– Senedd Cymru am 2:16 pm ar 21 Mawrth 2017.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rydw i’n galw ar arweinydd y tŷ, Jane Hutt.
Diolch, Lywydd. Mae gennyf ychydig o newidiadau i'w hadrodd i fusnes yr wythnos hon. Mae'r datganiad ar ddyfodol cyflawni gwaith ieuenctid wedi ei ohirio nes 4 Ebrill. Yn lle hynny, bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant yn gwneud datganiad llafar ar gyfraddau comisiwn cartrefi mewn parciau—y camau nesaf. Yn olaf, mae'r amser a neilltuwyd i gwestiynau llafar y Cynulliad i’r Cwnsler Cyffredinol yfory wedi ei leihau ac mae busnes y tair wythnos nesaf yn dilyn yr hyn a ddangosir yn y datganiad a’r cyhoeddiad busnes ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Arweinydd y tŷ, a gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, os gwelwch yn dda, ar wasanaethau rhewmatoleg bediatrig yng Nghymru? Yn anffodus, yng Nghymru, nid oes gennym unrhyw wasanaethau rhewmatoleg bediatrig—gwasanaethau penodedig—ac yn benodol nid oes gennym unrhyw dimau i helpu pobl ifanc sy'n canfod bod ganddynt arthritis yn ifanc iawn, yn aml iawn plant o oedran ysgol. Mae hyn yn achosi llawer iawn o broblemau, nid yn unig o ran yr ochr boen o reoli poen arthritis, ond hefyd y gallu i gymryd rhan lawn yn y system addysg a gallu cefnogi plant sy'n mynd drwy'r system addysg fel y gallant gyrraedd eu llawn botensial. Rydw i'n deall, yn dilyn cyfarfod a gefais ddoe, fod llawer o bobl yn cael eu hailgyfeirio i'r canolfannau yn Lloegr, lle ceir 12 ohonynt. Yn yr Alban, mae dwy ganolfan, ac yng Ngogledd Iwerddon, sydd â phoblogaeth lai o lawer na Chymru, ceir un ganolfan bwrpasol. Dim ond un gwasanaeth ymgynghorol sydd yma yn ne Cymru ar hyn o bryd, ac nid yw hwnnw'n darparu'r gwasanaeth llawn y byddai gweithio mewn tîm yn ei ddatblygu, lle—. Pe baech yn edrych ar y safonau a ddylai fod ar waith, fe ddylai fod meddyg ymgynghorol, fe ddylai fod dwy nyrs arbenigol, un ffisiotherapydd, ac un therapydd galwedigaethol, i helpu i ddatblygu'r gwasanaethau yma yng Nghymru. Byddwn yn ddiolchgar pe bai modd i ni gael datganiad fel y gallwn weld a oes gan y Llywodraeth unrhyw fwriad o gyflwyno’r hyn y byddwn i’n ei alw’n ddolen goll yn y ddarpariaeth o ofal iechyd i bobl ifanc sy'n dioddef poen— poen cronig —arthritis a'r cymorth y mae'n rhaid bod ei angen arnynt.
Mae Andrew R.T. Davies yn codi pwynt pwysig. Wrth gwrs, mae'r ffaith bod gennym bellach ysbyty plant yma yng Nghymru, sydd, wrth gwrs, yn datblygu triniaethau arloesol a llwybrau gofal—a chredaf mai’r hyn y mae angen i ni edrych arno yn ofalus iawn nawr yw, o ran rhewmatoleg bediatrig, pa lwybr gofal sydd ar gael, ac, wrth gwrs, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi clywed y pwynt a wnaed heddiw.
Tybed a oes modd i ni ddod o hyd i amser am ddatganiad ar effaith y newidiadau i amodau gwaith a phensiynau ar gyfer y lwfans cyflogaeth a chymorth sy'n dod i rym ar 1 Ebrill, a'r effaith yng Nghymru yn benodol. Mae'r Pwyllgor Dethol ar Waith a Phensiynau, pwyllgor trawsbleidiol, wedi cwestiynu’r egwyddor y tu ôl i’r toriadau hyn i’r lwfans cyflogaeth a chymorth o 1 Ebrill. Maen nhw wedi cael eu cyfiawnhau ar y sail y byddant yn cael gwared ar gymhellion sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, sy’n annog pobl i beidio â dychwelyd i'r gwaith. Ond mae'r pwyllgor yn datgan bod y dystiolaeth yn amwys ar y gorau ac mewn gwirionedd bydd perygl iddo, yn eu geiriau nhw, effeithio ar safon byw pobl anabl a'r tebygolrwydd o fynd i weithio. Felly, tybed a allwn ni ddod o hyd i amser ar gyfer rhyw asesiad neu ryw ddatganiad ar effaith hynny yng Nghymru, oherwydd mae’n cael effaith sylweddol ar fywydau fy etholwyr i.
Wel, Huw Irranca-Davies, defnyddiol iawn yw clywed gan bwyllgor dethol trawsbleidiol, y Pwyllgor Dethol ar Waith a Phensiynau yn San Steffan , am gyfrifoldebau Llywodraeth y DU, a’r gwaith craffu a monitro hwnnw. O ran effaith y newidiadau hynny sy'n dod i rym ar 1 Ebrill, rydym yn parhau i fod yn bryderus iawn am y newidiadau i’r rhai sy’n hawlio lwfans cyflogaeth a chymorth a neilltuwyd i'r grŵp gweithgareddau sy'n gysylltiedig â gwaith, a fydd yn dechrau o fis Ebrill eleni. Bydd hyn yn golygu y bydd hawlwyr newydd yn derbyn tua £28 yr wythnos yn llai na’r hawlwyr presennol.
Arweinydd y tŷ, bythefnos yn ôl gofynnais i'r Prif Weinidog gwestiwn amhleidiol ar ran fy etholwyr i. Rwyf yn croesawu'r twf yn nifer y teithwyr ar y gwasanaeth bws T9 i Faes Awyr Caerdydd, a gofynnais a yw Llywodraeth Cymru wedi edrych ar ddargyfeirio cymorthdaliadau i wasanaethau bysiau eraill ledled Cymru wledig. Ni wnaeth y Prif Weinidog ateb fy nghwestiwn sylfaenol i o gwbl—yn hytrach ceisiodd wneud cyfres o bwyntiau gwleidyddol pleidiol a oedd yn hollol amherthnasol i’m cwestiwn. Mae’r etholwyr wedi codi hyn gyda mi, ac wedi gofyn i mi fynegi pryder ynghylch y ffordd y mae'r Prif Weinidog yn ateb cwestiynau pwysig sy’n cael eu cyflwyno yn y Siambr hon. Efallai y gallech adolygu'r cofnod, ac a wnewch chi annog eich cydweithiwr y Prif Weinidog i ateb cwestiynau gan roi mwy o wybodaeth?
Rydych wedi ennyn fy chwilfrydedd—rydym yn neidio’n sydyn o Faes Awyr Caerdydd, yn wir yn fy etholaeth i, i fyny i’ch etholaeth chi, o ran rhywbeth sy'n ymddangos fel petai’n gwestiwn dilys iawn, Russell George, am y ddarpariaeth o wasanaethau bysiau gwledig, y mae, wrth gwrs, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi a thrafnidiaeth hefyd yn bryderus iawn amdano. A dyna pam mae wedi arwain uwchgynhadledd bysiau, ac rwy'n siŵr y byddech chi wedi cymryd rhan ynddi, gan ei fod yn ymwneud â hygyrchedd trafnidiaeth gyhoeddus ar draws Cymru gyfan ac ym mhob rhan o Gymru, pob rhan o Gymru, ac yn benodol o ran mynediad mewn ardaloedd gwledig.
Yr wythnos diwethaf siaradais mewn digwyddiad a drefnwyd gan Gymdeithas Pobl Fyddar Prydain i roi blas ar yrfaoedd yn y dyfodol i ddisgyblion ysgol byddar a’u helpu i gyflawni eu potensial llawn. Roedd y digwyddiad hwn yn cyd-daro ag Wythnos Iaith Arwyddion Prydain. Rwyf wedi bod yn meddwl tybed a fyddai'n bosibl cael datganiad gan Lywodraeth Cymru am ei barn ynglŷn â gwneud Iaith Arwyddion Prydain yn iaith swyddogol. Hefyd yr wythnos diwethaf, cododd y comisiynydd plant y mater fod yn rhaid i famau dalu £350 i ddysgu Iaith Arwyddion Prydain er mwyn cyfathrebu â'u plant byddar, sy’n amlwg yn dipyn o faich ariannol, ac a oes unrhyw ddatganiad y gellid ei wneud ynghylch sut y gellid ymdrin â’r mater hwn —.
Diolchaf i Julie Morgan am y cwestiwn hwnnw. Mae'r mater hwn wedi cael ei drafod a’i gyflwyno, mewn gwirionedd, i grwpiau trawsbleidiol dros y blynyddoedd. Yn wir, sefydlwyd deiseb gan y cyhoedd a grwpiau anabledd yn benodol, fframwaith gweithredu ar gyfer byw'n annibynnol—cafodd ei grybwyll yn gynharach mewn ymateb i gwestiwn i'r Prif Weinidog—ac mae'n ymwneud â sicrhau y gallwn ni, ar draws y Llywodraeth, weithredu a datblygu'r materion pwysig hynny sy'n cael gymaint o effaith ar fywydau pobl, sydd wedi’i wreiddio, wrth gwrs, yn y model cymdeithasol o anabledd. Fel y dywedodd y Prif Weinidog yn gynharach, rydym mewn gwirionedd yn achub ar y cyfle i ddatblygu fframwaith diwygiedig i’w gweithredu erbyn yr haf. Mae gennym fforwm cydraddoldeb i bobl anabl, ac rwy’n credu y bydd y cwestiynau hyn, yn enwedig yn edrych ar y cyfleoedd sydd gennym i symud ymlaen ag Iaith Arwyddion Prydain, yn—bydd yr ymgynghoriad a'r fforwm yn rhoi cyfle i ystyried hyn eto.
Arweinydd y tŷ, a gaf i alw am ddatganiad diweddaru pellach gan y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth ar y broses o gyflwyno band eang cyflym iawn, yn enwedig yn y gogledd? Cefais gyfarfod cyhoeddus ddoe yn Llanarmon-yn-Iâl, ac roedd cynrychiolwyr yno o Eryrys, Graianrhyd a Thafarn-y-Gelyn yn fy etholaeth i. Mae pob un ohonynt yn wynebu problemau sylweddol â'u seilwaith telathrebu, a chredaf fod hynny’n rhwystr i’r broses o gyflwyno band eang cyflym iawn yn eu hardaloedd. Rwy'n bryderus iawn nad yw BT Openreach yn gwella ei seilwaith ei hun yn ddigon da i’r ddarpariaeth gyflym iawn gael ei darparu ar draws y rhwydwaith, ac mae’n defnyddio hyn fel esgus i beidio â’i ddarparu i rai aelwydydd. Mae'r rhain yn gymunedau gweddol fawr, er eu bod braidd yn fychan o’u cymharu â llawer o'r cymunedau trefol y mae Superfast Cymru yn eu gwasanaethu. Ond, serch hynny, mae diffyg mynediad at fand eang yn broblem sylweddol i'r cymunedau hynny. A hyd yn oed dros y rhwydwaith copr dim ond 0.5 Mbps yn unig y maent yn ei gael ar hyn o bryd pan mae’r cyflymder ar y rhyngrwyd yn dweud wrthynt y dylent fod yn cael 7 Mbps neu 8 Mbps, hyd yn oed dros y rhwydwaith copr. Felly, rwy'n bryderus iawn am hyn ac rwy’n teimlo bod angen i Lywodraeth Cymru ddwyn BT Openreach i gyfrif am wella a buddsoddi yn ei seilwaith ei hun y tu allan i brosiect Superfast Cymru er mwyn i’r deiliaid tai a busnesau unigol hyn yn yr ardaloedd hynny gael manteisio ar y rhaglen. Byddwn yn gwerthfawrogi datganiad ar y mater hwnnw.
Rwy'n credu bod yr Aelod yn gwybod na fyddai llawer o rannau o Gymru wedi cael mynediad at fand eang cyflym iawn heb ymyrraeth Superfast Cymru. O ganlyniad i'r rhaglen honno, mae gan 194,199 o eiddo ar draws y gogledd, ac rwy'n canolbwyntio ar eich rhanbarth chi, fynediad at fand eang ffibr cyflym erbyn hyn. Ac, wrth gwrs, mae aelwydydd yn cael mynediad bob dydd wrth i'r broses o’i gyflwyno barhau. Wrth gwrs, ein nod yw darparu band eang dibynadwy, cyflym i bob eiddo yng Nghymru. Mae Superfast Cymru yn adeiladu ar y seilwaith hwnnw. Byddai siroedd cyfan, megis Conwy, Gwynedd, Blaenau Gwent, Sir Benfro, Ceredigion, ac eraill, wedi bod heb fynediad o gwbl i fand eang cyflym iawn heb ymyrraeth Superfast Cymru. Ond, gan fynd yn ôl at y sefyllfa yr ydym ynddi nawr, hyd yn hyn, mae dros 621,000 o eiddo ar draws Cymru yn gallu derbyn Superfast Cymru. Ond mae'n edrych ar sut y gallwn gyrraedd yr ychydig eiddo olaf pan fydd Superfast Cymru yn dod i ben eleni gyda buddsoddiad o £80 miliwn, ac mae hynny’n golygu pennu, fesul eiddo, lle mae band eang cyflym iawn ar gael ac mae hynny, wrth gwrs, yn mynd i lywio'r cynllun nesaf wrth iddo symud ymlaen.
Bydd arweinydd y tŷ yn gwybod bod Iechyd Cyhoeddus Cymru y bore yma wedi cadarnhau bod nifer o ffynonellau tystiolaeth yn dangos bod proffylacsis cyn-gysylltiad yn hynod effeithiol o ran atal haint HIV. Mae PrEp eisoes yn cael ei ragnodi yn yr Unol Daleithiau, Canada, Ffrainc, Norwy ac Israel. Felly, a gaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd gyflwyno datganiad, sy’n cadarnhau’r pwynt cynharaf y bydd yn disgwyl bod mewn sefyllfa i wneud penderfyniad ar ddarparu PrEp yng Nghymru, ac yn cadarnhau, yng ngoleuni'r dystiolaeth glinigol, y bydd nawr yn ystyried cymeradwyo bod y grwpiau risg uchaf yn cael defnyddio’r cyffur er mwyn cefnogi’r ymdrech i atal HIV yng Nghymru?
Diolch i Jeremy Miles am y cwestiwn hwnnw. Comisiynodd Llywodraeth Cymru Iechyd Cyhoeddus Cymru i archwilio'r dystiolaeth ddiweddaraf. Wrth gwrs, bydd hynny’n helpu i lywio'r gwerthusiad a fydd yn cael ei gynnal gan Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru, ein corff arbenigol annibynnol sy'n darparu cyngor i Weinidogion Cymru ar feddyginiaethau newydd nad ystyriwyd eto gan NICE, y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, fis nesaf. Bydd yn ystyried effeithiolrwydd y feddyginiaeth o safbwynt clinigol a chostau. Felly, mae'n amhriodol gwneud sylw pellach ar hyn o bryd. Ond, wrth gwrs, bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ar ôl iddo gael ac ystyried cyngor gan Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru.
Bore heddiw mae deintyddion yn Lloegr wedi bod yn mynegi pryder eithafol am y cynnydd mewn pydredd dannedd ymhlith plant pum mlwydd oed yn Lloegr. Tybed a—. Yn amlwg, mae gennym y Cynllun Gwên yma, sydd wedi arwain at ostyngiad amlwg yn nifer y plant pum mlwydd oed sy’n dioddef pydredd dannedd yng Nghymru. Ond, serch hynny, mae un plentyn â phydredd dannedd yn bump oed yn ormod o lawer. Pa drafodaethau a gawsoch chi gyda Llywodraeth y DU ynghylch ei bwriad i gyflwyno deddfwriaeth i drethu diodydd llawn siwgr, yn ogystal â'r sgyrsiau a gafwyd gyda chynhyrchwyr grawnfwydydd melys y mae plant yn cael eu hannog i fwyta yn y bore. Y rhain, yn amlwg, yw’r cyswllt rhwng nifer y plant â phydredd dannedd a’r hyn y gallem yn hawdd wneud rhywbeth i’w atal?
Wel, rwy'n falch bod yr Aelod dros Ganol Caerdydd wedi tynnu sylw at y Cynllun Gwên. Mae wedi cael ei grybwyll yn y cyfryngau dros y 24 awr ddiwethaf, gan gydnabod bod Lloegr yn disgyn y tu ôl i Gymru oherwydd y fenter hon. Rwy'n credu ei bod yn werth edrych ar y gostyngiad hwnnw o ganlyniad i’r Cynllun Gwên, sef yr hyn yr ydym wedi ei ddatblygu: mae arolwg deintyddol 2014-15 o blant pum mlwydd oed yn dangos gostyngiad arall o 6 y cant yng nghyfran y plant â phrofiad o bydredd deintyddol yng Nghymru o’i gymharu â'r arolwg blaenorol a gynhaliwyd yn 2011-12. Dyna’r gwelliant parhaus cyntaf ac arwyddocaol yn nifer yr achosion pydredd dannedd a brofir gan blant yng Nghymru ers dechrau cadw cofnodion, ac mae'n cael ei briodoli i sylw ac ymdrechion y rhaglen Cynllun Gwên. Ac, wrth gwrs, mae angen iddo fynd y tu hwnt i'r fenter benodol honno, sydd wedi gweld y gostyngiad hwnnw a groesawyd, ac mae wedi ymdrin mewn gwirionedd â materion anghydraddoldebau iechyd. Ond mae'n rhaid i ni fynd y tu hwnt i hynny, gan edrych ar ei atal yn y persbectif iechyd cyhoeddus ehangach, o ran lleihau faint o ddiodydd a grawnfwyd melys sydd ar gael iddynt. Rwyf bob amser yn cofio pan gyflwynwyd y rhaglen arloesol o roi brecwast am ddim mewn ysgolion yng Nghymru—ac nid pob plaid yn y Siambr hon oedd yn ei chefnogi—ond pan sefydlwyd y brecwast hwnnw roedd yn seiliedig ar safonau maeth, a oedd yn golygu bod grawnfwyd heb siwgr yn cael ei ystyried yn ddechrau maethlon i'r diwrnod. Nid brecwast am ddim mewn ysgolion yn unig mohono, ond brecwast ysgol maethlon am ddim. Ac rwy'n siŵr bod hynny hefyd wedi cyfrannu at y llwyddiant a gafwyd o ran lleihau pydredd dannedd ymhlith plant yng Nghymru.
Arweinydd y tŷ, ar hyn o bryd rwy’n cael cwynion di-ri am broblem sbwriel ar gefnffyrdd a lleiniau ymyl cefnffyrdd a chilfannau yn fy etholaeth i. Gwn fod Aelodau eraill o'r Cynulliad yn cael cwynion tebyg. Yn aml, gwn fod y cyfrifoldeb am gynnal glendid cefnffyrdd wedi ei ddirprwyo i, yn fy ardal i, Gynghrair Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru, neu i awdurdodau lleol, ond gwn mai Llywodraeth Cymru sy’n bennaf gyfrifol am ein ffyrdd, a bod gennych gyfrifoldeb dros dwristiaeth. Rwy'n bryderus iawn am y ddelwedd sy'n cael ei phortreadu o Gymru i dwristiaid sy'n dod yma. Byddwn yn falch pe gallai Llywodraeth Cymru edrych ar yr hyn y gellid ei wneud am hyn fel mater o frys, yn enwedig yn y cyfnod sy’n arwain at dymor yr haf. Tybed a fyddai modd i ni gael datganiad neu ymateb gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â sut yr ydych chi'n sicrhau bod awdurdodau lleol a chonsortia lleol yn cynnal eu cyfrifoldeb i gadw ein cefnffyrdd a thraffyrdd yn lân fel ein bod yn portreadu’r ddelwedd orau bosibl o Gymru i'r bobl sy'n ymweld â'n gwlad.
Wel, wrth gwrs, byddem i gyd yn dymuno i hynny ddigwydd. Mae rhan o hyn yn ymwneud â chodi ymwybyddiaeth y cyhoedd a'r rhai sy'n defnyddio ein ffyrdd. Rwy'n credu y byddwn i gyd yn wynebu sefyllfa pan fyddwch yn gyrru ar hyd ffordd ac yn gweld pobl yn taflu sbwriel allan o'u ffenestri. Felly, mae'n rhaid cael rhaglen i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd, a hefyd pwy wedyn sy’n ymdrin ag effaith taflu’r sbwriel hwnnw, fel y dywedwch, sy'n dinistrio ein hamgylchedd. Ond nid problem i Gymru yn unig yw hon, wrth gwrs—mae'n broblem ledled y DU ac, rwy'n siŵr, y tu hwnt i hynny. Felly, yn sicr mae'n rhywbeth y byddem yn edrych arno o ran sut y gallem ddatblygu’r math hwnnw o ymwybyddiaeth y cyhoedd a’r dull gorfodi.
Diolch i arweinydd y tŷ.