– Senedd Cymru ar 7 Mawrth 2017.
Rwyf wedi derbyn y cwestiwn brys o dan Reol Sefydlog 12.66 ac rwy’n galw ar Hannah Blythyn i ofyn y cwestiwn brys. Hannah Blythyn.
Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael ar ddyfodol swyddi i weithwyr o Gymru a gaiff eu cyflogi yng ngwaith Vauxhall yn Ellesmere Port, yn sgil cyhoeddiad General Motors ei fod yn bwriadu gwerthu Vauxhall i Peugeot? EAQ(5)0141(EI)
Rwyf wedi ysgrifennu heddiw at gadeirydd Groupe PSA, Carlos Tavares, i amlygu pwysigrwydd safle Ellesmere Port i ogledd Cymru, yn arbennig ansawdd y gweithlu medrus sy'n cymudo yno yn ddyddiol, a'r cwmnïau cadwyn cyflenwi gwerthfawr yn y rhanbarth. Rwyf wedi gofyn hefyd am gyfarfod brys ac wedi siarad â swyddogion Vauxhall heddiw i drafod y cyfleoedd sydd ar gael i safle Ellesmere Port y gall gweithwyr a chwmnïau yng Nghymru fanteisio arnynt yn y blynyddoedd i ddod.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae cannoedd o fy etholwyr ar hyd a lled y gogledd-ddwyrain yn cael eu cyflogi'n uniongyrchol yng ngwaith Ellesmere Port ac, fel y dywedasoch yn eich atebion, mae hefyd pwysigrwydd y gwaith i'r gadwyn gyflenwi ehangach ac economi ein rhanbarth ni. Ysgrifennydd y Cabinet, rydym ni’n gwybod bod yr ansicrwydd yn sgil Brexit yn cael effaith negyddol ar y sector modurol, a bod cyfrifoldeb ar bob Llywodraeth i weithio gyda’r sector a chynrychiolwyr yr undebau llafur i sicrhau swyddi a buddsoddiad yn y diwydiant yn y dyfodol. Rydym ni’n gwybod bod cytundebau llafur presennol yn dangos y bydd swyddi yn ddiogel tan 2020, ond mae angen i ni sicrhau bod Ellesmere Port yn cael y cynhyrchion newydd hynny ar ôl 2020, a gallai Llywodraeth y DU helpu gyda hyn drwy ddull mwy ymyrrol. Yn wir, rydym ni’n gwybod nad yw Llywodraeth y DU yn erbyn gwneud hyn, oherwydd ein bod wedi ei gweld yn camu i mewn, ar ôl refferendwm yr UE, gyda Nissan. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi y dylai’r math hwn o weithredu fod yn berthnasol ar draws sector modurol cyfan y DU, a bod cyllideb yfory yn cynnig cyfle amserol i weithredu?
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn, a dweud ein bod yn credu bod rhyw 450 o bobl sy’n byw yng Nghymru yn cael eu cyflogi yng ngwaith Vauxhall Ellesmere Port? Hefyd, mae tua dwsin o gwmnïau yng Nghymru yn y gadwyn gyflenwi. Nid oes amheuaeth bod angen dileu’r ansicrwydd yn sgil Brexit er mwyn helpu safle Vauxhall Ellesmere Port, ac yn wir y gwaith yn Luton, i wneud y mwyaf o botensial ei weithlu cynhyrchiol. Fy marn gadarn i yw y dylai’r hyn sy'n dda i Nissan hefyd fod yn dda i Ford, ac i Vauxhall, ac i’r sector modurol cyfan yn y DU.
Rwy’n credu bod yr Ysgrifennydd busnes, Greg Clark, yn awyddus i wneud ei orau glas dros y sector modurol, ond mae angen hefyd i'r Canghellor a'r Prif Weinidog, a Llywodraeth gyfan y Deyrnas Unedig, fod yr un mor ymrwymedig i weithgynhyrchu yn y DU ag y maen nhw i ddinas Llundain. Fel yr wyf wedi ei ddweud, rwyf i wedi siarad â Vauxhall, rwy’n ceisio trefnu cyfarfod brys â chadeirydd Groupe PSA i drafod y cyfleoedd a allai ddod pe byddai oes y Vauxhall Astra yn parhau i'r degawd nesaf, neu pe byddai cynhyrchion newydd yn cael eu datblygu, yn enwedig ar gyfer y gadwyn gyflenwi yng Nghymru lle y credwn fod potensial i dyfu'n sylweddol nifer y cyfleoedd i gyflenwi Ellesmere Port a Luton.
A gaf i gefnogi’r sylwadau sydd wedi cael eu gwneud gan y ddau siaradwr hyd yma—yr Ysgrifennydd Cabinet a’r Aelod dros Delyn? Yn amlwg, mae yna neges glir sydd angen ei rhoi i Ganghellor y Trysorlys gyda golwg ar y gyllideb yfory. Byddwn i yn gwerthfawrogi os byddech chi yn ymhelaethu ychydig ynglŷn â beth yn union byddech chi’n hoffi ei weld o safbwynt cefnogaeth i sicrhau dyfodol mwy hirdymor Ellesmere Port. Ond hefyd rŷch chi wedi cyfeirio at y gadwyn gyflenwi. A gaf i ofyn beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod y gadwyn gyflenwi yn cael ei chryfhau ac yn cael ei sicrhau yn y tymor canol a’r tymor hir? A gaf i ofyn hefyd, gan fod yna gyfeiriad wedi ei wneud at yr ansicrwydd sy’n deillio o safbwynt yr economi yn sgil Brexit, a fyddech chi yn cefnogi galwadau Plaid Cymru i ddatganoli rhai o’r lifers o safbwynt creu swyddi, megis treth ar werth, megis treth gorfforaethol, er mwyn sicrhau bod modd i ni gael ein harfogi i wneud mwy i amddiffyn nifer o’r swyddi fel y rhai rydym yn sôn amdanynt heddiw?
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn, a dweud ei fod yn llygad ei le? Mae swyddogaeth i Lywodraeth y DU—swyddogaeth bwysig iawn i Lywodraeth y DU—o ran sicrhau dyfodol, nid yn unig gwaith Vauxhall Ellesmere Port, ond y sector modurol cyfan yn y DU. Yfory, gallai Llywodraeth y DU, a’r Canghellor yn benodol, wneud datganiad cynnes iawn ar y buddsoddiad mewn gwaith ymchwil, datblygu ac arloesi yn y sector modurol. Rydym ni’n gwybod bod yr Ysgrifennydd busnes eisoes wedi cyhoeddi y bydd adnoddau sylweddol ar gael i ddatblygu ceir modur newydd a gaiff eu gyrru ar drydan, ac rwy’n credu bod hyn yn cyflwyno cyfle gwych i sector modurol Cymru a'r sector modurol sy'n bwydo cadwyn gyflenwi Cymru. Rwyf hefyd yn credu y gallai adnoddau ychwanegol gael eu cynnig i waith Vauxhall Ellesmere Port os yw’r gwaith mewn sefyllfa i allu nodi cynnyrch newydd, neu ddatblygu cynnyrch ar y cyd â rhannau eraill o'r cwmni cyfunol.
Dim ond tua 24 y cant o’r cynnyrch Astra a wneir â chynnwys lleol ar hyn o bryd. Mae hyn yn cynnig cyfle gwych wrth i Vauxhall adael GM—ac mae GM, yn y gorffennol, yn draddodiadol wedi prynu o'r tu mewn i’r UE. Mae cyfle i gwmnïau o Gymru gael cyfran fwy o'r gadwyn gyflenwi. Am y rheswm hwnnw, roedd fy swyddogion eisoes mewn cysylltiad â Vauxhall cyn y cyhoeddiad yr wythnos hon i drafod sut y gall cwmnïau yng Nghymru baratoi eu hunain yn well i gael mwy o waith y gadwyn gyflenwi. Bydd y cydweithredu hwn yn parhau gyda Vauxhall.
Mae yna gyfleoedd hefyd o ran allforion, yn enwedig i Tsieina, wrth i Vauxhall gael ei ddatgysylltu oddi wrth GM. Y gobaith yw y gall y cwmni cyfunol archwilio cyfleoedd allforio ychwanegol yn y dwyrain pell, a allai gynyddu cynhyrchiant a galw yn safle Ellesmere Port. Rydym ni’n fodlon edrych ar unrhyw ysgogiadau sydd ar gael i ni, ac unrhyw ysgogiadau ychwanegol a fyddai'n diogelu’r sector modurol a gweithgynhyrchu yn y DU yn well. Ac mae'n deg dweud bod yna glwstwr cryf iawn o weithgarwch modurol yn y gogledd-orllewin a'r gogledd-ddwyrain y mae llawer o gwmnïau ar draws ardal y gogledd a thrwodd i’r canolbarth, yn elwa arno. Rydym ni’n awyddus i weithio gyda chydweithwyr ar draws y ffin, gydag awdurdodau lleol, a gyda’r Aelodau Seneddol y siaradais i â nhw ddoe, i ddatblygu'r clwstwr hwnnw yn gryfach fyth a sicrhau bod ganddo ddyfodol disglair iawn wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd.
Dywedodd pennaeth y Grŵp PSA, sy'n prynu’r unedau General Motors yn Ewrop, ddoe rwy’n credu, fod Brexit yn golygu y gallai fod yn fwy pwysig, nid yn llai pwysig, cael gweithgynhyrchu yn y DU. Mynnodd y byddai'r cwmni cyfunol newydd yn cael cyfle i osod meincnodau mewnol newydd ar gyfer perfformiad, ond dywedodd hefyd y bydd hyn yn caniatáu i safleoedd gael eu cymharu a’u gwella; ac, wrth gwrs, mae ymrwymiadau cynhyrchu Ellesmere Port yn dod i ben yn 2021. O gofio bod y gwaith yn Lloegr, ond yn hanfodol bwysig i’r gogledd-ddwyrain ac i Gymru yn fwy cyffredinol, sut y byddwch chi, a sut yr ydych chi’n ymgysylltu â Llywodraeth y DU, pan fo'r Prif Weinidog a'r Ysgrifennydd busnes wedi bod mewn cysylltiad agos â'r Grŵp PSA a General Motors, ac wedi datgan y byddant yn parhau i weithio gyda PSA yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf i sicrhau bod yr ymrwymiadau a wnaed gan GM i weithwyr a phensiynwyr Vauxhall yn cael eu cadw ac y bydd yn adeiladu ar lwyddiant Ellesmere Port, a safleoedd eraill yr effeithir arnynt, yn y tymor hwy?
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Bydd yr Aelod yn ymwybodol bod penderfyniad ar y Vauxhall Astra wedi ei ohirio ar ôl Brexit yn sgil ansicrwydd, ac mae'n eithaf amlwg mai’r hyn sydd ei angen fwyaf ar Vauxhall, Ford, Nissan—ar y sector modurol cyfan—yw sicrwydd ynghylch y fargen y bydd y DU yn ei tharo â’r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol. Mae Ellesmere Port, mewn gwirionedd, yn un o'r cyfleusterau mwyaf cynhyrchiol yn y cwmni cyfunol newydd ar hyn o bryd, ond bydd 24 o ffatrïoedd ledled yr UE yn rhan o'r cwmni newydd. Hwn fydd yr ail weithgynhyrchydd mwyaf yn Ewrop y tu ôl i Volkswagen. Rydym ni’n dymuno gweld Ellesmere Port yn cael y buddsoddiad gan Lywodraeth y DU a fydd yn ei alluogi i dyfu a ffynnu.
O ran y cymorth y gallwn ei roi, wrth gwrs, gyda chynifer o bobl o Gymru yn cael eu cyflogi yng ngwaith Vauxhall Ellesmere Port, mae swyddogaeth hollbwysig gan ddarparwyr hyfforddiant sgiliau yn y gogledd, ac felly, ar gyfer y bartneriaeth sgiliau rhanbarthol, mae hwn yn waith hollbwysig. Gwn fod y colegau yn y gogledd wedi darparu gweithwyr eithriadol sydd â’r sgiliau angenrheidiol i sicrhau’r cynhyrchiant mwyaf posibl ar y safle, ac rwy’n gwybod hefyd bod y bartneriaeth sgiliau rhanbarthol yn ymwybodol iawn o'r heriau, ond hefyd y cyfleoedd, yn Ellesmere Port. Rwyf i wedi ceisio trefnu cyfarfod â Gweinidogion y DU i drafod y sector modurol. Hwn, wrth gwrs, yw'r diweddaraf mewn cyfres o gyhoeddiadau sy'n dangos yr angen mawr iawn i Lywodraeth y DU weithredu mewn modd mwy ymyrrol. Mae'r geiriau wedi’u rhoi ar bapur sy'n awgrymu bod y Llywodraeth yn fodlon gwneud hynny, ond yfory gall Llywodraeth y DU, mewn gwirionedd, neilltuo arian i gefnogi ei geiriau a buddsoddi yn y sector gweithgynhyrchu ledled y DU.
Nodaf o’r cyfryngau fod llawer o ofn ac ansicrwydd yn cael ei greu ynglŷn â’r mater hwn ar hyn o bryd. Nid yw Peugeot wedi dweud ei fod yn bwriadu cau'r gwaith. Yn wir, mae rheolwr Peugeot wedi awgrymu y bydd ei gwmni yn awyddus i gadw’r cynhyrchu ym Mhrydain i fanteisio ar gytundebau masnach y DU yn y dyfodol a allai fod o fudd i allforion. Mae hwnnw'n safbwynt eithaf rhesymegol, yn enwedig yn wyneb y ffaith mai’r Unol Daleithiau yw’r farchnad twf mwyaf ar gyfer ceir a wneir ym Mhrydain, gyda gwerthiant yn cynyddu gan 47 y cant y llynedd. Pa waith ydych chi’n ei wneud i dynnu sylw at fanteision adeiladu ceir yma, a pha ymdrechion ydych chi'n eu gwneud i ddenu Citroën-Peugeot i weithgynhyrchu yng Nghymru?
A gaf i ddiolch i Michelle Brown am ei chwestiynau? Wrth gwrs, aros yn y farchnad sengl yn yr UE fyddai wedi bod y ffordd orau o sicrhau gweithgynhyrchu, nid dim ond yng Nghymru, ond ledled y DU, ond mae pobl Prydain wedi penderfynu gadael yr Undeb Ewropeaidd. Yn y cyd-destun hwn, yr hyn sy’n gwbl hanfodol yw ein bod yn buddsoddi yn nhechnoleg y dyfodol er mwyn diogelu’r sector modurol ar gyfer y dyfodol, yn enwedig wrth i ni ddechrau ar y pedwerydd chwyldro diwydiannol. Yn hyn o beth, dywedodd cadeirydd y grŵp y rhagwelir y bydd £1.47 biliwn o arbedion y flwyddyn yn cael eu cyflawni erbyn 2026 yn y grŵp Vauxhall-Opel. Mae hynny’n cyflwyno heriau, wrth gwrs, i Ellesmere Port, ond y neges y byddwn i’n ei rhoi yn glir iawn i gadeirydd y grŵp yw bod gan waith Ellesmere Port un o'r gweithluoedd mwyaf medrus a chynhyrchiol mewn unrhyw le yn y teulu Vauxhall-Opel, ac yn lle ystyried toriadau neu leihau’r gweithlu yng ngwaith Ellesmere Port yn y blynyddoedd i ddod, dylai, yn hytrach, ystyried cynyddu’r gweithgynhyrchu sy'n digwydd yno.
Rydym ni’n buddsoddi'n drwm iawn yn natblygiad y gweithlu modurol ac rydym hefyd yn gweithio gyda'r sector modurol i chwilio am gyfleoedd newydd, yn enwedig ym maes moduron trydan. Mae fforwm modurol Cymru eisoes wedi rhoi dadansoddiad i mi o effaith debygol penderfyniad PSA i gaffael Vauxhall-Opel, a chredir y gallai'r Astra ymestyn ei oes gweithgynhyrchu y tu hwnt i ddiwedd y degawd hwn. Byddai hynny'n rhoi digon o amser i nodi cynnyrch newydd a dod â hwnnw i waith Ellesmere Port, neu yn wir i’r cwmni cyfunol newydd gynhyrchu cynnyrch newydd ar y cyd a’i weithgynhyrchu yma yn y DU yn Ellesmere Port.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet.