– Senedd Cymru am 1:52 pm ar 18 Ionawr 2017.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar Fil yr Undebau Llafur (Cymru). Rwy’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei datganiad—Mark Drakeford.
Diolch yn fawr, Lywydd. Diolch am y cyfle i wneud datganiad mewn perthynas â Bil yr Undebau Llafur (Cymru), a gyflwynwyd ddydd Llun.
Nod y Bil yw datgymhwyso adrannau 3, 13, 14 a 15 o Ddeddf Undebau Llafur y DU 2016 o ran eu cymhwysedd i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Bydd llawer o’r Aelodau yma’n cofio’r cefndir i’r Bil hwn. Wedi Etholiad Cyffredinol 2015, cyflwynwyd Bil gan Lywodraeth Geidwadol y DU gyda’r nod o gyfyngu ar hawliau undebau llafur a’u haelodau mewn cyfres o feysydd pwysig. Ymyrrodd Llywodraeth Cymru dro ar ôl tro i roi gwybod i Weinidogion y DU ein bod yn credu bod y Bil yn tresmasu’n uniongyrchol ar weithrediad gwasanaethau cyhoeddus datganoledig, ac y dylid diwygio’r Bil i eithrio Cymru o’r darpariaethau hynny sy’n amharu ar gyfrifoldebau’r Cynulliad hwn. Ysgrifennodd fy rhagflaenydd, Leighton Andrews, at ei swyddog cyfatebol, ysgrifennodd y Prif Weinidog at Brif Weinidog y DU ar y pryd, ac ysgrifennodd y Gweinidog Gwladol Ceidwadol dros Sgiliau at ei gydweithwyr yn eu hysbysu fod y cyngor cyfreithiol gan Brif Gwnsler y Trysorlys wedi dod i’r casgliad mai achos gwan iawn oedd gan Lywodraeth y DU mewn perthynas â Chymru. Mewn pleidlais ar 26 Ionawr, gwrthododd y Cynulliad Cenedlaethol ei hun gefnogi cynnig cydsyniad deddfwriaethol i ganiatáu i Lywodraeth y DU ddeddfu ar gyfer Cymru yn y maes hwn.
Ni wnaeth hynny unrhyw wahaniaeth. Aeth Llywodraeth y DU yn ei blaen beth bynnag, gan honni bod eu ‘hachos gwan iawn’ yn ddigonol i atal cymhwysedd y Cynulliad hwn yn y maes. Gadewch i mi ddelio ar unwaith, felly, â’r mater hwnnw o gymhwysedd. Mae’r Goruchaf Lys wedi dweud yn glir, ar yr amod bod darpariaeth Bil yn ymwneud yn deg ac yn realistig ag un neu fwy o’r pynciau yn Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, ac nad yw’n dod o dan yr eithriadau yn yr Atodlen honno, nid oes gwahaniaeth a ellir hefyd ei ddosbarthu fel un sy’n ymwneud â phwnc nas datganolwyd, megis hawliau cyflogaeth a chysylltiadau diwydiannol.
Mae elfennau pwysig o Ddeddf Llywodraeth y DU yn ymwneud yn benodol â gwasanaethau cyhoeddus sy’n gyfrifoldebau datganoledig diamwys yng Nghymru. Cyfeiria’r Ddeddf yn benodol at wasanaethau iechyd, addysg rhai o dan 17 oed a’r gwasanaethau tân—pob un ohonynt yn amlwg wedi eu datganoli. Credwn ei bod yn anghynaladwy i Weinidogion y DU ddadlau bod yn rhaid ystyried bod eu deddfwriaeth yn ymwneud â materion sydd heb eu datganoli yn unig. Barn y Llywodraeth hon yw bod darpariaethau perthnasol Deddf Llywodraeth Cymru 2006, i’r graddau eu bod yn ymwneud â darparu gwasanaethau cyhoeddus, wedi eu nodi yn adran 108 ac Atodlen 7 i’r Ddeddf honno a’u bod yn gosod darpariaethau’r Bil hwn yn bendant o fewn cymhwysedd datganoledig y Cynulliad Cenedlaethol hwn.
Nawr, Lywydd, roedd hyn oll yn hysbys a chafodd ei ailadrodd yn helaeth pan oedd Bil gwreiddiol y DU yn mynd drwy ddau Dŷ’r Senedd. Er hynny, penderfynodd y Llywodraeth yn San Steffan fwrw yn ei blaen beth bynnag. Nid oedd ganddynt fandad gwleidyddol i wneud hynny ar gyfer Cymru, nid oedd ganddynt hawl cyfansoddiadol i wneud hynny ac nid oedd ganddynt unrhyw sail gyfreithiol ar gyfer gwneud hynny, ond ni allai dim o hynny atal eu penderfyniad ideolegol i ymosod ar hawliau llafur cyfundrefnol.
Pan ddaeth hynny’n amlwg, ymrwymodd fy rhagflaenydd i gyflwyno Bil yn y pumed Cynulliad i wyrdroi effaith y darpariaethau hyn ac i adlewyrchu canlyniad y ddadl ar gynnig cydsyniad deddfwriaethol. Adlewyrchwyd y safbwynt hwnnw ym maniffesto’r Blaid Lafur yn yr etholiad fis Mai y llynedd, fe’i cadarnhawyd gan y Prif Weinidog wrth iddo nodi’r rhaglen ddeddfwriaethol ar gyfer blwyddyn gyntaf tymor y Cynulliad hwn ar 28 Mehefin y llynedd, a chynnyrch yr hanes hwnnw yw’r Bil sydd ger eich bron heddiw. Mae’n Fil byr, ond mae ganddo’r dasg sylweddol o ddiogelu traddodiad hir a llwyddiannus partneriaeth gymdeithasol yng Nghymru, gan mai dyna sydd wrth wraidd ein gwrthwynebiad i Ddeddf Undebau Llafur y DU.
Gellir gweld canlyniad yr ymagwedd wrthdrawiadol tuag at gysylltiadau diwydiannol bob dydd dros y ffin, lle y mae gwleidyddiaeth rhaniad cymdeithasol yn arwain yn anochel at niwed i’r economi ac i wasanaethau cyhoeddus. Yma yng Nghymru, mae ein hanes yn wahanol iawn. Yn 2014, pan oedd diffoddwyr tân ar streic yn Lloegr, daethom i gytundeb gydag Undeb y Brigadau Tân yng Nghymru gan osgoi streic yma. Yn 2015, pan oeddwn yn Weinidog iechyd yma yng Nghymru, roedd nyrsys, bydwragedd, therapyddion galwedigaethol ac eraill ar streic yn Lloegr. Yma, buom yn negodi, ac yn negodi’n galed, gyda’n staff ‘Agenda ar gyfer Newid’ i ddod o hyd i ganlyniad a oedd yn dderbyniol iddynt hwy ac yn fforddiadwy i ninnau. Ni chynhaliwyd unrhyw streiciau yng Nghymru. Yn 2016, creithiwyd y gwasanaeth iechyd yn Lloegr gan yr anghydfod chwerw â meddygon iau, a llwyddasom i osgoi hynny yma yng Nghymru.
Lywydd, ni ddaw’r niwed i ben pan ddaw streic i ben. Mae’r hyn a adewir ar ôl yn real ac mae’r niwed yn parhau. Ochr yn ochr â’i Deddf Undebau Llafur, ymgynghorodd Llywodraeth y DU ar gynigion i ddiddymu rheoliadau sy’n atal darparu gweithwyr asiantaeth yn ystod cyfnodau o weithredu diwydiannol. Rydym wedi ymgynghori felly ar gynigion i gynnal yr egwyddor na ddylid defnyddio gweithwyr asiantaeth yn y ffordd honno. Mae’r ymgynghoriad wedi dod i ben bellach ac mae’r canlyniadau’n cael eu dadansoddi. Un opsiwn fyddai i ni gynnwys darpariaeth yn y ddeddfwriaeth hon drwy ddiwygio ar gamau diweddarach, cyhyd â bod y Bil yn mynd yn ei flaen. Byddaf yn darparu datganiad arall ar gyfer yr Aelodau wedi i’r broses o ddadansoddi’r ymgynghoriad ddod i ben.
Nawr, Lywydd, hyn oll yw’r rheswm pam rydym yn gweithio mor galed i sicrhau bod y model partneriaeth gymdeithasol yn gweithio yng Nghymru. Mae darparu gwasanaethau cyhoeddus datganoledig o ansawdd uchel yn ddibynnol ar weithlu diwyd ac ymroddedig. Ar gyfer ein gwasanaethau allweddol, mae recriwtio, cadw, datblygu a galluogi gweithlu sefydlog a diwyd yn hanfodol wrth lunio’r gwasanaethau hynny a diogelu eu dyfodol. Ac er mwyn cyrraedd y nod hwnnw, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ar y cyd ac mewn partneriaeth ag awdurdodau cyhoeddus Cymru, gan gynnwys cyflogwyr, gweithwyr a’u cynrychiolwyr. Peryglir y model partneriaeth gymdeithasol gan ddarpariaethau ymrannol Deddf y DU. Ein barn glir ni, a’r undebau llafur a chyflogwyr y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, yw y bydd ei heffaith yn arwain at berthynas fwy gwrthdrawiadol rhwng cyflogwyr a gweithwyr ac felly’n tanseilio darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus ac economi Cymru. Yn syml, nod ein Bil yw atgyfnerthu a diogelu ein trefniadau partneriaeth gymdeithasol drwy gynnal y trefniadau sefydlog presennol o fewn y sector cyhoeddus yng Nghymru, sydd wedi cefnogi perthynas gadarnhaol rhwng cyflogwyr a gweithwyr, gan gynnwys hawl undebau llafur i drefnu, a phan fo pob llwybr arall wedi methu, i weithredu’n ddiwydiannol. Mae’n galw am ddiwylliant o onestrwydd, didwylledd ac ymddiriedaeth, gyda’r nod cyffredin o ddatrys anghytundeb a sicrhau consensws yn gynnar, hyd yn oed pan fo penderfyniadau anodd i’w gwneud.
Lywydd, mae gennym fodel llwyddiannus yma yng Nghymru. Nid lle Gweinidogion y DU yw dyfeisio rhyw athrawiaeth newydd sy’n honni bod ganddynt hawl i ymyrryd mewn meysydd sydd wedi’u datganoli’n ddigamsyniol i’r Cynulliad yn unol â thelerau ein setliad presennol, a gwneud hynny mewn ffordd sy’n gwbl groes i’n hymagwedd tuag at y gwasanaethau cyhoeddus. Mater i’r Cynulliad hwn, a hynny’n gywir, yw penderfynu sut y dymunwn weld y gwasanaethau hynny’n cael eu darparu yng Nghymru. Dyna’r safbwynt y mae ein Bil yn ei gynnal, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda’r Aelodau yma ac eraill er mwyn sicrhau ei fod yn cyrraedd y llyfr statud.
Buaswn i’n leicio dechrau fy nghyfraniad i heddiw drwy atgoffa pawb fod Plaid Cymru wedi gwrthwynebu’n gryf Deddf Undebau Llafur 2016 y wladwriaeth Brydeinig pan gyflwynwyd hi yma yn ystod y Cynulliad diwethaf, oherwydd, wrth gwrs, mae Plaid Cymru’n credu yn gryf ym mhwysigrwydd gwaith yr undebau llafur yn y gymdeithas ac yn eu cefnogi nhw. Dim ond drwy bartneriaeth rhwng gweithwyr, diwydiant, cyflogwyr a’r Llywodraeth y gallwn wneud ein gorau dros ein heconomi, a thrwy barchu’r gweithlu’n llawn y gallwn leihau anghydfod a lleihau’r angen am weithredu diwydiannol.
Mi fydd pawb yn y Siambr yma yn cofio’r helynt ar safle ffatri Ferodo yn f’etholaeth i ar droad y ganrif yma. Beth ddangosodd helynt Friction Dynamics yn bennaf oedd diffyg cyfiawnder i’r gweithwyr a sut wnaeth anghydbwysedd cyfraith cyflogaeth gynorthwyo ymgais y cyflogwyr i ddinistrio undebau llafur yn y gweithle. Gwnaeth hynny arwain yn y pen draw at gau’r ffatri ar draul y gymuned. Er i’r streicwyr ddilyn yr holl reolau cymhleth sydd yn rheoli gweithredu diwydiannol, fe dorrodd y cwmni nifer o reolau heb i unrhyw un weithredu yn eu herbyn nhw. Roedd hon yn bennod dywyll iawn yn hanes f’ardal i ac mae’n rhaid inni osgoi sefyllfa debyg yn y dyfodol.
Mae’r Bil yma, felly, yn ymgais glir gan y sefydliad cenedlaethol yma i amddiffyn hawliau gweithwyr yng Nghymru, mewn meysydd sydd wedi’u datganoli yn benodol i’r Cynulliad Cenedlaethol hwn. Mae’r Bil yma yn annemocrataidd yn ôl y Torïaid yn Llundain, sydd yn honiad haerllug iawn, os caf ddweud. Trafod ydw i y drafodaeth am y trothwyon, ac ar sail hynny rwyf am rannu ryw senario fach ddiddorol efo’r Siambr: beth fyddai’n digwydd petaem ni’n defnyddio’r hyn mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ei ddiffinio fel trothwy rhesymol a mandad democrataidd ar gyfer gweithredu diwydiannol sy’n dod o dan y Ddeddf Undebau Llafur i ganlyniad yr etholiad cyffredinol yn 2015? Rwyf yn sôn yn benodol am y trothwy 50 y cant a 40 y cant. Os mai dyna fuasai’r sefyllfa, dyma fuasai’n digwydd: fe gafodd y Torïaid 37 y cant o’r bleidlais genedlaethol ar sail cyfanswm y bleidlais o 66 y cant. O gyflwyno trothwy 40 y cant, mae’r ffigwr yna yn disgyn yn ddramatig i 24 y cant o’r rhai sydd â hawl i bleidleisio. Buasai hynny wedi golygu na fyddai’r Torïaid wedi cyrraedd y trothwy angenrheidiol ac felly ni fyddent wedi cael eu hethol. Buasai wedi creu sefyllfa ddiddorol iawn.
Yr hyn sy’n wir am ddemocratiaeth yng Nghymru, wrth gwrs, yw bod cymryd rhan mewn pleidlais ddemocrataidd yn ddewis, heb i drothwyon penodol gael eu penderfynu gan unrhyw Lywodraeth. Beth bynnag fo’r gwahaniaethau rhyngom fel pleidiau gwleidyddol yn y Cynulliad yma, efo Plaid Cymru yn aml yn herio’r Llywodraeth Lafur bresennol yn rheolaidd ynglŷn â’i ffordd o drin gwasanaethau cyhoeddus, mae’n ffaith nad yw Cymru yn wlad sy’n dioddef effeithiau gweithredu diwydiannol yn aml. Fel y sonioch chi am dair enghraifft, mae’r undebau llafur yn llai tebygol o weithredu yn ddiwydiannol yma, ac fe fyddwn i yn dadlau, fel rydych chi, fod hyn oherwydd bodolaeth y bartneriaeth gymdeithasol. Mae hynny’n wir yn yr Alban hefyd. Mae hynny wedi dod i’r amlwg dros y flwyddyn diwethaf efo streic y meddygon iau a ddigwyddodd yn Lloegr yn unig. Ddigwyddodd o ddim yma yng Nghymru nag yn yr Alban, ac yn bennaf mae hyn oherwydd yr agwedd bartneriaeth gymdeithasol a gymerir yma.
Mae Llafur yn honni mai hi ydy plaid yr undebau a’r gweithwyr, ond yn anffodus mae safiad y blaid ers dyddiau Tony Blair yn gwrthddweud hynny ar brydiau. Yn wir, ers dyddiau tywyll teyrnasiad Thatcher, pryd y cyflwynwyd nifer o reolau newydd gyda’r bwriad o wanhau’r mudiad undebau, megis gwneud picedi eilaidd yn anghyfreithlon, ni wnaeth y Blaid Lafur ddim oll i wyrdroi’r polisïau niweidiol hyn yn ystod cyfnod Tony Blair fel Prif Weinidog. Ond rwyf yn falch o weld ymdrech yn y Cynulliad hwn, o leiaf—. [Torri ar draws.] Rwyf yn falch, ar ôl dweud hynny—ar ôl dweud pethau am y Blaid Lafur a record sydd ddim efallai yr hyn yr hoffai rhywun fod wedi ei gweld dros flynyddoedd cyfnod Llafur Newydd—rwyf yn falch o weld ymdrech yn y Cynulliad yma, o leiaf, i herio’r ymosodiadau mwy diweddar gan y Ceidwadwyr ar hawliau gweithwyr yma yng Nghymru. Trychineb mwyaf y Mesur hwn ydy anallu Llywodraeth Cymru o dan y setliad datganoli presennol, ac i’r dyfodol o dan Fesur Cymru y rhoddwyd sêl bendith iddo fo yma ddoe, i ymestyn a diogelu hawliau gweithwyr tu allan i’r sector gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Rwy’n gobeithio y gallwn ni i gyd gydweithio yn drawsbleidiol ar y mater yma er mwyn amddiffyn a hyrwyddo y rhan gadarnhaol y gall ac y dylai undebau llafur ei chwarae yng nghymdeithas Cymru heddiw.
Diolch yn fawr i Sian Gwenllian am y sylwadau yna. Rwy’n cydnabod, wrth gwrs, fod Plaid Cymru yn rhan o’r gwrthwynebiad i’r Bil gwreiddiol yn San Steffan ac yma ar lawr y Cynulliad hefyd. Ac roedd y pethau roedd Plaid Cymru yn eu dweud ar y pryd yn canolbwyntio ar bartneriaeth a’r ffordd rydym yn trio gwneud pethau yma yng Nghymru. Rwy’n cofio’n llawn sefyll tu fas i Ferodo yng Nghaernarfon gyda’r Prif Weinidog diwethaf, Rhodri Morgan, yn siarad â’r bobl a oedd yn dioddef o’r pethau a oedd yn mynd ymlaen yn y ffatri yna. Yn fy marn i, os ydym yn gallu bwrw ymlaen mewn ffordd drawsbleidiol, bydd hynny yn help mawr i gefnogi’r Bil ac i gefnogi y camau rydym eisiau eu defnyddio yma yng Nghymru i fwrw ymlaen yn y ffordd lwyddiannus rydym wedi ei datblygu yma yng Nghymru, ac i gadw hynny am y dyfodol.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rydym yn derbyn bod undebau llafur yn sefydliadau gwerthfawr yng nghymdeithas Prydain, a bod gan lawer o undebwyr llafur ymroddedig hanes cadarn o weithio’n galed i gynrychioli eu haelodau, ymgyrchu am well diogelwch yn y gwaith a darparu cymorth i’w haelodau pan fo angen. Fodd bynnag, nid yw ond yn deg fod hawliau undebau yn gytbwys â hawliau ein trethdalwyr gweithgar sydd mor ddibynnol ar ein gwasanaethau cyhoeddus allweddol. Nod Deddf Undebau Llafur y DU 2016 yw ailgydbwyso buddiannau cyflogwyr, gweithwyr a’r cyhoedd â rhyddid undebau llafur i streicio. Mae wedi gwarchod gwasanaethau cyhoeddus rhag y bygythiad—y bygythiad—[Torri ar draws.]
Mae’n ddrwg gennyf, Janet. A gaf fi ofyn i’r wrth-ddadl yn erbyn y datganiad hwn, o bosibl, gael ei gwneud a’i chlywed? Diolch, Janet.
[Yn parhau.]—o gael eu dal yn wystlon gan nifer bychan o aelodau undebau a allai amharu ar fywydau miliynau o gymudwyr, rhieni, gweithwyr a chyflogwyr ar fyr rybudd, a hynny heb gefnogaeth glir gan aelodau’r undeb. Ysgrifennydd y Cabinet, os yw athro neu reolwr gwasanaeth cyhoeddus ar gyflog uchel—£40,000 neu £50,000—yn streicio, effeithir ar lawer o rieni ar gyflogau llawer is. Hwy yw’r rhai nad ydynt yn gallu anfon eu plant i’r ysgol; hwy yw’r rhai nad ydynt yn gallu mynd i’w gwaith eu hunain; hwy yw’r rhai sy’n colli cyflog. Onid yw hyn yn ymwneud ag effeithio ar ein—. Onid effeithio ar weithwyr dosbarth canol ein sector cyhoeddus yn unig y mae hyn ar draul ac er anghyfleustra aelodau economaidd-gymdeithasol is ein cymdeithas?
Lywydd, mae’n gwbl synhwyrol na ddylid cynnal streiciau o’r fath ac eithrio ar sail nifer rhesymol o bleidleiswyr a phleidlais sylweddol o blaid streicio gan y rhai sy’n gymwys i bleidleisio. Dylai fod ganddynt y rhyddid hwnnw i ddewis. Onid y gwirionedd, fodd bynnag, yw nad yw hyn yn ymwneud â diogelu ein gweithwyr; yn syml, mae hyn yn ymwneud â Llafur Cymru a Llywodraeth Lafur Cymru yn gwobrwyo barwniaid yr undebau llafur y mae eich plaid mor ddibynnol arnynt, yn ariannol, yn enwedig ar adeg etholiad? Rwy’n gweld gwrthdaro buddiannau sylweddol ar ran eich plaid a’r Llywodraeth hon.
Cyn Deddf y DU, nid oedd saith o bob 10 undeb llafur, a oedd â’u cronfeydd gwleidyddol ym Mhrydain, yn gwneud unrhyw gyfeiriad yn eu ffurflenni aelodaeth at yr hawl i optio allan o gronfeydd gwleidyddol. Pa mor deg yw hyn i weithwyr diwyd ein sector cyhoeddus? Ble mae’r rhyddid? Ble mae’r dewis? Mae Deddf y DU yn ei gwneud yn ofynnol i undebwyr llafur optio i mewn—polisi llawer tecach a llawer mwy cyfartal—i gyfrannu at gronfeydd gwleidyddol, fel sydd wedi gweithio mor llwyddiannus yng Ngogledd Iwerddon ers y 1920au. Mae mesurau o’r fath yn golygu bod undebau llafur yn cael eu trin yn yr un modd â rhoddion corfforaethol, fel yr amlinellir yn Neddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000. Ysgrifennydd y Cabinet, a yw hyn yn rhywbeth y bydd eich Bil arfaethedig yn ceisio’i ddiddymu?
Ar ôl i’r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Cymru hirddisgwyliedig gael ei basio ddoe, mae’n siomedig eich bod eisoes yn ceisio tanseilio’r setliad datganoli newydd hwn sydd ar y ffordd drwy gyflwyno Bil Undebau Llafur (Cymru). Nid wyf yn sicr a yw fy etholwyr yn Aberconwy yn ystyried bod y mater hwn yn un o’u blaenoriaethau, ac yn sicr nid ydynt yn ei ystyried yn flaenoriaeth i chi a’r Llywodraeth hon. Ymgais amlwg yw hon i danseilio un o Ddeddfau Senedd y DU sy’n diogelu ein gweithlu cyhoeddus ac yn ceisio osgoi tarfu mawr ar ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r Llywydd wedi nodi yn ei gohebiaeth at Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau y gellid dyfarnu nad yw pob un neu rai o ddarpariaethau gweithredol y Bil hwn yn rhan o gymhwysedd y Cynulliad pe bai’r Bil yn cael ei gyfeirio at y Goruchaf Lys o dan adran 112 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, neu’n cael ei herio ar ôl Cydsyniad Brenhinol. Felly, hoffwn ofyn i chi heddiw: pa ddadansoddiad cost a budd a wnaethoch ar gyfer cyflwyno deddfwriaeth o’r fath, yn enwedig ar fater a fydd, cyn bo hir, wedi ei godeiddio’n llawn yn y gyfraith fel mater a gedwir ar lefel y DU? A yw’r gwasanaeth sifil wedi archwilio i ba raddau y bydd y ddeddfwriaeth hon yn effeithio ar ein pobl yng Nghymru? A pha waith craffu a ystyriwyd gennych neu a wnaethoch o ran yr effaith ar gwmnïau trawsffiniol a allai’n hawdd benderfynu cynnal eu busnes y tu allan i Gymru o ganlyniad i hyn?
Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi roi gwybod i ni pam y credwch y bydd diddymu Deddf Senedd y DU sy’n diogelu pobl gyffredin weithgar rhag streiciau annemocrataidd yn arwain at fwy o dryloywder, a sut y mae dargyfeirio arian trethdalwyr o’r gwasanaethau cyhoeddus i swyddogion undebau yn syniad da ar gyfer pobl Cymru? Credaf ei bod yn warthus eich bod hyd yn oed yn ystyried cyflwyno’r Bil hwn. Rwy’n bwriadu gwneud gwelliannau iddo a byddaf yn sicr yn ei wrthwynebu.
Diolch yn fawr. Mae’n anodd gwybod sut i ddechrau ateb y fath restr o ystrydebau hen a newydd. Credaf fod safbwynt y Torïaid wedi’i ddarlunio’n dda iawn ym mrawddeg gyntaf cyfraniad Janet Finch-Saunders wrth iddi geisio gwneud yr hyn y mae’r Torïaid yn ei wneud o hyd, sef troi un grŵp o bobl yn erbyn y llall, pan gyfeiriodd at weithwyr, nid trethdalwyr, fel pe na bai gweithwyr yn drethdalwyr, ac eto, mae pob undebwr llafur yr effeithir arnynt gan y Bil hwn yn drethdalwyr yn eu hawl eu hunain. Ond mae ceisio troi un grŵp o bobl yn ein cymdeithas yn erbyn y llall yn ymagwedd Dorïaidd hollol gyffredin. Dyna pam roedd eu Bil gwreiddiol mor ddiffygiol. Bydd yn ychwanegu at y risg o gysylltiadau diwydiannol gwael yn hytrach na’i lleihau. Y rheswm pam rydym mor benderfynol o gyflwyno ein Bil yw ein bod yn hyderus y bydd yn gwella cysylltiadau diwydiannol yng Nghymru. Bydd yn osgoi’r angen am streiciau, gan y bydd yn gwneud y gwaith caled o sicrhau partneriaeth gymdeithasol.
Nawr, pan oeddwn yn siarad â barwniaid undebau llafur y Coleg Nyrsio Brenhinol a Chymdeithas Feddygol Prydain ynglŷn â’r streiciau dros y ffin, nid oeddwn yn gwneud hynny am fod yr her sy’n ein hwynebu yng Nghymru yn llai na mewn mannau eraill, ond am fod dod â phobl o amgylch y bwrdd, bod yn barod i wrando’n ofalus ar yr hyn a oedd ganddynt i’w ddweud, bod yn barod i gydnabod y safbwynt roeddent yn ei fynegi ar ran eu haelodau, a gwneud y gwaith caled wedyn o geisio dod o hyd i ffordd o ymdopi â’r anawsterau hynny wedi sicrhau ein bod wedi osgoi’r sefyllfa y mae’r GIG yn Lloegr wedi’i hwynebu dro ar ôl tro.
Lywydd, nid wyf yn dymuno bod yn anghwrtais, ond mae’n debyg fod yn rhaid i mi ddweud y byddai wedi bod yn ddefnyddiol iawn pe bai’r Aelod wedi llwyddo i ddarllen tri chymal y Bil cyn y prynhawn yma. Mae’n Fil byr iawn, wedi’r cyfan. Credaf y byddai wedi sylweddoli bod y dadansoddiad cost a budd y gofynnai amdano yno yn yr asesiad effaith rheoleiddiol. Byddai wedi caniatáu iddi beidio â gwneud ei phwynt olaf am gwmnïau’n mynd â’u busnes dros y ffin, pan fo’r Bil hwn yn ymwneud yn gyfan gwbl â darparu gwasanaethau cyhoeddus. Felly, credaf nad oes llawer o’r bwganod y mae’r Aelod wedi eu codi ar lawr y Cynulliad y prynhawn yma yn bodoli wedi’r cyfan. Mae diben y Bil yn hollol groes i’r hyn a ddywedodd. Bydd yn helpu i osgoi streiciau, bydd yn helpu i hyrwyddo partneriaeth gymdeithasol, bydd yn gwneud pethau mewn ffordd sy’n iawn i Gymru, ac edrychaf ymlaen at ei gwrthwynebu ar bob cam o’r Bil hwn.
Mae UKIP yn cymeradwyo ymagwedd Llywodraeth Cymru o ran partneriaeth gymdeithasol, gan nad oes unrhyw un yn ei iawn bwyll yn dymuno gweld gwrthdaro mewn perthynas â chysylltiadau diwydiannol. Mae Ysgrifennydd y Cabinet a minnau yn ddigon hen i gofio adeg pan gafwyd cryn wrthdaro mewn diwydiant a gwasanaethau cyhoeddus yn y wlad hon. Dyna pam y cyflwynwyd diwygiadau undebau llafur y 1980au. Yn y 1970au, câi cyfartaledd o 13 miliwn o ddyddiau eu colli yn sgil streiciau bob blwyddyn. Yn y 1980au hanerodd hynny i 7 miliwn; yn y 1990au gostyngodd i 660,000, ac nid yw’r ffigur wedi newid ers hynny, a siarad yn fras. Dyna pam na wnaeth y Llywodraethau Llafur o dan Tony Blair a Gordon Brown unrhyw ymgais i ddiddymu’r ddeddfwriaeth roeddent hwy a’u rhagflaenwyr wedi’i gwrthwynebu mor gryf pan oedd yn mynd drwy Dŷ’r Cyffredin yn y 1980au.
Os yw model partneriaeth gymdeithasol Llywodraeth Cymru mor llwyddiannus, ac ymddengys ei fod, ni allaf ddeall pam eu bod yn meddwl bod y mesur arfaethedig sy’n cael ei gyflwyno yn San Steffan yn gymaint o fygythiad i’r berthynas dda sy’n bodoli ar hyn o bryd rhwng undebau gwasanaethau cyhoeddus a’r llywodraeth ar ei gwahanol ffurfiau yng Nghymru. Oherwydd bydd ymagwedd Llywodraeth Cymru yn sicrhau na fydd y bygythiad ymddangosiadol o orfod cael pleidlais ar streic i gyrraedd y trothwyon o dan y ddeddfwriaeth arfaethedig yn cael ei sbarduno hyd yn oed. Felly, tybed beth yw diben cyflwyno’r Bil, a defnyddio amser y Cynulliad hwn, pan fo sawl mater pwysicach y gallwn ddefnyddio’r amser ar ei gyfer. Mae’n ffaith fod undebau llafur bron iawn wedi diflannu’n llwyr, neu’n segur o leiaf, y tu hwnt i’r sector cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig heddiw. Yn y byd go iawn, fel petai, lle y mae’n rhaid i bobl farchnata eu gwasanaethau, ymddengys nad oes gan undebau llafur fawr o rôl erbyn hyn. Fel sefydliadau gydag aelodaeth wirfoddol, mae’n rhaid iddynt berswadio pobl i dalu am eu tanysgrifiadau aelodaeth, ac nid ydynt wedi bod yn hynod o lwyddiannus wrth berswadio eu darpar aelodau i wneud hynny. Yn y sector cyhoeddus, mae’r sefyllfa’n wahanol iawn. Mae cyfran uchel iawn o bobl yn ymuno ag undeb, a hynny am mai’r gwahaniaeth rhwng y sector cyhoeddus a’r sector preifat yw bod penderfyniadau yn y sector cyhoeddus, yn y pen draw, yn benderfyniadau gwleidyddol, am fod y cyflogwyr, yn y pen draw, yn wleidyddion, ac fel hyn, felly, y caiff pwysau ei roi arnynt.
Credaf fod unrhyw beth sy’n ei gwneud yn haws i alw streic o dan yr amgylchiadau hyn yn fygythiad i fudd y cyhoedd yn gyffredinol. Wedi’r cyfan, mae undebau llafur a’u haelodau yn fuddiannau adrannol, yn hytrach na’r cyhoedd yn gyffredinol, ac rydym yn siarad yma, 100 y cant, am wasanaethau cyhoeddus y bydd yr holl etholwyr a phlant yr etholwyr yn eu defnyddio ar ryw adeg yn ystod y flwyddyn. ‘Does bosibl na ddylai budd y cyhoedd gael blaenoriaeth dros fuddiannau adrannol, ac felly mae’n iawn cael trothwy rhesymol cyn galw streic. Dylai streiciau fod yn ddewis olaf yn hytrach na’r dewis cyntaf. Gofynnaf felly i Ysgrifennydd y Cabinet: pam rydym yn chwarae â thân yn yr achos hwn?
Ni fydd yn syndod i’r Aelodau yma nad wyf yn cytuno â’r hyn y mae’r Aelod yn ei gofio o hanes, ond nid ei ddirnadaeth o’r gorffennol yn unig sydd ar fai yma, ond ei ddealltwriaeth o’r presennol hefyd. Ei syniad nad oes undebau ynghlwm wrth gwmnïau preifat yng Nghymru—onid yw wedi clywed am Ford neu Tata neu Toyota neu sawl cyflogwr arall o’r sector preifat y gallwn eu crybwyll? Mae’n rhaid i mi ddweud yr un peth wrtho ag y dywedodd y Prif Weinidog wrtho ddoe: nid oedd ei ddiddordeb mewn trothwyon rhesymol mor amlwg yn ystod ymgyrch y refferendwm, pan nad oedd unrhyw ddiddordeb ganddo mewn cyflwyno trothwyon artiffisial yn y bleidlais honno.
Gofynnodd i mi ynglŷn â’r darpariaethau yn ein Bil. Gadewch i mi roi un enghraifft iddo pam ein bod mor benderfynol o weithredu. Mae Bil Llywodraeth y DU yn gosod rhwystrau newydd rhag cynrychiolaeth yn y gweithle. Nawr, pam y credwn fod cael amser priodol ar gyfer cynrychioli eich aelodau mor bwysig? Oherwydd na allwch gael model partneriaeth gymdeithasol oni bai bod yr holl bartneriaid wrth y bwrdd yn cael yr amser sydd ei angen arnynt i gyflawni eu cyfrifoldebau. Mae’n gwneud y tebygolrwydd o streiciau’n fwy, nid yn llai, os nad yw cyflogwyr yn gallu siarad yn uniongyrchol ac mewn modd amserol ar ran y bobl y maent yn eu cynrychioli. Y cyfan y mae ein Bil yn ei wneud yw cadw’r status quo yn hynny o beth—y status quo sydd wedi bod yn llwyddiannus. Byddai ei ffordd ef o wneud pethau’n mynd â ni tuag at yn ôl.
Ein nod yw sicrhau bod dyfodol cysylltiadau diwydiannol ein gwasanaethau cyhoeddus gwych yn cael ei gynnal yn briodol drwy gydbwyso’r berthynas rhwng Llywodraeth Cymru, cyflogwyr a gweithwyr. Dywedaf eto wrth Aelodau’r Cynulliad: nid undebau llafur yn unig sy’n cefnogi’r Bil hwn, caiff ei gefnogi gan gyflogwyr gwych y gwasanaethau cyhoeddus hefyd. Maent yn ymwybodol o fanteision cynrychiolaeth briodol ar gyfer eu gweithwyr, gan mai dyna sut y maent yn sicrhau’r ddeialog sydd ei hangen arnynt er mwyn mynd i’r afael â’r problemau sy’n wynebu’r ddwy ochr, a’u datrys.
Mewn gwirionedd, mae gwrando ar y Torïaid yn rhoi rhyw fath o gysur, gan eich bod yn sylweddoli mai’r un hen Dorïaid ydynt wedi’r cyfan ac nad oes unrhyw beth wedi newid. Ond a gaf fi ddweud, Ysgrifennydd y Cabinet, fy mod wedi treulio’r rhan fwyaf o fy mywyd gwaith yn ymgyrchu ac yn ymladd yn erbyn deddfwriaeth wrth-undebau llafur ac yn erbyn ymosodiadau ar weithwyr, a’i bod yn braf iawn clywed eich datganiad heddiw? Gwelir bod Llywodraeth Cymru yn ceisio gwrthdroi’r ymosodiadau diweddaraf ar undebau llafur gan yr hyn na ellir ond ei ddisgrifio fel y Bil undebau llafur mwyaf dialgar a welsom yn y blynyddoedd diwethaf. Fel y dywedodd Neil Hamilton yn ei gyfraniad, mae nifer y streiciau yn is, nid yw gweithwyr y gwasanaethau cyhoeddus, fel y cyfryw, wedi bod yn gwrthdaro yng Nghymru ac yn y blaen, ond er hyn oll—er gwaethaf y nifer isaf o ddyddiau streic ers cyn cof—mae gennym Fil undebau llafur a gyflwynwyd i geisio atal streiciau.
Mae nifer o bethau rwy’n eu croesawu yn y datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, ond rwy’n arbennig o awyddus i siarad am y trothwy artiffisial ar gyfer gweithredu diwydiannol a grybwyllodd Sian Gwenllian, a chytunaf yn llwyr â’r pwyntiau yr oedd yn eu gwneud. Er mai dewis olaf bob amser yw gweithredu diwydiannol a rhywbeth rydym wedi’i osgoi i raddau helaeth yma yng Nghymru, fel y dywedwch yn eich datganiad, mae’n rhaid i ni gydnabod, mewn cymdeithas rydd, fod yn rhaid iddo fod yn offeryn sydd ar gael fel dewis olaf i weithwyr. Os ydym yn dechrau mynd ar hyd y llwybr llithrig o ddweud na ddylai hynny ddigwydd, rydym hefyd yn mynd ar hyd y llwybr llithrig tuag at dotalitariaeth. Yn sicr, ni fyddai unrhyw unigolyn teg yn deall rhesymeg gosod trothwyon ar gyfer pennu canlyniad democrataidd pleidlais ar weithredu diwydiannol—mae’n wahanol i bob proses ddemocrataidd arall sydd gennym yn ein gwlad. Fel y dywedodd Sian Gwenllian eisoes, pe baem yn cymhwyso hynny, ni fyddem yn siarad am Brexit; pe baem yn cymhwyso hynny, 25 y cant yn unig o ASau Torïaidd fyddai wedi cael eu hethol; pe baem yn cymhwyso hynny, ni fyddai’r un ohonom yn yr ystafell hon yn eistedd yn y Cynulliad; pe baem yn cymhwyso hynny, ni fyddai gennym gynghorydd yng Nghymru. Felly, gadewch i ni anghofio’r nonsens fod hyn, rywsut, yn ffordd deg o ymdrin â gweithwyr.
A dweud y gwir, fy asesiad o’r hyn a glywais gan y Torïaid, drwy gydol taith y Bil undebau llafur yn Lloegr, yw nad yw’r bobl hyn yn deall, mewn gwirionedd, sut y mae undebau llafur yn gweithio. Treuliais 30 mlynedd yn gweithio fel swyddog undeb llafur, a fy mhrofiad i, pan oedd pleidlais ar weithredu diwydiannol, sef y dewis olaf bob amser—bob amser—o ran unrhyw beth a wnai’r gweithwyr, roedd gan bobl hawl i bleidleisio neu beidio, fel y dewisent. Yn fy mhrofiad i, os oeddent yn dewis peidio â chymryd rhan yn y bleidlais, pa un a oeddent wedi cymryd rhan ai peidio, roeddent yn parchu canlyniad democrataidd y bleidlais yn yr un ffordd yn union ag y mae fy etholwyr, pa un a ydynt wedi pleidleisio drosof fi ai peidio, pa un a ydynt wedi pleidleisio dros unrhyw un ai peidio, wedi gorfod derbyn mai fi yw cynrychiolydd etholedig Merthyr Tudful a Rhymni yn awr. Nid yw’n wahanol o gwbl i undebau llafur sy’n pleidleisio ar weithredu diwydiannol.
Yr hyn y buaswn yn ei ddweud yw bod aelodau undebau llafur yn deall rôl eu cynrychiolwyr etholedig a’u swyddogion wrth iddynt negodi gyda chyflogwyr, a phan fo’r cynrychiolwyr hynny’n rhoi argymhellion iddynt, maent yn hapus i’w derbyn, ac nid oes angen iddynt gael eu clymu gan drothwy pleidleisio ar gyfer gwneud penderfyniadau ynglŷn â gweithredu diwydiannol.
Felly, yn y pen draw, Ysgrifennydd y Cabinet—oherwydd rwy’n cyrraedd y pwynt roeddwn am ei roi i chi—mae’r Llywodraeth yn Lloegr, o dan bwysau gan yr Arglwyddi, wedi cytuno yn y Ddeddf Undebau Llafur i gynnal arolwg o bleidleisio electronig, gan mai dyna oedd un o’r rhwystrau mwyaf i undebau llafur o ran denu aelodau i bleidleisio. Ar ôl cael gwared ar bleidleisio yn y gweithle, daeth yn anodd iawn sicrhau’r lefel honno o gyfranogiad. Felly, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi y dylid croesawu unrhyw fecanwaith sy’n cymell rhagor i bleidleisio? Oherwydd mae undebau llafur, er gwaethaf yr hyn a glywsom, yn awyddus i weld eu haelodau’n rhan o’r prosesau hyn. A gaf fi ofyn iddo, yn hytrach na dibynnu ar arolwg o fanteision pleidleisio electronig yn unig, a fyddai’n ystyried mynd gam ymhellach a chaniatáu pleidlais electronig, neu bleidleisio yn y gweithle, hyd yn oed, yn y gwasanaethau cyhoeddus datganoledig?
A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ddymchwel yr achos y ceisiodd rhai o’r Aelodau ei wneud y prynhawn yma mewn perthynas â throthwyon pleidleisio mewn modd mor effeithiol? Mewn bywyd blaenorol, Lywydd, byddai’n rhaid i mi eistedd, fel Gweinidog iechyd, gyferbyn â’r Aelod pan oedd yn swyddog undeb llafur amser llawn, ac roedd yn swyddog undeb llafur rhagorol. Wrth feddwl yn ôl at y cyfnod hwnnw, cofiaf ambell i noson ddigwsg, pan oeddwn yn poeni ynglŷn â sut y gallwn fwrw ymlaen â rhai o’r pethau yr oedd hi’n dymuno eu cael ar ran ei haelodau. Ond yn anad dim, cofiaf y gwaith anhygoel a wnaed ganddi hi a’i chydweithwyr yn yr undeb hwnnw’n ddyddiol, er mwyn atal problemau—a allai fod wedi gwaethygu ac arwain at ragor o anawsterau—y modd y byddent yn mynd ati, yn cynrychioli eu haelodau ac yn datrys y problemau hynny. Am ased aruthrol i’n gwasanaethau cyhoeddus yw cael grŵp o bobl o’r fath sy’n gwneud y gwaith hwnnw’n ddyddiol ar ran y gweithwyr yn ein gwasanaethau cyhoeddus.
Ar y pwynt a nododd yr Aelod ynglŷn â phleidleisio electronig, a’r arolwg annibynnol o bleidleisio electronig, sydd bellach wedi dechrau, ac a sicrhawyd fel consesiwn drwy ymdrech lew pan oedd y Ddeddf ar ei thaith drwy’r Senedd, credaf fod gan bleidleisio electronig botensial amlwg i gynyddu lefelau cyfranogiad mewn pleidleisio democrataidd ar weithredu diwydiannol, ac mae hynny i’w groesawu. Mae’r ffaith fod arolwg annibynnol yn mynd rhagddo ar hyn o bryd, i ystyried y dadleuon a chymryd tystiolaeth, yn gam arall ymlaen a sicrhawyd gan y mudiad undebau llafur. Edrychaf ymlaen yn fawr at ganlyniad yr arolwg, ac at weld pa ddefnydd y gallwn ei wneud ohono wedyn yma yng Nghymru.
Mae gennyf restr hir o siaradwyr sy’n dymuno gofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet o fewn yr awr. Mae prif lefarwyr y pleidiau bellach wedi cyfrannu, felly gyda chwestiynau cryno gan yr Aelodau, gobeithiaf fynd drwy bob un o’r ceisiadau. Datganiad yw hwn, nid dadl. Bethan Jenkins.
Diolch. Hoffwn adleisio’r hyn a ddywedwyd eisoes gan Sian Gwenllian, yn ogystal â nodi’r pwyntiau a wnaed mor huawdl gan Dawn Bowden o ran y ffaith nad wyf yn credu bod rhai pobl yn y Siambr hon yn deall sut y gwneir penderfyniadau mewn undebau llafur. Nid wyf erioed wedi bod yn rhan o drafodaeth lle roedd streicio’n ddewis cyntaf—mae bob amser wedi ymwneud â bod yn rhagofalus mewn gwirionedd, a bod yn awyddus i wneud unrhyw beth ond cyrraedd y pwynt hwnnw.
Yn amlwg, rydym wedi gweld bod cynsail yma, mewn perthynas â’r Bil cyflogau amaethyddol, a hyd y gwelaf, mae’r ffordd yn glir, felly, i’r Cynulliad gyflwyno’r Bil hwn. Ond mae yna bob amser ‘ond’, ac rwy’n pryderu ynglŷn â pha mor hir y bydd unrhyw Ddeddf yn para. Felly, fy nghwestiwn yw: a gaf fi sicrwydd gan Lywodraeth Cymru, os ydych wedi cael sicrwydd gan eich swyddogion, eich bod wedi cyrraedd y ddealltwriaeth na chaiff y Ddeddf ei disodli gan Fil Cymru? Beth sy’n atal Llywodraeth y DU rhag cyflwyno deddfwriaeth bellach a fydd yn diddymu’r Bil hwn? A oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau wrth gefn ar gyfer y posibilrwydd hwn? Ac a ydych yn cyfiawnhau defnyddio amser ac adnoddau ar y sail y gallai hyn fod yn realistig? O glywed y sylwadau a amlinellodd Janet Finch-Saunders heddiw, rwy’n rhagweld y gallai hynny’n bendant fod yn rhywbeth y byddai Llywodraeth y DU yn ceisio’i wneud, er gwaethaf y ffaith fod ganddynt ddigon o waith yn barod yn ceisio sicrhau bargen deg i ni mewn perthynas â Brexit.
Hoffwn gyfeirio hefyd yn gryno at y pwynt a wnaed mewn perthynas â mater cymhwysedd. Dywed y Torïaid fod amheuaeth ynghylch y cymhwysedd, ond oni fyddech yn cytuno ei bod yn rhagrithiol i’r Ceidwadwyr ddweud nad yw o fewn y cymhwysedd, a hwythau wedi pleidleisio yn wreiddiol? ‘Does bosibl na ddylent fod wedi ymatal ar y pwynt hwnnw, os oeddent yn ystyried bod amheuaeth ynghylch y cymhwysedd sydd bellach wedi dod i’r amlwg.
Dyna yw fy nghwestiynau yma heddiw. Ond credaf fod angen i ni gofio yn hyn oll nad yw’n ymwneud â barwniaid gwleidyddol, nid yw’n ymwneud ag arian yn mynd i ba bynnag blaid wleidyddol—mae’n ymwneud ag ymladd dros hawliau a lles y gweithwyr hynny. A gwae i ni fethu cydnabod hynny, oherwydd pa un a ydych yn aelod o blaid wleidyddol ai peidio, rhaid i ni gofio nad yw pobl yn gweithredu’n ddiwydiannol ar chwarae bach, a’u bod yn gwneud hynny er mwyn cynorthwyo eu teuluoedd a chefnogi eu cymunedau. A dyna pam fod y Bil hwn yn bwysig—nid rhyw fath o ddadl wleidyddol gymhleth ynglŷn ag a ddylai ddigwydd ai peidio.
Cytunaf yn llwyr â’r pwynt olaf a wnaeth yr Aelod, ac mae’n bwynt pwysig i’w gofnodi. Cytunaf â hi hefyd—mae’r ffaith fod pleidlais wedi’i chynnal yma ar gynnig cydsyniad deddfwriaethol yn y Cynulliad blaenorol, a’r ffaith fod pleidiau gwleidyddol ar draws y Cynulliad wedi cymryd rhan yn y bleidlais yn awgrymu bod y pleidiau gwleidyddol hynny’n cytuno bod mater cymhwysedd yn y fantol yma.
Roedd ei chwestiwn cyntaf ynglŷn ag a fydd y Bil yn cael ei ddisodli gan Fil Cymru. Er eglurder, fel y gŵyr yr Aelodau yma, mae’r Bil hwn yn dechrau o dan y setliad datganoli sydd gennym heddiw, ar yr amod y gallwn gwblhau Cam 1 cyn i Fil Cymru ddod i rym. Yna, bydd yn parhau o dan ein setliad presennol. Rydym yn hyderus ein bod wedi amseru pethau i ganiatáu i ni wneud hynny.
Mae ei hail gwestiwn, fodd bynnag, yn gwestiwn anoddach, onid yw? Oherwydd, yn y pen draw, fel y gwyddom, mae Tŷ’r Cyffredin yn cadw’r gallu i wrthdroi unrhyw beth a wnawn, waeth beth yw’r ddadl ynglŷn â chymhwysedd. Yr unig beth a ddywedaf yw y byddai’n warth democrataidd pe bai’r Cynulliad yn trafod y Bil hwn, yn cytuno ar y Bil hwn, yn ei roi ar y llyfr statud ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus sydd wedi’u datganoli’n llwyr yma yng Nghymru, a bod corff y tu allan i’r Cynulliad hwn yn ceisio ei wrthdroi.
Er tryloywder—ac er nad yw’n fuddiant cofrestradwy—dylwn egluro fy mod yn aelod o’r Conservative Workers and Trade Unionists. Mae llawer o angerdd gwleidyddol wedi bod ynghlwm wrth hyn heddiw, ond rwy’n awyddus i wybod pam, Ysgrifennydd y Cabinet, o bob rhan o Ddeddf yr undebau llafur—gwn ein bod wedi trafod llawer ar y trothwyon heddiw—eich bod wedi dewis diwygio adran 172A ac adran 116B. Oherwydd ni chredaf, o ran y diwygiad i adran 172A, fod unrhyw gyfyngiadau yn yr adran wreiddiol honno; gofyniad o ran adrodd yn unig ydyw, sy’n ymwneud, hyd y gwelaf, â sicrhau’r defnydd effeithlon o arian cyhoeddus, ac wrth gwrs, dylai hynny fod o ddiddordeb i chi fel Ysgrifennydd y Cabinet, yn ogystal â chyflogwyr a gweithwyr. Maent yn adolygu costeffeithiolrwydd eu gweithgareddau a’u gweithdrefnau a ariennir gan bwrs y wlad yn gyson. Nid wyf yn hollol siŵr pam fod cynrychiolwyr yr undebau llafur, sy’n aml wedi’u lleoli yn yr un adeiladau, yn cael eu hesgusodi rhag hynny. Yn yr un modd, pan fo’r cyflogwr yn talu holl gostau gweinyddu’r tanysgrifiadau, ‘does bosibl nad y cwestiwn arall, gydag aps fel Pingit ac yn y blaen, yw pa mor gyfredol bellach yw’r rhagdybiaeth mai rôl y cyflogwr yw gwneud hyn.
Felly, fy nghwestiynau yw: pa ystyriaeth rydych wedi’i rhoi i ba mor ddefnyddiol yw’r wybodaeth y gellid ei chasglu o dan adran 172A o ran helpu i reoli cyllid cyhoeddus? Pa ystyriaeth a roddwyd i gosteffeithiolrwydd dulliau eraill o gasglu tanysgrifiadau a pha un a yw’n rhesymol i undebau llafur cyfoethog—nid yr aelodau unigol, ond yr undebau llafur eu hunain—gyfrannu at gost eu gweithgareddau pan fo’r costau yn cael eu hysgwyddo’n gyfan gwbl ar hyn o bryd gan y cyflogwr—gweithgareddau y mae’r ddwy adran honno’n ymdrin â hwy?
O gofio eich datganiad ysgrifenedig a’r gwaith rydych yn ei wneud ar waith asiantaeth, a allwch gadarnhau bod y Bil hwn fel y mae, i bob pwrpas yn Fil ceffyl pren Troea, a’ch bod yn bwriadu cyflwyno nifer o ddiwygiadau i gwmpasu gwaith nad ydych wedi gallu ei gyflawni mewn pryd er mwyn cyflwyno’r Bil hwn pan wnaethoch hynny, a’ch bod wedi cyflwyno’r Bil yn sgil pleidlais ranedig yr Arglwyddi yn ddiweddar? Mae hwn yn fater pwysig i’r Cynulliad oherwydd, o’r hyn a welaf yn eich memorandwm esboniadol, mae eich ymgynghoriad wedi’i gyfyngu i gyngor y gweithlu, nad yw’n cwmpasu Cymru gyfan, ac fe’i cynhaliwyd ar Fil y DU yn hytrach na manylion penodol y Bil hwn. Yn ychwanegol at hynny, mae’n gwbl aneglur ar ba broses ddeddfwriaethol y bydd y Cynulliad yn craffu mewn perthynas â chychwyn y Bil hwn, ac o ystyried eich bod yn bwriadu cychwyn y Bil drwy reoliadau, buaswn yn ddiolchgar iawn pe gallech roi rhywfaint o eglurder ar hynny.
Yn gyntaf, er eglurder, mae cyngor partneriaeth y gweithlu yn cwmpasu Cymru gyfan. Mae’n gorff ar gyfer Cymru gyfan; mae aelodau arno sydd â chylch gwaith ar gyfer Cymru gyfan. Nid oedd yr ymgynghoriad ar weithwyr asiantaeth yn gyfyngedig mewn unrhyw ffordd i gyngor partneriaeth y gweithlu; roedd modd i unrhyw sefydliad neu unigolyn yng Nghymru, a thu hwnt yn wir, gyfrannu at yr ymgynghoriad hwnnw. Nid Bil ceffyl pren Troea mohono. Yn wir, mae’n unrhyw beth ond hynny. Mae’n Fil cul, penodol a chyfyng, lle y caniateir diwygiadau os gellir eu cyflawni o fewn y cwmpas cyfyng a phenodol iawn hwnnw yn unig. Nid oes unrhyw gysylltiad rhwng amseriad y Bil ac unrhyw beth a ddigwyddodd yn Nhŷ’r Arglwyddi neu unrhyw beth a ddigwyddodd yma mewn perthynas â Bil Cymru. Fel yr eglurais yn fy natganiad, roedd hwn yn ymrwymiad ym maniffesto’r Blaid Lafur; soniodd y Prif Weinidog amdano yn ôl ym mis Mehefin y llynedd a damwain o ran yr amseru a dim mwy na hynny yw’r ffaith fod y pethau hyn wedi digwydd dod gerbron y Cynulliad yn ystod yr un wythnos.
O ran cwestiynau’r Aelod ynglŷn â chynnwys y Bil, dyma’r ateb: rydym yn ceisio cael gwared ar y rhwystrau ychwanegol hynny y mae Bil y DU yn eu gosod i atal aelodau undebau llafur rhag gallu talu eu tanysgrifiadau mewn ffordd syml, ac i atal yr undebau llafur eu hunain rhag gallu cyflawni eu cyfrifoldeb ar ran yr aelodau hynny. Yn syml, rydym yn ceisio cynnal y status quo. Y Blaid Geidwadol sy’n ceisio ychwanegu rhwystrau newydd rhag gwneud pethau yn y ffyrdd hynny. Rwy’n gwbl hyderus fod yr holl fesurau yn y Bil hwn yn cyd-fynd â’n nod o sicrhau partneriaeth gymdeithasol effeithiol.
Rwy’n siarad heddiw fel Aelod sy’n falch o fod wedi gwasanaethu gweithwyr yn fy rôl flaenorol fel swyddog undeb llafur, ac sy’n falch o fod wedi ymrwymo, fel Aelod Cynulliad, i barhau i ddadlau dros weision cyhoeddus gweithgar nad ydynt yn cael eu gwerthfawrogi’n ddigon aml. Golyga hynny hefyd fy mod yn deall y materion ychydig yn well, efallai, na rhai o’r bobl eraill sydd wedi cyfrannu heddiw. Rydym yn ymfalchïo yn ein partneriaeth gymdeithasol yng Nghymru, ac nid yn unig er mwyn gwneud pethau’n wahanol i San Steffan, ond yn hytrach am ei bod yn sicrhau canlyniadau mewn gwirionedd, a hynny er budd y gweithiwr, y gweithle a’r Llywodraeth. Soniodd Ysgrifennydd y Cabinet am drafodaethau’r ‘Agenda ar gyfer Newid’ flwyddyn neu ddwy yn ôl, lle y cefais innau’r fraint o eistedd ar yr ochr arall i’r bwrdd. Er bod y trafodaethau hynny’n anodd a bu’n rhaid cyfaddawdu, daethom i gytundeb yn y pen draw. Cymharwch hynny â’r hyn a ddigwyddodd gyda fy nghydweithwyr ar y pryd dros y ffin yn Lloegr, pan gaewyd y drws yn glep yn eu hwynebau, gan arwain yn y pen draw at weithredu diwydiannol na welsom mohono yma.
Bydd cyfyngiadau ar amser cyfleuster i gynrychiolwyr lleol yn niweidio’r bartneriaeth gymdeithasol hon ac yn erydu’r gwaith a wnaed gan undebau llafur i wella cyfle cyfartal ac arferion, ac yn cael gwared ar un o’r amddiffyniadau gorau sydd gan weithwyr ar hyn o bryd rhag triniaeth wahaniaethol. Mae potensial gan amser cyfleuster i fod o fudd i gyflogwyr ac i weithwyr, a gall yr ymosodiadau hyn ar amser cyfleuster yn neddfwriaeth Llywodraeth y DU niweidio cynhyrchiant yn y gweithle a lles y gweithiwyr. Mae bwlch amlwg rhwng y rhethreg ailadroddus rydym yn ei chlywed yn y ddadl hon a realiti bywyd go iawn. Gallai peidio â sicrhau amser cyfleuster digonol arwain, mewn gwirionedd, at gost uwch i’r cyflogwr, gan y bydd yn rhaid iddynt negodi ac ymgynghori â gweithwyr unigol. Gallai llwyth achosion y cyflogwr gynyddu hefyd o bosibl, gan fod llawer o amser yr undebau llafur yn cael ei dreulio ar ddatrys y materion hyn cyn iddynt ddatblygu’n achosion llawn. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf fi ddweud: a ydych yn cydnabod realiti’r gwaith y mae cynrychiolwyr undebau lleol yn ei wneud, a’i fod yn ddefnyddiol yn hytrach na’n niweidiol, a bod amser cyfleuster yn rhan hanfodol o rymuso gweithwyr y dylid ei ddiogelu a’i barchu?
Lywydd, cytunaf yn llwyr â phwynt yr Aelod. Wrth gwrs, mae amser cyfleuster o fudd i gyflogwyr. Gwnaed y pwynt hwnnw ddoe gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn eu datganiad i groesawu’r Bil. Y rheswm am hynny yw bod cyflogwyr yn cydnabod y gwaith y mae cynrychiolwyr undebau lleol yn ei wneud bob dydd ym mhob rhan o’n gwasanaethau cyhoeddus. Mae’n bwynt a wneuthum wrth ymateb i’r Aelod dros Ferthyr Tudful a Rhymni. Yn fy mhrofiad i, fel Gweinidog ar y pryd gyda chyfrifoldeb am un o’n gwasanaethau cyhoeddus pwysig, roedd sicrhau bod y gwasanaethau hynny’n gweithredu’n effeithiol, datrys problemau yn y gwasanaethau hynny, a chorlannu tystiolaeth gan weithwyr ynglŷn â sut y gellid gwella’r gwasanaeth—gwnaed y pethau hynny’n well o lawer o ganlyniad i’r ffaith fod cynrychiolwyr lleol ar gael a oedd yn gwbl ymroddedig i’r gwasanaethau cyhoeddus hyn ac a allai dynnu sylw’r cyflogwyr at y materion hynny drwy ddefnydd synhwyrol ac effeithiol o amser cyfleuster.
Ysgrifennydd y Cabinet, diolch am eich datganiad y prynhawn yma. Cytunaf fod undebau’n chwarae rhan bwysig yn y gweithle, yn enwedig o ran unioni unrhyw anghyfiawnder y gallai gweithwyr ei wynebu. Dros flynyddoedd lawer, maent wedi gwella amodau gwaith ledled y Deyrnas Unedig. Ond y broblem i lawer o bobl yw bod llawer o’r undebau hynny wedi’u gwleidyddoli, ac yn arbennig, y datgysylltiad rhwng yr hyn y mae ysgrifenyddion cyffredinol llawer o’r undebau hynny’n ceisio’i gyflawni yn yr arena wleidyddol a’r gweithwyr a ymaelododd â’r undebau hynny yn hanesyddol. Mae clywed Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud nad oes mandad gan Lywodraeth y DU yn fy nghythruddo i raddau. Roedd hyn yn rhan o’r maniffesto a gymeradwywyd gan bobl Prydain yn 2015, a thra bo Ysgrifennydd y Cabinet yn siarad am y model cymdeithasol yma yng Nghymru, rwy’n darllen yn awr am y streic a fydd yn digwydd ym mwrdd iechyd Abertawe Bro Morgannwg, lle y mae trefnydd Unsain yno’n dweud,
Nid yw staff sterileiddio’r ysbytai’n teimlo bod y bwrdd iechyd yn gwrando arnynt na’n deall y gwaith a wnânt yn iawn.
Datganiad yw hwn. [Torri ar draws.] Hoffwn dderbyn yr ymyriad, ond mae’n ddrwg gennyf, ni allaf ei dderbyn. Mae’n mynd ymlaen i ddweud bod y staff yn teimlo fel pe baent newydd gerdded i mewn oddi ar y stryd.
Ychydig cyn y Nadolig, roeddem yn delio â streic yn yr amgueddfeydd cenedlaethol, ac roedd Llywodraeth Cymru yn arbennig o araf yn delio â hynny. Bydd llawer ohonom yn cofio, pan oeddech chi’n Weinidog iechyd yma yng Nghymru, fod Cymdeithas Feddygol Prydain wedi bod mor hy â thynnu sylw at y trafferthion a oedd yn wynebu’r gwasanaeth iechyd ym mis Medi 2014, ac fe’u gwawdiwyd gan y Prif Weinidog ar lawr y Siambr hon am feiddio tynnu sylw at rai o ddiffygion y GIG yng Nghymru. Cymerasant y cam digynsail o sicrhau bod pob un o gadeiryddion eu pwyllgorau, o’u pwyllgor meddygon ymgynghorol i’r pwyllgor meddygon iau, yn anfon llythyr at bob Aelod yn y Siambr hon. Felly, os gwelwch yn dda, peidiwch â cheisio paentio darlun gogoneddus nad yw’n bodoli; efallai ei fod yn bodoli yn eich byd dychmygol chi, Ysgrifennydd y Cabinet, ond mae’n rhaid i mi ddweud wrthych nad yw’n bodoli yng Nghymru ar hyn o bryd.
Byddwn yn herio’r Bil hwn ar ei daith drwy’r Cynulliad, ac yn y pwyllgor hefyd, fel y dywedodd Janet Finch-Saunders, nid oherwydd ein bod yn gwrthwynebu rôl yr undebau, gan y credwn fod gan undebau rôl werthfawr iawn yn gwella hawliau gweithwyr. Ond rydym yn gwrthwynebu gwleidyddoli’r hyn y mae’r ysgrifenyddion cyffredinol yn ceisio’i gyflawni drwy weithio law yn llaw â’r Blaid Lafur. Ond mae’r cwestiwn penodol yr hoffwn ei ofyn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, yn ymwneud yn benodol â’ch paragraff olaf, lle y mae’n dweud,
Mater i’r Cynulliad hwn, a hynny’n gywir, yw penderfynu sut y dymunwn weld y gwasanaethau hynny’n cael eu darparu yng Nghymru.
Os credwch fod gennych achos i ddeddfu ar delerau ac amodau, a ydych yn credu felly eich bod yn agor cil y drws ar gyflogau rhanbarthol, ac y byddwch mewn gwirionedd yn gwneud anghymwynas enfawr â gweithwyr sector cyhoeddus yn y wlad hon drwy ddwyn eich achos yn ei flaen dros roi’r Bil hwn ar y llyfr statud? Credaf eich bod yn cynnig cyflwyno cyflogau rhanbarthol drwy barhau â’r Bil hwn, Ysgrifennydd y Cabinet.
Diolch i Andrew R.T. Davies am ei gyfraniad. Nid wyf yn cytuno â’i bwynt olaf. Credaf ei fod yn ymestyn y ddadl ymhell y tu hwnt i’r ffeithiau os yw’n awgrymu bod y Bil hwn, nad yw’n gwneud dim mwy na datgymhwyso nifer o faterion sy’n gysylltiedig ag undebau llafur, yn agor cil y drws rywsut ar gyflogau rhanbarthol yng Nghymru. Nid wyf yn derbyn ei ddadl yn hynny o beth.
Rwy’n credu y dylwn dynnu ei sylw at y ffaith y byddai streic ym Mhrifysgol Abertawe Bro Morgannwg, pe bai’n digwydd, wedi cyrraedd y trothwyon yn y ddeddfwriaeth y mae ei blaid wedi eu rhoi ar y llyfr statud. Felly, ni fyddai modd gwneud dim am hynny.
O ran ei bwyntiau am Gymdeithas Feddygol Prydain, rwy’n meddwl ei fod yn ychwanegu at yr achos a wneuthum. Nid yw’r model partneriaeth gymdeithasol yn ymwneud â pherthynas glyd lle rydych bob amser yn cytuno, ond yn hytrach â bod yn barod i barhau i eistedd o amgylch y bwrdd gyda phobl sydd â safbwyntiau gwahanol i’ch rhai chi, a bod yn barod i gymryd rhan yn ddifrifol a gwrando’n astud ar y pwyntiau a wnaed ganddynt a gallu dangos iddynt, lle y mae’r pwyntiau hynny’n berthnasol, eich bod yn barod i weithredu gyda hwy er mwyn datrys y mater. Roeddwn yn cyfarfod â Chymdeithas Feddygol Prydain bob chwe wythnos tra oeddwn yn Weinidog iechyd. Nid oedd y cyfarfodydd hynny’n gyfforddus bob amser, ond y ffaith eu bod yn gwybod y byddent bob amser yn cael gwrandawiad ac y buaswn bob amser yn barod i feddwl yn ofalus am yr hyn oedd ganddynt i’w ddweud oedd y rheswm pam yr argymhellodd Cymdeithas Feddygol Prydain y dylai ei haelodau yma yng Nghymru barhau i weithio pan oedd meddygon iau ar streic yn Lloegr. Mae’r model partneriaeth gymdeithasol yn cael ei gadarnhau’n llwyr gan y pwynt a wnaeth.
Rwy’n credu y dylid cymryd unrhyw wleidydd sy’n cwyno am wleidyddoli gyda mwy na phinsiad o halen. Dechreuodd drwy ddweud wrthyf fod hwn yn Fil a oedd yn dilyn ymlaen o faniffesto plaid wleidyddol yn Lloegr. Os nad yw hynny’n wleidyddoli, nid wyf yn gwybod beth sydd.
Rwy’n croesawu datganiad—ailddatganiad yn wir—Ysgrifennydd y Cabinet am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i hawliau unigol a chyfunol gweithwyr y sector cyhoeddus yng Nghymru. Gadewch i ni beidio ag anghofio bod y cyfyngiadau y mae’r Bil hwn yn ceisio mynd i’r afael â hwy yn bethau a oedd yn rhy wenwynig hyd yn oed i’r Llywodraeth Geidwadol honno yn y 1980au eu cyffwrdd, Llywodraeth a oedd yn eithriadol o elyniaethus tuag at yr undebau llafur. Mae’n werth i ni gadw hynny mewn cof.
Hoffwn gyffwrdd ar un o’r rhannau llai amlwg, sydd wedi cael ei grybwyll yn barod, sef tynnu tanysgrifiadau undeb o becynnau cyflog. Mae’n fodd syml a hygyrch i aelodau unigol dalu eu tanysgrifiadau undeb yn amserol. Yn groes i’r awgrym yng nghwestiwn Suzy Davies, rwy’n credu, fel arfer yr undebau sy’n talu canran o’r rheini i’r cyflogwr er mwyn talu’r costau, fel nad oes cost i bwrs y wlad o ddarparu’r cyfryw wasanaeth.
Mae’n fy nharo bod gennym Geidwadwyr yn San Steffan, ac ar y meinciau gyferbyn sy’n eu cefnogi, sy’n gyfarwydd â chael arian wedi’i dynnu ar gyfer eu pensiynau a’u haelodaeth o gampfa a’u cynlluniau beicio i’r gwaith ac yn y blaen, ond sy’n gwrthod hyn ar gyfer gweithwyr unigol yng Nghymru, sy’n arwydd o ymgais amlwg i gyfyngu ar hawliau democrataidd unigolion i ddod yn aelodau o undeb llafur.
Felly, a wnaiff fanteisio ar y cyfle hwn, yn wahanol i Lywodraeth y DU, i ailddatgan safbwynt Llywodraeth Cymru y buasai’n dymuno gweld cymaint o weithwyr y sector cyhoeddus ag y bo modd yn aelodau gweithgar o undebau llafur?
Cytunaf yn llwyr â Jeremy Miles. Yr hyn rydym eisiau ei weld yw aelodau o undeb llafur sy’n cymryd rhan weithredol yng ngwaith eu hundeb ac yn mynegi eu hymroddiad dyddiol i’r gwasanaethau cyhoeddus y maent yn eu darparu drwy wneud y cyfranogiad hwnnw’n rhan o’r cyfryw gyfraniad. Cytunaf â’r pwynt a wnaeth ar y dechrau hefyd. Mae Deddf undebau llafur 2016 yn diwygio Deddf 1992, a oedd yn ddigon da ar gyfer 13 mlynedd o Lywodraethau Ceidwadol. Ac rwyf am wneud y pwynt eto: nid y Llywodraeth hon yng Nghymru sy’n ceisio newid y status quo yma; yn syml, rydym eisiau i bethau sydd wedi gweithio’n llwyddiannus i barhau i weithio’n llwyddiannus. Daw’r newid gan y rhai sydd ag agenda o fath gwahanol iawn.
Pan ddywedodd arwr Llafur Newydd, Tony Blair, ei fod yn difaru cyflwyno Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, nid am nad oedd yn mynd yn ddigon pell y dywedai hynny; yr hyn a olygai oedd ei bod wedi rhoi mynediad i bobl at wybodaeth y byddai’n well ganddo pe na baent wedi’i chael. Efallai fod Tony Blair wedi gadael ei swydd, ond mae Llafur Cymru yn parhau ar ei ôl i obeithio cadw gwybodaeth rhag y cyhoedd.
Mae eu cynnig i wrthod deddfwriaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus ddatgelu i’r cyhoedd faint o amser y mae gweithwyr y sector cyhoeddus yn ei dreulio ar weithgareddau undeb yn ymgais ddigywilydd i guddio gwybodaeth y mae Llafur yn teimlo na fydd y cyhoedd yn ei hoffi. Mae’n rhaid bod Llafur yn gwybod y buasai’r wybodaeth yn achosi dicter ymhlith trethdalwyr Cymru, fel arall ni fyddai unrhyw reswm dros ei chadw’n ôl. Pe bai pobl yn gofyn faint o arian sy’n cael ei wario a faint o amser sy’n cael ei dreulio ar unrhyw weithgaredd arall a gyflawnir gan weithwyr y sector cyhoeddus, ni fyddai gwrthod rhoi atebion i’r cyhoedd yn cael ei oddef. Os yw’r ddeddfwriaeth hon yn mynd rhagddi, rwy’n meddwl y byddai’n gyfiawn i mi ffeilio cais rhyddid gwybodaeth bob wythnos, yn gofyn faint o amser a dreuliwyd ar weithgaredd undeb, ac i roi gwybod i’r cyhoedd fy hun.
Rwyf hefyd yn rhannu barn y cyhoedd y dylai pleidlais i streicio fod yn amodol, fan lleiaf, ar lefel ofynnol o gymeradwyaeth gan aelodau undeb. Rwy’n bryderus ynglŷn â hawliau gweithwyr ac mae’n bwysig cofio bod undebau wedi gwneud llawer iawn i wella amodau a chyflogau gweithwyr. Ond mae’n ymddangos yn rhesymol y dylid cael trothwy isaf o gefnogaeth yr aelodau cyn y gall gweithredu diwydiannol ddigwydd. I’r rhai sy’n honni y byddai’r rheolau newydd yn rhwystro undebau rhag cynrychioli eu haelodau, buaswn yn dweud hyn: os na allwch gael digon o gefnogaeth gan eich aelodau o blaid streic, yn amlwg nid ydych yn cynrychioli eu safbwyntiau. Os bydd pleidlais i streicio yn methu cyrraedd y lefel honno o gefnogaeth, ni fydd bai ar neb ond yr undebau. Ymddengys bod y cyhoedd yn cefnogi trothwy isaf ar gyfer streicio, a’r unig reswm a all fod dros wrthwynebiad Llafur iddo yw bod eu cyfranwyr o blith yr undebau yn bwysicach iddynt na thryloywder a’r hyn y mae’r cyhoedd ei eisiau. Mae angen i Lafur gofio bod y sector cyhoeddus yno i wasanaethu’r trethdalwr, nid fel arall. Diolch.
Lywydd, rwy’n meddwl bod Aelodau ar draws y Siambr wedi ymdrin â mater y trothwy yn llwyddiannus iawn y prynhawn yma. Ni fyddai’r Aelod ei hun yma pe bai’n darostwng ei hun i’r ddadl y mae hi mor awyddus i ddarostwng eraill iddi. Ynglŷn â’i phwynt cyntaf am wybodaeth, rwy’n gobeithio y gallaf ei helpu gyda hwnnw: gallwn roi gwybod iddi mai 2.2 y cant o weithleoedd yn y sector preifat sydd â chynrychiolydd undeb llafur amser llawn; 2.8 y cant o weithleoedd yn y sector cyhoeddus sydd â chynrychiolydd amser llawn; roedd 84 y cant o gyflogwyr yn cytuno gyda’r datganiad fod cael cynrychiolydd o’r fath yn gymorth iddynt gyflawni eu gwaith. Mae’r wybodaeth honno, ymhell o fod yn gyfrinachol neu’n cael ei chadw rhag y cyhoedd, i’w gweld wedi’i chyhoeddi gan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol, ac mae croeso i’r Aelod fynd ar drywydd y ffynhonnell honno am fwy o wybodaeth o’r math y mae hi i’w gweld mor awyddus i’w chael.
Wel, mae wedi bod yn ddadl sy’n goleuo a daeth sawl peth yn eglur ynddi. Y peth cyntaf a ddaeth yn amlwg iawn yw’r celwydd mai UKIP yw plaid y dosbarth gweithiol, gan mai’r cyfan y maent wedi’i wneud heddiw yw siarad yn erbyn y cyfleoedd rydym yn ceisio’u rhoi ar waith ar gyfer pobl weithgar. Gan ein bod yn siarad am ‘bobl weithgar’—trethdalwyr ac eraill—buaswn yn herio rhai o’r datganiadau a wnaed heddiw am gynrychiolwyr undebau llafur yn dod i’r golwg rywsut o gorneli tywyll, pobl nad ydynt yn drethdalwyr, yn amlwg, pobl nad ydynt yn rhieni, yn amlwg, a phobl nad ydynt yn cynrychioli eu cymunedau neu’r sefydliadau y maent yn gweithio ynddynt, ac sy’n amlwg wedi cael eu cyflwyno gan Janet Finch-Saunders, arweinydd y blaid Dorïaidd a phawb arall o’r ochr honno i’r Siambr heddiw. Nid wyf yn gwybod sut nad yw’r Torïaid yn deall nad yw eu hunig dric yn gweithio rhagor. Dyma eu hunig dric: os gosodwch y gweithwyr yn erbyn y penaethiaid, os gosodwch y cyfoethog yn erbyn y tlawd, ac os rhowch y bobl sydd angen cynrychiolaeth a’r bobl sy’n ceisio’i roi ar ochrau gwahanol, nid yw’n gweithio.
Felly, cawsom y gwaradwydd ddoe, gan arweinydd y blaid Dorïaidd, o gymharu’r bobl sy’n ceisio cynrychioli pobl eraill fel pe baent yn llai haeddiannol nag eraill rywsut. Rwyf am gywiro’r camargraff yma heddiw. Rwyf am gywiro’r camargraff oherwydd mae TUC Cymru wedi datblygu rhwydwaith o gynrychiolwyr cydraddoldeb, a chyflwynwyd hynny yn 2012 gan Lywodraeth Cymru. Y rheswm pam y’i cyflwynwyd—pam y cyflwynwyd y cynrychiolwyr undebau llafur hyn—oedd oherwydd y gellid eu hyfforddi i gynorthwyo’r bobl sydd fwyaf mewn perygl o wynebu gwahaniaethu yn y gweithle. Felly, pwy fyddai’r bobl hynny? Dyma’r bobl sydd ag awtistiaeth. Dyma’r bobl sydd ag anableddau dysgu. Dyma’r bobl sydd angen llais pan nad oes unrhyw lais arall ganddynt. Dyma pam ein bod yn awyddus i roi amser i’r cynrychiolwyr undebau allu cyflawni’r gynrychiolaeth honno. Anghofiwch eich unig dric oherwydd nid yw’n gweithio. Gadewch i ni ei dweud hi fel y mae. Rwy’n siŵr fod rhai ohonoch yma yn aelodau o undebau llafur. Fe fetiaf eich bod. Fe fetiaf fod digon o Aelodau draw yno sy’n aelodau o undebau llafur.
A ydych chi’n annerch Ysgrifennydd y Cabinet neu blaid wleidyddol? Mae angen i chi ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet.
Rwy’n mynd i ddweud mewn gwirionedd mai’r hyn y mae’r Ddeddf hon—. Yr hyn yr ydym yn ceisio’i wneud yn erbyn y Ddeddf hon yw ein rhwystro ni, y gweithwyr yng Nghymru, rhag cael ein cymharu gan bwyllgor y Sefydliad Llafur Rhyngwladol i Ddeddf a roddwyd mewn grym sy’n fwy diarbed nag a gafwyd ers dyddiau Thatcher ac sydd wedi ein rhoi yn yr un cae bellach â Qatar, Zimbabwe, Bangladesh ac eraill. Dyna’n union ble y mae eich Deddf. Mae’n gywilyddus, mae’n warthus, fel rhai o’r sylwadau a glywais heddiw. A dyna pam yr wyf am dynnu sylw atynt. Dyna pam yr wyf am dynnu sylw at y celwydd am y bobl hynny na fydd yn—
Joyce Watson, mae angen i chi ddod â’ch sylwadau i ben yn awr a gofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet.
Felly, rwyf am ofyn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych yn credu y bydd y Bil hwn yn helpu i leihau’r gwrthdaro y clywsom amdano heddiw, ac yn anogaeth i ddatrys y gwrthdaro hwnnw yng ngweithlu’r sector cyhoeddus?
Lywydd, mae’r Aelod wedi tynnu sylw yn fedrus iawn at yr agenda partneriaeth cymdeithasol ehangach y mae cael undebau llafur sy’n gallu cyflawni eu cyfrifoldebau yn ei rhoi i Gymru. Rydym wedi canolbwyntio yn y datganiad hwn ar gynnal cysylltiadau diwydiannol uniongyrchol, ond mae partneriaeth gymdeithasol yn llawer mwy na hynny. Nid chafodd tir cynyddol ei ennill erioed heb frwydr, boed mewn materion cydraddoldeb, materion yn ymwneud â gwahaniaethu, neu yma yng Nghymru drwy’r camau rydym wedi’u cymryd ar gosbrestru yn y sector adeiladu, neu sicrhau cyflog byw yn y GIG yng Nghymru, neu’n cynhyrchu cod gweithlu dwy haen ar ei newydd wedd i Gymru, ar ôl iddynt droi cefn ar hynny ar yr ochr arall i’n ffin. Mae’r model partneriaeth gymdeithasol yn mynd y tu hwnt i gynnal cysylltiadau diwydiannol ar raddfa fach i gynfas ehangach o lawer achosion blaengar yma yng Nghymru. Cytunaf yn llwyr â’i phwynt olaf fod yr enillion hynny’n llawer mwy tebygol o ddigwydd pan fydd gennych berthynas adeiladol a phan fyddwch yn gallu dod o amgylch y bwrdd gyda’ch gilydd. Lluniwyd y Bil hwn i ddiogelu’r safbwynt hwnnw yng Nghymru, ac i’n diogelu ni rhag y model gwrthdrawol sy’n gynhenid yn y Ddeddf sydd ar hyn o bryd ar y llyfr statud.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet.