– Senedd Cymru am 2:43 pm ar 17 Ionawr 2017.
Yr eitem nesaf ar yr agenda yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rydw i’n galw ar Jane Hutt.
Diolch yn fawr, Lywydd. Mae gennyf un newid i'w adrodd i fusnes yr wythnos hon. Rwyf wedi lleihau'r amser a ddyrennir i gwestiynau Llafar y Cynulliad gan y Cwnsler Cyffredinol yfory, ac mae busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y dangosir ar y datganiad a’r cyhoeddiad busnes a geir ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Hoffwn ddiolch i'r Ysgrifennydd busnes am ei datganiad, a gofyn iddi hefyd a oes ganddi amser ym musnes y Llywodraeth ar gyfer dadl, yn gyntaf oll, ar brosiect y morlyn llanw ym mae Abertawe. Gwyddom fod adolygiad Hendry o blaid y prosiect hwn fel cynllun braenaru ar gyfer y dechnoleg hon, sydd â photensial enfawr yng Nghymru. Rwy’n credu y byddai dadl, yn hytrach na datganiad, yn caniatáu i ni uno fel Cynulliad o ran egwyddorion y prosiect hwn, ac i’r Llywodraeth nodi sut y gallwn gefnogi'r prosiect wrth symud ymlaen, a byddai hynny’n fuddiol dros ben. Yn arbennig, hoffwn i’r ddadl honno ganolbwyntio ar yr hyn y gallwn ei wneud fel Llywodraeth Cymru, ac fel Cynulliad Cymru, i ddatblygu’r prosiect. Gwn fod y Llywodraeth wedi mynegi diddordeb yn y syniad y byddem ni ym Mhlaid Cymru yn ei hyrwyddo—cwmni ynni i Gymru, Ynni Cymru—a byddwn wir yn hoffi gweld Llywodraeth Cymru yn cyfranogi’n gynnar ym mhrosiect y morlyn llanw, yn rhan o’r prosiect a'r cwmni daliannol sy'n gwthio hynny yn ei flaen, fel ein bod ni, dros y cenedlaethau nesaf, yn elwa ar y dechnoleg hon wrth iddi gael ei chyflwyno ar draws Cymru, gan fy mod yn credu mai dyma yw’r dyfodol, ac rwy'n argyhoeddedig y caiff y Cymry fudd uniongyrchol o forlynnoedd llanw ac ynni'r llanw yn fwy cyffredinol. Efallai nad lagwnau mewn rhannau eraill o Gymru fydd hynny; gall fod yn dechnolegau llanw eraill yn Ynys Môn hefyd, er enghraifft. Rwy'n credu bod yna botensial enfawr ynghlwm wrth hyn, felly byddwn i'n mawr werthfawrogi dadl yn amser y Llywodraeth ar yr egwyddor o forlynnoedd llanw, fel y gallwn wneud gwaith dilynol i adolygiad Hendry a rhoi, rwy’n credu, gwir gefnogaeth lawn y Cynulliad i’r egwyddor honno.
Yr ail eitem yr hoffwn ei chodi â Llywodraeth Cymru yw pa un a gawn ni ddatganiad yn egluro beth y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud o ran y digwyddiad o lygredd yn Afon Teifi ychydig cyn y Nadolig. Bu digwyddiad mawr o lygredd, efallai bod rhai pobl yn cofio—roedd tuedd iddo fynd ar goll yn newyddion y Nadolig, ond effeithiwyd ar tua 6 milltir o'r afon. Rwy’n deall mai swm sylweddol o elifyn o ryw fath o'r diwydiant llaeth ydoedd. Mae angen i ni ddeall sut y digwyddodd hynny, ond hefyd pa gamau sy'n cael eu cymryd yn awr i adfer yr afon, sy’n afon bwysig ar gyfer pysgota ac sy’n atyniad pwysig i dwristiaid hefyd, yn y rhan honno o Gymru. Rwyf wedi cael llawer o ohebiaeth gan bysgotwyr lleol a phobl sy'n ymddiddori yn yr amgylchedd ynglŷn â’r hyn a allai fod yn digwydd yno a sut y gallai’r Llywodraeth wneud gwaith dilynol ar hynny. Cawsom ddigwyddiad anffodus ag olew yn Nantgaredig, y tu allan i Gaerfyrddin, ond mae hyn, ar yr wyneb, yn ymddangos yn fwy difrifol mewn gwirionedd ac yn ymddangos fel y gallai effeithio ar afon Teifi am gyfnod hir o amser. Felly, byddwn yn mawr werthfawrogi rhagor o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru ar ffurf datganiad ysgrifenedig neu fel arall, er mwyn i mi ei rhannu â’m hetholwyr ac i ddangos bod y Llywodraeth yn cymryd y mater hwn o ddifrif.
Diolch yn fawr, Simon Thomas. Mae'r ddau gwestiwn hynny yn rhai pwysig iawn. Wrth gwrs, rydym ni’n croesawu'n fawr iawn, a chroesawodd Llywodraeth Cymru, y ffaith bod adolygiad Charles Hendry yr wythnos diwethaf yn cefnogi'r achos dros ddatblygu diwydiant ynni morlyn llanw yn y DU. Ac, wrth gwrs, mae hyn wedi’i gefnogi’n fawr gan ein rhaglen lywodraethu newydd, ‘Symud Cymru Ymlaen', ac wedi’i gydnabod hefyd mewn datganiadau gan Weinidogion y Llywodraeth. Felly, rwy’n credu bod y datblygiad hwn o ddiwydiant morlyn llanw cynaliadwy yng Nghymru yn amlwg yn bwnc a fyddai'n briodol ar gyfer dadl, a byddwn yn ystyried hynny o ran amseru a threfniadau.
Mewn cysylltiad â’ch ail bwynt, ynglŷn â llygru Afon Teifi, rwy’n cydnabod o ddifrif bod hyn yn ymwneud â mynd i'r afael â llygredd amaethyddol o ran tarddiad. Mae'n hanfodol er mwyn gwella ansawdd dŵr yn gyffredinol yng Nghymru, ac, wrth gwrs, mae sôn wedi bod yn barod heddiw, rwy’n credu, am yr ymgynghoriad ar barthau perygl nitradau yng Nghymru, sydd wedi dod i ben. Ond byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn barod i wneud datganiad ysgrifenedig arbennig ar y digwyddiad hwn, ond, yn amlwg, mae hi hefyd yn ystyried canlyniadau'r ymgynghoriad hwn.
Arweinydd y tŷ, a gawn ni ddau ddatganiad, os yw’n bosibl, os gwelwch yn dda, a’r cyntaf yn adeiladu ar y cwestiwn y gofynnodd fy nghydweithiwr, Nick Ramsay, i'r Prif Weinidog ynglŷn ag ardrethi busnes. Clywais ymateb y Prif Weinidog, fel y gwnaeth bawb arall, y byddai’r canllawiau, y rheolau, y rheoliadau yn cael eu cyflwyno’n fuan o ran cynigion yr ardrethi busnes, ac rydym yn croesawu'r arian ychwanegol sydd wedi’i gynnwys yn y gyllideb ar gyfer y cynllun ardrethi busnes ar ôl 1 Ebrill eleni. Ond mae 1 Ebrill yn agosáu atom ni’n gyflym iawn, iawn, ac a ydych chi mewn sefyllfa, fel arweinydd y tŷ, i ddangos i ni beth y mae'r term 'cyn bo hir' yn ei olygu, gan efallai rhoi rhywfaint o ddealltwriaeth i ni o sut y caiff yr arian hwn ei ddosbarthu, beth fydd y meini prawf, ac, yn hanfodol, yr hyn y bydd busnesau yn ei wneud os ydyn nhw’n canfod eu hunain yn y sefyllfa anghywir pan ddaw at gael gafael ar y cymorth hwnnw a’r gefnogaeth honno yn ymwneud ag ailbrisio ardrethi busnes? Fel y dywedais, ceir cyfnod byr iawn o amser, ac wrth reswm, mae ar fusnesau, y mae’n rhaid iddynt wneud amcanestyniadau llif arian a chynllunio ar gyfer y dyfodol, angen yr wybodaeth hon cyn gynted ag sy’n bosibl. Rwy’n gwerthfawrogi efallai bod y Llywodraeth yn gweithio y tu ôl i'r llenni ar hyn, ond mae angen diffinio'r term 'cyn bo hir', ac os ydych chi, yn eich swyddogaeth fel arweinydd y tŷ, mewn sefyllfa i roi gwybod i ni pryd y cyflwynir y datganiad hwnnw, byddai hynny'n hynod ddefnyddiol. Os nad oes modd i chi wneud hynny, a wnewch chi adrodd yn ôl a rhoi gwybod i ni beth sy'n digwydd ynglŷn â’r rheolau a'r rheoliadau hyn?
A byddai’r ail ddatganiad y byddwn i'n gofyn amdano yn dod gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon. Y bore yma, cefais y pleser o gynnal y digwyddiad Lleisiau Cleifion Canser yn y Senedd yma. Annie Mulholland, fel y bydd llawer o Aelodau yn y Siambr hon yn cofio, a ddaeth â’r digwyddiad cyntaf i adeilad y Pierhead, a gafodd gefnogaeth drawsbleidiol, a daeth nifer o Aelodau i’r digwyddiad hwnnw. Unwaith eto, eleni, cafodd y digwyddiad ei gefnogi’n dda iawn, iawn, a chafwyd cyfraniadau da iawn o'r llawr ac o'r llwyfan, gan hysbysu cleifion a hysbysu clinigwyr a gwleidyddion am y sefyllfa ar hyn o bryd o ran gwasanaethau canser. Siaradodd Dr Tom Crosby am yr angen i gael strategaeth ganser i Gymru. Mae gennym gynllun canser, ond siaradodd ef am y ffaith nad yw gweithredu darpariaeth gwasanaethau o ran gwasanaethau canser, yn fater dim ond ar gyfer un tymor y Llywodraeth am gyfnod o ddwy neu dair blynedd. Mae'n angen cynllunio hirdymor a fydd yn para ymhell i'r dyfodol, ac yn sganio'r gorwel. Er tegwch i Dr Tom Crosby, mae ganddo lawer iawn o brofiad yn y maes hwn, ac rwy’n credu y byddai’n cael ei werthfawrogi'n fawr iawn pe byddai Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd yn cyflwyno ei syniadau ynglŷn â strategaeth o'r fath, wedi’i gweithredu gan Lywodraeth Cymru, a beth yw ei ymateb i'r cais hwnnw.
Mae Andrew R.T. Davies yn codi dau bwynt pwysig, ac, wrth gwrs, rwy’n croesawu'n fawr y ffaith eich bod chi’n cydnabod bod hwn yn gynnydd sylweddol o ran ardrethi busnes. Mae’i bwysigrwydd, yn fy marn i, yn fwy na’r rhyddhad trosiannol o £10 miliwn. Wrth gwrs, cafodd yr ymgynghoriad effaith a gwyddom fod etholwyr a busnesau ledled Cymru wedi ymateb. Wrth gwrs, rhoddir sylw ar hyn o bryd i’r manylion o ran sut y caiff ei ddarparu, a bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu sicrhau bod canlyniad hynny ar gael maes o law.
O ran eich ail bwynt, roeddwn i hefyd yn bresennol yn nigwyddiad y Lleisiau Cleifion Canser ac roedd yn braf gweld bod cymaint yn bresennol mewn digwyddiad trawsbleidiol o'r fath. Yn wir, clywais gan Julie Morgan a hefyd Rhun ap Iorwerth, ac yna aeth ymlaen at lefarwyr y pleidiau eraill. Mae Dr Tom Crosby, wrth gwrs, yn cymryd yr awenau o ran prosiect iechyd Felindre, ac rydym yn ffodus iawn fod gennym arbenigwyr clinigol fel Dr Crosby yng Nghymru yn arwain y ffordd.
A gaf i ddychwelyd at yr adolygiad Hendry i’r morlyn llanw ym mae Abertawe, a oedd yn llawer mwy cadarnhaol na’r hyn y gallai llawer ohonom wedi’i obeithio? Rwy’n cytuno â'r cais a wnaed gan Simon Thomas am ddadl ar forlynnoedd llanw, ond, cyn i ni gyrraedd y cam hwnnw, a gaf i ofyn i'r Llywodraeth roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y drwydded forol ar gyfer y morlyn llanw ym mae Abertawe, oherwydd heb y drwydded forol, ni chaiff fwrw ymlaen?
Wrth gwrs, bu Mike Hedges yn cefnogi môr-lynnoedd llanw, ochr yn ochr â Simon Thomas a Llywodraeth Cymru. Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n penderfynu ar y cais am drwydded forol. Ceir cefnogaeth drawsbleidiol, yn fy marn i, ac yn amlwg yn awr mae angen i ni fwrw ymlaen â hyn, ond yn sicr mater i Cyfoeth Naturiol Cymru yw hwn. Gadewch i ni eto ystyried y potensial arbennig y mae’r sector ynni morol yn ei gynnig i Gymru. Rydym yn edrych ymlaen at y canlyniad ac at y cyfle i drafod hyn ymhellach.
Rwy’n gofyn am dri datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'r un cyntaf yn ymwneud â defnyddio’r car gweinidogol a anfonwyd i Mayfair i gasglu a gollwng y miliwnydd Llafur, David Goldstone. Hoffem wybod pryd, ar ba gost a pham yr anfonwyd y limwsîn. Yn ail, rydym yn gofyn am ddatganiad ar Ysbyty Athrofaol Cymru a’r hyn a fydd yn cael ei wneud i rwystro neu i atal staff rhag gorfod talu cymaint o ddirwyon parcio, sy’n hollol annerbyniol. Yn drydydd, a gawn ni ddatganiad ynglŷn â phryd y bydd y Prif Weinidog yn cyhoeddi ei ddyddiadur, os gwelwch yn dda?
Rwy'n credu bod y mater yn ymwneud â pharcio mewn ysbytai yn fater sydd, wrth gwrs, wedi achosi peth pryder, nid yn unig i gleifion ac aelodau staff, ond gwn fod y bwrdd iechyd wedi ymdrin â hyn.
A gaf i alw am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda? Mae’r cyntaf yn gais am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar gyflwr yr amddiffynfeydd môr yn Hen Golwyn yn fy etholaeth i. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol fy mod wedi codi'r mater hwn ar sawl achlysur yn y Siambr, ac rwy'n bryderus iawn am gyflwr yr amddiffynfeydd hynny. Yr wythnos diwethaf, cafwyd storm arall a achosodd difrod i'r amddiffynfeydd môr ar y rhan honno o'r arfordir, a bydd arweinydd y tŷ yn ymwybodol bod yr amddiffynfeydd hynny mewn gwirionedd yn amddiffyn yr A55 a rheilffordd y gogledd. Yn wir, difrodwyd rhan o’r wal sy'n amddiffyn yr arglawdd y mae rheilffordd y gogledd yn gorwedd arno, mewn storm yr wythnos diwethaf, a difrodwyd llawer o'r rheiliau ar hyd y promenâd hefyd. Mae’r rhain angen sylw a gwaith atgyweirio ar frys. Nid dim ond gwaith atgyweirio tameidiog, mewn rhannau sydd ei angen, fel a ddigwyddodd dros lawer o flynyddoedd; mae angen adfer yr amddiffynfeydd môr hynny yn sylweddol a’u moderneiddio, oherwydd rwy’n pryderu, os nad ydym yn gwneud hynny, ar ryw bwynt bydd yr amddiffynfeydd yn methu’n drychinebus yn y pen draw a gallai hynny arwain nid yn unig at anawsterau â chludiant, ond o bosibl at golli bywyd.
A gaf i hefyd alw am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ar y sefyllfa o ran y gwaith dilynol, yn dilyn sgandal Tawel Fan yn y gogledd? Mae tua 18 mis wedi mynd heibio erbyn hyn ers cyhoeddi adroddiad Tawel Fan i gam-drin sefydliadol ar y ward yn yr uned Ablett yn Ysbyty Glan Clwyd, ac eto nid oes neb wedi’i ddwyn i gyfrif. Nid oes neb wedi colli ei swydd o ganlyniad i brofiadau a gofal erchyll y cleifion hynny ar y ward honno.
Dywedwyd wrthym, fel Aelodau'r Cynulliad, y byddai’r gwaith, a oedd yn cael ei gynnal gan Donna Ockenden a HASCAS, y ddau sefydliad sy’n gwneud gwaith dilynol ar y mater hwn, yn cael ei gwblhau erbyn mis Mawrth. Eto i gyd, yn y papurau bwrdd ar gyfer bwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr, sy'n cael eu cyhoeddi ac sydd ar gael ar-lein, ac a gaiff eu trafod yfory, gwyddom y bydd hynny’n awr yn cael ei ymestyn i’r haf. Rwy'n credu bod hynny'n annerbyniol, a dweud y gwir, a byddwn yn gwerthfawrogi yn fawr iawn—. Dywedwyd wrthym y byddem yn cael diweddariadau rheolaidd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd—nid ydym wedi cael yr un, oni bai ein bod ni wedi gofyn amdanyn nhw, sy’n annerbyniol yn fy marn i. Byddwn yn gofyn am ddiweddariad ar y mater penodol hwnnw ar unwaith. Nid wyf am weld pobl yn llusgo eu traed o ran dwyn pobl i gyfrif.
Rwy'n ymwybodol iawn, Darren Millar, o’ch pryder ynglŷn â’r cwestiwn cyntaf, sydd wir yn ymwneud ag amddiffynfeydd arfordirol. Yn eich etholaeth chi, yn Hen Golwyn yn arbennig, rydym yn paratoi ar gyfer buddsoddiad gwerth £150 miliwn gydag awdurdodau lleol, fel yr ydych chi’n ymwybodol, mewn prosiectau rheoli risg arfordirol a hefyd yn cefnogi awdurdodau lleol i ddatblygu achosion busnes ar gyfer prosiectau posibl. Yn amlwg, mae angen dull partneriaeth ar gyfer Hen Golwyn ac, mewn gwirionedd, mae swyddogion Ysgrifennydd y Cabinet mewn cysylltiad â chyngor Conwy ynghylch y prosiect penodol hwn. Wrth gwrs, mae hynny hefyd yn ymwneud â seilwaith trafnidiaeth, sef cyfrifoldeb Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith. Byddaf yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd am ddiweddariad, o ran Betsi Cadwaladr, ynglŷn â’ch ail bwynt.
Arweinydd y tŷ, a gaf i os gwelwch yn dda ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar y polisi ar gyfer darparu nofio am ddim i blant? Mae 10 mlynedd wedi bod ers cyflwyno’r polisi nofio am ddim i blant yng Nghymru, sydd efallai’n adeg dda i ni fyfyrio ar y polisi. Mae nofio am ddim wedi bod yn bwysig o ran cynnig mynediad at gyfleoedd hamdden, i fynd i'r afael â gordewdra neu gyfraddau gweithgarwch gwael—themâu yr wyf wedi ymdrin â nhw’n aml—ond hefyd o ran cyfiawnder cymdeithasol. Fodd bynnag, 10 mlynedd yn ddiweddarach, ceir cwestiynau yn awr yn ymwneud â defnydd, wrth i ddata Nofio am Ddim Cymru ddangos gostyngiad o 19 y cant yn nifer y sesiynau nofio cyhoeddus am ddim yn ystod mis Awst a mis Medi 2016, o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Byddai datganiad gan Lywodraeth Cymru yn rhoi cyfle i ni ystyried hyn, ond hefyd i ehangu a meddwl am ffyrdd o adfywio'r polisi, er enghraifft, efallai trwy ei gysylltu â'r fenter nofio am ddim i gyn-filwyr a phersonél milwrol, er mwyn creu cyfleoedd hamdden teuluol.
Mae Vikki Howells yn codi mater pwysig iawn o ran ein polisi llwyddiannus iawn ar gyfer nofio am ddim, nid dim ond i blant ond i bobl hŷn hefyd, pobl dros 60 oed, ac mae’r grŵp oedran hwnnw yn gwneud defnydd da ohono. Ond mae'n werth myfyrio, ac, mewn gwirionedd, mae Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi gofyn i'w swyddogion ystyried y ffaith y bu gostyngiad yn nifer y bobl ifanc dan 16 oed sy’n manteisio ar sesiynau nofio am ddim. Rwy’n credu ei bod hi’n bwysig cydnabod y bu newidiadau i'r polisi nofio am ddim dros y blynyddoedd. Mae mwy o weithgareddau ar ochr y pwll, er enghraifft, sy'n cael eu hannog, yn ogystal â ffyrdd y gall hyn fod yn gysylltiedig â gwersi nofio ac ati. Felly, yn rhan o'i phortffolio, bydd y Gweinidog yn ystyried y materion hyn, sy'n bwysig iawn i’w codi heddiw.
Arweinydd y tŷ, byddwch yn ymwybodol y bu’n rhaid gwagio eiddo ym mhentref Llanrhaeadr-ym-Mochnant, yn fy etholaeth i, ddydd Gwener ar ôl iddyn nhw gael eu gorlifo gan ddŵr o brif gyflenwad a oedd wedi byrstio, sy'n cario dŵr o Lyn Efyrnwy i Lerpwl. Difrododd y llifogydd y neuadd bentref newydd hyd yn oed, a agorwyd gan y Prif Weinidog, rwy’n ei gofio’n dda, a hynny ond yn 2012. Er na wyddom eto beth sydd wedi’i achosi, mae’r cynghorydd sir lleol, y Cynghorydd Aled Davies, wedi rhoi gwybod i mi bod y pibellau yn torri’n rheolaidd, yn aml dros dir fferm, sy’n ddifrifol ond nid mor ddifrifol, ac rydym yn ymwybodol, wrth gwrs, hefyd, fod rhannau o'r pibellau yn dyddio o oes Fictoria. Er mai United Utilities sydd â llawer o’r cyfrifoldeb hwn, rwy’n derbyn hynny, byddwn yn gofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr amgylchedd ar bolisi rheoli risg llifogydd Llywodraeth Cymru yn hyn o beth. Byddwn hefyd yn ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu pa bwysau y gall Llywodraeth Cymru neu Cyfoeth Naturiol Cymru ei roi ar United Utilities i sicrhau bod ei seilwaith wir yn addas at ei ddiben, fel y gellir rhoi sicrwydd i’r gymuned na fydd digwyddiadau o'r fath yn digwydd eto neu, o leiaf, y bydd cyn lleied ohonynt ag sy’n bosibl.
Wel, yn amlwg, mae’r digwyddiad hwnnw’n codi pryder mawr, nid yn unig i'r bobl sydd wedi’u heffeithio, ond o ran hyfywedd y seilwaith yn y tymor hir. Byddaf yn sicr yn rhannu hyn ag Ysgrifennydd y Cabinet i’w ystyried. Rwyf eisoes wedi crybwyll amddiffynfeydd arfordirol, ond o ran ein buddsoddiad—ein buddsoddiad mwyaf erioed—mewn rhaglenni atal llifogydd o ansawdd uchel ar draws Cymru, dim ond i ddweud ar draws Cymru gyfan, ein bod ni wedi gwario £4.5 miliwn yn ymateb i stormydd y gaeaf a dim ond un rhan o fuddsoddiad amddiffyn rhag llifogydd yw hynny, wrth gwrs. Ond rydych chi’n codi mater a digwyddiad penodol iawn, Russell George.
Diolch i’r Gweinidog.