7. 6. Datganiad: Codau Cyfraith Cymru

– Senedd Cymru am 5:05 pm ar 13 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:05, 13 Rhagfyr 2016

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol ar godau cyfraith Cymru. Rwy’n galw ar y Cwnsler Cyffredinol i wneud ei ddatganiad—Mick Antoniw.

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Lywydd. Fel deddfwrfa ifanc gyda phwerau cymharol newydd i ddeddfu, mae gennym ni yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru gyfle unigryw i ddod â threfn i’r deddfau yr ydym wedi'u hetifeddu ac i ddefnyddio dull gwahanol o wneud deddfau newydd. Byddai'r dull hwn yn rhoi’r dinesydd—defnyddwyr deddfwriaeth yn y pen draw—yn gyntaf, drwy sicrhau bod ein cyfreithiau yn glir, yn hygyrch ac wedi’u cadw yn dda. Fel y dywedodd Aristotle, mae cyfraith yn drefn, ac mae cyfraith dda yn drefn dda.

Ein cyfle yw arwain y ffordd yn y Deyrnas Unedig drwy ddechrau ar lwybr o gyfuno a chodeiddio ein cyfraith. Gallai codau cyfraith Cymru fod yn sail i'n hawdurdodaeth gyfreithiol ac yn fwy cyffredinol ffurfio rhan o sylfeini ein cenedl. Mae pryderon wedi'u codi am nifer o flynyddoedd am gymhlethdod y gyfraith yn y Deyrnas Unedig a chyflwr anhrefnus ein llyfr statud helaeth a gwasgarog. Mae'r problemau yn arbennig o ddwys o ran Cymru gan nad yw ein cyfreithiau yn gyffredinol yn adlewyrchu ein safbwynt gwleidyddol a chyfansoddiadol o fewn y DU. Er bod y sefyllfa yn newid yn gyflym, mae’r cyfreithiau sy'n berthnasol i Gymru yn unig yn gymharol brin. Yn hytrach, mae'r rhan fwyaf yn dal yn berthnasol i Gymru ac i Loegr, neu i Brydain Fawr neu i'r DU yn ei chyfanrwydd.

Mae rhywfaint o'r cymhlethdod yn deillio o'r ffaith nad oes unrhyw gorff ffurfiol o gyfraith Cymru. Nid ydym yn gallu sôn am gyfraith Cymru, dim ond cyfraith Cymru a Lloegr—a adnabyddir gan y rhan fwyaf, fel y mae’n rhaid ei ddweud, fel cyfraith Lloegr. Mae absenoldeb awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru yn rhan o'r rheswm pam mae’r sefyllfa gyfreithiol yn gybolfa ddryslyd, anhreiddiadwy i'r rhan fwyaf o bobl. Mae gwneud deddfau Cymru o fewn y cyd-destun hwnnw, a dyna wrth gwrs yw ein swyddogaeth ni fel deddfwyr, yn fwy anodd nag y dylai fod. Efallai mai diffyg mwyaf Bil Cymru yw nad yw’n cynnig unrhyw ateb i'r broblem hon, problem na allwn ni yn y ddeddfwrfa hon fynd i'r afael â hi ar ein pennau ein hunain.

Mae llawer o'r cymhlethdod, fodd bynnag, yn deillio yn fwy syml o’r cynnydd yn nifer y deddfau sydd wedi datblygu dros y degawdau diwethaf yn y Deyrnas Unedig. Mae'r llyfr statud yn cynnwys bron i 5,000 o Ddeddfau a mwy na 80,000 o offerynnau statudol, llawer ohonynt yn ddegawdau neu hyd yn oed yn ganrifoedd oed. Gan gymryd cyfraith addysg fel enghraifft, ceir bron i 30 o Ddeddfau Seneddol a Mesurau a Deddfau'r Cynulliad, yn ogystal â rhai cannoedd o offerynnau statudol sy'n cael effaith yng Nghymru ar y pwnc hwnnw yn unig. Mae'r gyfraith felly yn anodd i gyfreithwyr ei llywio, heb sôn am y dinesydd lleyg.

Mae'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyfuno’r gyfraith mewn meysydd datganoledig, fel y mae’r Arglwydd Brif Ustus wedi ei wneud hefyd. Ym mis Mehefin, cyhoeddodd Comisiwn y Gyfraith ei adroddiad 'Ffurf a Hygyrchedd y Gyfraith sy’n Gymwys yng Nghymru' yn dilyn prosiect dwy flynedd a gychwynnwyd gan Lywodraeth Cymru. Roedd hwn yn golygu cryn ymgynghoriad â chymdeithas ddinesig Cymru a thu hwnt. Mae Comisiwn y Gyfraith wedi argymell bod rhaglen barhaus, hirdymor o gyfuno cyfraith Cymru yn cael ei datblygu, gan ddod i'r casgliad y byddai hyn yn cyflwyno manteision cymdeithasol ac economaidd clir. Yn eu barn hwy, mae proses o gyfuno a ffurf o godeiddio wedyn yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod ein cyfreithiau yn hygyrch. Byddai'r broses hon hefyd yn arwain at weld ein cyfreithiau yn dod yn gwbl ddwyieithog, a fyddai yn ei dro yn helpu i ddatblygu'r Gymraeg ymhellach fel iaith y gyfraith. Yn sylfaenol, hefyd, byddai hyn yn y dyfodol yn gwneud ein gwaith mewn datblygu deddfau newydd ac wrth graffu arnynt gryn dipyn yn symlach a mwy effeithlon.

Mae codeiddio ein cyfreithiau yn rhywbeth nad yw erioed wedi ei wneud o'r blaen yn y DU ac ni allaf ond dyfalu pam mae hynny’n wir, ond rwy’n amau ​​ei fod oherwydd maint a chost y dasg, ac efallai oherwydd diffyg ewyllys gwleidyddol oherwydd bod dewisiadau proffil uwch eraill yn cymryd blaenoriaeth. Felly, mae gwneud hyn yn flaenoriaeth efallai'n fwy anodd nag erioed, o gofio’r gostyngiadau mewn cyllidebau sy'n ein hwynebu. Ond gellid dweud y byddai dod â threfn i'r gyfraith yn fwy na gwerth chweil, o gofio’r manteision cymdeithasol y byddai'n eu rhoi i bobl Cymru, y mae eu mynediad at gyfiawnder yn fwy cyfyngedig nag erioed o'r blaen yng ngoleuni toriadau i gymorth cyfreithiol a chau llysoedd. Byddai hefyd enillion effeithlonrwydd ar draws pob sector, gan ddod â manteision ariannol i'r economi a mwy o eglurder i'n system gymhleth iawn o lywodraethu. Mae'r rhain hefyd yn faterion a ddylai fod yn destun pryder i ni fel deddfwrfa gyfrifol sy’n aeddfedu.

Mae'r sefyllfa bresennol, yn fy marn i, yn dod yn fwyfwy anghynaladwy. Nid wyf yn credu bod gennym fawr o ddewis heblaw cychwyn ar yr hyn a fydd yn llwybr hir ac anodd i ddatrys yr hyn yr ydym wedi ei etifeddu, ac i ddatblygu systemau mwy trefnus o wneud a chyhoeddi’r gyfraith yn y dyfodol. Ond nid oes gennyf unrhyw amheuaeth ynghylch cymhlethdod a maint y dasg, a hyd y llwybr. Rwyf hefyd yn ymwybodol iawn ein bod yn byw mewn cyfnod ansicr ac yn debygol o wynebu heriau cyfansoddiadol eithriadol eraill yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod.

Digwyddodd canlyniad y refferendwm ar aelodaeth y Deyrnas Unedig o'r Undeb Ewropeaidd ar ôl datblygiad argymhellion Comisiwn y Gyfraith, ac ni ystyriwyd dylanwad cyfraith Ewrop ar ein trefniadau cyfansoddiadol yn uniongyrchol. Mae’r angen tebygol dros y blynyddoedd nesaf i ailddatgan neu ddisodli cyfraith Ewrop, fodd bynnag, yn gysylltiedig â'r mater o gyfuno’r gyfraith. Mae cyfraith Ewrop yn ychwanegu at gymhlethdod y llyfr statud, ac mae'n amlwg bod gorgyffwrdd rhwng ein dyhead i godeiddio’r gyfraith a'r hyn a allai ddod yn angen na ellir ei osgoi i ailddatgan cyfraith Ewrop yn y cyd-destun domestig. Fodd bynnag, nid yw'n glir eto beth fydd yn deillio o'r tynnu allan sydd ar fin digwydd yn y DU o'r Undeb Ewropeaidd, ac nid yw'n glir, o safbwynt Llywodraeth Cymru, pa oblygiadau o ran adnoddau a ddaw i’r swyddogion hynny sy'n ymwneud â datblygu deddfwriaeth. Efallai y bydd angen yr un adnoddau prin y gellid eu defnyddio i gyfuno'r gyfraith at ddibenion eraill.

Ond ni ddylai’r anawsterau hyn ein hatal rhag cychwyn ar y llwybr o leiaf. Yng ngeiriau'r athronydd Tsieineaidd Lao Tzu, mae taith o 1,000 o filltiroedd yn dechrau gydag un cam bach. Felly, efallai y byddwn yn gwneud cynnydd cyflym ar rannau o'r daith, ond gwn y bydd angen i ni droedio'n ofalus a byddwn heb os yn cael ein harafu ar hyd y ffordd. Felly, fy nghynnig, felly, yw ein bod yn cychwyn prosiect o gyfuno, codeiddio a gwell cyhoeddi ar y gyfraith fel cynllun arbrofol, i gael ei werthuso tuag at y flwyddyn nesaf, ac rwy’n gobeithio y bydd y cynllun arbrofol yn ddechrau proses tymor hir a fydd yn arwain at godau yn y rhan fwyaf o feysydd y gyfraith sy'n effeithio ar ddinasyddion Cymru. Felly, yn ystod y cynllun arbrofol hwn, byddwn yn dechrau ar y dasg hanfodol o gyfuno ein rhannau helaeth o gyfraith bresennol yn y meysydd datganoledig. Byddwn hefyd yn gwerthuso’r argymhellion niferus a manylach a wnaed gan Gomisiwn y Gyfraith, megis creu swyddfa cod deddfwriaethol bwrpasol a datblygu rhaglen ffurfiol o gyfuno a chodeiddio.

Cyn cychwyn ar broses newydd a fyddai'n gofyn am adnoddau sylweddol dros flynyddoedd lawer, rwyf hefyd yn awyddus i sicrhau y byddai digon o fuddion yn cronni. Er y byddai’n anodd mesur, rwy’n credu y byddai'n ddoeth gwerthuso budd cyfuno a chodeiddio deddfau a’u cyhoeddi ar wefan Cyfraith Cymru, Law Wales, mewn nifer fach o feysydd cyn symud ymlaen ymhellach. Yn yr un modd, bydd angen i ni werthuso’r galwadau y bydd cyfuno’r gyfraith yn eu rhoi ar adnoddau prin, yn enwedig yng ngoleuni'r tasgau eraill sy'n debygol o gymryd blaenoriaeth.

Felly, yn rhan o'r broses hon, mae hefyd yn hanfodol i sicrhau ein bod ni, ar y cyd, fel Cynulliad, yn gwbl gefnogol i'r fenter hon, mewn egwyddor ac, yn fwy penodol, o ran cyfuno'r gyfraith mewn meysydd penodol sy'n cynnwys darpariaethau, er enghraifft, y gellid eu hystyried yn wleidyddol ddadleuol. I gyrraedd diwedd ein taith, mae’n rhaid i ni weithio gyda'n gilydd. Felly, oni bai bod yr ewyllys gwleidyddol yn bodoli i hwyluso cyfuno trwy fabwysiadu gweithdrefnau addas, ni fydd y fenter yn llwyddo. Rwyf wedi ysgrifennu at y Llywydd ac rwy’n gobeithio ymgynghori yn eang â chydweithwyr a chynrychiolwyr y Cynulliad yn y gobaith y gallwn gydweithio.

I gloi, rwy’n credu bod gennym gyfrifoldeb i ymdrin â phroblem na chafodd ei chreu gennym ni, ond mae gennym gyfle hefyd i arwain y ffordd. Bydd digwyddiadau yn ymyrryd, a gall y cynnydd fod yn araf ar adegau, ond rwy’n cynnig ein bod yn dechrau ar y broses o gyfuno cyfraith Cymru a chychwyn ar lwybr tuag at ddatblygu codau cyfraith Cymru.

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 5:15, 13 Rhagfyr 2016

A gaf i ddiolch i’r Cwnsler Cyffredinol am ei ddatganiad, croesawu’r bwriad a chefnogi yn frwd y bwriad i gydgrynhoi a chodeiddio cyfreithiau Cymru? Mae yna ddirfawr angen i symleiddio a’i gwneud hi’n haws i bobl allu deall a darllen un Ddeddf yn yr un lle ar yr un pryd, achos dyna beth yr ydym yn sôn amdano fe yn y bôn yn y fan hyn. Wrth gwrs, rŷm ni’n dyfynnu Aristotle fan hyn. Buaswn i hefyd yn mynd yn ôl i’n hanes ni fel Cymry a Deddfau Hywel Dda. Yn ôl yn y flwyddyn 962, wrth gwrs, roedd gennym ni Ddeddf Gymreig flaenorol—roedd gennym ni Ddeddfau Cymreig, yn naturiol, a oedd yn fwy syml, efallai, na’r rhai sydd wrthi heddiw. Nid wyf yn credu, efallai, fod Hywel Dda wedi meddwl am yr angen i gydgrynhoi a chodeiddio ei gyfreithiau bryd hynny, ond roedd yn arloesi yn y maes, a dyna Ddeddfau cyntaf yn y wlad yma a oedd yn gwneud rhywbeth i edrych ar ôl buddiannau menywod. Roedd Hywel Dda yn arloesi, a buaswn i’n licio meddwl ein bod ni hefyd yn gallu arloesi rŵan, fel yr ydych yn ei ddweud, fel Cynulliad ifanc iawn, yn y materion yma o greu deddfwriaeth.

Ar ddiwedd y dydd, mae’n bwysig cael unrhyw ddarn o Ddeddf y gallwn ni gyd ei ddarllen yn synhwyrol yn yr un lle o dan yr un clawr—dyna beth sydd ddim yn digwydd ar hyn o bryd, ac, wrth gwrs, mae angen gradd yn y Ddeddf i fynd i’r afael â hynny. Fel yr ydych wedi sôn eisoes, mewn lle pan nad yw pobl rŵan yn gallu fforddio cael cyfreithwyr, weithiau, ac yn rhedeg eu hachosion eu hunain, mae’n rhaid inni gael y gallu, neu mae’n rhaid inni gael y gallu cyffredinoli i allu darllen Deddfau heb yr angen i gael gradd yn y maes. Felly, rwy’n croesawu’n fawr y bwriad i’w gwneud hi’n haws i ymdrin â’r gyfraith ac i dacluso beth sydd gennym ni. Fel yr ydych wedi dweud eisoes, mae yna doreth o Ddeddfau ac maen nhw’n gallu cymryd drosodd adeiladau cyfan. Nid yw hynny’n mynd i helpu’r bwriad o allu dilyn unrhyw Ddeddf yn hawdd.

Mae yna gwpwl o gwestiynau, wrth gwrs. Rŷm ni yn creu Deddfau Cymraeg rŵan. Mae yna nifer o Ddeddfau ym maes addysg ac ym maes iechyd yng Nghymru sydd yn sylweddol wahanol rŵan ers datganoli. Wrth gwrs, nid ydyn nhw’n cwympo’n hawdd iawn i mewn i’r maes ‘England and Wales’ yma, fel yr ydych yn ei nodi, felly rŷm ni wedi bod yn creu Deddfau Cymreig, a nifer ohonyn nhw, ers datganoli, yn enwedig yn ddiweddar—nid jest ym meysydd addysg ac iechyd, ond arloesi gyda’r Ddeddf rhoi organau, er enghraifft, sef yr enghraifft gyntaf yn yr ynysoedd hyn. Felly, mae yna gyfle inni fod yn adeiladu ar hynny ac nid jest ein bod ni’n gallu arloesi yn y syniadau am Ddeddfau ond hefyd arloesi o ran sut yr ydym yn ymdrin â’r Deddfau hynny.

Wrth gwrs, mae gennym ni broblem—neu her y dylwn i ei ddweud—yn absenoldeb un awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru. Rŷm ni’n rhannu awdurdodaeth gyfreithiol efo Lloegr. Buaswn yn hoffi gofyn, gyda’r holl siarad yma ynglŷn â Bil Cymru, pa drafodaethau yn benodol y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u cael i fynd i’r afael â’r broblem yma. Buasai pethau yn llawer haws petai un awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru. Buasai’n llawer haws—mi fuasai hefyd yn llawer haws petawn ni hefyd wedi cael yr heddlu, y llysoedd ac ati wedi cael eu datganoli i Gymru eisoes, fel gwledydd eraill Prydain, ac fel Manceinion. Beth sydd yn bod arnom ni’r Cymry? Yn wyneb yr her o golli rhai pwerau ym Mil Cymru, buaswn i’n licio gwybod mwy am rôl y Cwnsler Cyffredinol yn gwthio am un awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru, a fuasai’n gwneud pethau’n lawer haws, a hefyd ddim colli’r gafael ar yr angen inni ddatganoli’r heddlu a’r llysoedd yma i Gymru. Buasai hynny’n gwneud pethau lawer yn haws hefyd, gan ein bod ni’n deddfu yn y lle yma, ar ddiwedd y dydd.

Nawr, yn nhermau—roeddech yn sôn am gymhlethdodau posib yn ymwneud ag Ewrop a dod allan o Ewrop. Yn naturiol, mae yna nifer o gymhlethdodau yn fanna, ond beth nad ydym eisiau ei weld eto ydy colli pwerau. Rŷm ni’n disgwyl gweld Deddfau Ewropeaidd sy’n ymwneud â Chymru yn dod i Gymru. Buaswn i’n hoffi cael sicrwydd, yn yr holl drafodaethau, nad ydym ni mewn perygl o golli’r Deddfau yna sy’n berthnasol inni yng Nghymru. Wrth gwrs, yn naturiol, fel rhan o hynny, mi allwn ni dacluso fel rŷm ni’n ymdrin â bod yn rhan o’r cydgrynhoi a chodeiddio yma, ond hefyd, yn bwysicach, efallai, nid ydym eisiau colli pwerau dros y rhannau hynny o Ddeddfau Ewrop sydd nawr yn berthnasol inni yma yng Nghymru.

Mae yna ddimensiwn Cymreig, fel rŷch chi wedi cyfeirio ato eisoes, ac mae yna yn benodol hefyd ddimensiwn iaith Gymraeg. Rŷm ni wedi bod yn datblygu is-ddeddfwriaeth a Deddfau dwyieithog yma ers cychwyn y Cynulliad, ac, wrth gwrs, bydd y Cwnsler Cyffredinol yn ymwybodol nad yw un iaith yn gyfieithiad pur o iaith arall—mae yna elfen o ddehongli hefyd. Ac, wrth gwrs, fel rŷm ni’n datblygu’r arbenigedd cyfreithiol yna yn yr iaith Gymraeg, mae eisiau hefyd ddatblygu’r arbenigedd i allu dehongli i wneud yn siŵr bod beth sy’n cael ei ddweud mewn un iaith yn llwyr yn cael ei drosglwyddo i’r iaith arall, ac mae yna fater o ddehongli, nid jest mater o gyfieithu, ac na choller hynny mewn unrhyw fater o dacluso’r ddeddfwriaeth sydd gerbron.

Fel rŷch chi’n dweud yn fan hyn, mae’n her sylweddol—i gloi—ac rŷch chi’n dyfynnu:

‘a journey of 1,000 miles begins with one small step.’

Yn y Gymraeg, mae yna ddywediad, sy’n dweud, ‘deuparth gwaith ei ddechrau’.

Two thirds of the work is in actually getting started.

Felly, pob lwc i’r Cwnsler Cyffredinol ar ei waith arloesol ymlaen. Diolch yn fawr.

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 5:22, 13 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Wel, a gaf i ddiolch i'r Aelod am ei sylwadau meddylgar, a hefyd am fynd â ni yn ôl i 962? Dros yr wythnos ddiwethaf, rwy’n meddwl fy mod i wedi treulio cryn dipyn o amser yn y Goruchaf Lys, gan archwilio rhyw 20,000 o dudalennau o ddogfennau yn mynd â ni yn ôl at y 1300au, ac roedd rhywfaint o gyfeirio at gyfraith Cymru, ond mae hanes y gyfraith yn bwysig. Mae hwn yn brosiect cyffrous, yn gam cyffrous ymlaen, oherwydd ein bod yn edrych ar ddechrau proses o godeiddio trefn newydd gyfan o gyfraith Cymru, o godeiddio'r gyfraith yn arwain at yr hyn yr wyf wedi’i ddweud o'r blaen yn y Siambr hon, sy’n anochel, a hynny yw sefydlu awdurdodaeth. Mae sut yr ydym am gyrraedd yno, pa mor hir cyn i ni gyrraedd yno yn amlwg yn fater o ddadl, ac, wrth gwrs, cododd yr Aelod y mater o Fil Cymru, a bydd yn ymwybodol iawn o'r datganiadau a wnaed gan y Prif Weinidog ynglŷn â'r awdurdodaeth a hefyd y datganiadau yr wyf wedi'u gwneud. Bydd rhywfaint o gydnabyddiaeth o gorff cyfraith Cymru o fewn Bil Cymru, ond ni fu, cyn belled ag y gwn i, unrhyw gonsesiwn o ran y pwynt awdurdodaeth penodol. Ond fel y dywedais, rydym ar y ffordd ac rwy'n credu ei bod yn anochel y byddwn yn y pen draw yn cyrraedd yno.

Rwyf wedi bod yn ofalus iawn o ran yr ymagwedd yr wyf yn ei mabwysiadu, oherwydd yr hyn yr wyf yn wyliadwrus iawn ohono yw bod llawer o waith; mae hon yn dasg anhygoel o gymhleth, ac mae'n dasg sy'n cael ei gyrru gan adnoddau yn ogystal, ac rwy'n wyliadwrus iawn o'r amgylchedd yr ydym ni ynddo ar hyn o bryd, gyda'r newid cyfansoddiadol mawr yr ydym yn mynd drwyddo, nid yn unig yn nhermau'r DU ond o ran y dimensiwn Ewropeaidd ac yn y blaen. Ac mae'n bwysig na wneir dim a fydd mewn gwirionedd yn rhwystro (1) rhaglen ddeddfwriaethol y lle hwn, ond hefyd y ffaith y gallai fod angen i ni ymateb yn gyflym ac yn gyfrifol o ran ein meysydd datganoledig, ein statws cyfansoddiadol ein hunain a'r mater o ddeddfau Ewrop a’r cymhlethdodau a allai godi yn y fan honno. Ond rwy'n credu drwy fabwysiadu'r dull cynllun arbrofol, y gallwn eisoes nodi bod cyfreithiau lle mae rhyw gymaint o godeiddio eisoes wedi digwydd, lle y ceir yr hyn y gallech ei ddisgrifio fel 'enillion cyflym' o ran codeiddio, gan ddechrau’r broses a dysgu o'r broses honno, yn ogystal â'r adnoddau y bydd eu hangen, ond hefyd lle y gallai hyd yn oed fod gorgyffwrdd yn yr hyn y gallai fod yn ofynnol i ni ei wneud o ran deddfau Ewrop. Yr hyn sy'n ddiddorol iawn hefyd, yw i ba raddau yr ydym bellach yn gweld cyhoeddiadau cynyddol ynglŷn â chyfraith Cymru. Roeddwn i yn y lansiad yr wythnos o’r blaen o lyfr ar y gyfraith weinyddol yng Nghymru. I rai, efallai nad yw hynny’n ymddangos i fod yn noson neu’n bosibilrwydd arbennig o gyffrous, ond mae’r ffaith bod gennych erbyn hyn gyhoeddiad sy'n ymwneud yn gyfan gwbl â’r mater o gyfraith weinyddol Cymru a bod gennym bellach symudiad tuag at benodi llywydd tribiwnlysoedd Cymru—. Mae'r pethau hynny’n bwysig ac maent i gyd yn mynd gyda'i gilydd.

O ran y mater o newidiadau Ewropeaidd a'r mater o bwerau datganoledig a beth allai ddigwydd yno, mae hynny, wrth gwrs, yn symud i ddadl arall. Wrth gwrs, bydd yr Aelod yn ymwybodol o'r datganiad a wneuthum ynglŷn ag erthygl 50. Mwy na thebyg, yr hyn fyddai orau yw fy mod i’n gohirio gwneud sylwadau eto, mynd dros hen dir ar hynny, oherwydd rydym ar hyn o bryd, wrth gwrs, yn aros am ddyfarniad y Goruchaf Llys. A bydd yr Aelod hefyd wedi gweld y cyflwyniadau manwl iawn yr ydym wedi’u rhoi i mewn, a oedd yn nodi sut yr ydym yn gweld setliad datganoli Cymru, y materion a godwyd yn yr achos erthygl 50 hwnnw ar sofraniaeth, ond hefyd swyddogaeth y lle hwn o ran confensiwn Sewel a statws hynny o fewn strwythur datganoli y DU.

Photo of David Melding David Melding Conservative 5:27, 13 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddechrau drwy ddweud fy mod wedi dysgu rhywbeth bod cyfreithiau Hywel Dda yn dyddio o 962, a soniodd Dai hefyd am hyn, ond bu farw Hywel yn 950? Ond mae'n debyg ei fod wedi cymryd peth amser i fynachod Hendy-gwyn ar Daf greu'r llawysgrif. Ond, beth bynnag, mae'n ymddangos bod gwneud cyfraith ac ymdrin â’n cyfraith gyfansoddiadol sylfaenol yn cymryd ychydig o amser, felly efallai y dylwn gadw hynny mewn cof. A gaf i groesawu'r datganiad a hefyd adroddiad Comisiwn y Gyfraith ‘Ffurf a Hygyrchedd y Gyfraith sy’n Gymwys yng Nghymru'? Edrychaf ymlaen at ymateb llawnach i'r adroddiad hwnnw, sydd bellach ynghlwm yn y prosiect arbrofol, mae'n ymddangos i mi, os wyf i wedi deall yn iawn, o'r hyn a ddywedodd y Cwnsler Cyffredinol. Ond pan ddaw'r ymateb hwnnw yn fwy cynhwysfawr, rwy’n credu y byddai'n ddefnyddiol iawn, gan ei fod yn adroddiad rhagorol yn fy marn i.

A gaf i ddweud fy mod i’n cytuno bod gennym bellach rywfaint o gyfle i gyfuno a hyd yn oed codeiddio llawer o gyfraith Cymru?  Rwy’n ystyried cyfuno fel bod yn ddymunol iawn, ond pen arall y sbectrwm rhinweddol hwnnw yw codeiddio llawn, a fyddai yn wir yn ein gwneud yn unigryw yn ynysoedd Prydain ac rwy'n credu y byddai'n esiampl ddisglair yn ysbryd Hywel Dda mewn sawl ffordd. Byddai'n sicr yn gwneud y gyfraith yn gliriach ac yn fwy hygyrch. Mae gennym y cyfle hwnnw oherwydd ein bod yn sefydliad newydd, er ein bod erbyn hyn yn ein pumed Cynulliad. Wrth gwrs, dim ond yr ail ydyw, mewn gwirionedd, sydd â phwerau deddfu. Ond ni fydd y cyfle hwn yn para am byth, felly rwy’n croesawu'r cam cyntaf yr ydych yn ei gymryd.

Rwy’n cymeradwyo'r hyn a ddywedodd Dai Lloyd am ddeddfu dwyieithog. Rwy'n credu bod hyn yn cael ei esgeuluso weithiau. Pan eich bod yn deddfu yn ddwyieithog gallwch egluro egwyddorion cyfreithiol yn well mewn un iaith nag mewn un arall weithiau, felly mae angen iddynt weithio gyda'i gilydd yn effeithiol. Yn sicr nid yw'n fath soffistigedig o gyfieithu; y mae mewn gwirionedd yn rhywbeth sy'n mynd gyda'i gilydd ac yn bwydo oddi ar broses ddeallusol yn ein dau draddodiad ieithyddol. A gaf i ddweud y bydd y grŵp Ceidwadol yn awyddus ac yn barod iawn i gydweithredu yn y diwygiad mawr ei angen hwn?

A gaf i roi prawf i chi, felly, ar sut y mae hyn yn mynd i gael ei ddatblygu? Mae dichonoldeb cyfuno bellach am gael ei werthuso mewn cynllun arbrofol. Rydych yn dweud y bydd hwnnw’n dod i ben y flwyddyn nesaf, yn ôl pob tebyg tua diwedd y flwyddyn, ond a gaf i eich annog i gadw at yr amserlen dynn honno oherwydd byddwn ymhell i mewn i bumed tymor y Cynulliad erbyn hynny? A hoffwn wybod sut y mae'r cynllun arbrofol yn mynd i weithredu. A fydd yn cymryd darn o ddeddfwriaeth sydd ar ddod ac mewn gwirionedd yn ei gyflwyno mewn dull cyfunol? Collwyd cyfle ar ôl cyfle yn y pedwerydd Cynulliad—credaf yn fwyaf dybryd, y Ddeddf treftadaeth—ac felly rwy'n gobeithio y gallem ddod o hyd i enghraifft fyw o Fil Cymru cyfunol, neu, fel yr oedd yn ymddangos o’ch datganiad, gallem hefyd ddod i’r casgliad nad ydych ond yn mynd i gychwyn ar ymarfer ôl-weithredol i weld, mewn gwirionedd, yr hyn a fyddai'n ofynnol gyda'r corff presennol o gyfraith. Felly, rwyf yn eich annog mewn gwirionedd i gynhyrchu Bil cyfunol i’r Cynulliad hwn ei ystyried; rwy’n credu y byddai hynny’n ddefnyddiol iawn.

Wrth werthuso'r cynllun arbrofol, pa fesurau fydd yn allweddol—cost, effeithlonrwydd, effeithiolrwydd neu allu? Rwy'n siŵr bod angen i ni wybod ble mae ein cryfderau, ble mae angen iddynt gael eu datblygu a pha bryd y byddai eu datblygu o fudd i gymdeithas Cymru. Er enghraifft, proffesiwn cyfreithiol mwy effeithiol gyda mwy o allu lefel uchel yng Nghymru, mae hynny ymddangos i mi fel rhywbeth a fyddai'n ddymunol iawn. Rydych yn canmol Comisiwn y Gyfraith, ond ni ddywedasoch sut y gallent gydweithredu yn hyn i gyd oherwydd, wrth gwrs, maen nhw'n adnodd allweddol wrth greu deddfwriaeth gyfunol. Rwy'n credu ei fod yn rhywbeth y mae angen i chi efallai ei ddwyn i sylw'r Cynulliad.

Yna, a gaf i ofyn: beth yw'r canlyniad tebygol os ydym, fel rwy'n siŵr ein bod i gyd yn gobeithio, yn credu bod yr amcanion hyn yn ymarferol? A ydych chi wedyn yn mynd i greu amserlen ar gyfer prif feysydd y gyfraith i gael eu cyfuno, oherwydd bydd hynny'n amlwg yn cymryd, wn i ddim, rhaglen bum neu 10 mlynedd? Ond bydd rhai adegau yn y Cynulliad pan fyddwn yn cael cyfnod arbennig o ddefnyddiol i gyfuno meysydd llai dadleuol y gyfraith, efallai yn gynnar yn ystod tymor newydd y Cynulliad pan nad oes yn aml fawr o ddeddfwriaeth ger ein bron. Mae hwnnw’n gyfle allweddol, rwy’n credu.

A gaf i ddweud hefyd, Lywydd, ei bod yn amlwg y bydd yn rhaid i’n gweithdrefnau ein hunain—gweithdrefnau’r ddeddfwrfa yma yn y Cynulliad—gael eu haddasu hefyd, a byddwn yn hynod gydweithredol yn hyn o beth? Bydd angen cyfres eithaf cynnil o weithdrefnau, yn fy marn i: cyfuno pan nad oes unrhyw newidiadau i'r gyfraith, dim ond datganiad cliriach, rwy’n credu y gallant fod yn weithdrefnau cymharol benodol; cyfuno gyda rhai diwygiadau nad ydynt yn ddadleuol, ni fyddem eisiau’r broses lawn o graffu o reidrwydd ar ddiwygiadau nad ydynt yn ddadleuol—er enghraifft, pan fo'r gyfraith yn cael ei gwneud yn fwy hygyrch trwy fod yn llai hynafol, nid oes angen y broses ddeddfwriaethol lawn ar y mathau hynny o ddiwygiadau yn ôl pob tebyg; ac yna bydd cyfuno sydd hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i ddiwygio mewn rhai meysydd dadleuol yn gofyn am sylw arbennig iawn, ac efallai y bydd angen ei wahanu o statud mawr fel y gellir craffu’n llawn arno. Diolch yn fawr iawn.

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 5:33, 13 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, a hefyd diolch yn fawr iawn am fwy neu lai arwain y ffordd, mewn gwirionedd, drwy'r adroddiad CLAC ar y maes cyfan o godeiddio. Rwy'n credu ei bod yn bwysig bod hynny’n cael ei gydnabod, gan fod cryn dipyn o waith wedi mynd ymlaen dros y blynyddoedd blaenorol, nid yn unig drwy hynny, ond gyda fy rhagflaenydd ac eraill hefyd. Ac wrth gwrs, maes o law, hoffwn wneud datganiad pellach a darparu gwybodaeth ychwanegol.

Mae ymgysylltiad y Cynulliad a'r holl grwpiau gwleidyddol ac Aelodau Cynulliad unigol yn bwysig, oherwydd bydd yn bwysig i ddeall yr hyn y mae’r mater o gyfuno a chodeiddio yn ymwneud ag ef. Bydd codeiddio yn darparu categorïau cliriach o gyfraith, ond mae'r rhan gyfuno o hyn yn cymryd deddfau amrywiol ac yn dod â nhw at ei gilydd mewn ffurf symlach a dealladwy, gan ddileu anghysondeb a gwrthddweud, ac yn y blaen, a allai fod yn bodoli, ac a fydd bron yn sicr yn bodoli. Wrth gwrs, yr hyn nad ydym yn awyddus i’w wneud yw defnyddio o angenrheidrwydd yr un broses o graffu yr ydym yn ei defnyddio ar gyfer cyfreithiau newydd lle mai’r hyn yr ydym yn ei wneud yw dod â’r gyfraith bresennol at ei gilydd yn effeithiol ar ffurf fwy hygyrch. Felly, mae cael system wedi’i chyflymu sy'n dderbyniol ac yr ymddiriedir ynddi gan bawb sy'n cymryd rhan yn mynd i fod yn hynod o bwysig. Mae Comisiwn y Gyfraith yn gwneud nifer o argymhellion ynglŷn â hynny, ond rhan o'r broses ymgysylltu, gyda swyddfa'r Llywydd ac ag Aelodau'r Cynulliad eu hunain, fydd gweithio hynny allan mewn gwirionedd ac edrych ar y broses honno. Mae hynny'n rhywbeth yr ydym yn mynd i’w ddechrau mewn gwirionedd, yn ogystal â'r ystyriaeth o sut yr ydym am ei ffurfioli ac o bosibl symud at sefydlu swyddfa benodol a fydd yn ymdrin â'r broses hon ac yn dod ag adroddiadau rheolaidd i'r Cynulliad am raglenni codeiddio.

Fel y dywed yr Aelod, mae'n broses tymor hir iawn, ond mae hefyd yn un a fydd wedyn yn gosod y paramedrau o ran sut yr ydym yn deddfu yn y lle hwn, felly os ydym yn diwygio deddfwriaeth, rydym yn diwygio o fewn cod, ond os ydym yn deddfu mewn maes newydd, rydym yn achub ar y cyfleoedd i sicrhau ei fod wir yn cyd-fynd â chyd-destun y cod. Felly, mae llawer o waith i'w wneud ar hynny o hyd.

O ran sut y gallem werthuso gwaith, rwy’n credu mai’r cam cyntaf, mewn gwirionedd, yw ceisio nodi'r meysydd hynny, fel yr wyf wedi’i ddweud, lle y gallai fod atebion cyflym, a lle mae diwylliant a threftadaeth yn un. Mae llawer o waith eisoes wedi'i wneud gyda Chomisiwn y Gyfraith o ran cynllunio. Mae cynllunio nid yn unig yn faes eithriadol o bwysig o ran buddiannau masnachol a busnes Cymru, ond mae hefyd yn faes sydd, oherwydd faint o waith sydd eisoes wedi ei wneud, yn brosiect mawr sy'n mynd i fod yn barhaus ac a fydd yn rhan o'r broses honno. Gallwn edrych ar rywfaint o'r ddeddfwriaeth yr ydym eisoes wedi ei gwneud o ran gofal cymdeithasol lle, er enghraifft, mae cryn dipyn o godeiddio wedi digwydd.

Felly, rwy’n meddwl dros y flwyddyn neu ddwy nesaf, bod posibilrwydd o ddangos yn ymarferol sut y gallwn godeiddio rhai meysydd, ond tra ein bod yn dysgu oddi wrth y broses honno, a dysgu hefyd am yr hyn y gall fod angen ei newid o ran Rheolau Sefydlog, ond hefyd yr hyn fydd yn ofynnol yn ôl pob tebyg o ran deddfwriaeth i roi hyn ar sail statudol, gan fy mod yn credu, pan fyddwn wedi ei gwerthuso hyn yn iawn, bod angen i ni barhau yn y dyfodol. Nid yw hyn yn rhywbeth yr ydym ni’n camu i mewn ac allan ohono. Rwyf yn dweud hynny yn ofalus oherwydd, fel yr wyf wedi’i ddweud, rwyf eisoes wedi rhoi’r cafeatau sydd gennyf o ran adnoddau ac o ran y gofynion penodol a allai fod eu hangen arnom, felly mae'n rhaid i ni sicrhau bod yr hyn yr ydym yn ei wneud yn ymarferol, ond ei fod hefyd â’r hyblygrwydd fel nad yw’n broses sydd mewn gwirionedd yn ein rhwystro fel deddfwrfa weithredol. Rwy’n credu fy mod i wedi cynnwys y rhan fwyaf o'r pwyntiau. Diolch yn fawr iawn.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 5:37, 13 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Mae'n ymddangos i mi, ar ddydd Mawrth tawel yn y cyfnod cyn y Nadolig tua 05:05, bod y Cwnsler Cyffredinol wedi sefyll ar ei draed yn y Siambr mewn ffordd bwyllog a thawel iawn a dweud rhywbeth a oedd yn dipyn o garreg filltir o ran deddfwrfeydd o fewn y DU ac yn rhyngwladol, ac rwy’n ei gymeradwyo am wneud hynny. Mae wedi rhoi ei sylwadau ymlaen mewn ffordd bwyllog iawn, mewn ffordd dawel iawn, ac wedi rhoi sicrwydd i’r Senedd hon y bydd yn bwrw ymlaen â hyn, ac y bydd yn 'troedio'n ofalus' rwy'n credu oedd ei eiriau, ar daith hir iawn a gallai hyn gymryd blynyddoedd lawer. Ond tybed, ar y prynhawn tawel hwn, pe byddai'n llwyddiannus, efallai y bydd ôl-effeithiau’r daith y mae wedi cychwyn arni nid yn unig yn barhaol, ond yn eithriadol o ddylanwadol, hefyd, ar draws deddfwrfeydd eraill. Yr hyn y mae wedi’i ddweud, mewn gwirionedd, yw ei fod yn mynd i fynd at faterion eglurder, symlrwydd, tryloywder a hygyrchedd y gyfraith, nid yn unig i'r rhai sy'n gwneud y gyfraith, ond i aelodau'r cyhoedd y mae angen iddynt ddeall y gyfraith—dinasyddion y wlad hon—mewn ffordd wahanol iawn.

Rydym yn edrych ar draws y doreth o ddeddfwriaeth sydd wedi cronni, nid dim ond yn ystod y blynyddoedd a’r degawdau, ond dros y canrifoedd, a’r jyngl cymhleth o ddeddfwriaeth y mae hynny wedi’i adeiladu sy'n sail i'n deddfwriaeth gyfredol, a pha mor anodd yw hi, wedyn, i lywio’r ffordd drwy hynny. Felly, wrth osod allan ar hyn y mae wedi ei ddisgrifio yn gymedrol iawn, mewn termau cymedrol iawn y prynhawn yma, rwy’n meddwl ei fod eisoes wedi ennyn archwaeth aelodau'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, awydd i ddymuno'n dda iddo yn y gobaith y bydd yn llwyddo wrth iddo gymryd y camau hyn ymlaen.

Talaf deyrnged, gyda llaw, i bwyllgorau blaenorol yn ogystal—y pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol o dan stiwardiaeth Cadeiryddion blaenorol, gan gynnwys David Melding ei hun, a roddodd rywfaint o feddwl tanategol i hyn, ochr yn ochr â gwaith eraill, megis Comisiwn y Gyfraith. Fel y gŵyr yr Aelodau, cyhoeddodd y pwyllgor a’n rhagflaenodd adroddiad cynhwysfawr ac eang iawn, 'Deddfu yng Nghymru', ym mis Hydref 2015, ac yn yr adroddiad hwnnw nodwyd bod Comisiwn y Gyfraith yn awyddus i ddatblygu cysylltiadau agosach gyda'r pwyllgor a darparu diweddariadau rheolaidd ar ei waith bob chwe mis. Wel, cynhaliwyd y cyntaf o'r cyfarfodydd hynny, gallaf adrodd i'r Cynulliad, ddechrau mis Rhagfyr, pan gawsom sesiwn friffio ar adroddiad 'Ffurf a Hygyrchedd y Gyfraith sy’n Gymwys yng Nghymru' Comisiwn y Gyfraith, a buom yn trafod ei ganfyddiadau yn drylwyr. Yn amlwg, roedd ein dau adroddiad yn cwmpasu tir tebyg iawn. Wrth wraidd pob un y mae awydd i sicrhau bod y gyfraith a wneir yng Nghymru gan y Cynulliad hwn yn hygyrch i'n holl ddinasyddion. Mae'n golofn sylfaenol o'n democratiaeth.

Argymhellodd yr adroddiad 'Deddfu yng Nghymru', y dylai Llywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad â Chomisiwn y Gyfraith, ddatblygu cynllun hirdymor ar gyfer cyfuno cyfraith yng Nghymru.

Felly, mae'n ddymunol, felly, bod y Cwnsler Cyffredinol a Llywodraeth Cymru yn dangos cefnogaeth ar gyfer datblygu gweithdrefnau ar gyfer cyfuno’r Bil, a oedd hefyd yn argymhelliad y pwyllgor a’n rhagflaenodd.

Ni wnaeth y pwyllgor hwnnw edrych ar y mater o godeiddio. Rwy'n siŵr y byddwn ni’n dymuno edrych ar y mater hwn ymhellach, gan gadw datganiad heddiw mewn cof, ond rwy’n credu ei fod wedi casglu eisoes, o sylwadau aelodau'r pwyllgor, fod diddordeb clir ac, mewn rhai ffyrdd, bod cyffro o amgylch potensial y cynnig hwn. Credaf, fel pwyllgor, ein bod mewn sefyllfa dda i archwilio sut y gallwn fwrw ymlaen â chyflawni cyfraith fwy hygyrch i'n dinasyddion.

Felly, dymunwn yn dda iawn iddo ar y daith hon, gan ddechrau gydag ychydig o gamau bach, gan edrych ar dreialu hyn o fewn rhai meysydd. Mae David Melding eisoes wedi gwneud sylwadau y gallai fod meysydd y gallem edrych arnynt o fewn y sesiwn hwn y Cynulliad hwn y gallem mewn gwirionedd eu cyflwyno a gweld cyfraith wedi’i chodeiddio, os mai dyna'r ffordd ymlaen. Ni allaf gystadlu gyda Hywel Dda nac Aristotle, ond mae'n fwy na thebyg yn berthnasol i ddefnyddio'r llinell o hen jôc, sef, 'Ni fyddech eisiau dechrau o'r fan yma.' Mae hon yn mynd i fod yn dipyn o daith. Gallai cymhlethdod yr hyn a etifeddwyd fod yn eithaf llethol, ond ein mantais yw ein bod yn sefydliad ifanc a deinamig. Os gall unrhyw un wneud hyn, gallwn ni. Yn hynny o beth, mae'n gyffrous iawn yn wir. Felly, pob lwc i'r Cwnsler Cyffredinol. Pob lwc i ni wrth fwrw ymlaen â hyn hefyd. Rydym yn arloesi, a dyna beth ddylai’r lle hwn ei wneud.

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 5:42, 13 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am y sylwadau cadarnhaol a chalonogol iawn yna, ac am ddymuno yn dda i mi. Roeddwn yn teimlo am funud fel pe byddwn i'n mynd at floc y dienyddiwr o ran faint o hynawsedd oedd yn cael ei gyfeirio tuag ataf.

Mae'r cynigion hyn yn brawf o aeddfedrwydd y sefydliad hwn fel Senedd ac mae e’n gywir wrth wneud y pwynt mai hon fydd y Llywodraeth gyntaf yn y Deyrnas Unedig i fynd i lawr y ffordd hon mewn modd, rwy'n credu, disgybledig a threfnus. Mae'n bwysig ein bod yn deall beth yw’r egwyddorion sylfaenol. Yr egwyddorion hynny yw, fel deddfwrfa, fod y ddeddfwriaeth yr ydym yn ei chreu o ansawdd, rhagoriaeth a pherthnasedd, ond yn sylfaenol hygyrch, ac yn hygyrch i ddinasyddion Cymru, ond hefyd ei bod yn esiampl i'r rhai a fyddai'n buddsoddi a gwneud busnes yng Nghymru bod gennym gyfraith eglur, hygyrch sydd ar gael, sy'n ei gwneud gymaint yn haws. Rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth nid yn unig o ran ein swyddogaeth o fewn y DU ond o fewn Ewrop, ac yn rhyngwladol hefyd. Felly, ydi, mae'n her. Mae'n mynd i fod yn her i’r Cynulliad cyfan oherwydd bydd yn rhaid i ni gael y ddisgyblaeth i gyflawni hyn gyda'n gilydd mewn gwirionedd. Ac, ydi, mae e'n dweud efallai na fyddwn yn dymuno cychwyn o'r fan yma. Byddwn i’n dweud nad oes byth amser da i ddechrau ond dechrau sydd raid i ni.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:44, 13 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Rydym wedi cychwyn yn bendant, rwy’n credu, ar y daith hon. Diolch, Gwnsler Cyffredinol.