewn rhai ardaloedd yng Nghymru. Mae gennym ni eiddo sydd â phroblem unigol ac ni ellir eu datrys wrth gyflwyno'r cabinet neu’r rhwydwaith ffeibr yn y modd hwnnw. Felly, ydym, rydym ni wedi ystyried hynny, ond mae angen gwaith ymchwil penodol arnom ar gyfer rhai o'r problemau sydd gennym ni yng Nghymru a chymunedau penodol o ddiddordeb. Felly, er enghraifft, mae gennym ni nifer o ffermwyr nad ydyn nhw wedi'u cysylltu eto, a bydd ganddyn nhw broblemau penodol iawn yn gysylltiedig â'u busnesau fferm. Mae gennym ni rai busnesau mewn ardaloedd anghysbell nad ydyn nhw wedi’u cysylltu, a bydd ganddyn nhw broblemau penodol iawn yn ymwneud â'u hanghenion busnes. Felly, byddwn ni’n ceisio gweithredu dull unigol iawn yn y contract newydd, ac, fel yr wyf hefyd wedi ei ddweud, ei gyflwyno mewn modd sy’n golygu y cawn fudd o'r holl dechnolegau newydd ar yr un pryd.
Mae adroddiadau Llywodraeth Cymru ynglŷn â chynnydd Cyflymu Cymru bob amser yn rhai canmoliaethus iawn ac, wrth gwrs, ni allwch wadu canran y cynnydd a wnaed o ganlyniad i’r rhaglen Cyflymu Cymru ac, wrth gwrs, drwy Lywodraeth Cymru'n Un y lansiwyd y rhaglen band eang cyflym iawn. Felly, yn amlwg, o ran egwyddor, mae'n wych bod rhaglen Cyflymu Cymru ar waith. Yn anffodus, rydym ni i gyd yn gwybod o edrych drwy ein sachau post fel Aelodau'r Cynulliad, nad yw Cyflymu Cymru wedi cyflwyno band eang cyflym i ormod o lawer o'n hetholwyr nac ychwaith wedi cyflwyno unrhyw beth yn agos at fand eang cyflym iawn.
Soniasoch am yr ychydig ffermwyr nad oes ganddyn nhw gysylltiad band eang cyflym o hyd. Mae'n llawer mwy na dim ond rhai ffermwyr; ceir cymunedau gwledig cyfan nad ydyn nhw wedi'u cysylltu o hyd. Hyd yn oed pan fo’r cabinet gwyrdd chwedlonol hwnnw yn eich pentref, efallai na fydd gennych chi gysylltiad at fand eang cyflym iawn o hyd. Mae angen i ni wneud yn siŵr, ac mae hwn yn bwynt yr wyf wedi’i godi nifer o weithiau yma yn y Siambr, fod cyfathrebu llawer gwell yn digwydd rhwng Openreach a Llywodraeth Cymru a’r cwsmeriaid hynny a chwsmeriaid posibl y dyfodol y dywedir wrthynt dro ar ôl tro, 'Na, nid yw ar gael i chi eto, ond mi fydd yn fuan.' Ond pa bryd? A gaf i apelio i’r Llywodraeth sicrhau bod unrhyw gontractau yn ymwneud â’r rhaglen a fydd yn olynu rhaglen Cyflymu Cymru, yn cynnwys yr angen i sicrhau bod cyfathrebu yn gwbl glir â’r bobl hynny, sy’n teimlo’n hynod rwystredig?
Rydym ni i gyd yma fel Aelodau yn gwybod—rwy’n siarad o safbwynt personol; rwy’n awyddus iawn i gael band eang cyflym iawn. Ond mae’r broblem sydd gennyf i wrth weld y pibellau’n hongian oddi ar y ceblau telegraff yn llawer llai na’r cymunedau hynny nad ydyn nhw wedi gweld yr arwyddion gweledol hynny o fand eang cyflym iawn a’r ffaith eu bod yn gwybod nad ydyn nhw am gael eu cysylltu yn rhan o’r rhaglen hon. Felly, os gwelwch yn dda, a wnewch chi gyfathrebu. Gwnewch yn siŵr bod y cymunedau hynny sy’n dymuno cael band eang cyflym iawn yn gwybod pam nad ydyn nhw’n ei gael, yr hyn sydd angen ei wneud er mwyn ei ddarparu iddyn nhw, a gwneud yn siŵr y caiff y problemau hynny yr ydym ni i gyd yn ymwybodol ohonyn nhw, eu goresgyn pan fyddwn ni’n symud ymlaen at gamau nesaf y broses o gyflwyno band eang cyflym iawn.
Crybwyllodd yr Aelod bwynt da iawn yn y pen draw, yn fy marn i, sef ein bod ni’n cael ein llesteirio’n helaeth gan yr wybodaeth sydd wedi bod ar gael. Rwy’n gobeithio bod yr Aelod o'r farn bod y wefan wedi gwella'n ddiweddar iawn. Os nad ydyw, yna rwy’n hapus i edrych ar faterion unigol ac yn y blaen. Rwy’n gwneud yr un cynnig i Rhun ap Iorwerth ag yr wyf wedi’i wneud i lawer o Aelodau eraill: rwy'n ddigon bodlon i ddod i'ch etholaeth i gael golwg, yn unigol, ar rai o'r materion yno. Rydym ni wedi gweithio'n galed iawn gyda BT ac rydym ni’n eu goruchwylio nhw’n agos iawn ynglŷn â chodi gobeithion ffug a newid y dyddiadau cyflwyno, ac rwyf yr un mor rhwystredig ynglŷn â hyn ag y mae ef.
Yn hollol, fe wnaf ddweud wrthych fod sicrhau ein bod ni’n cyfathrebu'n briodol â'r safleoedd hynny sydd yng nghamau olaf ein huchelgais i gyrraedd 100 y cant—y cyfathrebir â nhw yn briodol a’u bod yn deall y materion yr ydym ni’n mynd i’r afael â nhw wrth gyflwyno band eang cyflym iawn iddyn nhw. Fel rwy’n dweud, erbyn hynny bydd ar sail safle fesul safle, unigol. Felly, byddwn ni’n gwybod yn union beth yw'r problemau.
Y broblem, fel y gwyddoch chi, ac rwyf am ei hailadrodd, yw y caiff band eang cyflym iawn ei gyflwyno i eiddo niferus er mwyn cyrraedd rhai penodol, ac mae hynny wedi ei wneud yn llawer rhatach ac mae'r arian wedi mynd yn llawer pellach, ond mae hynny wedi arwain at rwystredigaethau i’r rhai yr ymddengys eu bod yn rhan o’r rhaglen ac yna’n cael eu siomi o ganlyniad i broblem â phibell oherwydd daearyddiaeth neu bibell wedi’i blocio neu ryw anhawster arall wrth geisio eu cyrraedd. Felly, rwy’n deall ac yn rhannu rhwystredigaeth yr Aelod o ran yr wybodaeth a fu ar gael.
Fodd bynnag, mae'n rhaid i ni fod yn ofalus i beidio ag ystyried rhaglen sydd wir yn un dda iawn fel rhywbeth nad yw’n gweithio. Mae wedi cyrraedd nifer fawr iawn o bobl. Mae ganddi 100,000 o eiddo arall i’w cyrraedd eleni. Mae yna bobl a fydd yn derbyn band eang cyflym iawn yng ngham olaf y rhaglen ac, yn amlwg, mae'n rhwystredig bod yng ngham olaf y rhaglen, ond byddwn ni yn cyrraedd pob un ohonyn nhw a byddwn ni’n sicrhau bod Cymru wedi’i chysylltu 100 y cant fel gwlad.
Diolch i’r Gweinidog am ei datganiad.