Part of the debate – Senedd Cymru am 4:31 pm ar 11 Ionawr 2017.
Diolch i chi, Darren, am dderbyn yr ymyriad. Ond rydych hefyd yn cydnabod mai rhan o Horizon 2020 mewn gwirionedd oedd edrych ar sut y gallwn annog busnesau i fod yn rhan o’r proffil ymchwil, a sicrhau bod cydweithio’n digwydd ar draws y gwahanol wledydd, ac felly mae’r ffocws mewn gwirionedd ar fwy o gydweithio, yn enwedig gyda busnes y tro hwn.