3. Cwestiwn Brys: Tanau Glaswellt

– Senedd Cymru ar 28 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 2:36, 28 Mawrth 2017

Y cwestiwn brys nesaf, felly, yw Vikki Howells.

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 28 Mawrth 2017

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ymateb Llywodraeth Cymru i’r nifer fawr o danau glaswellt dros y penwythnos? EAQ(5)0126(CC)

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 2:36, 28 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Rwy'n gweld bai mawr ar y rhai sy'n cychwyn tanau glaswellt. Maen nhw’n distrywio ein cymuned, ein hamgylchedd, ac yn peri dychryn yn ein cymunedau, gan beryglu ein diffoddwyr tân. Rydym wedi lleihau nifer y tanau glaswellt yn sylweddol, ond rwyf yn gobeithio gweld y sefyllfa yn parhau eleni.

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae criwiau o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi rhoi sylw i 62 o danau glaswellt ers dydd Gwener, gyda llawer ohonynt yn Rhondda Cynon Taf, a'r awgrym yw fod llawer wedi eu cychwyn yn fwriadol. Her arall i’r gwasanaethau tân hefyd oedd ffyrnigrwydd y tanau, a oedd yn achos perygl i ddiogelwch personél y gwasanaeth, ac i'n cymunedau. Mae ffigurau diweddar yn dangos bod tanau glaswellt bwriadol 33 y cant yn uwch yn 2015-16 na’r flwyddyn flaenorol. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag asiantaethau partner i gyhoeddi’r neges am y risgiau y gall y tanau hyn yn eu hachosi?

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 2:37, 28 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, mae’r Aelod yn iawn i godi mater y tanau hyn—nifer ohonyn nhw dros y penwythnos.  Rydym wedi gweithio gyda'r gwasanaeth tân, yr heddlu, awdurdodau lleol, Adnoddau Naturiol Cymru ac eraill er mwyn sefydlu dull o weithredu cydlynol a strategol ar gyfer atal ac ymateb i danau glaswellt. Mae’r ffigurau dechreuol yn dangos bod y dull hwn, gan weithio gyda phartneriaid, wedi bod yn hynod effeithiol. Roedd cyfanswm nifer y tanau glaswellt yn 2016 dros 40 y cant yn is nag yn y flwyddyn flaenorol. Ond nid oes fawr o werth yn hyn i’r trigolion a’r gwasanaethau brys dros y penwythnos diwethaf sydd wedi gorfod ymdrin â chychwyn tanau anghyfreithlon. Mae'r neges yn eithaf syml, Llywydd: byddwn yn mynd i chwilio am y bobl a'r unigolion sydd wedi cychwyn y tanau hyn, a byddwn yn eu herlyn os gallwn ddod o hyd iddynt.

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, diolch i chi am eich ymatebion hyd yma. Roedd y lluniau o lawer o'r tanau hyn a ddaeth yn hysbys yn ddramatig, yn yr ystyr waethaf, dros y penwythnos, oherwydd, mae’n amlwg, mae’r perygl i fywyd—nid dim ond i’r dynion a’r menywod tân, yn amlwg, sy'n mynd i ymladd â'r tanau hyn, ond hefyd i’r trigolion wrth ymyl y tanau. Rwy’n cofio’r amser yn dda pryd y daeth eich cydweithiwr Leighton Andrews yma i roi ymatebion tebyg yn y Cynulliad blaenorol, ac eto, yn anffodus, rydym yn gweld y tanau hyn—yn gynnar iawn, byddwn yn ei awgrymu, yn y tymor; hwn yw’r penwythnos cyntaf gwirioneddol sych i ni ei gael hyd yn hyn y gwanwyn hwn.

Gofynnaf yr un cwestiwn i chi ag y gofynnais iddo ef: yn aml iawn, gellir mynd ar drywydd llawer o'r bobl sy'n gyfrifol am rai o'r tanau hyn gan ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, oherwydd, fel y dywedais, mae'r lluniau yn ddramatig iawn, ac, yn aml, mae pobl yn ceisio’r ias o foddhad—mewn ffordd ddinistriol iawn, ddywedwn i. Felly, pa gamau yr ydych yn eu cymryd, ynghyd â'r heddlu, ynghyd â'r gwasanaeth tân—rwy’n clywed bod gan y gwasanaeth tân offer addysgol ardderchog ar gael iddyn nhw, ac maen nhw’n mynd i ysgolion, ond mae’n ymddangos nad yw hynny'n rhoi stop ar y rhai sy’n llosgi? Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn offeryn sydd wrth fôn llawer o danau dynwaredol, drwy’r Cymoedd yn arbennig. Felly, byddwn yn falch o gael deall pa ymdrech yr ydych wedi'i gwneud, ynghyd â'r asiantaethau gorfodi, i geisio mynd ar drywydd a dilyn y bobl ar y cyfryngau cymdeithasol sy'n cymell eraill i ymgymryd â gweithredoedd fel llosgi bwriadol a fandaliaeth.

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 2:39, 28 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Yn sicr rwyf yn cydnabod y pwyntiau a godwyd gan yr Aelod. Ac mae'n peri pryder i mi bod nid yn unig diffoddwyr tân a chymunedau yn cael eu rhoi mewn perygl, ond mae lles anifeiliaid yn cael ei beryglu hefyd, a chymunedau yn cael eu rhoi mewn perygl gan y weithred anghymdeithasol o gynnau tân yn ein cymunedau.

Mae'r ymgyrch sydd wedi dod â’r holl asiantaethau ynghyd wedi cael cryn lwyddiant, ac, wrth gwrs, rwyf yn cydnabod problem y penwythnos hwn. Rhoddaf rai enghreifftiau i chi. Gwelodd gorsaf dân Aberdâr 98 y cant yn llai o danau glaswellt yn ystod gwyliau'r Pasg 2016, o'u cymharu â 2015. A gwelodd Tonypandy 97 y cant yn llai; gostyngiad o 93 y cant ym Maesteg; a gostyngiad o 86 y cant yn Aberbargoed. Rydym wedi buddsoddi mewn rhai camerâu—offer camerâu cudd—ond yr hyn yr ydym yn golygu ei wneud yw edrych ar atal y tanau yn hytrach na mynd ar drywydd pobl nad ydynt mewn gwirionedd wedi cynnau tân—rydym am gamu i mewn yn gynnar. Dyna pam mae ymyrraeth y gwasanaeth tân a’r gwasanaethau argyfwng mor bwysig. Ond byddwn yn ailadrodd fy mhwynt bod unrhyw wybodaeth yn hysbys i’r cymunedau—a byddan nhw’n hysbys. Mae’r tanau yn destun clod i’r rhai sy’n cynnau’r tanau, a bydd cymunedau lleol yn gwybod amdanyn nhw. Byddem yn eu hannog i ffonio’r rhif llinell gymorth mewn argyfwng, sef 101, er mwyn mynd ar drywydd a lleoli’r unigolion hyn, a bydd y gwasanaethau brys wedyn yn ymdrin â nhw yn y modd priodol.

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 2:40, 28 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Roeddwn innau hefyd wedi fy arswydo gan y tanau glaswellt a ymledodd yn ffyrnig yn fy etholaeth i dros y penwythnos. Roedd y tân glaswellt yn Nhonypandy i’w weld o’m cartref ym Mhenygraig, a gwn fod nifer o bobl yn lleol yn pryderu y byddai’n lledu hyd at dai lleol. Mae'r tanau yn tueddu i gyrraedd uchafbwynt tua’r adeg hon o'r flwyddyn, ym mis Ebrill. Byddem o bosibl wedi gweld rhagor o danau erbyn hyn oni bai am y glaw. Ond y ffeithiau moel yw bod nifer y tanau glaswelltir, coetir a chnydau wedi codi yn y tri awdurdod tân ac achub yn 2015-16. Ac yn awdurdod tân ac achub De Cymru, gwelwyd y cynnydd mwyaf o 36 y cant. O ran cyfraddau tanau cnwd Cynon Taf yn 2015-16, rydym bron ddwbl maint cyfradd yr awdurdod lleol agosaf atom.

Nawr, es i sesiwn friffio yr wythnos diwethaf lle’r oedd diffoddwyr tân yn rhoi gwybod i mi am faterion penodol yn ymwneud â'r Rhondda, ac am y gwaith rhagorol y maen nhw wedi ei wneud i atal tanau trwy addysg, a hefyd drwy osod rhwystrau tân, a'r gwaith y maen nhw’n ei wneud pan fydd y tanau yn ymledu’n wyllt. Ond mae angen gwneud rhagor. Ac un peth a awgrymwyd i mi a allai helpu oedd pe byddai modd llacio’r cyfyngiadau ar gynnau tanau ar ben mynyddoedd. Ar hyn o bryd, mae'r diffoddwyr tân yn gallu gosod rhwystrau tân, ond oherwydd tywydd anffafriol maen nhw wedi methu â gwneud hynny. Ac mae’r cyfyngiadau yn golygu nad oes ganddynt ganiatâd i wneud hynny ar ôl 31 Mawrth. Felly, pe byddai unrhyw lacio ar y ddeddfwriaeth hon, rwy’n credu y byddai'n ddefnyddiol ystyried hynny.

Ac yna, yn olaf, roeddwn am godi mater gorsaf dân Porth, a gafodd ei chau ym mis Gorffennaf 2015. Cyn iddi gael ei chau, erfyniais ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd ac achub yr orsaf dân ar sail diogelwch y cyhoedd. Caniateir ymyrraeth i atal cau yn yr amgylchiadau hynny, ond collwyd y cyfle yr adeg honno. Rwy’n gobeithio yn fawr, Gweinidog, y byddwch yn ystyried y cyfle a gollwyd, a gweithredu'n unol â hynny pe codai sefyllfa debyg yn y dyfodol.

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 2:42, 28 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am ei chwestiynau. Ceisiaf ymdrin yn fanwl â phob un ar wahân. Rwy'n cydnabod bod yr Aelod wedi defnyddio’r ffigurau—rwy’n tybio o’r ffigurau gan a roddwyd gan Lywodraeth Cymru. Rydym wedi edrych ar y rheini’n ofalus iawn ar sail yr hyn a oedd wedi'i gynnwys yn y niferoedd. Roedd y ffigurau a ryddhawyd yn wallus wrth adrodd fel hyn, ac nid oes unrhyw fai ar yr Aelod am adrodd fel y gwnaeth, ond byddaf yn rhoi eglurdeb arnynt heddiw. Y ffigurau a gyhoeddwyd yn y mis diwethaf oedd y rhai ar gyfer y flwyddyn ariannol 2015-16. Roedden nhw’n cynnwys pob un o danau 2015 ond nid oeddent yn ystyried llwyddiant ymgyrch y llynedd. Byddaf yn diwygio hynny ar gyfer yr Aelodau. Roedd ffigurau gwasanaethau tân yn dangos gostyngiad yn y gyfradd o 41 y cant yn ystod y flwyddyn galendr 2016 o'i chymharu â 2015. Felly, mae gostyngiad wedi digwydd. Ac rwy’n tybio bod y ffigurau a ddyfynnwyd gan yr Aelod yn anghywir, ond ffigurau Llywodraeth Cymru ydyn nhw. Ac rwyf yn derbyn hynny; nid oedden nhw’n cynnwys yr holl ddata yn gywir. Rwy’n ymddiheuro i'r Aelod oherwydd hynny, ond byddaf yn diwygio’r rheini. Bu gostyngiad sylweddol yn nifer y tanau a gychwynnwyd yng Nghymru, ond mae llawer mwy o waith eto i'w wneud.

Mae'n rhy gynnar o lawer i awgrymu bod y sefyllfa’n waeth ar gyfer y Pasg eleni, o’i chymharu â’r cyfnod hyd at y Pasg y llynedd. Rydym, mae’n amlwg, am weithio'n galed gyda'r gwasanaethau brys i egluro’r sefyllfa honno.

Ceisiodd yr Aelod, yn anffodus, wrth gloi, wneud pwynt gwleidyddol, o ran gorsaf dân Porth. Mae’r Aelod yn gwbl ymwybodol o ddyletswyddau Ysgrifennydd y Cabinet heddiw, ac yn flaenorol fel Gweinidog. Mater i wasanaeth tân de Cymru yw hwn, ac nid mater i'r Llywodraeth. Ac nid yw’r cyfle a gollwyd y mae’r Aelod yn sôn amdano yn un a gollwyd gan y Llywodraeth.