<p>Cynllun Gwella’r M4</p>

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 29 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 1:56, 29 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Brif Weinidog, o ystyried bod cyfran fawr o holl allforion Iwerddon, i'r DU—

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Mae angen i chi ofyn y—

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP

(Cyfieithwyd)

[Yn parhau.]—ac i'r UE yn teithio ar hyd traffordd yr M4.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Mae angen i chi ofyn y cwestiwn ar y papur trefn.

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP

(Cyfieithwyd)

Mae'n ddrwg gen i. Wel, gadewais ryw air neu ddau allan ohono. Os wyf i wedi, ymddiheuraf i’r Prif Weinidog—

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP

(Cyfieithwyd)

[Yn parhau.]—ond mae holl ethos y peth—. Iawn, mi ddechreuaf eto, Brif Weinidog.

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 29 Tachwedd 2016

4. A wnaiff y Prif Weinidog archwilio'r posibilrwydd y gallai rhan o gostau cynllun gwella'r M4 gael ei thalu gan Lywodraeth Iwerddon, o gofio bod tri chwarter holl allforion Iwerddon i'r UE a'r DU yn defnyddio'r ffordd honno? OAQ(5)0301(FM)

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:57, 29 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Na wnaf, mater i Lywodraeth Cymru yw cynnal cefnffyrdd a thraffyrdd Cymru.

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP

(Cyfieithwyd)

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb, ond mae hwn yn gynnig o ddifrif, gan fy mod i’n deall y gallai Iwerddon gael mynediad at gyllid o'r gronfa priffyrdd traws-Ewropeaidd. [Torri ar draws.] Eironig iawn, rydych chi’n dweud. Ac yma rwy’n dyfynnu—[Torri ar draws.] Ac yma—[Torri ar draws.]

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Mae gen i ddiddordeb mewn clywed y cwestiwn.

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP

(Cyfieithwyd)

Ac yma rwy’n dyfynnu egwyddorion dyrannu cyllid:

Er ein bod ni wedi bod yn buddsoddi llawer mewn gwella seilwaith trafnidiaeth, ceir tanfuddsoddiad mewn llawer o rannau trawsffiniol llai—

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 1:58, 29 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Ni allaf glywed y cwestiwn, ac nid wyf yn credu y gall y Prif Weinidog. A all pawb dawelu, os gwelwch yn dda? A wnewch chi ofyn y cwestiwn eto? Nid wyf i’n meddwl—[Torri ar draws.] A hoffwn iddo gael—hoffwn i chi gael eich clywed mewn distawrwydd.

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP

(Cyfieithwyd)

Lywydd, rwy'n falch eu bod nhw’n sylweddoli'r hyn y maen nhw’n ei ddweud, ac y gallwn ni gael cyllid gan yr UE nawr, ar ôl Brexit, wrth gwrs. Mi ddechreuaf eto, Brif Weinidog.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ateb, ond mae hwn yn gynnig o ddifrif, gan fy mod i’n deall y gallai Iwerddon gael mynediad at gyllid o'r gronfa priffyrdd traws-Ewropeaidd. Yma rwy’n dyfynnu egwyddorion dyrannu cyllid—[Torri ar draws.]

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Rwyf wedi gofyn i'r cwestiwn hwn gael ei glywed mewn distawrwydd. A wnaiff pawb ganiatáu i’r cwestiwn hwn gael ei glywed? Rwyf eisiau cyrraedd diwedd y cwestiwn hwn.

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 1:59, 29 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

A finnau hefyd, Lywydd. Diolch yn fawr iawn.

Ceir tanfuddsoddiad mewn llawer o rannau trawsffiniol llai, a thagfeydd.

Hyderaf y byddai'r Prif Weinidog yn cytuno y byddai'r M4 ym Mryn-glas yn sicr yn gymwys ar gyfer y disgrifiad 'tagfa'.

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Wel, mae’n ymddangos bod yr Aelod yn fy narbwyllo y dylwn i annog Llywodraeth Iwerddon i wneud cais am gyllid Ewropeaidd i dalu am ffyrdd Cymru. Mae wedi bod yn aelod o blaid ac wedi ymgyrchu ym mis Mehefin i roi terfyn ar gyllid Ewropeaidd ar gyfer ffyrdd Cymru. Ni all, rwy’n awgrymu, fynd at aelod-wladwriaeth yr UE nawr a gofyn iddi wneud iawn am y diffyg y gwnaeth ef ei hun ymgyrchu i’w greu yn y lle cyntaf.

Ceir ail bwynt hefyd. Mae'n rhaid i ni fod yn ofalus iawn yma yn yr ystyr y gallai Lloegr droi atom a dweud bod yr M4 yn croesi pont Hafren, bod yr holl draffig sy'n croesi pont Hafren yn mynd i Gymru, bod llawer o'r M4 yn cael ei defnyddio gan draffig yng Nghymru, ac felly , dylid cael cyfraniad gan Gymru at yr M4 i'r dwyrain o bont Hafren. Gallai awdurdodau Ffrainc ddweud bod mwyafrif llethol y nwyddau sy'n dod o'r DU yn mynd trwy Calais, felly dylai Llywodraeth y DU dalu am seilwaith y porthladd yn Calais a'r ffyrdd sy'n arwain o Calais. Ble mae'r ddadl wedyn? Na; mae'n rhaid i ni fod yn gyfrifol am gynnal a chadw ein ffyrdd ein hunain yn ein gwledydd ein hunain.

Photo of Steffan Lewis Steffan Lewis Plaid Cymru 2:00, 29 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Mae hwn yn gwestiwn swreal, hyd yn oed yn ôl safonau eleni. Ond mae'n rhaid i mi ddweud, mae cwestiwn Mr Rowlands yn atgoffa rhywun o ddyn a oedd â chynllun unwaith i adeiladu wal o amgylch ei wlad a rhoi bil i’w gymdogion drws nesaf am y gwaith. Nid wyf yn siŵr beth ddigwyddodd i'r gŵr bonheddig hwnnw.

O ran cydweithio yn y dyfodol rhwng Cymru ac Iwerddon ar brosiectau seilwaith, ceir lle posibl ar gyfer trefniant ffurfiol, trefniant dwyochrog, rhwng Cymru ac Iwerddon, trwy gytundeb Belfast lle gall dau neu fwy o aelodau ymrwymo i gytundebau dwyochrog gyda'i gilydd. A wnaiff y Prif Weinidog ystyried trefniant ffurfiol gyda gwladwriaeth Iwerddon fel y gallwn ni gael cydweithio ar brosiectau seilwaith yn y dyfodol, gan fanteisio hyd yn oed—os meiddiaf ddweud—ar arian Ewropeaidd fel y gallwn ei ffurfioli yn gynghrair môr Celtaidd sy'n rhoi rhywfaint o obaith i'n rhanbarthau gorllewinol a rhanbarthau dwyreiniol gwladwriaeth Iwerddon?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:01, 29 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Ydy, mae’r gynghrair môr Celtaidd wedi ei seilio, rwy’n credu, ar y cydweithrediad rhwng Norwy a Sweden fel model o ran sut y byddai hynny'n gweithio. Mae'n debygol y byddwn ni’n colli cyllid INTERREG cyn belled ag y mae Cymru yn y cwestiwn, a fydd yn cael effaith ar ein porthladdoedd fferi yn benodol. Rwy'n awyddus i archwilio perthynas newydd o amgylch môr Iwerddon, pa un a yw gyda’r weriniaeth, Gogledd Iwerddon neu gydag Ynys Manaw, i weld sut y gallwn ni helpu i sicrhau bod cyn lleied o amharu â phosibl pan fydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Wrth gwrs, mae’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn gorff defnyddiol o ran archwilio rhai o'r materion hyn gyda’r gwledydd hynny sy'n ffinio môr Iwerddon.