5. 5. Datganiad: Dyfodol Gwasanaethau Bysiau Lleol

– Senedd Cymru am 3:38 pm ar 28 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:38, 28 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Yr eitem nesaf ar ein hagenda yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ar ddyfodol gwasanaethau bws lleol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates.

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd.

Ar 18 Hydref y llynedd, deuthum i'r Siambr hon a gwneud datganiad am ddyfodol y gwasanaethau bws lleol yng Nghymru. Cafodd y datganiad ei wneud yn sgil rhai methiannau busnes arwyddocaol â phroffil uchel yn y sector bysiau yng Nghymru a oedd wedi cael effaith sylweddol ar y gwasanaethau bws lleol a ddarperir yng Nghymru a Lloegr. Mewn ymateb i'r methiannau hyn, cyhoeddais gynllun pum pwynt i gefnogi'r sector bysiau yn y tymor byr. Roedd hyn yn cynnwys cymorth gan Fusnes Cymru a Chyllid Cymru, penodi cydgysylltwyr trafnidiaeth ychwanegol yn y gogledd a’r de, ynghyd â rhaglen o gyfarfodydd gyda chynrychiolwyr o'r diwydiant bysiau—yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus—i drafod rhai o'r bygythiadau a chyfleoedd sy'n wynebu'r sector bysiau yng Nghymru. Rydym yn gwneud cynnydd o ran cyflawni’r cynllun gweithredu hwn.

Rwy’n disgwyl i’r cydgysylltwyr trafnidiaeth gael eu penodi’n fuan iawn. Rwyf hefyd yn parhau i gyfarfod â chynrychiolwyr o awdurdodau lleol, eu cwmnïau bysiau, a’r Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr. Yn rhan o'r cynllun pum pwynt, rwyf hefyd wedi addo cynnal uwchgynhadledd bysiau—y gyntaf i’w chynnal yng Nghymru. Rwy’n falch o allu adrodd fod yr uwchgynhadledd wedi’i chynnal fis diwethaf yn Wrecsam. Cymeradwyaf yr agwedd agored, onest a chadarnhaol a fabwysiadwyd ar y cyd gan y cynrychiolwyr a ddaeth i’r uwchgynhadledd. Credaf ein bod wedi gwneud cynnydd gwirioneddol o ran fframio’r bygythiadau a'r cyfleoedd sy'n wynebu'r diwydiant bysiau ar draws Cymru ac i ddatblygu rhaglen o weithgareddau a fydd yn cefnogi'r diwydiant yn ystod y tymor byr i ganolig.

Drwy raglen o weithdai a fydd yn cael eu cynnal dros y 12 mis nesaf, byddwn yn gweithio gyda'r diwydiant bysiau, cydweithwyr llywodraeth leol a phartneriaid eraill i ystyried y ffordd orau i ni wella profiad teithwyr mewn arosfannau bysiau trwy ddarparu gwell cyfleusterau a gwybodaeth gyson i deithwyr, datblygu atebion ariannu sy'n cynnig mwy o sefydlogrwydd i'r diwydiant bysiau yng Nghymru, a chyflwyno system drafnidiaeth integredig sy'n darparu gwell hygyrchedd ac atebion tocynnau sy’n addas i'r unfed ganrif ar hugain.

Bydd cyflwyno rhwydwaith mwy effeithiol o wasanaethau bws lleol, ynghyd â datblygu trefniadau tocynnau di-dor, integredig ac amlfoddol yn rhan o fetros y de-ddwyrain a’r gogledd-ddwyrain, yn sylfaenol i'n nod o adeiladu cymdeithas gysylltiedig a chynaliadwy. Fel y dywedais yn yr uwchgynhadledd, mae'r buddsoddiad cyhoeddus yn ein system drafnidiaeth gyhoeddus yn sylweddol. O'i ystyried ar y cyd â’r arian cyhoeddus a ddarperir i barhau i gynnig teithiau bws yn rhad ac am ddim i bobl hŷn a phobl anabl, gwasanaethau bws ar gontract ar gyfer teithio gan ddysgwyr, teithio gan y gymuned a’r cyllid a ddarperir i gefnogi’r gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru, mae buddsoddiad y sector cyhoeddus yn ein rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus yn oddeutu £0.5 biliwn y flwyddyn. Yn syml, dydw i ddim yn argyhoeddedig ein bod yn cael y gwerth am arian y mae gan drigolion Cymru yr hawl i’w ddisgwyl. Er ein bod yn bwrw ymlaen â'r mesurau tymor byr i ganolig a nodwyd yn fy nghynllun pum pwynt, mae hefyd angen dechrau deialog genedlaethol am y fframwaith tymor hwy ar gyfer darparu gwasanaethau bws lleol ledled Cymru. Yr wythnos nesaf, byddaf yn cyhoeddi ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfres o fesurau yr awgrymir y gallant, yn y tymor hwy, ddiwygio'r ffordd y mae gwasanaethau bws yn cael eu cynllunio a'u darparu ledled Cymru. Un o'r negeseuon clir a ddaeth i'r amlwg o'r uwchgynhadledd bysiau yw bod y fframwaith presennol yn gosod gormod o gyfyngiadau ar weithredwyr bysiau i weithio gyda'i gilydd er budd teithwyr. Mae'r fframwaith presennol hefyd yn gosod gormod o gyfyngiadau ar allu Llywodraeth Cymru a’n hawdurdodau lleol i gynllunio ac ariannu gwelliannau i wasanaethau bws lleol a sicrhau eu bod yn gallu integreiddio’n llwyr â gwasanaethau cyhoeddus lleol eraill.

Mae angen i ni sicrhau bod awdurdodau lleol yn cael yr offer i gynllunio a threfnu gwasanaethau yn eu hardaloedd a bod awdurdodau lleol yn arfer y swyddogaethau hyn gyda thryloywder ac atebolrwydd i bobl sy'n byw yn eu hardaloedd. Mae angen i ni sicrhau bod nodweddion gorau y sector preifat yn cael eu cynnal er mwyn sicrhau bod y cyfrifoldeb cymdeithasol yr ydym i gyd yn ei rannu i ddarparu gwasanaethau effeithiol ac effeithlon i'r cyhoedd yn cael ei ddiogelu. Mae hyn yn golygu cael y cydbwysedd cywir rhwng ein dyletswydd i beidio â rhwystro’r buddion y gall cystadleuaeth effeithiol a theg eu darparu i wasanaethau bws lleol, a bodloni anghenion teithwyr a sicrhau gwerth am arian i bwrs y wlad.

Yn fy marn i, nid yw hynny'n golygu cystadleuaeth ffyrnig ar y stryd ac yn yr arhosfan bysiau sy'n niweidio buddiannau teithwyr, ond cystadleuaeth effeithiol sy'n gwthio safonau ansawdd at i fyny ac yn darparu elw teg i weithredwyr bysiau. Rwyf wedi nodi a chydnabod y buddsoddiad sylweddol sydd wedi ei wneud yn ein gwasanaethau bws lleol gan gwmnïau bysiau sy'n gweithredu yng Nghymru. Bu buddsoddiad sylweddol mewn llwybrau a weithredir i gymunedau yn y Cymoedd. Bydd y gwasanaethau bws newydd hyn yn annog pobl i beidio â defnyddio eu ceir drwy gynnig lefelau o wasanaeth ac ansawdd na fyddai, hyd at ychydig o flynyddoedd yn ôl, llawer o bobl yng Nghymru wedi’u disgwyl. Mae angen i bobl nad ydynt yn gyfarwydd â’r gwasanaethau bws lleol yn yr ardaloedd hynny edrych ar yr hyn sy'n cael ei gynnig erbyn hyn.

Ond nid yw’r lefel hon o ansawdd, prydlondeb a dibynadwyedd ar gael i bawb. Mae heriau sylweddol yn parhau. Felly, yn rhan o'r ddeialog genedlaethol ar y ffordd ymlaen, bydd yr ymgynghoriad yn nodi rhai cynigion awgrymedig yr wyf yn credu y gallent wneud gwelliannau sylweddol i wasanaethau bysiau yng Nghymru. Gadewch imi fod yn glir: mae’r ymgynghoriad hwn yn sail i’r drafodaeth a’r ddeialog genedlaethol barhaus yr wyf yn dymuno’i chael gyda gweithredwyr bysiau, awdurdodau lleol a theithwyr am y ffordd y gallwn ddarparu gwasanaethau bws lleol yn y tymor hwy. Gadewch imi fod yn glir hefyd ynghylch nod y gwaith hwn a'r amcanion yr wyf yn ceisio eu cyflawni. Yn gyntaf, rwy’n dymuno cynyddu nifer y bobl o bob oed sy'n defnyddio bysiau ar gyfer eu taith ddyddiol i'r gwaith, ar gyfer addysg, mynediad at wasanaethau iechyd ac ar gyfer gweithgareddau hamdden. Yn ail, rwy’n dymuno gwella faint o wasanaethau bysiau lleol o ansawdd da a hygyrch sydd ar gael i deithwyr ledled Cymru. Yn drydydd, rwy’n dymuno sefydlu rhwydwaith bysiau cenedlaethol a lleol sydd wedi’i integreiddio'n llawn â dulliau a gwasanaethau teithio eraill a ddarperir ledled Cymru. Yn bedwerydd, rwy’n dymuno gweld rhwydwaith bysiau mwy cynaliadwy ar gyfer y tymor hwy. Ac yn olaf, rwy’n dymuno cyflwyno bargen deg i deithwyr, staff, gweithredwyr bysiau a'r sector cyhoeddus—rhwydwaith bysiau sy’n ariannol hyfyw ac yn gynaliadwy, sy’n rhoi gwerth am arian ac sy’n diogelu nodweddion gorau'r sector bysiau masnachol.

Rwy’n dymuno sicrhau bod ein gwasanaethau bysiau, yn rhan o system drafnidiaeth gyhoeddus integredig, yn gwneud cyfraniad sylweddol at ddiogelu lles cenedlaethau'r dyfodol. Rydym i gyd yn cydnabod bod ein system drafnidiaeth gyhoeddus yn allweddol i fynd i'r afael â pharthau ansawdd aer gwael, cefnogi economi gynaliadwy a ffyniannus a chyfrannu at ein huchelgais o wella symudedd allyriadau isel yn rhan o'n hymdrechion i gyflawni datgarboneiddio. Rwy’n dymuno gweld effeithiau mwyaf niweidiol y newidiadau a wnaed i'n gwasanaethau bysiau lleol fwy na deg mlynedd ar hugain yn ôl yn cael eu gwrthdroi—newid a wnaeth dim ond tanseilio, bygwth ac ansefydlogi gwasanaethau bws lleol.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 3:38, 28 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Felly, ar y sail honno, rwy’n annog gweithredwyr bysiau, awdurdodau lleol, teithwyr a phobl Cymru i ymuno â’r drafodaeth genedlaethol hon ynghylch sut y gallwn sicrhau bod pobl Cymru yn gallu parhau i symud ymhell i'r dyfodol.

Photo of Russell George Russell George Conservative 3:46, 28 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad y prynhawn yma. Dylwn hefyd ddweud fy mod wedi cael llawer o adborth cadarnhaol am yr uwchgynhadledd bysiau hefyd, a gynhaliwyd fis diwethaf. Rwy’n ddiolchgar hefyd bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi estyn y gwahoddiad i Aelodau'r Cynulliad i fod yn bresennol yn y digwyddiad hwnnw hefyd.

Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi, Ysgrifennydd y Cabinet, bod sefydlogrwydd hirdymor a pharhad y cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru yn gwbl hanfodol i helpu'r diwydiant i gynllunio ymlaen llaw o ran darparu gwasanaethau a sicrhau buddsoddiad parhaus. Cyfeiriasoch at yr angen i ddatblygu atebion ariannu sy'n cynnig mwy o sefydlogrwydd i'r diwydiant bysiau. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallech amlinellu pa un a fydd rhinweddau cyflwyno cytundeb ariannu aml-flwyddyn yn cael eu hystyried i ddarparu, wrth gwrs, y sicrwydd i weithredwyr i gynllunio a buddsoddi yn eu gwasanaethau, yn hytrach nag ariannu ar sail blwyddyn i flwyddyn.

Gwnaethoch sôn hefyd yn eich datganiad, dim ond er eglurder, bod buddsoddiad y sector cyhoeddus yn ein rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus yn oddeutu £0.5 biliwn y flwyddyn. A gaf i ofyn, am mai datganiad ar fysiau yw hwn: a yw hynny i gyd ar gyfer bysiau? A gaf i wirio hynny hefyd? Hefyd, a gaf i ofyn: sut ydych chi'n bwriadu mynd i'r afael â'r mater parhaus o daliadau hwyr gan Lywodraeth Cymru i weithredwyr bysiau, sy'n achosi problemau yn benodol i weithredwyr llai ac annibynnol? Rwy'n gobeithio eich bod yn cytuno nad yw hyn yn dderbyniol a bod yn rhaid rhoi sylw iddo.

Yn eich datganiad, rydych hefyd yn cydnabod y bu, yn hanesyddol, diffyg integreiddio rhwng gwasanaethau bysiau a gwasanaethau cyhoeddus lleol eraill. Rwy'n falch eich bod wedi sôn am hynny. Rwyf wedi cael cryn dipyn o waith achos ar yr union fater hwnnw o ran y diffyg integreiddio rhwng amserlenni bysiau a threnau, sydd wedi bod yn broblem, rwy’n meddwl, sydd angen gwella rhywfaint arni. Felly, byddwn yn ddiolchgar am unrhyw wybodaeth bellach am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddarparu system drafnidiaeth fwy integredig yn hynny o beth.

Cynigiwyd yn flaenorol y gellid cyflwyno rhyddfreinio. Nawr, nid yw’r awgrym hwn yn eich datganiad, felly a allwch chi gadarnhau a yw hyn yn cael ei ystyried yn rhan o'r ymgynghoriad, ac a wnewch chi amlinellu pa sylwadau yr ydych chi wedi’u cael hyd yma gan y diwydiant mewn ymateb i'r awgrym hwn?

O ran gwella profiad teithwyr, mae'n amlwg bod y gwasanaethau bws rheolaidd sydd ar gael a pha mor aml y maen nhw’n rhedeg yn fater pwysig mewn llawer o ardaloedd yng Nghymru. Mae bod â gwasanaethau bws afreolaidd yn gweithredu yn amlwg yn annog trigolion lleol i beidio â defnyddio gwasanaethau bws yn rheolaidd. Felly, a gaf i ofyn pa gamau y byddwch chi’n eu cymryd i ddarparu gwasanaeth bws amlach a mwy dibynadwy y gall trigolion ymddiried ynddo?

Gwnaethoch hefyd ddweud yn eich datganiad mai eich nod yw cynyddu nifer y bobl sy'n defnyddio bysiau ar gyfer eu hanghenion cludiant bob dydd, ond mae canfyddiad diwylliannol o hyd nad yw bysiau yn fath o gludiant sy’n ymarferol i bawb. Nid wyf yn siŵr a ydych chi’n cytuno â hynny ai peidio, ond dyna fy safbwynt i. Ac mae hyn yn cael ei ddangos gan y ffaith nad ydych ond wedi llwyddo i ddenu 10 y cant o bobl ifanc sy'n gymwys i wneud cais am gynllun ‘fyngherdynteithio’ Llywodraeth Cymru. Felly, gofynnaf pa fesurau penodol y byddwch chi’n eu cymryd i annog mwy o bobl i newid o fathau eraill o gludiant i fysiau drwy fesurau megis tocynnau craff. A gaf i hefyd ofyn i chi ymrwymo i hysbysebu cynllun ‘fyngherdynteithio’ yn briodol i bobl ifanc yng Nghymru? Rydych chi’n cyfeirio at swyddogaeth y gweithredwyr bysiau yn y de-ddwyrain a systemau trafnidiaeth metro’r gogledd-ddwyrain; a fydd y prosiectau metro yn ceisio ymgorffori neu ddisodli'r busnesau bysiau bach sy’n weithredol ar hyn o bryd pan gânt eu rhoi ar waith?

Yn olaf, byddwn yn ddiolchgar pe gallech roi sicrwydd heddiw y bydd ffurfio unrhyw gynlluniau Llywodraeth Cymru yn y dyfodol yn digwydd o ganlyniad i ddeialog adeiladol a chadarnhaol gyda chynrychiolwyr o'r diwydiant, gweithredwyr ac awdurdodau lleol?

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 3:51, 28 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i Russell George am ei gwestiynau a’i gydnabyddiaeth hael iawn o lwyddiant yr uwchgynhadledd bysiau. Roeddwn yn falch iawn o allu gwahodd aelodau o'r Siambr hon i ddod yno, ac rwy’n cydnabod y diddordeb mawr sydd gan Aelodau'r Cynulliad mewn darparu gwasanaethau bws lleol. Yn wir, credaf fod oddeutu naw o siaradwyr yn natganiad y prynhawn yma, a ddylai fy mhrysuro i ateb cwestiynau'r Aelodau’n gyflym iawn.

O ran cyllid, dim ond i egluro, mae'r £0.5 biliwn ar gyfer y gwasanaethau rheilffordd a bws yn eu cyfanrwydd yn ogystal â thrafnidiaeth gymunedol. Hefyd, rwy’n credu y byddai, ac y gallai, cyllid aml-flwyddyn fod yn gynnig deniadol pe byddai modd i ni gael cyllid aml-flwyddyn i allu trosglwyddo buddion darpariaeth ariannu fwy cynaliadwy ymlaen wedyn.

Nid bai Llywodraeth Cymru yw’r taliadau hwyr. Mae'r grant cynnal gwasanaethau bws yn cael ei sianelu drwy awdurdodau lleol, ond mae'n sicr yn rhywbeth y byddwn yn annog awdurdodau lleol i’w hwyluso’n gyflym, yn ddi-oed ac yn effeithlon.

Mae integreiddio yn fater allweddol sydd wedi cael ei godi yn rheolaidd yn fy nhrafodaethau â'r diwydiant a theithwyr. Mae'n rhywbeth y byddwn yn gallu mynd i'r afael ag ef yn fwy llawn drwy'r pwerau sydd ar gael i ni drwy Ddeddf Cymru. Er mwyn darparu’r system gwbl integredig gyda thocynnau integredig a thocynnau amlfodd, efallai y bydd angen deddfwriaeth newydd, ond mae'r Llywodraeth hon eisoes wedi datgan ei bod yn fodlon cyflwyno deddfwriaeth yn ôl yr angen yn hyn o beth.

Cododd yr Aelod gwestiwn hefyd am ryddfreinio. Efallai y caf amlinellu rhywfaint o gynnwys y papur ymgynghori a fydd yn cael ei lansio yr wythnos nesaf: nid yw’r cynigion yn y papur yn derfynol, mae hynny'n glir, ond maent yn sail i drafodaeth, a byddant yn cynnwys ystyriaethau megis cyflwyno rhyddfreinio yn ogystal â'r gallu i awdurdodau lleol weithredu cwmnïau trefol a gosod safonau ansawdd statudol, a gofynion ar gyfer cynllunio a chydlynu gwasanaethau i gael gwasanaeth gwell, mwy integredig, o ansawdd uwch gyda chyfundrefn brisiau well y gall yr holl deithwyr ei deall yn hawdd a manteisio arni.

Rwy’n credu, fel y dywedodd yr Aelod, bod problem â’r syniad o deithio ar fysiau. O ran cynllun ‘fyngherdynteithio’, mae'r nifer sydd wedi manteisio arno yn siomedig. Roeddem wedi gobeithio y byddai mwy o bobl ifanc yn defnyddio'r cynnig arbennig hwn, ond mae'r Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr bellach wedi derbyn fy nghais i gyflwyno strategaeth farchnata newydd. Ar ôl siarad â grwpiau cynrychiadol sy'n gallu manteisio ar ‘fyngherdynteithio’, roedd yn amlwg nad oedd ymdrechion marchnata'r cynllun yn ystod y cyfnod prawf yn arbennig o effeithiol o ran cyrraedd y bobl ifanc hynny sy'n ymdrechu i fod yn berchen ar gar. Nawr, un o'r pwyntiau pwysig a ddaeth o'r gwerthusiad o'r cynllun—oedd y canfyddiad oedd nad oedd pobl ifanc yn credu y byddai gostyngiad pellach mewn prisiau yn arwain at gynnydd yn nifer y bobl ifanc sy’n prynu’r tocyn. Mae angen i mi roi prawf pellach ar yr honiad hwn, oherwydd rwy’n dal i gredu, o ganlyniad i'r cynllun teithio rhatach i bobl hŷn a phobl anabl, ein bod wedi gweld nifer gymharol dda o bobl yn defnyddio gwasanaethau bws lleol. Fodd bynnag, rydym hefyd wedi gweld gostyngiad yn y ffigwr hwnnw, yn rhannol o ganlyniad i weithgareddau twyllodrus sydd wedi cael eu darganfod ac sydd wedi arwain at erlyniadau. Ond rwy’n awyddus i weld mwy o bobl yn defnyddio gwasanaethau bws yn fwy rheolaidd. Gyda'r cynllun newydd ar gyfer tocynnau teithio rhatach i bobl ifanc, rydym yn agored i'r syniad o edrych ar fargen ehangach a gwell i bobl ifanc, a allai gynnwys cyfundrefn o brisiau is.

Y cymhellion a gododd yr Aelod i annog gweithredwyr bysiau i ddarparu tocynnau amlfodd— eto, gallai hyn ddod o ganlyniad i’r ddeddfwriaeth y gallem ei chyflwyno yn sgil Deddf Cymru. Mae'n sicr yn rhywbeth y byddem yn awyddus i’w gyflawni yn ystod tymor presennol y Cynulliad.

O ran y metro, gofynnodd yr Aelod gwestiwn pwysig iawn ynghylch sut y gallai datblygu metros yn y gogledd-ddwyrain a’r de-ddwyrain gynnwys nid yn unig y cwmnïau bysiau mawr ond rhai llai hefyd. Un o'r prif heriau sydd wedi wynebu'r diwydiant dros y blynyddoedd diwethaf fu diffyg arbenigedd mewn rhai busnesau teuluol sefydledig, ond bach. Am y rheswm hwnnw, fe wnaethom ddefnyddio Busnes Cymru i allu rhoi cyngor i'r cwmnïau hynny, gyda golwg ar eu cryfhau er mwyn datblygu gwell system o drafnidiaeth gyhoeddus integredig. Felly, ein gweledigaeth yw gweld y cwmnïau llai hynny yn chwarae rhan hollbwysig ochr yn ochr â’r cwmnïau mwy, nid yn unig yn yr ardaloedd metro, ond rhyngddynt hefyd, yn y canolbarth a’r gorllewin.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:57, 28 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Mae gennyf ddiddordeb mawr mewn cael gwybod faint o siaradwyr sydd gennyf ar gyfer datganiad y prynhawn yma, Ysgrifennydd y Cabinet, ond fe awn ni ar ôl hynny yn rhywle arall. [Chwerthin.] Dai Lloyd.

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru

Diolch yn fawr, Lywydd. Fe fyddai’n well imi wneud yn fawr o’m nghyfle, felly. A allaf i groesawu datganiad Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ar ddyfodol gwasanaethau bysiau, a hefyd croesawu ei weledigaeth ef bod yna ddyfodol i wasanaethau bysys, ar hyd y llinellau y mae o’n awgrymu? Achos, wrth gwrs, yn naturiol, gwasanaethau bysiau lleol ydy sylfaen ein system drafnidiaeth gyhoeddus ni, o gofio amddifadedd parthau eang o Gymru o unrhyw reilffordd o gwbl. Mae trwch ein poblogaeth ni yn gyfan gwbl ddibynnol ar wasanaeth bws lleol, sy’n eu galluogi nhw i fynd allan pan nad ydyn nhw’n gallu gyrru. Yr unig gysylltiad, yn aml, i gyrraedd ysbyty neu ganolfan iechyd neu i fynd i siopa ydy’r bws lleol.

Felly, mae’r gwasanaeth lleol yna yn hanfodol bwysig, achos bob dydd mae yna ryw 63,000 o bobl yn dibynnu’n gyfan gwbl ar fysiau i deithio i’r gwaith ac mae rhyw 350,000 o deithiau yn cael eu gwneud bob dydd er mwyn cyrraedd apwyntiadau ysbyty, gweld ffrindiau, siopa neu wneud unrhyw weithgaredd hamdden. Felly, rwy’n croesawu bod yr Ysgrifennydd yn dyfalbarhau gyda’i waith i wella’r ddarpariaeth o wasanaethau ar draws Cymru. Ac, wrth gwrs, hefyd, rwy’n gefnogol iawn i’r pum nod sydd ar ddiwedd y datganiad, ac edrychwn ymlaen at ganlyniadau’r ymgynghoriad.

Wrth gwrs, flynyddoedd mawr yn ôl nawr, gwasanaeth cyhoeddus oedd y bysys. Wrth gwrs, roedd yn sugno lot o arian ar y pryd ond o leiaf roedd yn wasanaeth, er nad yn berffaith, roedd pobl yn gallu dibynnu arno. Roedd yna fws yn troi lan yn yr un lle, rhywle yn agos i’r amser yr oeddech chi’n disgwyl iddo fe droi lan. Fel roeddwn i’n ei ddweud, nid oedd y gwasanaeth yna’n berffaith, er yn wasanaeth cyhoeddus, ac, wrth gwrs, yn y 1980au, fe benderfynwyd preifateiddio—neu’r gair ydy dadreoleiddio—gyda’r syniad o wella’r gwasanaeth ac i arbed arian. Wel, buaswn i’n fodlon trafod efo unrhyw un—nid ydym wedi gweld gwella yn y gwasanaeth, os ydych yn edrych ar draws y bwrdd, ac yn bendant nid ydym wedi cael arbed arian chwaith. Fel mae’r Ysgrifennydd Cabinet yn crybwyll yn ei ddatganiad, mae’r gwasanaethau hyn yn costio rhai miliynau o bunnau o arian cyhoeddus bob blwyddyn. Felly, nid ydy dadreoleiddio wedi cyflawni beth oedd y weledigaeth nôl yn yr 1980au, o bell ffordd. Beth sydd gyda ni yn nhermau bysys ydy gwasanaeth rhanedig sy’n ffaelu yn lleol yn aml, o ran cwmnïau bysys yn mynd i’r wal, fel rydym ni wedi gweld yn ddiweddar, ac nid yw pobl yn gallu dibynnu ar y bws yn troi lan ar yr amser y mae e i fod i droi lan. Mae hynny’n un o’r cwynion amlaf rydw i’n eu cael. Mae pobl yn pendroni pam nad ydy pobl yn defnyddio’r bws lleol, wel, y peth ydy, fedrwch chi ddim dibynnu arnyn nhw. Rydw i’n ceisio dal y bws pan rydw i’n gallu, ond os yw hi’n gyfan gwbl angenrheidiol bod yn rhaid i chi droi lan i apwyntiad ar ryw amser penodol, fedrwch chi ddim dibynnu ar y bws, ac mae pobl yn tueddu i wneud unrhyw drefniant arall i wneud yn siŵr eu bod nhw’n cyrraedd yn y fan a’r fan erbyn yr amser maen nhw i fod i droi lan, achos fedrwch chi ddim dibynnu ar y bws.

Ac, wrth gwrs, fel rydw i wedi crybwyll eisoes, mae gwasanaeth rhanedig y bysys sydd gyda ni ar hyn o bryd yn sugno mwy o arian cyhoeddus nag erioed o’r blaen. Nid yw’r weledigaeth yna nôl yn yr 1980au o arbed arian a gwella gwasanaethau wedi cael ei gwireddu chwaith. Felly, rydw i’n cefnogi’n gryf weledigaeth Ysgrifennydd y Cabinet yn ei fwriad y mae wedi’i olrhain yn y datganiad cynhwysfawr yma y prynhawn yma. Mae’r cwestiynau—y rhan fwyaf ohonyn nhw—roeddwn i eisiau eu gofyn wedi cael eu gofyn eisoes, ond mae’n gadael un. Jest y pwynt olaf: a ydy’r Ysgrifennydd Cabinet wedi ystyried y ffordd orau o wario’r £15 miliwn o gyllid cyfalaf ychwanegol a neilltuwyd ar gyfer y gronfa trafnidiaeth leol yn dilyn datganiad yr hydref? A oes modd defnyddio peth, os nad yr holl gronfa yna, er mwyn helpu gwasanaethau bysiau lleol? Diolch yn fawr.

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 4:02, 28 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i Dai Lloyd am ei gyfraniad ac, unwaith eto, hoffwn ddiolch iddo am ei gefnogaeth i’n hymdrechion i ddatblygu rhwydwaith bysiau gwell, mwy integredig, a mwy ymatebol ledled Cymru. Rwy'n credu mai thema gyffredin sy'n dod i'r amlwg ar draws y Siambr yw'r gred nad oedd dadreoleiddio yng nghanol y 1980au yn ddim ond trychineb i’r gwasanaethau bws lleol. Ac er nad Llywodraeth Cymru oedd achos—ac ni fu erioed yn achos—y broblem y mae’r rhwydwaith gwasanaethau bysiau wedi’i phrofi, gallwn yn sicr fod yr iachâd, a dyna yn union yw ein nod, trwy ymyraethau deddfwriaethol newydd posibl, a hefyd trwy brosiectau tymor byrrach a chanolig yr wyf eisoes wedi’u hamlinellu.

Rwy'n credu bod yr Aelod yn hollol gywir i gysylltu'r frwydr yn erbyn amddifadedd a thlodi â’r ffaith fod gwasanaethau bws dibynadwy a phrydlon ar gael. Rydym yn gwybod mai un o'r prif rwystrau i gyflogaeth yw nad oes gwasanaeth bws neu reilffordd rheolaidd ar gael, neu nad oes rhwydweithiau teithio gweithredol i allu mynd i’r gwaith. Ond hefyd, mae diffyg gwasanaeth bws rheolaidd, prydlon, a dibynadwy yn llesteirio gallu unigolyn i gael gafael ar wasanaethau yn ogystal â chyfleoedd hamdden. Felly, ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd y rhwydwaith gwasanaeth bysiau ledled Cymru. Mae'n ffaith bod mwy na 100 miliwn o deithiau yn cael eu gwneud ar fysiau ar hyn o bryd, o’i gymharu â llai na 30 miliwn o deithiau ar y rhwydwaith rheilffyrdd. Mae'n faes enfawr o ddarpariaeth gwasanaethau cyhoeddus sydd angen sylw a bydd yn cael y sylw hwnnw trwy ddeddfwriaeth a dulliau eraill, er mwyn dymchwel y rhwystrau hynny i gyflogaeth a chysylltedd, ynghyd â sbarduno gwasanaeth mwy prydlon a dibynadwy.

Rwyf yn myfyrio ar yr hyn a ddywedodd Russell George; rwy'n credu mai un o'r problemau â’r canfyddiad o’r rhwydwaith bysiau yw’r un sy'n ymwneud â phrydlondeb ac a fyddwch chi mewn gwirionedd yn gallu cyrraedd y gwaith, neu’n gallu mynd i'r feddygfa, neu’r ysbyty, neu i ddigwyddiad teuluol mewn da bryd. Mae’n rhaid mynd i'r afael â hyn, nid yn unig drwy fuddsoddi yn y bysiau eu hunain—gwneud yn siŵr nad ydynt yn torri i lawr—ond hefyd trwy ymyraethau fel lonydd bysiau pwrpasol a gwell cynllunio o fewn yr amgylchedd trefol.

Un o'r pum pwynt yn y cynllun pum pwynt a gyhoeddwyd yn yr hydref oedd ymdrech o'r newydd ar lefel awdurdod lleol, gyda'n cymorth ni, i nodi gwasanaethau bws dan fygythiad sy'n gweithredu, a chymryd camau cynnar, naill ai i wella'r sefyllfa i gefnogi'r gweithredwr bysiau neu i ddod o hyd i weithredwr arall, os credir nad oes modd atal dirywiad gwasanaeth y gweithredwr cyfredol. Daeth hynny yn sgil methiant GHA Coaches. Mae llawer o wersi wedi eu dysgu, nid yn unig yn y gogledd-ddwyrain, lle’r oedd y gwasanaeth hwnnw’n cael ei gynnig, ond ledled Cymru gyfan.

Rwy’n teimlo y gellid defnyddio’r cyllid cyfalaf sydd ar gael i'r gronfa drafnidiaeth leol mewn amrywiaeth o ffyrdd—mae'n sicr yn rhywbeth y byddem yn ystyried ei ddefnyddio i gryfhau'r rhwydwaith bysiau, ond fe ddylai hefyd, yn fy marn i, gael ei ddefnyddio i ganfod mannau diffygiol yn y seilwaith sy'n atal gwasanaeth bws rhag gweithredu mewn modd prydlon.

Yn anad dim, gan ystyried y cyfraniad gan Dai Lloyd eto, rwy’n credu ei fod yn hollbwysig bod ymdrechion y Llywodraeth hon i sicrhau bod buddiannau teithwyr a gwasanaeth dibynadwy prydlon yn flaenoriaeth bendant o’i gymharu â’r elw. Yn ystod y 30 mlynedd diwethaf ers dadreoleiddio, rwy’n credu ei bod yn deg i ddweud bod y cymhelliad elw sydd wedi sbarduno’r rhwydwaith bysiau a gweithredwyr ledled Cymru wedi siomi buddiannau’r teithiwr —mae’n rhaid edrych ar hynny a byddwn yn edrych ar hynny. Os caf i ddweud, Lywydd, y rheswm fy mod yn gwybod bod nifer dda o siaradwyr yw oherwydd fy mod wedi cael gwybod ganddynt, yn garedig, bod ganddynt ddiddordeb brwd iawn yn y maes hwn.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:06, 28 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Chewch chi ddim osgoi pethau mor hawdd â hynny. David Rowlands.

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rydym ni i gyd yn croesawu eich datganiad y prynhawn yma, ond oni fyddech chi’n cytuno bod y strategaeth gyfan o ddarparu gwasanaethau bysiau angen ymagwedd newydd ac, efallai, radical? Onid yw gweld bysiau â lle i 50 a mwy o deithwyr yn aml yn rhedeg yn wag ac yn aml iawn ar yr un pryd ddim yn ymddangos yn economaidd neu'n amgylcheddol dderbyniol. Rydym yn gweld cynnydd mewn bysiau cymunedol, sy'n darparu gwasanaeth ardderchog lle y mae ar gael, ac sy'n ymddangos fel petai’n llawer mwy cost-effeithiol gan eu bod yn aml yn defnyddio bysiau llai gydag amcanion wedi’u targedu. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn credu y byddai'n ehangu’r mathau hyn o weithrediadau? A yw hi'n amser i edrych ar y posibilrwydd o ddefnyddio bysiau llai ar lawer mwy o lwybrau yng Nghymru, hyd yn oed ar y cyd â gweithrediadau tacsi ar alwad? Byddai'r gweithrediadau tacsi hyn yn llawer mwy derbyniol ac ar gael i bobl ag anableddau, ac yn y blaen. Gallai'r cerbydau hyn fod yn defnyddio dewisiadau injan glanach mewn gwirionedd, a hyd yn oed cynnig y posibilrwydd o fysiau trydan ar deithiau mwy lleol. Byddai hyn, wrth gwrs, yn cyfyngu'r bysiau â lle i 50 a mwy a’u gweithrediadau sy’n llyncu tanwydd i wasanaethau pell yn unig. Onid ydych chi’n cytuno bod y rhain yn ddewisiadau y dylech, mewn gwirionedd, fod yn edrych arnyn nhw?

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 4:08, 28 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau. Byddwn yn cytuno bod angen rhyw fath o chwyldro yn hytrach nag esblygiad yn y ffordd y mae gwasanaethau bws yn cael eu darparu yng Nghymru, nawr bod y pwerau ar gael i ni wneud y newidiadau sylweddol sy’n angenrheidiol i sicrhau bod gweithredwyr bysiau yn bodloni disgwyliadau teithwyr. Am y rheswm hwnnw, bydd yr ymgynghoriad a fydd yn cael ei lansio yr wythnos nesaf yn cynnig cyfleoedd i’r diwydiant, i Aelodau, i’r cyhoedd ac i deithwyr gael darparu syniadau a barn ar sut y gallwn ail-lunio'r gwasanaethau bysiau y mae pobl yn eu gwerthfawrogi cymaint, mewn ffordd radical.

Rwy’n credu bod trafnidiaeth gymunedol yn elfen hanfodol o'r gymysgedd sydd gennym ledled Cymru. Yn wir, dangosir hyn gan y cynnydd sylweddol yn nifer y teithiau a wnaed gan deithwyr ar gludiant cymunedol, o’i gymharu â'r gostyngiad cyson yn nifer y teithiau a wnaed ar lwybrau bysiau masnachol. Rwy’n credu'n gryf y dylid ehangu cludiant cymunedol, ac am y rheswm hwnnw ein bod yn sicrhau bod adnoddau ar gael i fentrau cludiant cymunedol drwy'r grant cynnal gwasanaethau bysiau. Yn ogystal â hyn, mae cyngor arbenigol ar gael drwy rwydwaith Busnes Cymru.

Mae'n hanfodol bod cerbydau priodol yn cael eu defnyddio ar gyfer pob llwybr ac mae'r Aelod yn gywir fod cerbydau amhriodol, cerbydau sy'n rhy fawr, yn cael eu defnyddio ar lwybrau o bryd i’w gilydd, ac weithiau’n rheolaidd. Dyma un o'r heriau yr ydym wedi ceisio rhoi sylw iddynt drwy sefydlu trefn partneriaeth o ansawdd yn seiliedig ar gytundeb gwirfoddol rhwng awdurdodau lleol a gweithredwyr bysiau. Fodd bynnag, o ystyried y gofyniad i weithredwyr bysiau ac awdurdodau lleol fuddsoddi mewn perthynas â'r seilwaith maen nhw’n gyfrifol amdano, nid ydym wedi gweld cymaint o bartneriaethau o ansawdd yn cael eu cytuno ag y byddem yn dymuno. Am y rheswm hwnnw, bydd dau gydgysylltwr yn yr ardaloedd metro yn y gogledd-ddwyrain a'r de-ddwyrain yn cael y dasg yn bennaf, yn y lle cyntaf, o sefydlu partneriaethau ansawdd i sicrhau bod y seilwaith sydd ar gael i deithwyr, o ran gwybodaeth briodol, weithredol, o ran arosfannau bysiau o ansawdd gweddus, glân, a diogel, yn cael ei gyflwyno’n fwy rheolaidd, ac fel bod gweithredwyr bysiau eu hunain yn darparu cerbydau o faint mwy priodol.

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 4:11, 28 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Croesawaf ddatganiad Ysgrifennydd y Cabinet a chefais innau hefyd adborth da iawn gan bobl a ddaeth i'r uwchgynhadledd fysiau. Rwy’n croesawu yn fawr ei gefnogaeth i fysiau gan fy mod yn credu bod bysiau yn gwbl allweddol. Yn sicr yn fy etholaeth i yng ngogledd Caerdydd ceir canfyddiad cadarnhaol iawn o fysiau. Rwy'n credu fy mod i mewn gwirionedd yn eu gweld yn gwbl hanfodol i redeg trafnidiaeth yng Nghymru. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno ei bod yn bwysig iawn pan fo datblygiadau newydd, megis y datblygiadau tai mawr a fydd yn digwydd yng Nghaerdydd, bod gwasanaethau bws yn cael eu cynnwys yn y datblygiadau newydd hynny o'r cychwyn cyntaf, fel bod y gwasanaethau bysiau yn rhan annatod o'r gymuned?

Roeddwn i’n falch o glywed Ysgrifennydd y Cabinet yn sôn yn gynharach am y pwerau newydd a fydd yn dod i ni o dan Fil Cymru a'r cyfleoedd ychwanegol a fydd ar gael i ni yn hynny o beth. A yw'n credu y bydd wedyn o ddifrif yn bosibl i gwmnïau bysiau weithio ar y cyd â’r cyngor lleol i sicrhau nad ydym yn dyblygu llwybrau ac y gallwn ni fynd i'r afael â rhai o'r problemau a achoswyd gan ddadreoleiddio? Roeddwn i’n falch iawn o’i glywed yn dweud ei fod yn bwriadu cael proses o nodi llwybrau sydd mewn perygl yn gynnar, oherwydd bod rhai o’r llwybrau hynny sydd mewn perygl yn amlwg yn gwbl hanfodol i rai pobl yn ein cymuned.

Rwyf hefyd yn awyddus i ofyn iddo pa gynlluniau sydd ganddo i hyrwyddo gwasanaethau bysiau mwy gwyrdd a chyfeillgar i'r amgylchedd—rwy’n meddwl am wasanaethau bysiau bio-methan a llwybrau bysiau cwbl drydanol di-garbon—ac a yw wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i hynny ac a yw wedi cael cyfle i ddarllen yr adroddiad, ‘Any Journey is Greener by Bus’ gan y Bartneriaeth Cerbydau Carbon Isel, a rhai o'r awgrymiadau yn hwnnw i ddenu pobl yn ôl i fysiau pan fo eu niferoedd wedi gostwng—yn arbennig, mae rhai o'r pwyntiau y mae eisoes wedi eu gwneud yn ei ddatganiad heddiw ynglŷn â gwybodaeth amser real, tocynnau integredig, cerbydau glanach a Wi-Fi am ddim yn rhai o'r posibiliadau. Ond, wrth gwrs, yr hyn sy'n bwysig yn anad dim yw’r cyfleustra i deithwyr. Felly, roeddwn i’n meddwl tybed a oedd wedi cael cyfle i edrych ar y materion eraill hynny o ran datblygu’r gwasanaeth bysiau.

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 4:14, 28 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i Julie Morgan am ei chyfraniad? Mae Julie Morgan yn hyrwyddwr gwych dros ddefnyddio bysiau, nid dim ond yng ngogledd Caerdydd, ond ledled Cymru, a gwn fod cynaliadwyedd gwasanaethau bysiau lleol allweddol yn agos iawn at ei chalon. Mae cynllunio gwasanaethau bysiau a rhwydwaith bysiau ym mhob rhan o ardaloedd awdurdodau lleol yn hollbwysig wrth benderfynu ble i adeiladu eiddo masnachol, fel y gall pobl fynd i’r gwaith ar fws, ond ar gyfer anheddau domestig hefyd. Oherwydd hynny, rydym ni wedi gosod disgwyliad ar awdurdodau lleol i gynllunio llwybrau bysiau yn well sydd mewn gwirionedd yn bodloni anghenion teithwyr i gyrraedd y gwaith. Mae eu pwerau, eu hadnoddau, wedi eu cyfyngu ar hyn o bryd, o gofio’r cyni parhaus ac o gofio, hyd yn ddiweddar, y diffyg pwerau, a fydd yn dod ar gael maes o law. Ond mae hefyd yn hanfodol, wrth i ni ddatblygu'r metro yn y de-ddwyrain, ein bod yn cynnwys cynlluniau parcio a theithio a beicio a theithio priodol, ac ardaloedd parcio ac ardaloedd beicio, yn y cynlluniau ar gyfer trafnidiaeth integredig, fel y gall pobl newid o un dull o deithio i ddull arall gyda chyn lleied o drafferth a chost â phosibl. Ein bwriad ni yw sicrhau bod cwmnïau bysiau, mewn gwirionedd, yn gweithio gyda’i gilydd yn fwy cydweithredol—os oes angen, trwy ddeddfwriaeth—nid yn unig o safbwynt nodi llwybrau a sicrhau bod amserlenni yn cydweddu, ond hefyd i sicrhau bod trefniadau tocynnau aml-daith, aml-fodd ar waith. Un o'r honiadau a wnaed gan weithredwyr bysiau yn gyson yw’r anhawster o ran cyflwyno system aml-docynnau oherwydd yr her o ddyrannu’r lefel gywir o bris tocynnau i bob gweithredwr. Nid ydym o’r farn bod hyn yn her anorchfygol, ac mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni’n credu y dylai fod yn ddisgwyliad pan fydd y Llywodraeth wedi datblygu’r gofynion deddfwriaethol newydd a’r ymyraethau angenrheidiol i sicrhau bod y trefniadau tocynnau yn fwy addas i ddisgwyliadau teithwyr.

Mae'r gronfa bysiau gwell yn rhywbeth yr wyf yn dal yn fodlon ei hystyried. Ehangwyd y gronfa bysiau gwyrdd a'r cynllun dilynol sy'n cael ei weithredu gan Lywodraeth y DU—y gronfa allyriadau isel—i Gymru yn dilyn cais gennym ni a thrafodaethau llwyddiannus, ond, yn siomedig, ni fu unrhyw geisiadau o Gymru yn llwyddiannus hyd yn hyn. Rwy'n awyddus i weld ceisiadau llwyddiannus gan weithredwyr o Gymru, oherwydd gwyddom gan weithredwyr fel Stagecoach yn y de-ddwyrain a Bws Caerdydd, trwy fuddsoddi mewn bysiau modern, nid yn unig yr ydych chi’n lleihau allyriadau, ond gallwch hefyd wella prydlondeb ac ansawdd i deithwyr. Ac felly rwy'n agored i'r syniad o gronfa bysiau gwell gydategol, ond un sy'n rhoi ystyriaeth lawn i gyngor y grŵp cynghori ar bolisi bysiau, sydd wedi dweud na ddylid ei gyfyngu i gerbydau allyriadau isel yn unig, ond y gallai hefyd fod ar gael i weithredwyr sy’n dymuno gwella agweddau eraill ar brofiad teithwyr megis, fel yr amlygodd yr Aelod yn gywir, gwasanaeth Wi-Fi. Fy nghred i yw y dylai Wi-Fi yn awr fod ar gael fel mater o drefn ar bob bws. Ni ddylai fod yn eithriad, ni ddylai fod yn rhywbeth moethus, dylai fod yn ddisgwyliad sydd ar gael i bob teithiwr pryd bynnag y bydd yn mynd ar fws.

Photo of David Melding David Melding Conservative 4:18, 28 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

A gaf i adleisio rhai o sylwadau Julie Morgan? Roeddwn i’n falch, tua diwedd y datganiad, eich bod wedi troi at rai o'r materion cynaliadwyedd a chyfeirio at lesiant cenedlaethau'r dyfodol, yr angen i fynd i'r afael ag ansawdd aer gwael, ac i weld trafnidiaeth gyhoeddus yn rhan o'r ymdrechion i gyflawni datgarboneiddio. Rwyf yn gobeithio y byddwn yn gweld hyn yn llawn yn y cynlluniau a fydd wedi eu hystyried yn llwyr yr ydych chi am eu cyflwyno, oherwydd byddwn i’n dweud, os mai dim ond ar sail y datganiad hwn y gallwn farnu, ymddengys mai cyfeiriadau sydd gennym yn hytrach nag ymrwymiadau i sut y bydd Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn gweddnewid yn wirioneddol rai o'n mannau trefol a gwledig a’u gwneud yn fwy dymunol i’w defnyddio mewn ffordd nad yw'n golygu ein bod yn cael ein tagu a’n bygwth gan drafnidiaeth fodurol a gorddibyniaeth ar hynny. Rwyf i’n gweld bysiau cludiant cyhoeddus uchelgeisiol ac effeithiol iawn yn aml yn arwain y ffordd, ond yn amlwg mae rheilffyrdd a rheilffyrdd ysgafn hefyd yn hanfodol i'r adfywio economaidd a chymdeithasol yr ydym ni’n dymuno ei weld yn y blynyddoedd i ddod.

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 4:19, 28 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i David Melding am ei gyfraniad. Ac rwyf innau hefyd yn cydnabod pwysigrwydd gwasanaethau bysiau i gynaliadwyedd system drafnidiaeth gyhoeddus integredig, a hefyd i wella'r amgylchedd yr ydym yn byw ynddo. O ran cenedlaethau'r dyfodol, Bil Cenedlaethau'r Dyfodol —wel, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol—bydd yr ymrwymiadau yn dod i'r amlwg drwy'r ymgynghoriad. Ond rwy'n credu, yn anad dim, bod angen i ni osod dyhead i gynyddu'n sylweddol nifer y bobl sy'n defnyddio bysiau yn rheolaidd. Trwy gynyddu nifer y bobl sy'n defnyddio bysiau, byddwn yn lleihau’r defnydd a wneir o gerbydau preifat ac o ganlyniad i hynny, yn gostwng faint y mae cerbydau preifat yn ei allyrru i'r atmosffer. Rydym ni’n parhau yn ymrwymedig i gyflawni dyheadau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a chredaf yn gryf y gall trafnidiaeth gyhoeddus chwarae rhan bwysig a sylweddol wrth ostwng allyriadau ledled Cymru.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 4:20, 28 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

A gaf i ychwanegu fy llais innau at y rhai sydd wedi llongyfarch Ysgrifennydd y Cabinet ar yr uwchgynhadledd fysiau, a oedd, os caf i ddweud, yn dangos llawer iawn o ragwelediad? Ac mae ef wedi mynd y tu hwnt i ragwelediad heddiw i ragfynegi wrth ateb Russell George. Ond, yn ddiweddar, cynhaliais fforwm yng Nghastell-nedd, cyn y Nadolig, i drafod yr economi leol, ac un o'r blaenoriaethau a drafodwyd gan y cyfranogwyr oedd yr angen am system drafnidiaeth gyhoeddus sydd wedi’i hintegreiddio yn well, felly rwy’n croesawu nifer o'r sylwadau y mae wedi’u gwneud yn y datganiad hwn heddiw.

Gofynnodd Julie Morgan nifer o'r cwestiynau yr oeddwn i’n bwriadu eu gofyn, ond mae dau gwestiwn ychwanegol yr wyf am eu gofyn i Ysgrifennydd Cabinet. Yn gyntaf mae’r cwestiwn ynghylch technoleg blaenoriaeth bysiau, o ran goleuadau traffig ac yn y blaen. Pa asesiad y mae ef wedi’i wneud o’r capasiti sydd ar gael i ehangu hynny, sydd, yn fy marn i, yn eithaf canolog i brofiad y teithiwr? Yr ail bwynt yw hwn: o ran integreiddio ac ati, a yw'n rhagweld, efallai yn y tymor hwy, mwy o swyddogaeth i gorff fel Trafnidiaeth Cymru, a allai, yn ogystal ag edrych ar y masnachfreintiau rheilffyrdd, hefyd ystyried efallai rai o'r materion strategol sy'n wynebu'r gwasanaeth bysiau ac, yn arbennig, yng nghyd-destun ceisio cael system drafnidiaeth integredig gan mai dyna’i amcan?

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 4:21, 28 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i Jeremy Miles am ei gyfraniad ac am ei gwestiwn. Mae'n wir y gallai Trafnidiaeth Cymru reoli system drafnidiaeth gwbl integredig. Mae'n ddigon posibl ei fod wedi bod yn darllen fy meddwl, oherwydd dyna'n union yr hyn yr wyf i wedi bod yn ei ystyried yn ystod y misoedd diwethaf. Diolch hefyd i Jeremy Miles am gynnal yr hyn a oedd yn fy marn i yn fforwm llwyddiannus iawn yng Nghastell-nedd. Mae'n ddrwg gennyf nad oeddwn i’n gallu bod yn bresennol bryd hynny, ond mae’r adborth a gefais o’r fforwm yn cyd-fynd â'r ymatebion i'r holiadur o’r uwchgynhadledd fysiau, sef bod angen i ni weithio’n agosach nag yr ydym wedi bod yn ei wneud. Y ffaith yw mai honno oedd yr uwchgynhadledd fysiau gyntaf i gael ei chynnal, ond mae angen i weithio'n agosach nag yr ydym wedi ei wneud er mwyn deall beth yw’r heriau cyfunol, beth yw’r heriau i'r ddwy ochr, y gallwn eu goresgyn gyda'n gilydd. Mi fydd, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth, rhai meysydd trafod anodd i rai partïon wrth i ni symud i’r wythnos nesaf gyda rhai o'r cynigion yr ydym yn dymuno eu cyflwyno o ran, fel yr wyf wedi’i ddweud, diwygio’n radical y ffordd y mae gwasanaethau bysiau yn gweithredu. Ond, yn y pen draw, mae angen i ni roi teithwyr yn gyntaf. Byddwn yn gwneud hynny drwy weithio gyda’r sefydliadau hynny sy'n cynrychioli teithwyr a hefyd gyda'r diwydiant a llywodraeth leol. Ond buddiant y teithiwr fydd y flaenoriaeth ar bob cam o'n trafodaethau.

O ran goleuadau traffig, mae hwn yn ddarn diddorol iawn o waith y gellid, yn fy marn i, ei ddatblygu ar ffurf cynllun arbrofol, yn enwedig, mewn un o'r dinas-ranbarthau, yn enwedig wrth i ni edrych i gofleidio dinasoedd clyfar fel ffordd newydd o fyw yn fwy effeithiol ac effeithlon ac o fewn ein modd, o ran adnoddau naturiol a chyllid. Rwyf yn credu y gallai'r defnydd o oleuadau traffig clyfar a lonydd bysiau penodedig fod o werth anhygoel.

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 4:24, 28 Chwefror 2017

A gaf i ddiolch i’r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw? Rydw i’n meddwl mai dyma’r datganiad mwyaf cynhwysfawr erioed i mi ei glywed ar wasanaethau bysys mewn unrhyw senedd yn y Deyrnas Unedig: a gawn ni gychwyn yn fanna? Rydw i mor falch ein bod ni’n rhoid y bws yn ganolog i’n trafnidiaeth gyhoeddus, lle y dylai fod. A gaf i hefyd ddiolch iddo am y gwahoddiad i fod yn bresennol, i gymryd rhan, yn yr uwchgynhadledd yn Wrecsam? Rydw i’n gobeithio y bydd ei ddull o o arwain fel Gweinidog yn y maes yma yn parhau i ennyn brwdfrydedd mas fanna yn y gymuned.

Nawr rydw i’n cael y fraint, wrth gwrs, o ddefnyddio bysiau bron yn ddyddiol yn ddinesig ac mewn ardaloedd gwledig. Dau gwestiwn sydyn iddo fo: a ydy’r Gweinidog yn gweld bod yna le o’r newydd i gynlluniau megis goriad gwyrdd Eryri, a arloeswyd, ond nid yn gyfan gwbl lwyddiannus, yn y gorffennol ym mharc Eryri a’r ardaloedd cylchynol, er mwyn lleihau pwysau ymwelwyr yn defnyddio ceir mewn ardaloedd dynodedig parciau cenedlaethol ac ardaloedd o harddwch eithriadol, ac yn y blaen? Hefyd a ydy o’n gweld bod yna le o hyn ymlaen i ni sicrhau na fyddwn ni byth bellach yn adeiladu gorsafoedd bysiau a gorsafoedd trenau ar wahân, yn enwedig mewn rhai dinasoedd—ni wnaf enwi Abertawe’n arbennig, ond mae yna sawl dinas a thref yng Nghymru lle mae cyfleoedd yn y gorffennol i integreiddio, wedi cael eu colli? Pe byddai’r Gweinidog yn arwain ar hynny, rwy’n credu, byddwn i’n ddiolchgar iawn. Y tro nesaf y byddaf ar y bws, fe fyddaf yn sicr o ganmol y Gweinidog wrth fy nghyd-deithwyr.

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 4:26, 28 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i Dafydd Elis-Thomas am ei gyfraniad cynnes iawn. Hoffwn i ddweud wrth yr Aelod, ac wrth yr holl Aelodau yn y Siambr hon, wrth i ni symud ymlaen â'n cynigion a gyda'n gwaith, y byddaf i’n sicrhau fy mod i a’m swyddogion ar gael ar gyfer sesiynau briffio i unrhyw Aelodau sy’n dymuno cael gwybod mwy am sut yr ydym ni’n newid y rhwydwaith bysiau ledled Cymru a gwasanaethau bysiau ledled y wlad. Pan nad wyf i’n rhedeg yn Eryri, gallaf sicrhau'r Aelod fy mod i’n defnyddio’r bws yn hytrach na fy nghar i fynd i'r pwynt uchaf ac wedyn yn cerdded, a byddwn i, o ddifrif, yn annog pob ymwelydd ag Eryri ac â phob parc ac ardal o harddwch naturiol eithriadol i barchu’r amgylchedd naturiol ac i barchu'r ffaith fod y rhain yn lleoedd hynod o brysur i ymwelwyr a thwristiaid, ac y dylem i gyd felly chwarae ein rhan mewn modd cyfrifol wrth ddefnyddio tirweddau gwarchodedig mewn modd cyfrifol a pharchus, ac mae hynny’n golygu mynd ar fws.

Roedd y gwasanaethau a nodwyd gan yr Aelod, yn fy marn i, yn arloesol, maen nhw wedi bod yn ffyrdd arloesol o fynd i'r afael â thagfeydd yn y parc cenedlaethol. Hoffwn i weld unrhyw fodel arloesol y gall y diwydiant ei ddyfeisio, neu y gall cymunedau ei ddyfeisio, yn cael eu cyflwyno fel ateb posibl i'r tagfeydd ar ein ffyrdd ac yn ein hardaloedd parciau.

O ran yr angen i integreiddio gorsafoedd trên a bws yn llawn, mae'r Aelod yn llygad ei le ein bod yn dal i orfod ymdrin â'r methiant yn y diffyg rhagweld ledled y wlad mewn llawer o rannau o Gymru o ran gorfod ailadeiladu canolfannau, canolfannau integredig. Er enghraifft, nepell o ble rwy’n byw, heb fod ymhell o’m hetholaeth fy hun yn Wrecsam, oherwydd bod gorsafoedd trenau a bysiau mor bell oddi wrth ei gilydd, rydym yn awr yn gorfod edrych ar fuddsoddi mewn canolfan newydd gyfunol. Mae'r diffyg rhagweld yn anffodus, anffodus iawn, ond rydym yn dal i fod wedi ymrwymo i sicrhau, yn y dyfodol, bod gennym ganolfannau cwbl integredig, yn enwedig yn yr ardaloedd hynny fel y metros, ond hefyd mewn ardaloedd gwledig lle yr ydym yn gweld llawer o bobl yn defnyddio cludiant cyhoeddus i gael mynediad at waith a gwasanaethau, yn ogystal â llawer o ymwelwyr sy'n defnyddio rheilffyrdd i fynd i gefn gwlad hyfryd Cymru.

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 4:28, 28 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Mae methiant rhai gwasanaethau bysiau yn y gogledd-ddwyrain wedi ei gofnodi’n helaeth a chyfeiriwyd ato yma heddiw, ac yn sgil hynny, ac, yn amlwg, y sgyrsiau niferus yr wyf i wedi eu cael ag etholwyr ynghylch bysiau, rwyf yn croesawu'r uwchgynhadledd fysiau a gynhaliwyd yn Wrecsam a'r camau cadarnhaol, wrth symud ymlaen, sydd wedi dechrau cael eu hamlinellu yma heddiw.

I lawer o fy etholwyr a chymunedau, mae gwasanaethau bysiau yn elfen hollbwysig o drafnidiaeth, ac i raddau helaeth yr unig ddewis arall posibl ac ymarferol i deithio mewn car, yn arbennig pan mai dim ond un orsaf drenau sydd yn yr etholaeth mewn gwirionedd. Felly, nid yn unig y mae angen i’r gwasanaethau bysiau yn ein hardal gysylltu’n well â'i gilydd, ond mae angen i’r amserlenni hefyd gael eu hintegreiddio'n llawn â'r trenau a'r orsaf drenau. Bydd hyn yn allweddol i allu datblygu unrhyw system drafnidiaeth ar ffurf metro yn y rhanbarth, a bysiau fydd y rhan fwyaf o hynny.

Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi felly gynnig ymrwymiad pellach ac eglurhad ar sut y gallwn sicrhau yn ymarferol wasanaethau integredig sydd wedi’u cysylltu’n well yn y gogledd-ddwyrain, gwasanaethau sy'n gynaliadwy, yn cynnig gwerth am arian, ac yn dileu’r drafferth o orfod cael tocynnau lluosog, i wneud hyn yn realiti mewn gwirionedd i fy etholwyr a’m cymunedau?

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 4:29, 28 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i Hannah Blythyn am ei chyfraniad ac am ei chwestiynau a dweud, o ganlyniad i fethiant nifer o weithredwyr bysiau yn y gogledd, ein bod wedi dyfeisio cynllun pum pwynt ac, ers hynny, ein bod wedi gallu, yn fy marn i, nodi yn well lle’r oedd llwybrau mewn perygl a chymryd camau ynghynt. O ganlyniad i hynny, rydym ni wedi gallu cynnal rhwydwaith bysiau yn y rhanbarth hwnnw a ledled Cymru heb fethiannau mawr eraill. Fodd bynnag, mae’n rhaid i'r gwaith barhau—gwaith cynghorwyr Busnes Cymru i sicrhau yn arbennig bod y cwmnïau llai, teuluol, sydd mor hollbwysig mewn ardaloedd gwledig, yn gallu gweithredu mewn ffordd gadarn ac effeithiol ar gyfer teithwyr a defnyddwyr.

Bydd bysiau yn rhan annatod o'r metros yn y gogledd-ddwyrain a'r de-ddwyrain, oherwydd, mewn llawer o ardaloedd, hyd yn oed mewn ardaloedd trefol, ond yn arbennig mewn ardaloedd gwledig, nid rhywbeth moethus yw bysiau, ond angen. Maen nhw, mewn llawer o achosion, yn hollbwysig i gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus hanfodol a phwysig. Felly, yn ein barn ni, nid yn unig y bydd rhwydwaith bysiau sydd wedi’i integreiddio’n llawn â'r rhwydwaith rheilffyrdd ac â theithio egnïol, yn bwysig yn yr ardaloedd metro, ond bydd hefyd yn bwysig mewn ardaloedd gwledig. Rwyf yn credu bod gennym ni gyfle unigryw, fel y nodwyd gan yr Aelod, drwy'r cynigion y gallwn eu cyflwyno, drwy’r fasnachfraint newydd ar gyfer llwybrau Cymru a'r gororau, i allu darparu system drafnidiaeth gyhoeddus gwbl integredig lle bydd teithwyr yn gallu prynu tocynnau lluosog, yn ogystal â thocynnau amlfoddol, lle mae amserlenni ar gyfer y rheilffyrdd ac ar gyfer gwasanaethau bysiau wedi eu hintegreiddio'n llawn a lle mae gennym y canolfannau hollbwysig hynny, fel yr amlinellodd Dafydd Elis-Thomas, mewn cynifer o'n cymunedau ag y bo modd.