1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 15 Tachwedd 2016.
8. Pa gynlluniau sydd gan y Prif Weinidog i gau'r bwlch cyflog rhwng menywod a dynion yng Nghymru? OAQ(5)0270(FM)
Mae llawer iawn i’w wneud eto cyn i ni gau'r bwlch cyflog. Mae'n parhau i fod yn flaenoriaeth. Rydym ni’n parhau i roi sylw i'r problemau sylfaenol sy'n creu anghydraddoldeb cyflog rhwng y rhywiau, ac mae’r cynlluniau hynny i’w gweld yn ein dyletswyddau cydraddoldeb penodol i Gymru ac amcanion ein cynllun cydraddoldeb strategol.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna. Mae ffigurau a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Fawcett yr wythnos diwethaf yn dangos bod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau fesul awr llawn amser yng Nghymru yn 7.1 y cant, sy’n is na chyfartaledd y DU, ond yn erbyn cefndir o gyflogau is yng Nghymru. Ar sail y DU gyfan, mae'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn golygu bod menywod yn gweithio am ddim i bob pwrpas o 10 Tachwedd, pan fyddwch chi’n cymharu eu cyflogau gyda rhai dynion, tan ddiwedd y flwyddyn. Felly, beth arall allem ni ei wneud i geisio mynd i'r afael â'r anghydraddoldeb hynod amlwg hwn?
Rydym ni’n gefnogwyr balch o Chwarae Teg, sydd, wrth gwrs, yn gweithio'n ddiflino i herio stereoteipiau rhyw, gwahanu galwedigaethol, ac i hybu arferion gweithle modern trwy, er enghraifft, rhaglen Cenedl Hyblyg 2 ac ymgyrchoedd fel Not Just for Boys, ond rydym ni hefyd yn parhau i herio stereoteipiau rhyw. Cynhaliwyd cynadleddau Mae Merched yn Gwneud Gwahaniaeth yn 2014 a 2015, gan annog merched i ddyheu ac i gyflawni yng Nghymru.
Pa gamau neu ymgysylltiad y mae Llywodraeth Cymru yn eu gweithredu yn dilyn adroddiad newydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn amcangyfrif cost ariannol gwahaniaethu ac anfantais ar sail beichiogrwydd a mamolaeth, a ganfu fod busnesau yn y DU yn colli bron i £280 miliwn y flwyddyn o ganlyniad i fenywod yn cael eu gorfodi allan o'u swyddi gan wahaniaethu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth yn y gwaith?
Mae'n fater i Lywodraeth y DU ymdrin ag ef, o ystyried y ffaith ein bod ni’n sôn yma am hawliau cyflogaeth, ond, serch hynny, mae unrhyw golled o dalent i unrhyw fusnes yn rhywbeth i'w resynu. Mae hynny'n golygu, wrth gwrs, sicrhau, lle ceir unrhyw wahaniaethu ar sail cyfnod mamolaeth, bod hynny’n cael ei herio ac yr ymdrinnir ag ef gan y tribiwnlysoedd cyflogaeth.