1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 6 Rhagfyr 2016.
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gydlyniant cymunedol? OAQ(5)0309(FM)
Gwnaf. Lansiwyd ein strategaeth cydlyniant cymunedol yn 2009 ac fe'i diweddarwyd yn ddiweddar. Cefnogir ei darpariaeth ledled Cymru gan wyth cydgysylltydd cydlyniant cymunedol rhanbarthol, wedi’u lleoli mewn awdurdodau lleol a chymeradwywyd cyllid i barhau'r gwaith hwn yn 2017-18 gan yr Ysgrifennydd Cabinet fis diwethaf.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna. Yr wythnos diwethaf, dywedodd yr Aelod Seneddol dros Aberafan bod yn rhaid i ni symud oddi wrth amlddiwylliannedd a thuag at gymathu, a bod yn rhaid i ni sefyll dros un grŵp: pobl Prydain. A wnaiff y Prif Weinidog gondemnio’r sylwadau hyn yn blwmp ac yn blaen, ac a wnaiff ef roi sicrwydd i’r Cynulliad hwn nad yw safbwyntiau o'r fath yn gynrychioliadol o bolisi Llywodraeth Cymru, ac a wnaiff ef ymuno â mi i ddathlu amrywiaeth gyfoethog y wlad hon?
Ni chlywais i’r sylwadau, a dweud y gwir, ond yr hyn y gallaf ei ddweud yw na fu achlysur erioed yn hanes yr ynys hon pan fu un diwylliant, erioed. Mae wedi bod yn ynys amlddiwylliannol erioed, boed o ran crefydd, boed o ran amrywiaeth ieithyddol, boed o ran lliw croen pobl. Y gwir yw bod pobl gyda chroen du wedi bod ar yr ynysoedd hyn ers y drydedd ganrif; mae'n gamargraff i feddwl bod hyn yn rhywbeth newydd. Mae wedi bod yn wir erioed bod Prydain wedi bod yn amlddiwylliannol, ac mae hynny'n rhywbeth y dylem ni ei ddathlu, nid ei ofni.
Yng nghynllun cyflawni cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar gydlyniant cymunedol ar gyfer 2016-17, dywedodd y Gweinidog cymunedau a threchu tlodi ar y pryd, Lesley Griffiths:
Rydym yn symud tuag at hinsawdd newydd lle mae Cymru o gymunedau cydlynol yn rhan o’r amcanion cenedlaethol drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Bydd hyn yn sicrhau bod cydlyniant yn parhau i fod wrth wraidd sut mae Cyrff Cyhoeddus yn cyflawni polisïau a gwasanaethau yn y dyfodol.'
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu barn Llywodraeth Cymru ar y sefyllfa o ran cydlyniant cymunedol yng Nghymru ar hyn o bryd, a pha gamau y gellir eu cymryd yn y dyfodol i’w wella ymhellach?
Cyfeiriaf yr Aelod eto at yr ateb a roddais yn gynharach o ran y cynllun cydlyniant cymunedol ac, wrth gwrs, gwaith y cydlgysylltwyr rhanbarthol o ran sicrhau bod y cynllun hwnnw’n cael ei ddatblygu. Rydym ni’n gwybod y bu heriau yn dilyn Brexit ble, mewn rhai cymunedau, y bu cynnydd mewn troseddau casineb. Mae hynny'n rhywbeth yr wyf yn gobeithio sydd dros dro ac nid yn rhywbeth, yn amlwg, sy’n duedd sy'n peri gofid i ni ar gyfer y dyfodol. Rydym ni’n gwybod bod cymunedau cydlynol yn gymunedau hapusach. Pan nad yw pobl yn gwrthdaro â'i gilydd, yna mae eu bywydau yn well o ganlyniad i hynny, a byddwn yn parhau i wneud yn siŵr bod yr hyn yr ydym ni’n ei wneud o ran hybu cydlyniant cymunedol yn helpu i gynyddu ymdeimlad pobl o les, gan gyd-fynd hefyd, wrth gwrs, â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Er bod comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol wedi dweud mai'r nod yw gwneud cyrff cyhoeddus i feddwl mwy am yr hirdymor, gan weithio'n well gyda phobl, gyda chymunedau a gyda’i gilydd, a cheisio atal problemau rhag codi a rhoi sylw i faterion cyffredin trwy fabwysiadu dull mwy cydgysylltiedig, rhywbeth sydd hefyd yn cael ei adlewyrchu mewn dyletswyddau sy'n ofynnol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, mae gormod o awdurdodau lleol yn dal i ddehongli hyn ar sail hierarchaidd, 'rydym ni’n penderfynu yn gyntaf ac yna’n ymgynghori'. Sut gwnewch chi, felly, o’r diwedd, weithio gyda rhwydwaith gyd-gynhyrchu ardderchog Cymru gyfan, sy’n darparu prosiectau ar y sail hon ar lawr gwlad, gan alluogi pobl broffesiynol a dinasyddion i rannu grym a gweithio gyda'i gilydd mewn partneriaeth gyfartal? A hefyd, mae un o'r sefydliadau, Oxfam Cymru, yn benodol wedi galw ar eich Llywodraeth i ymgorffori'r dull bywoliaethau cynaliadwy ym mhob polisi a darpariaeth o wasanaethau yng Nghymru, gan helpu pobl i nodi eu cryfderau eu hunain er mwyn mynd i'r afael â phroblemau craidd sy’n eu hatal nhw a'u cymunedau rhag gwireddu eu potensial.
Ni ellir gorfodi cydlyniant cymunedol. Mae’n rhaid iddo dyfu yn organig o lawr gwlad er mwyn iddo fod yn gynaliadwy ac yn gadarn, ac felly byddwn yn disgwyl i awdurdodau lleol weithio mewn gwir bartneriaeth gyda sefydliadau sydd â phrofiad o ddarparu ar lawr gwlad er mwyn gwneud yn siŵr bod cydlyniant yn gadarn yn y cymunedau y mae awdurdodau lleol yn eu gwasanaethu.