1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 7 Chwefror 2017.
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau datblygu economaidd Llywodraeth Cymru? OAQ(5)0423(FM)
Rydym ni’n bwriadu parhau i gefnogi busnesau yn eu twf, i fuddsoddi mewn seilwaith o ansawdd uchel, a gwella amodau datblygu economaidd.
Bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol fy mod i, yr wythnos diwethaf, wedi dod â grŵp o unigolion ynghyd sydd â hanes o gyflawni yng Nghymru wledig i gyflwyno’r achos dros ddatblygu strategaeth datblygu economaidd benodol ar gyfer Cymru wledig. Er bod y model dinas-ranbarth yn fodel a allai weithio i sawl rhan o'r wlad, a yw'r Prif Weinidog yn cytuno nad yw o reidrwydd yn fodel sy'n berthnasol na'n briodol i Gymru wledig? A ydych chi’n cytuno bod angen brys i ddatblygu cynllun o'r fath, yn enwedig yn sgil y bleidlais Brexit, gan fod effaith gadael yn debygol o fod yn fwy yng Nghymru wledig nag mewn rhannau eraill o’r wlad? A wnewch chi ymrwymo i gymryd o ddifrif yr awgrymiadau a fydd yn cael eu cyflwyno gan y grŵp hwn a’u defnyddio fel sail ar gyfer datblygu strategaeth economaidd gynhwysfawr i Gymru wledig?
Gwnaf, mi wnaf. Wrth gwrs, mae Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro yn rhan o ddinas-ranbarth bae Abertawe, ac mae'n bwysig nad yw hyn yn cael ei weld fel rhaniad trefol a gwledig. Diolch i'r Aelod am y gwaith y mae hi wedi ei wneud a’r angerdd y mae’n ei ddangos tuag at Gymru wledig. Nid yw’r ddinas-ranbarth yn cyflwyno un ateb i bawb. Bydd angen defnyddio olion traed eraill yn y dyfodol i ddatblygu economïau Cymru wledig, ond mae'n iawn i ddweud bod heriau yn bodoli. Y tu hwnt i 2020, byddwn yn gweld £260 miliwn yn diflannu, ar hyn o bryd, o economi Cymru wrth i gymorthdaliadau ffermio ddiflannu. Nid oes sicrwydd yn hynny o beth felly, ie, nawr yw’r amser yn sicr i ddechrau cynllunio ar gyfer economi wledig yng Nghymru a fydd yn colli symiau sylweddol o arian oni bai fod Llywodraeth y DU yn cymryd cyfrifoldeb ac yn gwneud yn siŵr bod yr arian ar gael.
Brif Weinidog, un o elfennau allweddol cynlluniau datblygu economaidd Llywodraeth Cymru oedd y parthau menter, gan gynnwys, wrth gwrs, creu parth menter Dyfrffordd y Ddau Gleddau yn fy etholaeth i. Yn sgil y ffaith fod parthau menter yn allweddol i’ch cynlluniau datblygu, a allwch chi felly roi’r wybodaeth ddiweddaraf inni am waith parth menter Dyfrffordd y Ddau Gleddau, gan gynnwys y cynnydd a wnaed tuag at ganolfan sgiliau rhagoriaeth ar gyfer y sectorau ynni, peirianneg a morol, a hefyd y cyfleoedd datblygu a nodwyd gan eich Llywodraeth chi yn benodol ar gyfer y parth menter, fel canolbwyntio nid yn unig ar ynni ond ar dwristiaeth hefyd?
Wel, mae 65 o fusnesau wedi cael lles. Maen nhw wedi cael mwy na £2 filiwn mewn cefnogaeth ariannol ynglŷn â’r cynllun lleihau trethi busnes. Mae yna grŵp wedi cael ei sefydlu yn y parth menter ei hunan sydd â rhaglen o waith i gefnogi busnesau i ennill cytundebau newydd. Rŷm ni wedi gweld buddsoddiadau yn y parth hefyd, fel Consort Equipment Products, sydd wedi buddsoddi £1 miliwn yn Aberdaugleddau ei hunan. Ac, wrth gwrs, rŷm ni wedi gweld bod Valero ym Mhenfro nawr wedi dodi cais cynllunio i mewn i adeiladu lle newydd i greu ynni werth £100 miliwn ym Mhenfro. So, mae lot fawr o bethau wedi digwydd yn y parth menter lan i nawr.
Roedd incwm y pen Cymru yn 2014 yn 70.5 y cant o gyfartaledd y DU, yr isaf a gofnodwyd erioed ers i gofnodion ddechrau ym 1954 ar gyfer Cymru—yn wir, yr isaf erioed ar gyfer unrhyw wlad neu ranbarth yn y DU. Cynyddodd yn ôl i 71 y cant yn 2015, ond roedd hwnnw’n un o'r ffigurau isaf erioed hefyd. A yw’r Prif Weinidog yn barod i ymrwymo Llywodraeth Cymru na fyddwn yn gweld y ffigur incwm y pen hwn yn gostwng hyd yn oed ymhellach, ond, os gwnaiff, ar ôl wyth mlynedd fel Prif Weinidog, a fyddai'n barod i gymryd cyfrifoldeb personol?
Cofiwch, wrth gwrs, mai ei blaid ef oedd yn gyfrifol am ddatblygu economaidd am bedair blynedd, felly nid yw fel pe na bai gan ei blaid ef unrhyw swyddogaeth yn hyn. Gwelsom CMC yn gostwng bryd hynny, ac mae'n dangos—[Torri ar draws.] Mae'n dangos—[Torri ar draws.] Wel, rwy’n gwybod; mae’n hawdd anghofio hynny, onid yw, ond dyna ni. Mae'n dangos yr heriau sy'n bodoli o ran codi CMC. Yr allwedd i’r cwbl, i mi, yw sgiliau. Po fwyaf y sgiliau sydd gan bobl, y mwyaf y gallan nhw ei ennill, yr uchaf y mae eu CMC yn ei gyrraedd. Rydym ni wedi dangos ein bod yn gallu cyflawni. Fel y dywedais, cyflogaeth 4.1 y cant—is na Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon— y ffigurau gorau ar gyfer buddsoddiad uniongyrchol o dramor ers 30 mlynedd, a CMC yw’r her yn awr. Nid yw diweithdra yn gymaint o broblem â CMC. Mae'n mynd i'r cyfeiriad iawn, a byddwn yn parhau i arfogi ein pobl â'r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i gynyddu eu cynhyrchiant, mae cymaint â hynny’n wir, ond hefyd, wrth gwrs, i gynyddu CMC y pen hefyd.