<p>Portffolio Iechyd, Llesiant a Chwaraeon</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 23 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:38, 23 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Wel, mae’r Aelod yn gwneud pwynt pwysig yn y cyd-destun ariannol oherwydd, yn hanesyddol, mae buddsoddiad mewn fferylliaeth gymunedol wedi cael ei gynnal ar yr un lefel ac yn gyfochrog rhwng y GIG yn Lloegr a’r GIG yng Nghymru. Yna, ar 28 Hydref, y mis diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y bydd yn bwrw ymlaen â chynigion i dorri’r cyllid sydd ar gael i fferyllfeydd cymunedol yn Lloegr—toriad o 4 y cant yn ystod y flwyddyn hon a mwy na 7 y cant yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf. Mae hyn, yn anochel, yn torri’r cysylltiad rhwng y ffordd rydym yn gwneud pethau yng Nghymru a’r ffordd y bydd fferyllfeydd cymunedol yn cael eu hariannu yn Lloegr. Rwyf wedi trafod y mater hwn gyda fy nghyd-Aelod, yr Aelod Cabinet dros iechyd. Mae’r Llywodraeth hon ac yn wir, y Siambr hon, wedi bod yn pwysleisio manteision cael sector fferylliaeth gymunedol ffyniannus yng Nghymru ers amser maith. Bwriad fy nghyd-Aelod yw cynnal cyllid yng Nghymru heb doriadau, ond i drafod wedyn gyda’r sector fferylliaeth gymunedol ynglŷn â’r cyfraniad ychwanegol y gallant ei wneud i gydnabod y buddsoddiad ychwanegol a fydd yn cael ei wneud yn awr yng Nghymru o gymharu â’r toriadau aflonyddgar a fydd yn digwydd ar draws y ffin.