Part of the debate – Senedd Cymru am 4:54 pm ar 11 Ionawr 2017.
Mae yna bryderon cyffredinol ynghylch dyfodol y sector addysg uwch yng Nghymru, nid yn unig o ganlyniad i Brexit, wrth gwrs; mae cynaliadwyedd y sector wedi bod yn fregus ers blynyddoedd erbyn hyn. Ond, mae goblygiadau Brexit ar gyfer ein prifysgolion yn golygu ei bod yn hanfodol bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gweithredu yn fuan i ddiogelu dyfodol y sector.
Fel mae llawer wedi dweud y prynhawn yma, mae sector addysg uwch llwyddiannus yn hanfodol ar gyfer Cymru ffyniannus. Felly, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru wneud popeth sydd ei angen i ddiogelu cynaliadwyedd y sector. I gychwyn, mae angen diogelu cyllid a rhaglenni cyllido presennol yr Undeb Ewropeaidd, neu ddarparu cyllid a rhaglenni yn eu lle.
Gan gyfrif gwariant prifysgolion, y staff a myfyrwyr, mae prifysgolion Cymru’n cael effaith uniongyrchol, bwysig a phellgyrhaeddol ar economi Cymru. Roedd holl effaith economaidd y sector addysg uwch yng Nghymru yn dod at gyfanswm o £4.6 biliwn yn ystod 2014-15, efo £251 miliwn o hynny yn dod i Wynedd. Mae yna 3,000 o swyddi ym Mhrifysgol Bangor, sy’n rhan bwysig o’r economi leol, efo llawer mwy yn cael cyflogaeth anuniongyrchol yn sgil bodolaeth y coleg ar y bryn.
Mae prifysgolion yng Nghymru wedi codi pryderon ynghylch y sefyllfa gyllidol ers tro, gan bwyntio at y bwlch ariannol, y ‘funding gap’, rhwng sefydliadau yng Nghymru a Lloegr o ganlyniad i’r grant ffioedd dysgu, ac amcangyfrifwyd bod y bwlch rhwng £73 miliwn a £115 miliwn yn 2015. Y gobaith, wrth gwrs, yw y bydd argymhellion Diamond yn llwyddo i waredu rhywfaint ar y bwlch yma, ond mae’r effaith hanesyddol ar y sector wedi bod yn ddifrifol, ac mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn tanariannu prifysgolion ein gwlad. Mae Plaid Cymru wedi gallu sicrhau na fydd toriadau pellach yng nghyllideb 2017-18, ond mae’r sefyllfa yn parhau yn hynod o heriol. Mae’r bwlch ariannol wedi golygu toriadau i gyrsiau, gyda Phrifysgol Bangor, er enghraifft, yn gorfod cau’r ysgol gydol oes, er bod yna obaith y bydd y ddarpariaeth yn cael ei chynnig mewn ffordd arall.
O ystyried y pwysau cyllidol yma, felly, mae grantiau’r Undeb Ewropeaidd ar gyfer ymchwil a dysgu, yn ogystal â chyllid cyfalaf, wedi bod yn hynod o bwysig i gefnogi ymdrechion y sector addysg uwch yng Nghymru a’i galluogi hi i aros yn gystadleuol: £12 miliwn mewn cyllid o gronfa Horizon 2020 yn 2014 yn unig; £180 miliwn o gyllid gan yr European Investment Bank rhwng 2011 a 2016 ar gyfer datblygu adeiladau dysgu a gwella cyfleusterau dysgu ac ymchwil. Er enghraifft, fe dderbyniodd Prifysgol Bangor gyllid gwerth €10 miliwn ym mis Mawrth 2016 gan y banc Ewropeaidd i’r perwyl yna, a phecyn cyllido arall gwerth €54 miliwn gan y banc yn 2014, sydd yn arian pwysig iawn, nid yn unig i’r brifysgol, ond i’r economi, fel roeddwn i’n dweud.
Mae Philip Hammond wedi addo sicrhau diogelu cyllid unrhyw brosiect sy’n derbyn cyllid o Horizon 2020 hyd at ddiwedd y prosiect, hyd yn oed os byddwn ni’n gadael yr Undeb Ewropeaidd cyn i’r rhaglen orffen, ond beth sy’n digwydd ar ôl hynny? Clustnododd ddatganiad yr hydref arian ar gyfer ymchwil a datblygu, ond beth am yr ystod ehangach o waith ymchwil academaidd sydd hefyd yn cael cyllid o’r undeb Ewropeaidd? Mae modd cymryd rhan yn Horizon 2020 heb fod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd. Mae Norwy, Twrci ac Israel, er enghraifft, yn llwyddo i wneud, a hefyd mae modd derbyn cyllid o’r Banc Buddsoddi Ewropeaidd heb fod yn aelod—er enghraifft, Norwy, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein a’r Swistir. Mae’n bwysig bod pob ymdrech yn digwydd rŵan a’n bod ni’n troi pob carreg i sicrhau bod ein sector addysg uwch yn parhau i gael mynediad at y ffynonellau hyn ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd.