1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 7 Mawrth 2017.
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar ddatblygu economaidd yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ(5)0493(FM)
Rydym yn bwriadu parhau i gefnogi busnesau wrth iddynt dyfu, i fuddsoddi mewn seilwaith o ansawdd uchel ac i wella amodau datblygu economaidd.
Brif Weinidog, mae gan Gasnewydd botensial economaidd mawr, gyda'i chryfderau trafnidiaeth, daearyddol a diwydiannol. Ar yr M4, prif reilffyrdd a rhai’r arfordir, rhan o’r brifddinas-ranbarth, yn agos i Fryste, mae'n ganolbwynt i’w heconomi ranbarthol ehangach. Felly, Brif Weinidog, a wnewch chi gytuno â mi y bydd ysgogi datblygiad economaidd yng Nghasnewydd yn ffactor pwysig os yw Cymru am wireddu ei photensial economaidd mawr?
Gwnaf, mi wnaf. Rydym ni eisiau gweld Casnewydd, fel pob rhan o Gymru, yn cael ei datblygu i'w llawn botensial. Mae llawer o waith eisoes ar y gweill, a fydd yn dod â budd i Gasnewydd, gan gynnwys y gweithgarwch adfywio parhaus, sefydlu’r Arloesfa, a'r cynigion sy'n cael eu datblygu o ran yr M4.
Nododd adroddiad gan y What Works Centre for Wellbeing a gyhoeddwyd yn ddiweddar bod pedwar awdurdod lleol yn y de-ddwyrain ymhlith yr uchaf o ran anghydraddoldeb llesiant. Roedd y rhain yn cynnwys Torfaen, Blaenau Gwent, Caerffili a Merthyr Tudful. Mae'r adroddiad yn ei gwneud yn eglur bod nifer o ffactorau cyfrannol, wrth gwrs, a nifer o atebion posibl, ond ni ddylem wrthod y dangosyddion a ddefnyddiwyd, a oedd yn cynnwys pa mor werth chweil y mae pobl yn teimlo am eu bywydau o ddydd i ddydd. Mae datblygu economaidd yn mynd i fod yn ganolog i roi sylw i’r teimladau dwfn iawn hynny yn y cymunedau hynny. A wnaiff y Prif Weinidog ymrwymo i wrthod nawr dull datblygu economaidd diferu i lawr, ac yn hytrach roi ar goedd ei ymrwymiad i ddull seiliedig ar le fel bod unrhyw gynlluniau economaidd yn y dyfodol y mae'n eu datgelu ar gyfer y wlad hon yn canolbwyntio ar yr hyn sy'n wirioneddol bwysig, sef pobl a'u cymunedau?
Gwnaf. Yn sicr nid yw'n wir ein bod ni’n derbyn economeg diferu i lawr, o bell ffordd. Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod cymunedau wedi eu cysylltu—a dyna yw diben metro de Cymru, er enghraifft—ac wedi eu cysylltu’n ddigidol hefyd, dyna pam mae gennym ni Cyflymu Cymru, ac i sicrhau bod gan bobl y sgiliau sydd eu hangen arnynt i wella eu hincwm ac i gael swyddi yn y dyfodol, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni’n canolbwyntio’n helaeth arno fel Llywodraeth.
Brif Weinidog, mae gwaith ymchwil gan Fanc Lloyds yn dangos bod nifer y busnesau newydd sy'n cychwyn yng Nghymru wedi gostwng gan fwy na chwarter dros y pum mlynedd diwethaf. Gostyngodd nifer y busnesau newydd gan fwy na 27 y cant yng Nghaerffili, mwy na 23 y cant yn Nhrefynwy, a llai na 9 y cant yng Nghasnewydd, ac 8 y cant ym Mlaenau Gwent. Nid yw hynny'n cynnig darlun da o fusnesau newydd yn y de-ddwyrain. Pa fesurau a chymhellion y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cyflwyno i greu'r amodau economaidd i annog busnesau newydd i sefydlu yn y de-ddwyrain?
Mae gennym ni’r nifer uchaf erioed o fusnesau newydd. Rydym ni’n gweld mwy a mwy o bobl ifanc yn arbennig yn cymryd rhan mewn busnesau ac yn dod yn llwyddiannus iawn mewn busnes. Mae'n iawn i ddweud bod Brexit yn cyflwyno elfen o ansicrwydd, ac mae hwn yn bendant yn gyfnod ansicr i fusnesau. Ond, fel Llywodraeth, byddwn yn parhau, wrth gwrs, i gefnogi busnesau newydd a sicrhau bod llawer o'r busnesau hynny yn dod yn BBaChau a hyd yn oed yn fwy yn y dyfodol.