1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 24 Ionawr 2017.
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yng Ngorllewin De Cymru? OAQ(5)0387(FM)
Ein gweledigaeth yw cael 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg yn defnyddio’r iaith erbyn 2050, ac rydym ni wedi ymgynghori ar strategaeth ddrafft er mwyn gwneud hynny.
Diolch yn fawr am yr ateb yna, Brif Weinidog. Wrth gwrs, fel gweddill y Siambr, rydw i’n siŵr, rydw i’n falch iawn i gefnogi eich amcan uchelgeisiol chi o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn hanner ffordd drwy’r ganrif. Mae’n gynnydd o ryw 400,000 o siaradwyr Cymraeg ar draws Cymru neu gynnydd ar gyfartaledd o ryw 18,000 o siaradwyr Cymraeg i bob un o’n siroedd presennol ni. Wrth gwrs, mae’r sector addysg, gyda’i WESPs, yn allweddol bwysig i hyn ac, yn sgil hynny, a ydych chi’n credu bod cynyddu capasiti ysgolion cynradd Cymraeg o ryw 20 lle dros y tair blynedd nesaf, fel sy’n cael ei grybwyll yn WESP Pen-y-bont ar Ogwr a chynghorau eraill de-orllewin Cymru—y nifer fach yna—yn ddigonol i gyrraedd eich targed? Ac, os na, beth ydych chi’n mynd i’w wneud i sicrhau bod cynghorau lleol yn deall y rôl hanfodol bwysig sydd ganddyn nhw i’ch cefnogi chi i gyrraedd eich nod chi?
Wel, mae yna ddyletswydd ar gynghorau lleol i gyhoeddi cynlluniau strategol ynglŷn â chefnogi’r iaith Gymraeg yn yr ysgolion. Mae'n rhaid iddyn nhw roi'r rheini i ni er mwyn ein bod ni yn gallu caniatáu nhw. Os oes unrhyw gynllun sydd ddim yn ddigonol, fydd caniatâd ddim felly yn dod o’r Llywodraeth.
A fyddai’r Prif Weinidog yn cydnabod pwysigrwydd parhaus eisteddfodau'r Urdd i’r iaith Gymraeg, ac a fyddai ef felly yn llongyfarch y bobl sy’n trefnu ac yn codi arian ar gyfer Eisteddfod yr Urdd sir Pen-y-bont ym mis Mai a Mehefin eleni ar diroedd coleg Pencoed? Mae’n waith i lawer o wirfoddolwyr sy’n helpu i gadw’r iaith yn fyw ymysg ein pobl ifanc ac yn rhai o’r cymunedau lle nad yw’r Gymraeg yn iaith gyntaf. Ac, wrth gwrs, byddi di’n siŵr o gael croeso mawr yn Neuadd Werdd yng Nghefn Cribwr dydd Gwener yma i fwynhau’r twmpath dawns a chodi arian hefyd.
Wel, diolch. Rwy’n gobeithio y byddaf yn cael croeso yng Nghefncribwr bob tro. Ar un adeg, wrth gwrs, roedd y pentref ei hunan yn f’etholaeth i, cyn iddo gael ei symud i’w etholaeth ef. Fel rhywun sydd wedi bod yn gweithio’n galed i godi arian dros yr Urdd—rwyf wedi trefnu gyda fy ngwraig dwy noson gwis er mwyn codi arian i’r Urdd—rwy’n gefnogol iawn yn bersonol, a hefyd, wrth gwrs, yn cefnogi pob un sy’n cefnogi’r Urdd yn yr ardal er mwyn sicrhau bod yr eisteddfod yn llwyddiannus eleni ac, wrth gwrs, i sicrhau bod yna fwy o dwf yn nifer defnyddwyr y Gymraeg yn y sir yn y pen draw.
Yn fy nghyfarfod diweddar gyda chyngor Abertawe, awgrymodd y swyddogion y bydd eu ffocws yn ystod y cylch hwn o gynlluniau strategol ar hyrwyddo’r iaith Gymraeg. Mae hynny’n gam ymlaen, wrth gwrs, ond nid yw’n ymateb i’r galw. Ces i’r argraff gan yr aelod cabinet ei bod hi’n gweld bod y galw llafar presennol am ddarpariaeth yn dod o sector penodol o gymdeithas Abertawe, ac ymatebodd i fy marn i y dylai fod un person o leiaf â sgiliau iaith Gymraeg da ymhob cynllun Dechrau’n Deg gyda pheth amheuaeth. A ydych chi’n cytuno y bydd mynediad cynnar at ein dwy iaith yn ehangu cyfleoedd i blant o’r teuluoedd tlotaf?
Wel, mae hynny’n iawn. Wrth gwrs, mae'n rhaid i ni sicrhau bod yna fwy o lefydd ar gael yn yr ysgolion meithrin, ond hefyd sicrhau bod plant sydd yn yr ysgolion meithrin yn dal i fod yn y ffrwd Gymraeg pan fyddan nhw’n mynd i mewn i’r ysgolion cynradd a hefyd i mewn i’r ysgolion cyfun, er mwyn sicrhau nad ydyn nhw’n colli’r sgiliau iaith y maen nhw wedi eu cael pan oedden nhw’n ifanc wrth iddyn nhw fynd drwy’r ysgol, a newid iaith fel cyfrwng addysg.
Brif Weinidog, dywedodd Comisiynydd y Gymraeg bod angen newid radical arnom i'n system addysg er mwyn cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg. Mae hi wedi awgrymu y dylem ni ystyried addysgu ym mhob ysgol gynradd trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae wedi bod yn orfodol i bob plentyn ysgol yng Nghymru ddysgu Cymraeg ers 1999. Ac eto, er gwaethaf hyn, mae nifer y siaradwyr Cymraeg wedi gostwng.
I am learning Welsh.
Mae arolygon yn awgrymu bod y rhan fwyf o bobl yn gwrthwynebu addysgu gorfodol. A yw'n bryd i ni dderbyn efallai nad yw dull gorfodi yn gweithio, ac yn hytrach na dweud y dylai pawb ddysgu Cymraeg, a allwn ni efallai, yn hytrach na hynny, ei gwneud yn haws i'r rhai sydd wir eisiau dysgu? Diolch.
Nid wyf yn siŵr beth roedd yr Aelod yn ceisio ei ddweud. Rhoddodd yr argraff i mi ei bod yn awgrymu y dylai pob ysgol gynradd fod yn gyfrwng Cymraeg. Rwy'n meddwl bod problemau’n gysylltiedig â hynny, a materion ymarferol yn arbennig, o ran recriwtio athrawon. Rwy’n credu’n gryf ei bod hi’n iawn y dylai ein hieithoedd cenedlaethol fod yn orfodol hyd at 16 oed. Ceir problemau ynghylch y ffordd y mae’r Gymraeg yn cael ei haddysgu mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, yn enwedig drwy'r cwrs byr. Nid wyf yn credu y gallwn ni ddweud, gyda’n llaw ar ein calonnau, ein bod ni wedi creu siaradwyr Cymraeg hyderus yn ein hysgolion cyfrwng Saesneg. Yn amlwg, nid yw hynny'n wir. Dyna pam y bydd y cwricwlwm newydd yn bwysig a pam mae symud oddi wrth y syniad mai maes astudio academaidd yn unig yw’r Gymraeg, a symud mwy tuag at iddi gael ei gweld fel sgìl galwedigaethol—. I’r rhai hynny, wrth gwrs, sydd eisiau ei hastudio’n academaidd, mae hynny'n bwysig, ond mae ei gweld fel sgìl galwedigaethol sydd ei angen drwy’r ysgol yn mynd i fod yn bwysig yn y dyfodol. Rwy'n credu y byddai honno'n ffordd dda o wella'r ffordd y caiff y Gymraeg ei haddysgu a'i dysgu yn yr ysgolion cyfrwng Saesneg.
Tynnwyd cwestiwn 2 [OAQ(5)0402(FM)] yn ôl. Cwestiwn 3, Julie Morgan.