5. 3. Datganiadau 90 Eiliad

– Senedd Cymru am 3:13 pm ar 14 Rhagfyr 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:13, 14 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Symudwn ymlaen at y datganiadau 90 eiliad a galwaf ar Vikki Howells.

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ganed Griffith Morgan, a gâi ei alw’n Guto, yn 1700, ac roedd yn byw ar fferm Nyth Brân yn Llanwynno. Roedd Guto’n rhedwr heb ei ail, a gallai gorlannu defaid y teulu ar ei ben ei hun, a hyd yn oed dal adar wrth iddynt hedfan. Mae un stori’n ei ddisgrifio’n rhedeg y 7 milltir i Bontypridd ac yn ôl adref cyn i’r tegell ferwi. Yn ei ras fwyaf, rhedodd Guto 12 milltir mewn 53 munud, ond bu farw’n fuan wedi hynny, ac yntau ond yn 37 mlwydd oed.

Er ei fod wedi marw, roedd ei hanes yn dal yn fyw. Ar Nos Galan 1958, trefnodd Bernard Baldwin, un o drigolion Aberpennar, y ras Nos Galan gyntaf i dalu teyrnged i chwedl Guto, gyda’r ras drwy ganol y dref am hanner nos yn uchafbwynt i’r digwyddiad. Bob blwyddyn, mae rhedwr dirgel, ffigwr amlwg o fyd chwaraeon a gedwir yn gyfrinach bob tro, yn arwain y ras, gan ymgorffori ysbryd Guto mewn gweithred o bererindod sy’n dechrau wrth fedd Guto yn Eglwys Sant Gwynno.

Mae cefnogaeth gref y gymuned wedi bod yn sylfaen i’r digwyddiad wrth iddo fynd o nerth i nerth, gyda rasys i’r elît, i amaturiaid ac i blant yn llawn dop o redwyr. Erbyn hyn mae ras Nos Galan yn wirioneddol ryngwladol, ac yn denu bron i 10,000 o bobl i Aberpennar bob blwyddyn. Cynhelir y 59fed ras Nos Galan yn 2016, gyda phobl o bob cwr o’r byd yn cymryd rhan ac yn codi arian ar gyfer elusennau. Y llynedd, daeth cystadleuwyr o lefydd mor bell â De Affrica a Texas. Byddaf yn stiwardio yn y rasys Nos Galan eto eleni, gan chwarae fy rhan yn coffáu Guto Nyth Brân a dathlu ei chwedl.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:15, 14 Rhagfyr 2016

Rydw i am dynnu eich sylw at y fenter Ffrindiau yn Erbyn Sgamiau. Menter gan Safonau Masnach Cenedlaethol ydy hi ac mae ei hangen hi, achos mae ffigurau’n dangos bod yna gynnydd o 60 y cant wedi bod yn y math yma o dwyll dros y bum mlynedd ddiwethaf. Yn ddiweddar, mi gafodd etholwyr imi alwad ffôn gan rywun oedd yn honni dod o gwmni band eang adnabyddus yn gofyn am fanylion eu cyfrifiadur. Dim ond pan wnaethon nhw ofyn am fanylion cyfrif banc y gwnaeth yr etholwyr sylweddoli bod rhywbeth o’i le a rhoi’r ffôn i lawr. Yn ffodus, mi wnaethon nhw gysylltu efo fy swyddfa i ac mi fedron ni roi cyngor iddyn nhw ar sut i ddiogelu eu cyfrifiadur a’u harian.

Rydw i’n nabod yn dda iawn un arall a wnaeth ddisgyn am sgam debyg iawn. Oedd, mi oedd yna golled ariannol, ond yn fwy na hynny, mi welais i’r embaras yr oedd y person yma yn ei deimlo. Mae’r rheini sy’n gyfrifol am sgamiau yn aml yn targedu’r bobl fwyaf bregus ac maen nhw’n dibynnu ar i bobl deimlo cywilydd fel eu bod nhw’n peidio â sôn wrth unrhyw un. Mae yna ddyfalu mai dim ond, efallai, 5 y cant o bobl sydd wedi cael eu sgamio sy’n rhoi gwybod i’r awdurdodau.

Y gwir amdani, wrth gwrs, ydy bod troi at deulu neu ffrind yn fodd i rannu’r gofid ac mae yna ddigon o fudiadau i bobl droi atyn nhw hefyd i rybuddio eraill ac i geisio cael arian yn ôl, yn cynnwys y comisiynydd pobl hŷn, yr adran safonau masnach leol neu Cyngor ar Bopeth. Mi fuaswn i’n annog pawb yma i fynd ar wefan Ffrindiau yn Erbyn Sgamiau, friendsagainstscams.org.uk, ac ymrwymo i godi ymwybyddiaeth o sgamio er mwyn ceisio amddiffyn pobl ddiniwed rhag y troseddwyr creulon yma.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:17, 14 Rhagfyr 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Daw’r olaf am eleni a’r cyfarfod hwn gan Elin Jones.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Un o freintiau fy rôl fel yr Aelod Cynulliad dros Geredigion yw fy mod yn cynrychioli’r dref odidog, Aberteifi. Mae’r enw Aberteifi yn deillio o’i lleoliad ar lan yr afon fawreddog, afon Teifi. Mae ei henw Saesneg yn Seisnigeiddiad o Ceredigion—’gwlad Ceredig’, brenin Ceredigion ar un adeg. Sawl canrif yn ddiweddarach, arweiniodd seithfed Iarll Aberteifi gyrch y frigâd ysgafn yn rhyfel y Crimea, a rhoddwyd yr enw ‘cardigan’ ar ddilledyn a wisgwyd gan filwyr yn y rhyfel hwnnw, ac sydd bellach yn cael ei wisgo gan bawb.

Yfory, bydd tref Aberteifi yn cael ei hailenwi’n swyddogol yn ‘Siwmper’. Bydd yn gwneud hynny yn ysbryd y Nadolig, ond hefyd er mwyn codi ymwybyddiaeth ac arian ar gyfer ymgyrch gwisgo siwmper Nadolig wlanog Achub y Plant. Bydd ‘Cardigan’ yn troi’n Siwmper. Bydd siwmper Nadolig anferth yn cael ei dadorchuddio gan faer Siwmper. Bydd plant ysgol Siwmper yn gwisgo siwmperi Nadolig. Bydd clwb rygbi Siwmper yn hyfforddi mewn siwmperi, a bydd y defaid yn y caeau ger Siwmper yn gwisgo siwmperi gwlân. [Chwerthin.] Byddaf yn Aelod Cynulliad dros Siwmper. Gallwn fod wedi gwisgo siwmper Nadolig ar gyfer y datganiad hwn, ond dewisais beidio â mentro cael fy nhaflu allan gan y Dirprwy Lywydd am wisgo’n anseneddol. [Chwerthin.]

Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd pobl Siwmper yn cael amser gwych yn gwisgo siwmperi yn hytrach na’u cardiganau. Fodd bynnag, maent yn gwneud hyn am reswm difrifol: i’n hatgoffa na fydd llawer iawn o blant yn ein gwlad a’n byd yn cael Nadolig gwych a bod angen i ni barhau i weithio i newid hynny.