Part of the debate – Senedd Cymru am 3:25 pm ar 11 Ionawr 2017.
Na, nid oes gennyf ddigon o amser.
Felly, er nad oes neb yn bychanu’r heriau y mae pwysau’r gaeaf yn eu gosod ar ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yma yng Nghymru, mae gennym Lywodraeth sy’n gweithio’n agos gyda’r holl bartneriaid yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol—yn hirdymor ac yn gynaliadwy—er mwyn osgoi’r math o argyfwng a wynebir ar hyn o bryd gan y GIG a’r sector gofal yn Lloegr.