1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 28 Mawrth 2017.
2. Pa drafodaethau mae Llywodraeth Cymru wedi eu cynnal gyda Newsquest ynglŷn ag arian cyhoeddus â ddefnyddiwyd er mwyn sefydlu canolfan is-olygu y cwmni yng Nghasnewydd? OAQ(5)0542(FM)[W]
Mae ein trafodaethau’n parhau gyda Newsquest ynghylch eu diswyddiadau diweddar a’u cynlluniau. Mae fy swyddogion wedi derbyn gwybodaeth gan y cwmni ar lefelau staffio presennol y safle ac yn mynd i ddefnyddio’r wybodaeth hon i gadarnhau a yw telerau ac amodau’r grant wedi cael eu torri.
Diolch am yr ateb. Ac a wnewch chi, felly, gadarnhau y byddwch chi’n mynd ar ôl pob ceiniog os nad yw telerau’r grant wedi eu cyflawni’n llwyr? Ac, a fyddwch chi’n ailystyried y ffordd rydych chi’n cefnogi’r wasg leol? Mae hon yn ymgyrch gan yr NUJ, fel rydych chi’n gwybod, ynglŷn â Local News Matters. Oni fyddai’n fwy priodol i Lywodraeth Cymru sefydlu cronfa annibynnol ar gyfer newyddion annibynnol, y mae modd i bob cwmni fidio i mewn iddi hi, ac i gefnogi newyddiaduriaeth yn Gymraeg a Saesneg yng Nghymru?
Wel, y peth cyntaf y gallaf ei ddweud yw ei bod hi’n iawn i ddweud y byddwn ni’n mynd ar ôl pob ceiniog os yw’r telerau wedi cael eu torri—mae hynny’n wir; gallaf ddweud hynny nawr. Yn ail, cyn edrych ar gronfa, beth rydym ni’n mynd i’w sefydlu, wrth gwrs, yw fforwm annibynnol i’r cyfryngau er mwyn ystyried beth yw’r heriau dros y blynyddoedd nesaf, ac i weld ym mha ffordd y gallwn ni sicrhau bod gyda ni gyfryngau cryf yn lleol ac yn genedlaethol yng Nghymru.
Prif Weinidog, yn ddealladwy, mae'r staff sydd mewn perygl o golli eu swyddi yn swyddfa Maesglas Newsquest yn bryderus iawn. Ynghyd â'r undeb llafur, rwyf wedi siarad â staff, sy'n amcangyfrif y bydd 10 yn llai o swyddi cyfwerth ag amser llawn ar ddiwedd y broses, ac y bydd swyddi medrus amser llawn yn cael eu disodli gan swyddi mwy gweinyddol a fydd yn rhan-amser. Mae Newsquest yn dweud ei fod yn cyflogi tua 60 o staff yng Nghasnewydd ac yn cefnogi'r timau golygyddol a chyhoeddi yn ganolog ar draws y sefydliad. A yw Llywodraeth Cymru yn gwybod sut y mae’r ffigur o 60 o staff yn cyfateb i swyddi llawn amser yng Nghasnewydd, a pha sicrwydd y mae Llywodraeth Cymru wedi ei gael i sicrhau bod Newsquest yn parhau i fodloni ei rwymedigaethau i'w staff ac i’r Llywodraeth?
Wel, rydym ni’n ymwybodol o 14 o ddiswyddiadau a gynlluniwyd. Gallaf ddweud, fel y dywedais yr wythnos diwethaf, ein bod ni wedi darparu £245,808 i Newsquest yn 2015 tuag at greu 50 o swyddi a diogelu 15 o swyddi ym Maesglas. Roedd y dyfarniad hwnnw’n amodol ar i’r swyddi fod ar waith tan fis Mai 2020. Mae'r gweithrediad wedi rhagori ar y targed creu swyddi a gynlluniwyd hwnnw hyd yn hyn, ond mae'n bwysig bod telerau'r grant hwnnw’n cael eu bodloni tan fis Mai 2020. Os nad ydynt, byddwn yn adennill yr arian.
Prif Weinidog, gofynnais yr un cwestiwn i chi yr wythnos diwethaf, o’r un safbwynt ynghylch y ganolfan is-olygu hon yng Nghasnewydd. Pan ofynnais y cwestiwn hwn, fe wnaethoch gadarnhau bod y grant, yr arian, ym mis Mai 2015 yn amodol ar i swyddi fod ar waith tan fis Mai 2020—pum mlynedd. Felly, mae’n ymddangos nawr bod y staff yn Newsquest yng Nghasnewydd wedi cael eu rhoi mewn perygl o golli eu swyddi ym mis Tachwedd y llynedd. A gaf i ofyn i'r Prif Weinidog a oedd Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o'r diswyddiadau hyn fis Tachwedd diwethaf, ac, os felly, pa sylwadau a wnaed i'r cwmni bryd hynny i’w atgoffa o'r amod sydd ynghlwm wrth ddyfarniad cyllid grant gan y Cynulliad hwn?
Wel, fel y dywedais, mae amodau'r grant wedi cael eu bodloni hyd yn hyn, ond mae'n rhaid bodloni’r amodau tan fis Mai 2020. Os nad ydynt yn cael eu bodloni, yna byddwn yn ceisio adennill yr arian. Cyn belled ag y mae swyddogion yn y cwestiwn, maen nhw wedi bod mewn trafodaethau ers cryn amser gyda Newsquest. Fel sy'n arferol yn y sefyllfaoedd hyn, rydym ni’n edrych i weld pa gymorth y gallwn ni ei gynnig. Ond, gadewch i mi ei wneud yn gwbl eglur, os nad yw amodau'r grant yn cael eu bodloni, yna byddwn yn cymryd camau i’w adennill.
Gwn fod llawer o'r newyddiadurwyr sy'n gweithio yn y ganolfan is-olygu yng Nghasnewydd yn dod o Gaerdydd, ar ôl cael eu diswyddo eisoes gan Trinity Mirror, sydd hefyd wedi gweld ton ar ôl ton o golledion swyddi. Beth arall all Llywodraeth Cymru ei wneud i atal cwmnïau preifat mawr sy'n rhedeg ein teitlau gwasg leol rhag lleihau sylw i newyddion lleol ymhellach fyth? Ac a yw'r Prif Weinidog yn gwybod am unrhyw gyllid sydd ar gael i newyddiadurwyr sydd efallai’n dymuno, er enghraifft, cychwyn gwefannau newyddion hyperleol?
Wel, yn gyntaf oll, gallaf ddweud bod swyddogion wedi rhoi gwybodaeth i'r cwmni am gael mynediad at wasanaethau ReAct i weithwyr a ddiswyddwyd, ac am wasanaethau priodol Gyrfa Cymru. Mae Busnes Cymru ar gael i edrych ar ddarparu’r math o gymorth ariannol y mae’r Aelod dros Ogledd Caerdydd wedi ei grybwyll. Ond nid oes unrhyw amheuaeth bod llawer ohonom yn ofni y byddwn yn gweld gostyngiad graddol i sylw i newyddion lleol a rhaglenni newyddion cenedlaethol ledled Cymru gyfan, a dyna pam mae’r fforwm cyfryngau annibynnol wedi cael ei sefydlu. Un o amcanion y fforwm hwnnw fydd ystyried ffyrdd o wneud yn siŵr bod ein pobl yn cael eu hysbysu’n briodol ac nad ydynt yn cael eu camarwain trwy ddarllen papurau sy'n dod o rywle arall.