2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru ar 1 Mawrth 2017.
7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am dwf economaidd yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0123(EI)
Gwnaf. Mae sgiliau, seilwaith cysylltiol ac arloesi yn ffactorau allweddol sy’n sbarduno cynhyrchiant a thwf. Mae’r rhain yn ganolog i’n hymagwedd at ddatblygu economaidd ar draws pob rhan o Gymru.
Ysgrifennydd y Cabinet, pa ystyriaeth a roesoch i dwf posibl y diwydiant gweithgynhyrchu pren yng ngogledd Cymru? Fe fyddwch yn gwybod bod rhannau sylweddol o ogledd Cymru wedi’u gorchuddio â choedwigaeth, ond lleisiwyd pryderon sylweddol gan bobl sy’n ymwneud â’r diwydiant gweithgynhyrchu pren ynglŷn â phrinder pren o Gymru yn y farchnad ar hyn o bryd, ac mae hynny, a bod yn onest, yn mygu’r diwydiant penodol hwn a photensial y diwydiant i dyfu ac i bobl ddod i mewn i’r diwydiant a buddsoddi mewn safleoedd gweithgynhyrchu pren newydd. Mae Clifford Jones Timber yn Rhuthun yn fy etholaeth, a Blazer’s Fuels Cyf, er enghraifft, yn ddau fusnes sydd â chyfle i ehangu’n sylweddol pe bai modd iddynt gael adnodd pren dibynadwy. Mae hyn yn destun pryder, ac rwy’n meddwl tybed beth rydych yn ei wneud yn economaidd i hyrwyddo’r diwydiant penodol hwn yng Nghymru.
Ie, mae’r Aelod yn nodi pwynt pwysig. Rwyf wedi cyfarfod â sefydliadau cynrychiadol—y rhai sy’n cynrychioli’r sector gweithgynhyrchu pren. Yn fy marn i mae’r sector gweithgynhyrchu pren nid yn unig yn dda i’r economi, ond hefyd yn dda i’r economi ymwelwyr yn fwy penodol mewn gwirionedd, oherwydd bydd yr Aelod yn gwybod o fod yn byw’n agos at Fryniau Clwyd fod ardal goediog yng Nghymru yn aml yn fwy deniadol nag un a ddatgoedwigwyd.
Llandegla.
Ie, yn hollol, Llandegla, fel y nodwch. Mae’n bwysig ein bod yn gallu dod o hyd i gyfleoedd i ailblannu’r hyn sy’n aml wedi’i golli. Am y rheswm hwnnw, rwy’n gweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i nodi mwy o gyfleoedd ar gyfer ailblannu coed a gollwyd, nid yn unig, fel y dywedais, er mwyn cefnogi’r sector gweithgynhyrchu, ond i gefnogi’r economi ymwelwyr yn ogystal.
Ysgrifennydd y Cabinet, fel y gwyddoch, mae seilwaith cysylltiol a rhwydweithiau trafnidiaeth o safon yn hanfodol i lwyddiant unrhyw economi ac maent yn arbennig o allweddol yn ardal porth gogledd-ddwyrain Cymru. Am y rheswm hwnnw, rwyf wedi croesawu’r newyddion am fwriad Llywodraeth Cymru i ymgynghori ar y gwelliannau mawr eu hangen i goridor Glannau Dyfrdwy—un o’r darnau prysuraf o ffordd yng ngogledd Cymru. Fe fyddwch yn gwybod bod hyn wedi cael ei ddwyn i fy sylw dro ar ôl tro gan etholwyr a chymudwyr fel ei gilydd, a byddaf yn annog llawer o unigolion, sefydliadau cymunedol a busnesau i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, sy’n amlinellu dau opsiwn posibl ar gyfer gwella, pan fydd yn dechrau ar 13 Mawrth.
Wrth i ni aros am ganlyniad yr ymgynghoriad, rwy’n croesawu’r ymrwymiad hwn gan Ysgrifennydd y Cabinet, a fydd yn sicrhau dros £200 miliwn o fuddsoddiad yn ein hardal. Ond Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ymrwymo i roi’r newyddion diweddaraf i’r Cynulliad ac felly, i’n cymunedau a’n hetholwyr yn yr ardal, ar gynnydd y cynllun hollbwysig hwn a fydd yn gyfraniad pwysig i ysgogi twf economaidd yn yr ardal?
A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei chwestiwn? Mae’r Aelod yn hollol gywir i nodi seilwaith fel galluogydd pwysig ar gyfer twf economaidd pellach ar draws gogledd Cymru. Yn wir, mae datblygu coridor newydd a’r posibilrwydd o ledu’r A494 yn rhan o fuddsoddiad o £200 miliwn arfaethedig a rhan o’r pecyn buddsoddi mwyaf mewn seilwaith trafnidiaeth yng ngogledd Cymru ers dechrau datganoli—mae rhywbeth yn debyg i £600 miliwn yn cael ei ddyrannu ar gyfer gwelliannau i drafnidiaeth ar draws gogledd Cymru, ac rwy’n falch o allu cyflwyno’r prosiectau hyn.
O ran ymgynghori, rydym wedi symud yn gyflym i ddechrau hynny ar 13 Mawrth. Bydd yn para 12 wythnos. Byddaf yn rhoi’r newyddion diweddaraf i’r Aelodau ar y cynnydd. Rwy’n gwahodd preswylwyr ar draws y rhanbarth i roi eu barn, nid yn unig ar-lein ond hefyd mewn cyfres o arddangosfeydd.
Bydd yr Aelod hefyd â diddordeb mewn gwybod fy mod wedi rhoi £85,000 i Gyngor Sir y Fflint yr wythnos diwethaf i’w helpu i ddatblygu prosiectau bysiau a theithio llesol ar hyd y B5129 yn Queensferry ac i mewn i Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy. Fel y gŵyr yr Aelod, mae Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, fel un o barciau diwydiannol mwyaf Ewrop, yn gyflogwr o bwys i bobl yn etholaeth Delyn, a hoffem annog mwy o bobl i gael mynediad iddo drwy drafnidiaeth gyhoeddus a thrwy deithio llesol. Bydd ein cynlluniau yn y tymor hwy ar gyfer cynllun metro yng ngogledd-ddwyrain Cymru yn gweld buddsoddiad o £50 miliwn yn y pedair blynedd nesaf, a cheir potensial o enillion enfawr i’r economi leol.
Ac yn olaf, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Rydw i’n gwybod bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn rhoi pwyslais mawr ar ddatblygu’r berthynas efo gogledd-orllewin Lloegr ac, wrth gwrs, mae hi’n berthynas naturiol iawn ac mae hi yn berthynas bwysig iawn. Ond, onid oes yna beryg o golli golwg ar bwysigrwydd datblygu economi gogledd Cymru ynddo fo ei hun, datblygu perthynas i’r gorllewin efo Iwerddon, a gyda gweddill Cymru hefyd, drwy roi yr argraff o fodloni ar fod yn rhyw fath yn ‘annexe’ i’r economi dros y ffin?
Rwy’n credu bod hwnnw’n asesiad annheg sydd, mewn gwirionedd, yn dangos diffyg hyder ac os caf ddweud, diffyg balchder yn economi Cymru. Y ffaith amdani yw bod gwerth ychwanegol gros ardal Mersi a’r Ddyfrdwy, gogledd-ddwyrain Cymru, ac ardaloedd awdurdodau lleol Swydd Gaer a’r Wirral, oddeutu 50 y cant o werth ychwanegol gros Cymru gyfan. Rhyngddynt, maent yn rymoedd economaidd enfawr, a dylent hefyd—y partneriaid yng Nghymru a Lloegr—fod wrth y llyw gydag agenda Pwerdy Gogledd Lloegr. Nid wyf am weld Cymru yn sedd y teithiwr yn hyn o beth; dymunaf weld Cymru’n gyrru menter Pwerdy Gogledd Lloegr, ac oherwydd hynny, mae’n hanfodol ein bod yn sicrhau bod y rhanbarth cyfan wedi’i gysylltu’n briodol ac yn llawn. Am y rheswm hwnnw yn ei dro, rwy’n edrych ar ddatblygu trydydd croesiad dros afon Menai ac ar wella’r seilwaith porthladd er mwyn i ni allu cael mynediad at ffyniant economaidd sy’n arwain o Gaergybi yr holl ffordd drwy Loegr, ond sydd hefyd yn cysylltu, yn hollbwysig, ag economi Iwerddon.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet.