<p>Dail ar y Rheilffyrdd</p>

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 29 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP

6. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael ag awdurdodau'r rheilffyrdd ynghylch oedi a gaiff ei achosi i wasanaethau oherwydd dail wedi'u cywasgu ar y rheilffordd? OAQ(5)0305(FM)

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:07, 29 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Wel, nid yw hwn, wrth gwrs, yn fater datganoledig, ond nid yw tanberfformiad gan Network Rail o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd yn dderbyniol. Byddwn yn parhau i alw am ddatganoli pwerau rheilffyrdd fel y gallwn gael mwy o atebolrwydd am wasanaethau rheilffyrdd a ddarperir yng Nghymru.

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP

(Cyfieithwyd)

Diolch am hynna, Brif Weinidog. Ydw, rwy’n ymwybodol ei bod hi’n broblem yr ymdrinnir â hi gan Network Rail yn y bôn. A oes sianeli cyfathrebu rheolaidd rhwng Llywodraeth Cymru a Network Rail?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Oes, mae yna. Rwyf i wedi cwrdd â Network Rail, ond mae’r sianel gyfathrebu fwy rheolaidd rhwng swyddogion a Network Rail. Nid yw'n dderbyniol y dylai gwasanaethau gael eu cwtogi fel hyn. Y broblem yw, os oes dail cywasgedig ar y rheilffordd—ac mae'n hen jôc, ond y gwir yw, yr hyn sy'n digwydd yw, os bydd trên yn sgidio, y gall ddifrodi'r olwynion i'r graddau bod yn rhaid ail-lyfnhau’r olwynion. Felly, mewn gwirionedd, mae'n golygu na ellir defnyddio’r locomotif o gwbl ac, o bosibl, cerbydau hefyd, oherwydd yr effaith honno.

Fyddwn i ddim eisiau meddwl nad yw Network Rail yn gwario cymaint o arian ag y dylen nhw fod ar gynnal a chadw ymyl y cledrau, gan achosi mwy o ddail i ddisgyn. Mae hynny'n rhywbeth y bydd angen i ni siarad â Network Rail amdano, er mwyn diystyru’r posibilrwydd hwnnw.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:08, 29 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol o sylwadau gan Ysgrifennydd trafnidiaeth y DU ychydig wythnosau yn ôl bod pwyso am drydaneiddio’r rheilffordd o Gaerdydd i Abertawe yn gynamserol ac, yn fwyaf diweddar, sylwadau gan gadeirydd Network Rail nad oedd y cytundeb wedi’i gadarnhau. Bydd yn gwerthfawrogi y bydd fy etholwyr yng Nghastell-nedd a, mentraf ddweud, rhai cydweithwyr i'r gorllewin o Gaerdydd yn clywed hynny fel troi cefn ar ymrwymiadau blaenorol gan Lywodraeth y DU. Tybed a allwch chi amlinellu pa gamau all Llywodraeth Cymru eu cymryd i bwyso ar Lywodraeth y DU i gadw at ei hymrwymiadau.

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:09, 29 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Wel, mae'r rhain yn addewidion a wnaed, y byddai trydaneiddio. Yn wreiddiol, wrth gwrs, yr addewid oedd trydaneiddio cyn belled â Chaerdydd, ac yna o Ben-y-bont ar Ogwr i Abertawe; roeddwn i’n meddwl tybed beth yr oeddwn i wedi ei wneud i Lywodraeth y DU i olygu bod bwlch rhwng fy etholaeth i a Chaerdydd. Mewn gwirionedd, roedd oherwydd eu bod wedi methu â sylweddoli bod dwy reilffordd rhwng y ddau anheddiad. Gwnaed yr addewid hwnnw, ac rwy'n disgwyl i’r addewid hwnnw gael ei gadw. Hefyd, mae'n eithaf amlwg bod angen ailwampio gorsaf reilffordd Caerdydd Canolog yn sylweddol er mwyn iddi fod yn addas ar gyfer y dyfodol, ac rwy’n disgwyl gweld—byddwn eisiau gweld—Llywodraeth y DU yn gwneud y lefel cywir o gyfraniad at gynlluniau Network Rail ar gyfer yr orsaf honno hefyd. Nid yw'n ddigon da, ar y naill law, i ddweud na ellir datganoli’r rheilffyrdd, ac ar y llaw arall peidio â gwario digon o arian ar reilffyrdd Cymru. Ni all Llywodraeth y DU ei chael hi bob ffordd.

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 2:10, 29 Tachwedd 2016

Buaswn i’n cefnogi, yn naturiol, y sylwadau y mae Jeremy Miles newydd eu gwneud ynglŷn â’r angen dybryd i drydaneiddio’r brif reilffordd i Abertawe. Mae rhai ohonom ni wedi bod yn dadlau am hynny ers degawd a mwy. Ond mae’r cwestiwn gwreiddiol yn y fan hyn ynglŷn â dail ar y lein. Yn naturiol, rydym yn cael hydref bob blwyddyn ac mae’r dail yn cwympo bob blwyddyn. Rwy’n deall y pwynt nad yw’r system yma wedi cael ei datganoli, ond nid wyf yn gwybod a oes rhywun wedi dweud hynny wrth y dail. Ond rwy’n credu bod yna sgôp yn y fan hyn i arloesi mewn trafodaethau i wneud yn siŵr ein bod ni yn dod i fyny efo atebion sy’n cael gwared ar y broblem yma unwaith ac am byth.

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour

Wel, mae hynny’n hollol iawn, wrth gwrs, ond beth sy’n bwysig yw bod Network Rail yn sicrhau bod yna ddigon o waith yn cael ei wneud er mwyn sicrhau bod y coed yn cael eu torri nôl i stopio dail rhag cwympo ar y lein yn y lle cyntaf. Ar hyn o bryd, beth sydd ddim yn glir yw a ydyn nhw’n gwneud digon er mwyn sicrhau bod y broblem yn cael ei lleihau, o gofio’r ffaith ein bod ni yn gwybod bod dail yn cwympo bob blwyddyn yn y wlad hon—o’r rhan fwyaf o goed.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 2:11, 29 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Cysylltais â Threnau Arriva Cymru ar ôl tarfu ar wasanaethau ar y rheilffordd rhwng Wrecsam a Bidston ddiwedd mis Hydref a achoswyd gan ddail yn disgyn a'r tywydd. Fe wnaethom ateb eu bod wedi bod yn ceisio datrys y broblem am nifer o flynyddoedd, ac yn gweithio mewn partneriaeth â chydweithwyr ar y rheilffordd i geisio lleihau'r effaith ar eu cwsmeriaid. Cynhyrchwyd papur ganddynt ym mis Mawrth eleni, wedi’i gefnogi gan grwpiau defnyddwyr lleol a chyrff ar y rheilffordd, ond ni chafodd ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru yn anffodus. Pam oedd hynny, Brif Weinidog?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Nid yw hynny’n gywir. Mae’r hyn y mae'n ei awgrymu—wel, y mae'n ei ddweud, a dweud y gwir, bod gwendid yn y system; hynny yw, bod gweithredwr a pherchennog y rheilffordd wedi ei ysgaru oddi wrth y cwmni trenau ei hun, ond mae honno'n system a roddwyd ar waith gan ei blaid ei hun. Byddai'n system llawer gwell, yn fy marn i, pe byddai’r cwmni trenau a gweithredwr a pherchennog y rheilffordd yn un corff, fel na all un roi'r bai ar y llall os oes unrhyw darfu ar wasanaethau. Ond mae honno'n system a roddwyd ar waith gan ei blaid ef ac y mae eisiau ei chadw.