3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru ar 25 Ionawr 2017.
1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y rhaglen wella ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? OAQ(5)0109(HWS)
Diolch am y cwestiwn. Adroddodd y bwrdd iechyd yn erbyn y cerrig milltir a nodwyd o dan y fframwaith gwella ym mis Tachwedd y llynedd, ac roedd yn tynnu sylw at gynnydd da. Rwy’n disgwyl gweld cyflawniad y canlyniadau gwella angenrheidiol yn parhau ac yn cael ei gynnal cyn y gallaf ystyried ei dynnu o’r categori mesurau arbennig.
Diolch i chi am yr ateb. Cefais e-bost gan rywun yn Hen Golwyn a oedd yn pryderu am y ffaith fod eu meddyg teulu yn awr yn ymddeol, ac mae 1,200 o’r cleifion yn mynd i gael eu dosbarthu ymhlith gwahanol feddygfeydd. Nawr, mae’n ymddangos i mi mai’r hyn sydd angen i ni ei wneud yw meddwl yn greadigol am broblem meddygon teulu sy’n ymddeol, a dod â rhai ohonynt yn ôl o ymddeoliad o bosibl, neu bobl sy’n mynd i fod yn ymddeol, gan eu hannog i barhau ar sail ran-amser. Un o’r prif rwystrau i hyn yw’r ffaith y gall yswiriant indemniad amrywio rhwng £5,000 a £40,000 y flwyddyn i feddyg teulu. Gall Llywodraeth Cymru ymchwilio i hyn a gweld a allant ddod o hyd i ffordd greadigol i gynorthwyo meddygon teulu i dalu’r costau hyn er mwyn iddynt allu cyflenwi dros feddygon teulu ar y rota?
Diolch am y cwestiwn. Mae amrywiaeth o bethau yr ydym eisoes yn siarad amdanynt gyda meddygon teulu a’r gymuned gofal sylfaenol ehangach—mae hynny’n cynnwys yr hyn sy’n digwydd pan fydd pobl yn dewis ymddeol; y modd y mae gan gleifion fynediad di-dor at wasanaeth gofal sylfaenol priodol; a’r math o ymyriadau y gall y bwrdd iechyd eu cyflawni os nad ydynt yn gallu rheoli proses bontio lefn i bractis arall a pharhau. A dweud y gwir, yr hyn a ddylai fod yn destun cysur i’r Aelodau yw na fu unrhyw doriad yn y ddarpariaeth yn yr un o’r achosion lle yr ymddeolodd rhywun a dychwelyd eu contract, daethpwyd o hyd i bractisau newydd i bob claf fynd iddynt, ac mae’r bwrdd iechyd ei hun wedi llwyddo i gynnal gwasanaeth gofal sylfaenol priodol.
Rwy’n cydnabod y mater penodol a nododd yr Aelod am yswiriant indemniad. Mae’n rhywbeth yr ydym yn cael sgyrsiau gweithredol gyda Chymdeithas Feddygol Prydain yn ei gylch, ac rwy’n obeithiol y gallwn ddod o hyd i ateb yn y dyfodol agos.
Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn ymwybodol o’r pryderon sydd wedi’u mynegi ynghylch cyflymder y cynnydd ym mwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr, yn enwedig o ran y cynnydd i ymdrin â rhai o’r heriau iechyd meddwl yn y rhanbarth. Yn dilyn sgandal Tawel Fan, yn gwbl briodol, gosododd y Llywodraeth y bwrdd iechyd o dan weithdrefn mesurau arbennig, ac un o’r rhesymau y gwnaeth hynny oedd oherwydd ei fethiant i roi sylw i bryderon ynglŷn â materion iechyd meddwl. Fodd bynnag, cafwyd oedi o chwe mis cyn i’r gwaith dilynol a addawyd yn sgil Tawel Fan ddechrau mewn gwirionedd. O ganlyniad i hynny yn awr, rydym yn llithro i mewn i gyfnod hwy. Dywedwyd wrthym y buasai’r gwaith wedi ei orffen erbyn mis Mawrth; yn awr rydym yn gwybod y bydd yn rhaid i bobl aros tan yr haf fan lleiaf. Nid oes neb wedi’i ddwyn i gyfrif am yr hyn a ddigwyddodd yn Nhawel Fan. Mae yna bobl sy’n dal i fod wedi’u gwahardd dros dro ar gyflog llawn, er mawr syndod i drethdalwyr yn y rhanbarth. Pa bryd y gallwn ddisgwyl gweld y newid mawr yn narpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl yn y gogledd, fel y gall pobl fod yn hyderus eu bod o ansawdd uchel? Ni cheir unrhyw strategaeth iechyd meddwl eto. Cyfarwyddwr gofal iechyd meddwl sylfaenol a chymunedol dros dro yn unig sydd gennym. Mae’r rhain yn bethau a ddylai fod wedi digwydd yn gyflym er mwyn i bobl allu troi cefn ar y gorffennol ac edrych ymlaen at y dyfodol.
Rwy’n meddwl bod yna ddwy ran benodol i’r sylwadau y mae’r Aelod yn eu nodi. Mewn gwirionedd, mae yna gyfarwyddwr gwasanaethau iechyd meddwl parhaol, ac mae’n arwain y ffordd ar ddiwygio gwasanaethau iechyd meddwl yn y gogledd. Felly, dros y misoedd nesaf, fe fyddwch yn gweld gwaith ar y strategaeth iechyd meddwl newydd, sydd ei hangen yn bendant, oherwydd, fel Llywodraeth, rydym yn cydnabod bod iechyd meddwl yn un o’r heriau mwyaf sylweddol y mae’r bwrdd iechyd yn eu hwynebu yn y dyfodol, ac mae’n debyg mai dyma’r un a fydd yn cymryd y cyfnod hiraf o amser i’w ddatrys yn iawn. Mewn sawl ffordd, dyna pam ein bod wedi nodi hyd yr amser y disgwyliwn i’r bwrdd iechyd fod yn destun mesurau arbennig. Rwy’n credu mewn gwirionedd fod y cyfarwyddwr newydd wedi cael effaith sylweddol, ond mae’n bwysig fod hynny’n parhau ac yn cael ei gynnal.
Mae’r ail bwynt y credaf eich bod yn ei wneud yn ymwneud â’r ymchwiliad sydd ar y gweill. Gwnaeth y bwrdd iechyd y peth iawn mewn gwirionedd yn mynd at y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ymgymryd ag ymchwiliad priodol ac annibynnol, a’r hyn sydd wedi digwydd yw bod yr ymchwiliad hwnnw wedi ymestyn ac ehangu. Wrth iddynt fynd drwodd, mae mwy o deuluoedd wedi cysylltu â hwy a mwy o gyfweliadau wedi eu cynnal. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, maent eisoes wedi gorfod adolygu 300,000 o dudalennau o ddogfennau ac mae yna ragor o bobl sy’n dal i fod angen eu cyfweld. Felly, credaf mai’r peth pwysicaf yw rhoi digon o amser i wneud hyn yn iawn, ac nid wyf am osod unrhyw derfynau amser artiffisial ar gyfer amserlenni a allai beryglu trylwyredd a digonolrwydd yr adroddiad y byddwn yn ei gael yn y pen draw. Fodd bynnag, rwy’n cydnabod y byddai o fudd i bawb pe gellid ymdrin â’r mater hwn hyd yn oed yn fwy prydlon a chyflym o safbwynt ffrâm amser. Mae yna bobl a fydd eisiau gwybod beth ddigwyddodd, o’r teuluoedd a’r unigolion eu hunain i aelodau staff sydd ynghlwm wrth hyn hefyd. Mae’n fanteisiol i bawb ohonom fod hyn yn digwydd yn gyflym; fodd bynnag, ni ddylai cyflymder yr ymchwiliad beryglu canlyniad a chadernid yr ymchwiliad yn y pen draw. Ond rwyf wedi bod yn glir iawn gyda’r bwrdd iechyd ynglŷn â beth rwy’n disgwyl iddynt ei wneud. Mae angen i ni feddwl hefyd ynglŷn â goruchwylio a llywodraethu hyn. Felly, mae’n bwysig iawn ein bod yn cael hyn yn iawn, ac rwy’n gobeithio y buasai’r Aelodau’n cefnogi ac yn cydnabod hynny.
Mae’r bwrdd iechyd, wrth gwrs, mewn mesurau arbennig nawr ers blwyddyn a hanner, ac rydw i’n cytuno â llawer o’r pwyntiau sydd wedi cael eu gwneud ynglŷn â’r problemau sydd yn bodoli. Ond a fyddech chi’n cytuno â fi bod yna rai materion llawer mwy sylfaenol sydd angen mynd i’r afael â nhw ac a fyddech chi’n cytuno bod angen i dri pheth penodol ddigwydd i’r perwyl hynny? Un yr ydym ni wedi clywed amdano fe yw bod angen mwy o ddoctoriaid a nyrsys er mwyn ateb y galw. Yr ail bwynt, wrth gwrs, yw bod angen gwneud llawer mwy i integreiddio gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Yn drydydd, hefyd, mae angen ailagor gwlâu mewn ysbytai cymunedol er mwyn hwyluso’r llif yna o gleifion o’r ysbytai cyffredinol, neu, fel arall, wrth gwrs, nid ydym ni’n mynd i’r afael â’r gwir broblemau.
Diolch i chi am y cwestiynau. Rydym yn cydnabod ac rydym yn rheolaidd yn trafod yr angen am gymysgedd newydd o staff, nid nifer y staff sydd gennym yn unig, ond pwy yw’r staff hynny a sut y cânt eu defnyddio. Felly, mae’r modelau gofal yn bwysig iawn yn ogystal â nifer y staff sydd gennym: meddygon, nyrsys, therapyddion, fferyllwyr—ceir amrywiaeth eang o bobl wahanol y bydd eu hangen arnom yn y gwasanaeth iechyd yn y dyfodol, gan weithio mewn ffordd ychydig yn wahanol. Rwy’n cytuno â chi ynglŷn ag integreiddio rhwng iechyd a gofal. Mae hwnnw’n gyfeiriad teithio clir i’r Llywodraeth hon, ac rydym yn disgwyl clywed mwy am hynny yn ystod yr adolygiad seneddol a’r argymhellion y bydd yn eu rhoi i ni a phob plaid yn y Siambr hon.
Ar eich trydydd pwynt, unwaith eto, rydym yn sôn am lif cleifion, yn yr ystyr o gadw’r cleifion nad oes angen iddynt fynd i ofal eilaidd, nad oes angen iddynt fynd i welyau ysbyty, neu i ofal sydd wedi’i gynllunio ymlaen llaw, eu cadw lle y maent, perthynas well â gofal preswyl a gofal cartref, yn ogystal â gofal sylfaenol a gwasanaethau cymdeithasol, yn ogystal â deall pa gymysgedd o welyau sydd ei angen arnom a pha ddarpariaeth sydd ei hangen arnom. Weithiau, bydd hynny mewn gwasanaethau preswyl. Mae’n ymwneud â mwy na chael mathau eraill o ysbytai cymuned. Mae angen i ni feddwl am yr holl gymysgedd sydd ei angen arnom, ac nid gosod terfyn penodol neu nifer penodol o welyau. Mae angen dealltwriaeth o’r hyn sydd ei angen ar ein system gyfan, sut y mae pobl yn cyrraedd y lle iawn ar gyfer eu gofal ac yn hollbwysig, sut rydym yn dychwelyd pobl i’w cymuned a’u cartref i barhau i dderbyn gofal, lle y mae’n dal i fod angen gofal nad oes angen iddo gael ei roi mewn gwely ysbyty.