1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru ar 8 Chwefror 2017.
4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y defnydd mwyaf effeithiol o amser athrawon o ran cynllunio, paratoi ac asesu mewn ysgolion? OAQ(5)0092(EDU)
Diolch i chi, Hefin. Rwy’n disgwyl i athrawon arfer eu barn broffesiynol wrth sicrhau bod amser cynllunio, paratoi ac asesu yn cael ei ddefnyddio’n effeithiol i gefnogi eu haddysgu. Dylid cynllunio trefniadau i alluogi athrawon i ddefnyddio eu crebwyll yn seiliedig ar eu hanghenion ac anghenion yr ysgol a’u dysgwyr.
Mae’n dda clywed bod Ysgrifennydd y Cabinet yn cefnogi’r hyblygrwydd hwnnw. Yn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yr wythnos diwethaf, dywedodd Undeb Cenedlaethol yr Athrawon fod CPA yn broblem fawr mewn ysgolion cynradd yn benodol. Neil Foden o NUT Cymru a ddywedodd fod ysgolion yn rhyddhau athrawon ar gyfer y 10 y cant gofynnol o’u hamser addysgu ac yn eu rhyddhau o’u llwyth gwaith, sydd i’w groesawu ac yn beth da. Fodd bynnag, dywedodd hefyd fod llawer o ysgolion yn cyflawni hyn drwy ddefnyddio staff heb statws athro cymwysedig, megis cynorthwywyr dosbarth neu gynorthwywyr addysgu lefel uwch. Gall hyn olygu—a dyma beth a ddywedodd—nad yw disgyblion yn cael eu haddysgu gan athro cymwysedig am yr hyn sy’n cyfateb i un mis mewn blwyddyn academaidd. Mae angen i ni ddod o hyd i ateb i hyn os yw hynny’n wir. Felly, lle y bo angen lleihau capasiti addysgu mewn rhai ysgolion o bosibl, oni fuasai’n fwy priodol defnyddio’r capasiti addysgu hwnnw i gyflenwi dros CPA, fel athro fel y bo’r angen, efallai, gyda chyfrifoldeb am gyflenwi dros CPA, neu ddod o hyd i atebion creadigol eraill i’r broblem hon?
Diolch i chi, Hefin. Os caf fod yn gwbl glir, oherwydd rwy’n credu bod y rheoliadau sy’n llywodraethu pwy sy’n cael addysgu yng Nghymru yn glir: athrawon cymwys yn unig—rhai sydd â statws athro cymwysedig—sy’n cael gwneud gwaith penodol, h.y. addysgu. Mae gennym sefyllfa wahanol iawn yma yng Nghymru i’r hyn a welech dros y ffin, ac mae’n wahaniaeth rwy’n falch iawn ohono. Gall ysgolion gyflogi athro fel y bo’r angen gyda chymwysterau addas. Fel chi, rwy’n cydnabod bod yna fanteision i barhad a sicrwydd ansawdd o gael athrawon fel y bo’r angen sy’n cael eu cyflogi naill ai mewn un ysgol, neu mewn clwstwr o ysgolion, efallai, i gyflenwi dros athrawon absennol neu i sicrhau bod yr athrawon hynny’n cael yr amser CPA sydd ei angen arnynt. Buaswn yn ystyried hynny’n arfer da. Yn y pen draw, fodd bynnag, mater i ysgolion unigol, cyrff llywodraethu a’r AALl yw strwythurau staffio.
Ysgrifennydd y Cabinet, fel cadeirydd dau gorff llywodraethu, rwy’n aml yn meddwl bod gan athrawon ffordd o weithio sy’n debyg i’n ffordd ni o weithio. Mae angen iddynt wneud llawer o waith paratoi. Mae’n rhaid iddynt wneud llawer o waith gyda’r nos ac yn ystod yr hyn y mae pobl yn cyfeirio ato’n gyson fel gwyliau. Ond weithiau, mae angen i chi gael amser wedi’i neilltuo—pan fyddwn ni yn y swyddfa, ond pan fyddant hwy yn yr ysgol—er mwyn iddynt allu cael gafael ar gydweithwyr a ffynonellau cyngor, ac er mwyn iddynt allu cynllunio. Mae’n wirioneddol bwysig fod 10 y cant o’r amser yn cael ei neilltuo ar eu cyfer.
Rwy’n cytuno’n llwyr â chi. Mae gennym ymrwymiad i ganiatàu i’r amser hwnnw gael ei roi. Bydd yr Aelodau’n gwybod fy mod wedi ymweld â’r Ffindir yn ddiweddar, cenedl sy’n cael ei hystyried yn gyson yn gadarnle addysg wych. Un o’r pethau y maent yn ceisio ei wneud yn y Ffindir i wella eu haddysg yw sicrhau bod amser CPA ar gael yn yr ysgol i’w hathrawon. Maent yn cydnabod nad yw athrawon yn cael cyfle ar hyn o bryd i eistedd gyda’i gilydd i drafod disgyblion unigol neu i gynllunio ac i edrych i weld sut y gallant ddatblygu eu hysgolion. Felly, mae CPA yn elfen bwysig. Rydym wedi edrych ar ffyrdd y gallem gynyddu CPA. Fe fyddwch yn gwybod bod adroddiad annibynnol—annibynnol ar y Llywodraeth—wedi sôn yn ddiweddar am wythnos ysgol fyrrach a fyddai wedyn yn caniatáu un diwrnod ar gyfer CPA. Ni chafodd ei groesawu â llawer o frwdfrydedd gan Aelodau ar eich meinciau chi, rhaid i mi ddweud, ond mae angen inni edrych ar ffyrdd creadigol o sicrhau bod athrawon yn cael yr amser CPA hwn.