2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru ar 1 Mawrth 2017.
5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau a gymerodd Llywodraeth Cymru i gynyddu cynhyrchiant economaidd yn ninas-ranbarth Bae Abertawe? OAQ(5)0129(EI)
Rydym yn gweithio gyda phartneriaid lleol i hybu twf busnes, gwella seilwaith, a chreu amgylchedd economaidd mwy deniadol ar draws y rhanbarth.
Diolch yn fawr iawn am eich ateb, ac yn amlwg, yn lleol, rydym yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth i fargen dinas-ranbarth Bae Abertawe. Er bod denu cyflogwyr mawr i ranbarth yn bwysig ar gyfer swyddi a’r economi, mae 99 y cant o’n busnesau yn fentrau bach a chanolig eu maint, a 75 y cant yn ficrofusnesau mewn gwirionedd, fel y gwyddoch eisoes, sy’n golygu bod busnesau bach yn chwarae rhan bwysig iawn yn lleol, yn enwedig yn y gadwyn gyflenwi. Nododd her Llywodraeth y DU i’r bwrdd presennol yr angen am ragor o ymwneud ar ran y sector preifat yng nghais y fargen ddinesig, a tybed a ydych chi ac Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol yn barod i weithio gyda phartneriaid i sicrhau bod cydbwysedd priodol o gynrychiolwyr busnesau bach ar fwrdd nesaf y prosiect, er mwyn sicrhau bod y 95 y cant hynny o’n busnesau yn cael eu cynrychioli’n ddigonol hefyd. Diolch.
Byddwn yn cytuno gyda’r Aelod; rydym yn awr yn dechrau ar gyfnod hollbwysig i fargen ddinesig Abertawe, ac yn ystod y misoedd diwethaf, rwy’n gwybod bod cryn dipyn o waith wedi’i wneud ar baratoi ar gyfer y broses herio, a bod ymdrech ar y cyd i ddenu barn y sector preifat. Ond rwy’n credu bod yn rhaid i’r sector preifat fod yn rhan lawn o ystyriaethau’r fargen ddinesig, a bod rhaid i bob un o’r prosiectau blaenoriaeth fod o fudd nid yn unig i gyflogwyr mawr, ond hefyd i’r microfusnesau bach y mae’r Aelod yn sôn amdanynt, ac sy’n ffurfio rhywbeth yn debyg i 98 i 99 y cant o’r holl gyflogwyr yng Nghymru, yn enwedig yn rhanbarth fy nghyd-Aelod.
Rwyf hefyd yn awyddus i sicrhau, ar wahân i’r dull dinas-ranbarth o weithredu, ac ochr yn ochr ag ef mewn gwirionedd, ein bod yn mynd i barhau i gynorthwyo busnesau bach a chanolig eu maint a microfusnesau drwy raglen Busnes Cymru. Ac wrth gwrs, lansiwyd cam diweddaraf y rhaglen Busnes Cymru ym mis Ionawr, ac mae’n rhoi’r dasg i Busnes Cymru o gynorthwyo degau o filoedd o gwmnïau bach a micro, gan gynnwys y rhai yn ardal y ddinas-ranbarth.
Mewn digwyddiad economi yn fy etholaeth a gynhaliais cyn y Nadolig, pan gafwyd anerchiad gan y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, un o’r materion a nodwyd i wella cynhyrchiant oedd mater caffael sgiliau, ac yn bwysig, dilyniant sgiliau drwy’r daith gyflogaeth. Felly, byddant wedi bod yn falch o glywed y pwyslais ar hynny yn y cynllun prentisiaeth newydd. Ond yn fwy eang na hynny, a yw’n cytuno bod angen i ni ddod o hyd i ffyrdd o droi technoleg, sy’n aml yn gallu bod yn fygythiad i rai o’r swyddi yn ein rhanbarth, yn ased, ac y dylem anelu at weld adnoddau sgiliau ar gael yn eang ar-lein, adnoddau rhad ar gyfer ymdrwytho a rhyngweithio, sy’n caniatáu i weithwyr gael hyfforddiant modiwlaidd wedi’i deilwra i ddatblygu eu sgiliau mewn ffordd sy’n cyd-fynd â’u hanghenion a’u gofynion eu hunain? A pha gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i annog datblygiad o’r fath?
Hoffwn ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn ac rwy’n ei gymeradwyo am drefnu’r seminar a gynhaliwyd yn ei etholaeth. Mae cyfleoedd hyfforddiant sgiliau mewn gwaith a ddarperir drwy gynlluniau megis Sgiliau Hanfodol yn y Gweithle a Chronfa Ddysgu Undebau Cymru wedi bod yn gwbl allweddol i weithwyr ar draws Cymru allu meithrin sgiliau gwerthfawr sy’n eu galluogi i godi ar ysgol gyrfa. Ond bydd defnyddio technolegau digidol newydd sy’n dod i’r amlwg yn dod yn fwyfwy pwysig. Y ffaith amdani yw bod llawer iawn o bobl ifanc yn defnyddio eu dyfeisiau digidol i ddysgu, yn gymaint ag y maent yn defnyddio eu hysgolion. Bydd llawer yn defnyddio YouTube a dulliau eraill o chwilio cyfryngau cymdeithasol er mwyn dysgu, a dylai fod yr un mor berthnasol i oedolion sy’n awyddus i feithrin ac ailhyfforddi sgiliau.
Mae’r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth wedi datblygu porth sgiliau ar gyfer cyflogwyr, wedi’i yrru’n ddigidol, sy’n cynnig un pwynt mynediad at bob math o gyngor ac arweiniad ar gyfer cyflogwyr. Ac yn yr un modd, mae’r Gweinidog wedi dyfeisio system porth sgiliau debyg ar gyfer pob unigolyn sy’n awyddus i feithrin sgiliau newydd, neu i ailhyfforddi, neu i hybu eu cyfleoedd dysgu presennol.
Rwyf innau ac Aelodau eraill, mae’n siŵr, yn croesawu datganiad y bore yma gan y Llywodraeth fod cefnogaeth i’r Egin fel rhan o gynnig dinas-ranbarth Abertawe, ac rwyf yn edrych ymlaen yn awr at bawb yn cydweithio i sicrhau bod Yr Egin yn llwyddiant a bod S4C yn symud yn llwyddiannus i dref Caerfyrddin. Yn anffodus, nid oedd datganiad y bore yma yn sôn am faint o arian y mae’r Llywodraeth yn ei ddodi yn y cynllun, ond mae adroddiadau yn y wasg yn sôn am £6 miliwn—£3 miliwn gan y Llywodraeth a £3 miliwn i ddod gan gynllun dinas-ranbarth bae Abertawe fel y cyfryw. A wnewch chi, Ysgrifennydd Cabinet, gadarnhau’r symiau hynny? Ac a wnaiff ef hefyd gadarnhau o ba ffynonellau ariannol yn y Llywodraeth y mae’r £3 miliwn tuag at Yr Egin yn dod?
Gwnaf, mae’r cyllid hwnnw’n dod o fy mhrif grŵp gwariant fy hun ac rwy’n falch o allu cefnogi prosiect sydd â manteision economaidd i’r rhanbarth, ond sydd hefyd fy marn i, ac ym marn fy nghyd-Aelodau, â chyfraniad sylweddol i’w wneud i’r rhanbarth hefyd mewn perthynas â’r iaith Gymraeg ac addysg, ac yn gymdeithasol a diwylliannol.