<p>Cefnogi Busnesau Bach yn Arfon</p>

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith – Senedd Cymru ar 7 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru

2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion y llywodraeth i gefnogi busnesau bach yn Arfon? OAQ(5)0089(EI)[W]

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 1:35, 7 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Mae llawer o gefnogaeth ar gael i fusnesau bach a chanolig yn Arfon, ac yn wir ledled Cymru, drwy rwydwaith cefnogi Busnes Cymru.

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 1:36, 7 Rhagfyr 2016

Yr wythnos diwethaf, bûm yn ymweld â busnes bach llewyrchus yn fy etholaeth. Maen nhw’n ceisio prynu’r adeilad y maen nhw’n lesio gan y Llywodraeth ar hyn o bryd ac maen nhw ar stad ddiwydiannol ar gyrion Caernarfon. Maen nhw eisiau prynu’r adeilad er mwyn ehangu eu busnes. Roedd y cwmni a ddaeth i brisio’r uned ar ran y Llywodraeth yn dod o Fryste. Roedd eu pris nhw am werth yr eiddo llawer uwch na phris y cwmni lleol o ogledd Cymru a ddefnyddiwyd i bennu pris gan y tenant. Felly, mae gennych bris o Fryste, pris o ogledd Cymru a rhai degau o filoedd o bunnau o wahaniaeth. Y cwestiwn cyntaf: pam fod y Llywodraeth yn defnyddio cwmni o Loegr, sydd yn mynd yn groes, mae’n debyg, i bolisïau caffael y Llywodraeth yma? A ydych yn cytuno bod gan y cwmni prisio lleol lawer gwell dealltwriaeth o brisiau’r farchnad yn lleol? A ydych yn cytuno hefyd fod y cwmni yma dan anfantais fawr yn sgil y sefyllfa yma? Nid ydynt yn gallu symud ymlaen i brynu ar y pris sy’n cael ei bennu. A wnewch chi edrych eto ar y sefyllfa os gwelwch yn dda?

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 1:37, 7 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Ni chredaf y byddai’n iawn i mi roi sylwadau manwl ynglŷn â mater sy’n amlwg yn fater masnachol, ond os hoffai’r Aelod ysgrifennu ataf gyda manylion ynglŷn â’r ddau brisiad, byddaf yn sicr yn gofyn i fy swyddogion yn y tîm eiddo edrych i weld pam fod gwahaniaeth mor glir a sylweddol rhwng y gwerthoedd a bennwyd ar ei gyfer.

Yn ogystal, byddaf yn ymdrechu i sicrhau bod swyddogion Busnes Cymru yn cysylltu â’r cwmni i sicrhau bod yr holl gefnogaeth angenrheidiol ar gael i gynorthwyo’r cwmni i brynu’r eiddo, pe bai’n dymuno parhau â thrafodiad o’r fath.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative

(Cyfieithwyd)

O ystyried bod Llywodraeth Cymru wedi addo torri trethi ar gyfer busnesau bach ac yn lle hynny wedi ymestyn y cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach, a oedd wedi bod yn gynllun dros dro, disgrifiwyd hyn gan Ffederasiwn Busnesau Bach Gogledd Cymru, sy’n cynrychioli busnesau o Arfon ar draws y rhanbarth fel y gwyddoch, yn gwbl gamarweiniol a dyma’r ffurf waethaf ar sbinddoctora.

Sut felly rydych yn ymateb i’r £16 miliwn ychwanegol a gyhoeddwyd yn natganiad yr hydref i Lywodraeth Cymru ei wario ar ardrethi busnes? Credaf eu bod wedi dweud eu bod yn parhau i fod yn faich ariannol enfawr ar fusnesau bach. Ar hyn o bryd, nid yw gwerth ardrethol pob busnes sy’n talu ardrethi busnes yng Nghymru yn ddim ond hanner y gwerth yn Lloegr, ac nid yw maint y cwmni, yn wahanol i Loegr a’r Alban, yn cael ei ystyried, gan roi cwmnïau llai o dan anfantais uniongyrchol. Felly, sut y byddwch yn ymgysylltu â busnesau bach yn Arfon a chynrychiolwyr eu sector, megis y Ffederasiwn Busnesau Bach, i fynd i’r afael â’r pryderon hynny?

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 1:38, 7 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn a dweud mai un unigolyn yn y Ffederasiwn Busnesau Bach oedd hynny, a bod llawer o bobl eraill yn y Ffederasiwn Busnesau Bach yng ngogledd Cymru wedi croesawu toriad Llywodraeth Cymru i drethi busnes ar gyfer busnesau bach a chanolig yn Arfon. Mae’r Aelod yn crybwyll y cynllun yn Lloegr, ond mae hwnnw’n gymwys i lawer llai o fusnesau. Bydd ein cynllun yn gymwys i oddeutu 70 y cant o fusnesau ac ni fydd oddeutu hanner yr holl fusnesau cymwys yn talu unrhyw ardrethi o gwbl. O ran y cymorth a roddwn i fusnesau yn Arfon, credaf ei bod yn eithaf amlwg fod ein cymorth yn dwyn ffrwyth, gan fod nifer y mentrau sy’n gweithredu yng Ngwynedd wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed, gyda 15,786 o fusnesau’n gweithredu yn y rhan honno o Gymru. Caiff hynny ei adlewyrchu ledled gogledd Cymru hefyd, lle y mae’r nifer uchaf erioed o fusnesau’n gweithredu ar hyn o bryd—bron i 62,000.