– Senedd Cymru am 2:49 pm ar 29 Tachwedd 2016.
Yr eitem nesaf ar yr agenda yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rwy’n galw ar Jane Hutt.
Lywydd, yr unig newid sydd gennyf i fusnes yr wythnos hon yw lleihau’r amser a ddyrennir i'r Cwnsler Cyffredinol ar gyfer cwestiynau yfory. Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y dangosir ar y datganiad a chyhoeddiad busnes ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Yr wythnos diwethaf, cynhaliodd y grŵp trawsbleidiol ar hemoffilia a gwaed halogedig gyfarfod i glywed am brofiadau’r bobl hynny sydd wedi’u heintio yn ystod y 1970au a'r 1980au, a’u teuluoedd—y profiadau ofnadwy a gawson nhw—ac i drafod y taliadau y cynhelir ymgynghoriad yn eu cylch ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru. Mae’r ymgynghoriad hwnnw’n mynd yn ei flaen, ond y mater arall a godwyd oedd y diffyg o ran ymchwiliad cyhoeddus llawn i sut y digwyddodd y pethau ofnadwy hyn yn y 1970au a'r 1980au. Un o'r pethau yr hoffai’r grŵp trawsbleidiol ei wneud yw gwneud yn siŵr bod Llywodraeth San Steffan yn ymwybodol o'n teimladau. Hoffem gael y cyfle i drafod hyn mewn rhyw ffordd neu'i gilydd yn y Siambr hon, felly a allai’r Gweinidog busnes awgrymu unrhyw ffordd ymlaen?
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Bu Julie Morgan, wrth gwrs, yn cadeirio'r grŵp trawsbleidiol ar hemoffilia a gwaed halogedig ers iddi gael ei hethol i'r Siambr hon, ac yn wir ymunais â’r cyfarfod hwnnw yr wythnos diwethaf ar ddiwedd y cyfarfod a sylwi nid yn unig ar y niferoedd sylweddol, ond ar y teimladau a’r profiadau sylweddol. Wrth gwrs, roedd Ysgrifennydd y Cabinet yno ar gyfer y cyfarfod hwnnw. Mae wrthi ar hyn o bryd yn ymgynghori â’r rhai yr effeithir arnynt mewn cysylltiad â'r taliadau a'r ffordd ymlaen i Gymru. Roedd ef, wrth gwrs, yno i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r grŵp trawsbleidiol ar hemoffilia yr wythnos diwethaf. Fel mesur dros dro, bydd y taliadau ar gyfer gweddill y flwyddyn ariannol hon, mewn gwirionedd, fel y bydd Julie Morgan yn gwybod, ar yr un lefelau â Lloegr, yn unol â'r pecyn o ddiwygiadau y maent wedi’i weithredu yno. Ond, wrth gwrs, mae angen ymateb a syniadau ynghylch y ffordd orau y gallwn ni wneud yn siŵr, ar gyfer y rhai hynny yr effeithiwyd arnynt, fod diogelwch o ran eu bywyd pob dydd. Dyna pam yr ydym ni’n chwilio am gynlluniau pellach, a syniadau a barn bellach ar gyfer cynllun newydd o fis Ebrill 2017 ymlaen. Rwy'n credu bod angen gwneud hyn er mwyn sicrhau bod y rhai hynny, fel y dywedais, yr effeithiwyd arnynt yn cael eu cefnogi'n briodol i sicrhau y cynghorir Ysgrifennydd y Cabinet yn llawn wrth wneud yr ystyriaethau a'r penderfyniadau hynny.
Arweinydd y tŷ, hoffwn fynegi’r un teimladau â’r Aelod dros Ogledd Caerdydd. Fel rhywun, ynghyd â Jenny Randerson, a oedd yn ymdrin â'r mater hwn yn y trydydd Cynulliad, mae angen cynnydd o ran hyn, ac er bod cyhoeddiadau’n parhau i ymddangos, naill ai o San Steffan neu oddi yma, gyda'r bwriadau gorau, ni all fod yn iawn fod hyn wedi’i adael i lusgo ymlaen, a bod cynnydd braidd yn herciog, gawn ei roi felly, wrth ddatrys y materion yn ymwneud â’r mater hwn.
Hoffwn hefyd ofyn am ddatganiad mewn cysylltiad â'r arwyddion ar y draffordd y daethoch o hyd iddynt—yr arwyddion digidol. Daeth etholwr ataf yr wythnos hon a thynnu fy sylw at rai o'r hysbysiadau dibwys sy'n ymddangos ar yr arwyddion hyn. Yr wythnos diwethaf, rhwng pont Hafren a Chasnewydd, tynnodd yr etholwr hwn fy sylw at y ffaith eu bod yn hysbysebu pwynt ynglŷn â chael prawf llygaid. Mae’n rhaid cael protocol y cedwir ato mewn gwirionedd, ynghylch pa negeseuon a arddangosir ar y— [Torri ar draws]. Y pwynt yw bod hyn yn amharu ar allu pobl i ganolbwyntio ar y ffordd. Rwy'n cydnabod ysmaldod y sylw, ond dim ond un gyrrwr sydd ei angen i fynd â’i lygaid oddi ar y ffordd yn ddiangen ac yn sydyn rydych chi yng nghefn lori, neu rydych chi yng nghefn car arall. Yn sicr, mae cael arwyddion sy'n dweud 'Ewch am brawf llygaid’—nid wyf yn hollol siŵr sut y mae hynny’n hysbysu modurwyr am ddiogelwch traffig ar y ffyrdd neu am y mesurau diogelwch y dylen nhw fod yn eu dilyn neu am lif presennol y traffig. Felly, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog trafnidiaeth er mwyn nodi yn union ba brotocolau sydd ar waith sy’n rheoli’r arddangosfeydd hyn, fel y ceir dull mwy cydlynol o ran y negeseuon a arddangosir? Weithiau, mae rhai o'r pethau sy'n ymddangos arnynt yn eithaf chwerthinllyd.
Rwy’n credu, mewn ymateb i'ch pwynt cyntaf, Andrew R.T. Davies, yn amlwg, mae hwn yn fater pwysig iawn. Ceir grŵp trawsbleidiol, sydd wedi bod—yn wir, rydym ni wedi bod yn gweithio'n galed iawn i ddod o hyd i ffordd ymlaen. Ond, fel y dywedais yn gynharach, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon yn ymgynghori ar y ffordd ymlaen, ac rydym ni’n dilyn, ar hyn o bryd, y trefniadau sy'n cael eu gweithredu yn Lloegr o ran y diwygiadau hynny. Rydym ni’n edrych i weld a allwn ddysgu oddi wrth hynny, ond hefyd datblygu hyn i gael cynllun newydd i Gymru o fis Ebrill ymlaen. Rwy'n credu mai dim ond nodi eich pwynt y gallwn ni ei wneud heddiw o ran yr arwyddion hynny ar y draffordd yr wyf yn siŵr, o ran diogelwch ar y ffyrdd a phwysigrwydd negeseuon iechyd cyhoeddus, yn enwedig wrth yrru, eu bod yn berthnasol iawn.
Rwy'n chwilio am ddatganiad gan y Gweinidog dros lywodraeth leol ynglŷn â’r arolwg o’r holl gynghorwyr benywaidd a godais yr wythnos diwethaf. Roedd rhywun arall wedi ymddiswyddo ddoe, sef cynghorydd benywaidd arall o gyngor Caerdydd. Mae'r grŵp Llafur ar draws y ffordd bellach wedi colli mwy na thraean o'i aelodau benywaidd, a chysylltodd aelod o’r cyngor â mi heddiw i sôn am y cam-drin rhywiaethol y mae’n rhaid iddi ei ddioddef yn ddefodol. Nawr, rydym ni’n dda iawn am ddefnyddio geiriau yn y Siambr hon, ond sylwais eich bod wedi trosglwyddo’r cyfrifoldeb yr wythnos diwethaf i’r Llywydd, sydd heb unrhyw awdurdodaeth dros lywodraeth leol. Felly, rwy'n gofyn ein bod yn cael datganiad gan y Gweinidog dros lywodraeth leol y bydd arolwg i asesu profiad ein cydweithwyr mewn llywodraeth leol.
Yn ail, dyma’r drydedd wythnos yn olynol nawr, ac nid oedd yr ateb a roddwyd gennych yr wythnos diwethaf yn dal dŵr mewn gwirionedd, felly byddaf yn dweud eto: o fewn tafliad carreg i’r Cynulliad hwn, caiff cyffuriau dosbarth A eu cyfnewid yn agored ar strydoedd Butetown. Pryd y byddwn ni’n cael datganiad gan y Llywodraeth? Pryd y bydd gweithredu’n digwydd? Byddaf yn gwahodd y Gweinidog i gamu allan o'i gar gweinidogol ac efallai ymuno â mi ar strydoedd Butetown i siarad â phobl am eu profiadau. Pryd fydd y mater hwn yn cael sylw trwy ddatganiad?
Rwy'n credu mai’r pwynt pwysicaf a godwyd yn y ddadl—canlyniad y ddadl—yr wythnos diwethaf, oedd y cytundeb y byddai arolwg o gynghorwyr benywaidd yn ddefnyddiol ac, wrth gwrs, roedd hynny’n ganlyniad cadarnhaol a gaiff ei ddatblygu.
Rwy’n credu, mewn cysylltiad â’ch materion chi o ran camddefnyddio sylweddau a phryderon am y peth, yn enwedig mewn cymunedau a sut y mae’n effeithio ar gymunedau, fe wnes i ymateb yr wythnos diwethaf ac amlygu’r cynnydd y mae'r Gweinidog yn ei wneud o ran ein cynllun cyflawni yn ymwneud â chamddefnyddio sylweddau, sef y cynllun cyflawni ar gyfer 2016-18. Wrth gwrs, cynllun ydyw ar gyfer gweithio gyda'n gilydd i leihau niwed ac mae'n esbonio'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn ystod y ddwy flynedd nesaf i wella’r canlyniadau ar gyfer y rhai hynny yr effeithir arnynt gan gamddefnyddio sylweddau.
Yn dilyn datganiad yr hydref a wnaed yn San Steffan, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar ddinas-ranbarth bae Abertawe i gynnwys disgrifiad o’r cynigion o ran cludiant, y cynlluniau ar gyfer cefnogi datblygiad economaidd y rhanbarth a’r gefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru?
Credaf y byddai Mike Hedges wedi bod yn falch iawn o’r ffaith y cymerwyd sylw o’i alwadau am gydnabyddiaeth o ddinas-ranbarth bae Abertawe a'r rhagolygon am fargen mewn cysylltiad â’r rhanbarth oherwydd y gwaith caled dan arweinyddiaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol mewn partneriaeth, wrth gwrs, â’r awdurdodau sy’n arwain y cynigion ar gyfer y dinas-ranbarth. Felly, rwy’n credu bod y ffaith y caiff ei gydnabod yn natganiad yr hydref, a’r ffaith bod cynnydd yn cael ei wneud o ran hyn, yn galonogol iawn.
Yn ogystal â chymeradwyo galwad Julie Morgan ynglŷn â hemoffilia a gwaed halogedig, ar ôl bod yn bresennol yn y grŵp trawsbleidiol hwnnw’r wythnos diwethaf hefyd, galwaf am ddatganiad gan y Gweinidog dros iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ar HIV/AIDS, gan gydnabod ei bod hi’n Ddiwrnod Aids y Byd ddydd Iau 1 Rhagfyr. Thema Ymddiriedolaeth Terrence Higgins ar gyfer Diwrnod Aids y Byd eleni yw HIV ‘It’s Not Over’. Maen nhw’n dweud ein bod wedi dod yn bell wrth fynd i'r afael â HIV yng Nghymru. Bellach, mae gan bobl sy'n byw â HIV, sydd wedi cael diagnosis cynnar ac yn cael triniaeth, ddisgwyliad oes arferol o’u blaenau. Hefyd, pan fo unigolyn sy'n byw â HIV yn cael triniaeth yn llwyddiannus ac na chaiff unrhyw feirws HIV ei ganfod yn eu gwaed, mae'n amhosibl trosglwyddo HIV. Felly, mae triniaeth yn cyfateb i atal.
Ond, mae un o bob chwech o bobl sy'n byw â HIV yn anymwybodol o’r ffaith bod ganddynt y feirws, gan roi eu hiechyd eu hunain mewn perygl a throsglwyddo’r feirws yn ddiarwybod. Yng Nghymru, roedd hanner y bobl newydd a gafodd ddiagnosis o HIV y llynedd wedi’u diagnosio’n hwyr, y gyfradd uchaf yn y DU. Gan fod HIV yn effeithio ar bobl hoyw a phobl heterorywiol, roedd 68 y cant o'r holl achosion newydd y llynedd mewn pobl rhwng 25 a 49 oed. Er bod cyfraddau HIV a heintiau a drosglwyddir yn rhywiol yn parhau i godi ar draws Cymru, ac roedd llai o bobl yn cael triniaeth HIV wrthretrofirol yn 2015 na'r flwyddyn flaenorol, mae’r gallu i gael gafael ar wasanaethau iechyd rhywiol ledled Cymru yn parhau i leihau, heb unrhyw ddarpariaeth gwasanaeth iechyd rhywiol statudol o unrhyw fath ar hyn o bryd ym Mhowys, a gwasanaethau atal iechyd rhywiol a hybu iechyd wedi’u dadgomisiynu mewn tri bwrdd iechyd yng Nghymru—Betsi Cadwaladr, Cwm Taf a Hywel Dda—a gwasanaethau cymorth yn cael eu hariannu gan y loteri yn unig, a chyllid yn dod i ben ddiwedd mis Mawrth nesaf.
Mae Ymddiriedolaeth Terrence Higgins yn galw am ymchwiliad o ran y gallu i gael gafael ar wasanaethau iechyd rhywiol ledled Cymru ar hyn o bryd, ac effaith hynny ar ardaloedd lle nad oes modd cael gafael ar wasanaethau neu ardaloedd lle mae’n anodd cael gafael arnynt. Felly, mae angen i’r Gweinidog roi gwybod i ni pa fesurau y mae'n eu cymryd i fynd i'r afael â HIV yng Nghymru, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â’r nifer annerbyniol o uchel o bobl sy’n cael diagnosis hwyr o HIV yng Nghymru, ac a fydd y Gweinidog yn gwneud datganiad i nodi Diwrnod Aids y Byd, gan gydnabod pwysigrwydd y digwyddiad hwnnw, ond hefyd y ffigurau a'r ystadegau sy’n peri pryder a amlygwyd gan Ymddiriedolaeth Terrence Higgins yng Nghymru.
Diolchaf i Mark Isherwood am y ddau gwestiwn a'r pwyntiau hynny ynglŷn â’r datganiad busnes—ac, wrth gwrs, gan gydnabod eich bod chithau hefyd yn bresennol, Mark, yn y grŵp trawsbleidiol ar hemoffilia a gwaed halogedig—ond hefyd y cyfle i dynnu sylw’r Aelodau at y datganiad a wnaethpwyd gan y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 23 Tachwedd, y datganiad ar iechyd rhywiol yng Nghymru, sydd yn mynd i’r afael â llawer o'r pwyntiau, gan amlygu a diweddaru llawer o'r pwyntiau yn dilyn adolygiad o’r cynllun gweithredu ar gyfer iechyd a lles rhywiol yng Nghymru 2010-2015. Yn arbennig, rydych chi’n rhoi rhywfaint o'r wybodaeth o ran y tueddiadau diweddaraf yn ymwneud â chyfraddau heintiau a drosglwyddir yn rhywiol. Os edrychwn ar gyfraddau heintiau a drosglwyddir yn rhywiol a chyfraddau HIV yng Nghymru, er bod y datganiad yn cydnabod y buont yn uchel yn y blynyddoedd diwethaf, mae data a gadarnhawyd mewn labordy, ar gyfer chwe mis cyntaf y flwyddyn hon, yn dangos cwymp o ran cyfraddau heintiau a drosglwyddir yn rhywiol a HIV o’i gymharu â'r un cyfnod yn 2014, sy'n galonogol.
Ond, mae’n amlwg bod y Gweinidog yn cydnabod na allwn fod yn hunanfodlon; mae angen i ni ystyried yr amgylchiadau. Felly, eto, mae hi wedi cyhoeddi yn ei datganiad ysgrifenedig, yr wyf yn annog yr Aelodau i edrych arno, gydnabyddiaeth o Ddiwrnod Aids y Byd ar 1 Rhagfyr, ac mae hi'n cynnal adolygiad sy’n mynd i ddechrau’r flwyddyn nesaf. A hefyd, arweinir a goruchwylir hwnnw gan fwrdd rhaglen iechyd rhywiol, a gadeirir gan y prif swyddog meddygol. Ac mae hi hefyd yn cydnabod, yn y datganiad hwnnw, ein bod am gyflwyno rhaglen frechu feirws papiloma dynol newydd, er enghraifft, sy'n berthnasol i'r cwestiwn hwn heddiw.
Rwy’n mynd i ddatgan diddordeb cyn siarad ar hwn, achos mae gen i nifer o aelodau o’r teulu yn gweithio yn y diwydiannau creadigol. Ond mae yna nifer o gwestiynau yn dal i godi yn fy meddwl i ers iddi ddod i’r amlwg fod Llywodraeth Cymru yn ystyried cais am filiynau o bunnoedd gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ar gyfer prosiect sy’n cynnwys adleoli 55 o swyddi S4C i Gaerfyrddin. Nid ydw i’n hapus ein bod ni wedi cael atebion clir cyn belled heddiw, ac rydw i’n gofyn am ddatganiad llawn ar y mater gan yr Ysgrifennydd Cabinet ar yr economi. A’r math o atebion clir rydym ni eu hangen ar hyn o bryd ydy: beth yw pwrpas yr arian a geisir gan y Llywodraeth? Faint o bres sydd yn cael ei ofyn amdano fo? A ydy hwn yn cynrychioli’r diffyg ariannol—y ‘shortfall’—y soniwyd amdano fo yn gynharach gan yr Ysgrifennydd Cabinet? A oes yna berig i brosiect Caerfyrddin fynd i’r gwellt yn llwyr heb yr arian ychwanegol sy’n cael ei ofyn amdano fo? Ac, os na fydd y prosiect yn symud ymlaen, beth sy’n mynd i ddigwydd i gynllun adleoli S4C? Mae yna nifer fawr o gwestiynau sydd angen atebion. A fyddwn i’n licio gwybod hefyd: beth ydy’r broses yn mynd i fod o hyn ymlaen o ran y Llywodraeth, o ran edrych ar yr achos busnes, a sut y byddwch chi’n gwneud yn siŵr eich bod chi’n bod yn gwbl dryloyw efo’r cyhoedd ynglŷn â beth sydd yn digwydd rŵan? A hefyd, sut byddwch chi’n gwneud yn siŵr eich bod chi yn dod i benderfyniad cadarn ynglŷn â hyn, ac ynglŷn â hefyd yr agwedd lleoliad pencadlys S4C?
Roedd Sian Gwenllian yn gallu gofyn cwestiwn yn dilyn y cwestiwn brys heddiw, ac rwy’n credu ei bod hi’n bwysig ein bod ni’n nodi eich pwyntiau ychwanegol ynglŷn â’r datganiad busnes. Rwyf am ailadrodd eto fod Llywodraeth Cymru, dros y ddwy flynedd diwethaf, wedi cael amrywiaeth o drafodaethau ag S4C a phartneriaid eraill sy'n gysylltiedig â’r broses o symud ei phencadlys i Gaerfyrddin, a’r datblygiadau ehangach hynny ar y safle. Ond mae'n parhau i fod yn wir, fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, y gellir ond ystyried unrhyw gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru os caiff achos busnes manwl a chymhellol ei ddarparu sy'n mynegi’n llawn ac yn rhoi tystiolaeth o fanteision economaidd, diwylliannol ac ieithyddol y datblygiad, ac yn dangos pam mae angen ymyrraeth gan y sector cyhoeddus i’w gyflawni.
Ym mis Mawrth 2015, pasiodd Llywodraeth y DU dan adran 67 Deddf Troseddau Difrifol 2015 gyfraith sy'n ei gwneud yn drosedd i oedolyn gyfathrebu’n rhywiol â phlentyn. Pasiodd y Cynulliad hwn gynnig cydsyniad deddfwriaethol er mwyn galluogi hynny, y mis cynt. Fodd bynnag, dros gyfnod o flwyddyn a hanner yn ddiweddarach, mae’r gyfraith hon, a allai helpu'r heddlu a stopio pobl a allai feithrin perthynas amhriodol â phlant rhag gwneud hynny, dal heb ei gweithredu gan Lywodraeth y DU. A gaf i felly ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant yn ymwneud â manylion am unrhyw drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael â Llywodraeth y DU a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder i ddeddfu adran 67 y Ddeddf Troseddau Difrifol i sicrhau y caiff plant yng Nghymru eu diogelu, ac y rhoddir i’r heddlu y pwerau sydd eu hangen arnynt i ymdrin â throseddwyr?
Diolchaf i Lynne Neagle am y cwestiwn hwnnw. Rwy’n credu, ers cael gwybod am ymgyrch Gwendid yn y Gyfraith, y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant, fod swyddogion wedi bod mewn cysylltiad â swyddfa’r Weinyddiaeth Gyfiawnder er mwyn asesu’r sefyllfa bresennol o ran gweithredu adran 67 Deddf Troseddau Difrifol 2015 y mae Lynne Neagle yn tynnu ein sylw ati heddiw. Rydym ni’n dal i aros mewn gwirionedd—rydym ni’n dal i aros am ymateb. Rydym ni’n gwbl gefnogol i gynnwys yr adran hon yn y Ddeddf. Byddem ni’n croesawu diweddariad ynglŷn ag amseru ar gyfer deddfu gan swyddfa’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, felly croesewir yn fawr y ffaith eich bod chi wedi tynnu sylw’r Cynulliad cyfan at hyn heddiw. Ac mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant yn anfon llythyr dilynol at Liz Truss AS yn fuan.
A gaf i ofyn i arweinydd y tŷ am ddatganiad pellach gan Ysgrifennydd y Cabinet dros gymunedau cyn gwyliau'r Nadolig ar y cynllun Rhentu Doeth Cymru? Adroddwyd efallai bod mwy na 13,000 o landlordiaid preifat yng Nghymru yn gosod eiddo yn anghyfreithlon ar ôl i'r cynllun Rhentu Doeth Cymru ddod yn gyfraith. Yr wythnos diwethaf, cyfarfûm ag etholwr, gwraig oedrannus, sy'n berchen ar un eiddo yn unig, y mae hi wedi’i rentu allan am fwy na 10 mlynedd heb unrhyw broblem. Nawr, mae Llywodraeth Cymru yn mynnu y dylai hi dalu ffi gofrestru a chael hyfforddiant yn gysylltiedig â’i chyfrifoldebau a’i rhwymedigaethau fel landlord. Faint o bobl oedrannus eraill neu bensiynwyr sydd mewn sefyllfa debyg? A hoffwn wybod bod y wlad hon yn gyfeillgar iawn tuag at y bobl hynny sy'n berchen ar eiddo. A gawn ni ddatganiad eto fel y gall Ysgrifennydd y Cabinet egluro pam mae’n rhaid i’m hetholwr dalu'r un ffi â rhywun sy'n berchen ar fwy nag un eiddo, a pham mae Llywodraeth Cymru yn rhoi baich gormodol ar landlordiaid da? Bydd y wraig hon yn talu'r un ffi â rhywun sy'n berchen ar fwy nag un eiddo, gyda llaw, felly, mae Llywodraeth Cymru yn rhoi baich gormodol ar landlordiaid da, yn hytrach na thargedu'n effeithiol y rhai drwg yng Nghymru. Felly, byddaf yn ddiolchgar iawn pe byddai'r Gweinidog yn rhoi sylw i hyn eto, ac rwy’n gofyn am ddatganiad arall. Diolch.
Fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ddatganiad llawn ar hyn yr wythnos diwethaf. Nid oes gennyf i Gofnod y Trafodion ger fy mron; rwy'n siŵr eich bod wedi gofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar y pryd. Mae hwn yn gynllun pwysig a gafodd ei gefnogi o ran deddfwriaeth, deddfwriaeth flaengar, ar yr ochr hon o’r Siambr, ac, wrth gwrs, o ran gweithredu, roedd y cyfle i graffu yr wythnos diwethaf yn bwysig. Ac, wrth gwrs, bydd y pwyntiau a godwyd yn cael eu hystyried wrth ei weithredu.
A gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr amgylchedd, ynni a newid hinsawdd o ran polisi Llywodraeth Cymru yn y dyfodol ynghylch taliadau ffermio a systemau cefnogi ffermydd yn arbennig? Rwy'n bryderus iawn fod y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd yn cael ei ddefnyddio fel ceffyl pren Caerdroea gan rai pobl i ennill tir o ran polisi datganoledig Cymru. Dim ond yr wythnos hon y clywsom arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn honni y byddai ffermwyr yn hapusach pe byddai San Steffan yn gwneud penderfyniadau o ran polisi ffermio yn hytrach nag yma yn ein Senedd ni a etholir yn ddemocrataidd. Wel, nid wyf i’n hapus, ac nid yw’r ffermwyr yr wyf i’n siarad â nhw yn hapus am hynny.
Nid ydyn nhw bob amser yn hapus â’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, wrth gwrs, ond ceir gwahaniaeth rhwng Llywodraeth a Senedd, ac ni ddylai fod yn iawn fod y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd yn cael ei ddefnyddio gan y Ceidwadwyr nid yn unig i adennill y cyfrifoldeb dros bolisi ffermio oddi ar Gymru—ac, yn ei dro, y polisi amgylcheddol, gan eu bod yn mynd law yn llaw—ond hefyd rydym ni eisoes wedi clywed y dylai San Steffan gadw rheolaeth dros bolisi cyllido cydgyfeirio a datblygu rhanbarthol hefyd.
Rydym eisiau i San Steffan gadw ei dwylo blewog oddi ar ein polisïau sydd eisoes wedi’u datganoli fel y gall Llywodraethau’r dyfodol yma wneud penderfyniadau dros bobl Cymru. Yr hyn sydd wir wrth wraidd hyn, wrth gwrs, yw'r ffaith bod y Ceidwadwyr yn gwybod na fyddant byth yn ennill mwyafrif yn y Senedd hon, felly maen nhw’n defnyddio dull drws cefn Llywodraeth Geidwadol—[Torri ar draws.]—Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan i wneud penderfyniadau o ran polisïau ar gyfer Cymru. Rydym ni wedi bod yn brwydro yn erbyn hynny am 40 o flynyddoedd ac enillasom y frwydr honno ac ni fyddwn yn brwydro eto.
Mae'n rhaid i mi ddweud wrth y Gweinidog mai’r hyn sydd ar goll yw’r ffaith y ceir rhywfaint o wactod. Gan nad yw Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cynlluniau clir y gall ffermwyr Cymru gael gafael arnyn nhw, fynegi barn arnyn nhw neu, o bosibl, gytuno â nhw neu ddweud y dylid gwneud rhywbeth gwahanol, ceir gwactod lle y caiff y syniadau niweidiol hyn eu dosbarthu gan y Ceidwadwyr. Felly, rwy’n credu y byddai'n werthfawr iawn i Lywodraeth Cymru yn awr, nodi ei hegwyddorion o ran sut y bydd yn bwrw ymlaen â hyn.
Pwynt olaf ynglŷn â hynny, yr wyf o’r farn y dylai’r datganiad fynd i'r afael ag ef, yw’r ffaith y ceir byd o wahaniaeth rhwng pedair gwlad yn dod at ei gilydd ar lefel y DU a chytuno ar bethau sydd o les cyffredin ym maes ffermio a'r amgylchedd, gan gynnwys pethau fel lles anifeiliaid a safonau cigydda a’r holl fath hynny o—glefydau anifeiliaid. Ceir byd o wahaniaeth rhwng hynny a San Steffan yn penderfynu ac wedyn yn dweud wrthym ni beth i'w wneud.
Yr ail elfen yr hoffwn ddatganiad yn ei chylch, gan fy mod yn credu bod hyn yn gysylltiedig ond ychydig ar wahân, yw sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd i’r afael â'r argyfwng posibl o ran gweithwyr fferm mudol y flwyddyn nesaf. Wedi’i hamlygu eisoes yw’r ffaith bod cnydau hwyr yn y tymor—blodfresych, tatws ac ati—ar hyn o bryd, mae gennym ni oddeutu 70 y cant o'r gweithlu mudol sydd ei angen arnom i hel y cnydau hynny. Efallai nad ymddengys fod hynny’n broblem fawr i Gymru ar hyn o bryd, a’i bod yn fwy o broblem i Swydd Lincoln a rhannau o Loegr, ond mae gennym rhwng 20,000 a 30,000 o weithwyr fferm mudol a gweithwyr cynhyrchu bwyd yn dod i Gymru bob blwyddyn, ac, os ydym ni’n gweld gostyngiad tebyg i hynny y flwyddyn nesaf, yna byddwn ni’n ei chael yn anodd cynnal ein lladd-dai, byddwn ni’n ei chael yn anodd parhau i hel rhai o’n cnydau tymhorol, a byddwn ni’n ei chael yn anodd cynnal ein cyfleusterau cynhyrchu bwyd yng Nghymru. Os nad yw Llywodraeth y DU yn barod i roi'r sicrwydd angenrheidiol i weithwyr yr UE ddod i wneud y gwaith mudol hwnnw, yna mae angen i ni ystyried o'r newydd y syniad o fisâu gwaith yng Nghymru a dadlau'r achos dros hynny, oherwydd bod yn rhaid bodloni ein hanghenion amaethyddol a’n hanghenion o ran gweithlu er mwyn sicrhau bod bwyd ar ein platiau. Felly, rwy’n gobeithio y cawn ddau ddatganiad gan y Llywodraeth ar y materion hynny.
Diolchaf i Simon Thomas am godi hynny heddiw. Mewn gwirionedd, roedd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet, yn ffair aeaf Frenhinol Cymru ddoe. Rwy'n credu ei fod wedi cael croeso cynnes; bod ei chyhoeddiad ynglŷn â thaliadau erbyn 1 Rhagfyr wedi cael croeso cynnes—yn sicr darllenais i’r dyfyniadau gan undebau’r ffermwyr—gan gydnabod, unwaith eto, fod amaethyddiaeth yn fater sydd wedi'i ddatganoli'n llwyr ac wedi bod felly ers 1999, ac rydym wedi cyflawni mewn partneriaeth â'r gymuned ffermio, â'r sector amaethyddol, mewn partneriaeth mewn Llywodraeth â chi ac mewn Llywodraeth â Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, a hefyd, wrth gwrs, mewn partneriaeth â'r gymuned ffermio. A dyna sut yr ydym ni’n dymuno ei ddatblygu. Os edrychwch chi ar fframweithiau rheoleiddio’r UE, wrth gwrs, pan na chânt eu gweithredu mwyach, mater ar gyfer y gweinyddiaethau datganoledig, mater ar ein cyfer ni yma yng Nghymru, ar gyfer yr Alban a Gogledd Iwerddon ydyw i benderfynu sut ac os—fel yr ydych chi’n dweud, ceir meysydd lle y gall fod fframweithiau ar draws y DU gyda Llywodraeth y DU—ond ein cyfrifoldeb ni ydyw.
Nawr, byddwn yn dadlau—o ran ymgysylltiad Ysgrifennydd y Cabinet, y bu’n gant y cant ers canlyniad y refferendwm. Nid yn unig y mae hi wedi gwneud datganiadau a oedd yn ymateb i hyn, ond rwy’n credu ei bod yn werth dweud eto, nid dim ond cwrdd ag undebau ffermwyr, cynrychiolwyr y diwydiant, ond hefyd cynnal y trafodaethau hynny o amgylch y bwrdd crwn o ran y goblygiadau ynghlwm wrth y DU yn gadael yr UE.
Y pwynt arall sy'n werth ei wneud yw bod Andrew R.T. Davies, gan ei fod wedi’i ddangos yn glir—tybed beth y mae ei gydweithwyr yn ei feddwl am ei ddatganiadau, y byddwn i’n dweud, dros y dyddiau diwethaf. Rwy’n cydnabod nad ydyw yma heddiw, ond pa awydd a fyddai beth bynnag, yn San Steffan, i adennill cyfrifoldeb dros amaethyddiaeth yng Nghymru? A dweud y gwir, yn y trafodaethau hynny o amgylch y bwrdd crwn, mae’r broses o ymgysylltu â ffermwyr a'r undebau a’r partneriaid yn y sector wedi bod ynglŷn â sut y gallan nhw weithio gyda ni i ddatblygu polisïau amaethyddol yng Nghymru.
Rwy’n credu bod eich ail bwynt hefyd yn bwysig iawn—mae wedi’i gofnodi—ac wrth gwrs byddwn ni’n ystyried, unwaith eto, sut y gallwn ni godi hyn. Wrth gwrs, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn rhan o bwyllgor yr UE sydd wedi’i sefydlu; mae'n eistedd arno ochr yn ochr â chydweithwyr gweinidogol o weinyddiaethau datganoledig eraill ac, yn wir, Weinidogion Llywodraeth y DU hefyd, gan edrych ar yr union faterion hynny o ran y gweithlu ffermio, a fydd yn cael effaith arbennig, nid yn unig ar Gymru, ond ar weddill y DU.
Hoffwn ofyn i arweinydd y tŷ am ddatganiad sy'n ymwneud â'r diwydiant dur. Mae’r datganiad eisoes wedi crybwyll yr hyn sydd gennyf i’w ddweud, a welais pan eisteddais i lawr y prynhawn yma, ond yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf, rydym wedi gweld rhywfaint o gynnydd mewn gwirionedd o ran datblygiad, efallai, yn y diwydiant dur. Dim ond y penwythnos hwn, gwelsom y newyddion ei bod hi’n debygol bod Tata Steel yn gwerthu eu dur arbenigol i Liberty Steel, ac ymddengys fod hynny’n mynd yn ei flaen, ond mae hynny'n dal i adael y cynhyrchion strip ar ôl. Nodaf fod y datganiad a gawsom y prynhawn yma gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith yn amlygu ei fod wedi ysgrifennu at Ratan Tata a'i fod yn disgwyl ateb o ryw fath, ond rwy’n credu ei bod hi’n amser i ni gael y cyfle i gael datganiad llafar, y gallwn ni ofyn cwestiynau difrifol yn ei gylch yn seiliedig ar ffeithiau ac nid sïon a geir ynglŷn â’r diwydiant dur, er mwyn sicrhau y ceir gwared ar yr ansicrwydd sy’n dal i fodoli yn rhai o'n hardaloedd, yn enwedig yn fy etholaeth i, gymaint ag y bo modd—ein bod yn gweld dyfodol disglair a bod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau ymlaen. Rwy’n sylweddoli bod gan Lywodraeth y DU rai o’r dulliau ysgogi hynny, ond efallai y gallwn ni gael gwybod pa gamau a thrafodaethau y maen nhw wedi’u cael gyda Llywodraeth y DU ar ddyfodol dur.
Does dim amheuaeth y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn awyddus i gymryd rhan, fel y mae wedi dangos y prynhawn yma, a rhoi diweddariad i’r Aelodau yn unol â hynny.
Arweinydd y tŷ, a gaf i alw am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda? Y cyntaf yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd. Roedd hi’n wythnos ymwybyddiaeth o ffibriliad atrïaidd yr wythnos diwethaf a bydd Aelodau'r tŷ hwn yn ymwybodol y bydd un o bob pump o bobl sy'n dioddef strôc—6,000 ohonyn nhw bob blwyddyn yma yng Nghymru—wedi profi achos o ffibriliad atrïaidd cyn iddyn nhw ddioddef strôc. Hoffwn wybod beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud er mwyn hybu ymwybyddiaeth o AF ymhlith y cyhoedd yn gyffredinol ac, yn wir, ymhlith ymarferwyr meddygol, oherwydd gellir atal llawer o’r strociau hyn os caiff AF ei drin.
Yn ail, a gaf i ofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf gan Ysgrifennydd y Cabinet sy'n gyfrifol am adfywio, ar gynnydd y Llywodraeth o ran cymryd camau cyfreithiol yn erbyn Lambert Smith Hampton yn dilyn y sgandal yn ymwneud â chronfa buddsoddi Cymru mewn adfywio? Yn amlwg, mewn ymateb i adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn gynharach eleni, dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn dilyn proses gyfreithiol yn erbyn Lambert Smith Hampton, yn dilyn y cyngor a gafodd bwrdd CBCA, a olygodd fod trethdalwyr yn methu â chael degau o filiynau o bunnoedd oherwydd bod cyfran dda o'r tir wedi’i gwerthu am bris isel iawn, gan gynnwys yn Abergele yn fy etholaeth i, lle y gwerthwyd darn o dir gan Lywodraeth Cymru i South Wales Land Developments am £100,000 ac y cafodd ei werthu ymlaen yn ei dro am £1.9 miliwn o fewn cyfnod byr iawn o amser ar ôl hynny. Mae trethdalwyr eisiau cyfiawnder, arweinydd y tŷ, ac rwy'n credu ei bod yn briodol, nawr bod cymaint o amser wedi mynd heibio, fod Aelodau'r Cynulliad yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf ar y mater hynod bwysig hwn.
Mae'r Aelod yn codi dau fater pwysig. O ran eich pwynt cyntaf, wrth gwrs, o ran AF a’r broses o atal a chanfod er mwyn atal strôc—mae hwnnw'n bwynt pwysig iawn. Credaf ei bod hi’n bwysig nodi, o'r adroddiad blynyddol diweddaraf yn ymwneud â strôc, dros y 10 mlynedd diwethaf, fod cyfraddau goroesi yn dilyn strôc ar gyfer pobl 74 oed ac iau wedi gwella a bod nifer y bobl sy'n marw o strôc hefyd yn lleihau. Ond mae’n rhaid bod hynny’n rhannol o ganlyniad i godi ymwybyddiaeth, fel y gwnaethoch chi ddisgrifio, a byddwn ni’n bwrw ymlaen â hynny. O ran eich ail bwynt, wrth gwrs, mae'r rhain yn argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ynghylch CBCA—chi oedd y Cadeirydd ar y pryd—a chaiff yr argymhellion hynny eu gweithredu.
Diolch yn fawr iawn, arweinydd y tŷ.