2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru ar 29 Mawrth 2017.
6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella mynediad at wasanaethau meddygon teulu? OAQ(5)0145(HWS)
Rydym yn falch fod y ffigurau cyffredinol yn dangos bod mynediad yn gwella, ond yn cydnabod fod mwy i’w wneud o hyd, gan gynnwys datblygu ffyrdd newydd o gael mynediad at wasanaethau, ac rydym yn gweithio gyda Phwyllgor Ymarferwyr Cyffredinol Cymru a byrddau iechyd ar fentrau newydd i wella mynediad at wasanaethau amlbroffesiynol, integredig dan arweiniad meddygon teulu.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, ond tybed a ydych yn bwriadu gweithio—neu a ydych yn gweithio gyda Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru? Oherwydd cyhoeddwyd adroddiad gennych yn ddiweddar, wrth gwrs, a oedd yn dwyn y teitl ‘Gwasanaethau Meddygon Teulu yng Nghymru: Safbwynt Pobl Hŷn’, ac roedd yn dangos bod llawer gormod o’r boblogaeth hŷn yn ei chael yn anodd gwneud apwyntiad, yn credu bod y gwasanaeth meddygon teulu yn anhyblyg ac yn methu ymateb i’w hanghenion a’u hamgylchiadau unigol, yn methu cydnabod yr anawsterau a wynebant wrth geisio cael mynediad neu lythrennedd TG, neu wrth ddefnyddio dulliau cyfathrebu technoleg gwybodaeth. Felly, rwy’n meddwl tybed beth rydych chi a’ch Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau nad yw pobl hŷn yn teimlo bod yr un lle y dylent allu cael mynediad ato’n rhwydd yn cael ei gau oddi wrthynt yn araf bach mewn gwirionedd.
Rwy’n cydnabod yr her, ac wrth gwrs, nid pobl hŷn yn unig sy’n wynebu anawsterau rhag cael mynediad at ofal sylfaenol ar brydiau. Nid yw’r mwyafrif helaeth o bobl yn cael anawsterau, ond os ydych mewn ardal lle y mae’n her, nid yw’n help i chi wybod mewn gwirionedd fod mynediad yn llawer haws mewn mannau eraill yng Nghymru. O ran manylion adroddiad y comisiynydd pobl hŷn, rwyf eisoes wedi ysgrifennu at y byrddau iechyd yn tynnu sylw at yr argymhellion ac yn nodi fy mod yn disgwyl iddynt ymateb iddynt. Oherwydd yn y ffyrdd newydd o weithio sy’n cael eu datblygu, mae angen bob amser i weithwyr proffesiynol sy’n rhedeg ac yn darparu’r gwasanaeth i’w trafod gyda’u cleifion, fel eu bod yn deall yr hyn y gallant ei ddisgwyl a sut i wneud y defnydd gorau o unrhyw newid yn y system. Oherwydd rwy’n cydnabod bod hwn yn faes sydd angen ei wella, ac mae hynny’n rhan o’n trafodaethau gyda Chymdeithas Feddygol Prydain drwy Bwyllgor Ymarferwyr Cyffredinol Cymru.
‘Does bosibl, Ysgrifennydd y Cabinet, nad un o’r ffyrdd eraill o wella mynediad at feddygon teulu yw lleihau beichiau diangen, ac rwyf wedi gweld gwaith aruthrol fferyllwyr cymunedol yn fy etholaeth drosof fy hun, wrth iddynt ymdrin â mân anhwylderau er enghraifft. Felly, tybed pa mor obeithiol ydyw y bydd y cynllun Dewis Fferyllfa, lle y gall cleifion, gyda rhywfaint o wybodaeth, gael mynediad at fferyllfeydd cymunedol i ymdrin â’r pethau a fydd yn tynnu rhywfaint o’r baich oddi ar ysgwyddau meddygon teulu—fel bod gan feddygon teulu fwy o amser i ymdrin â’r math o gleifion y mae Angela Burns newydd fod yn cyfeirio atynt.
Rwy’n optimistaidd at ei gilydd ynglŷn â gallu fferyllfeydd cymunedol i chwarae rhan fwy, yn ogystal â’r fferyllwyr y mae clystyrau yn eu cyflogi eu hunain i helpu gyda mynediad yn eu hardaloedd eu hunain. Fe fyddwch yn gwybod ein bod wedi buddsoddi £750,000 ar gyflwyno a darparu platfform TG fferyllfeydd cymunedol ledled Cymru. Mae’r broses o’i gyflwyno yn symud yn ei blaen, ac rwy’n falch o ddweud ein bod yn parhau i fod ar y trywydd cywir ar gyfer dros hanner y fferyllfeydd yng Nghymru erbyn diwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf i allu cyflwyno’r cynllun Dewis Fferyllfa. Bydd hynny’n golygu y bydd y gallu i fynd at fferyllfa leol i ymgymryd â’r cynllun mân anhwylderau yn gwella’n sylweddol. Dylai hefyd olygu y bydd galw yn cael ei reoli yn llawer mwy priodol, fel y bydd gan bobl sydd â gwir angen gweld meddyg teulu well gobaith o’u gweld, ond hefyd dylai’r meddyg teulu fod â mwy o amser i weld y cleifion hynny wedyn hefyd.
Ar gefn y cwestiwn yna, wrth gwrs, yn naturiol mae’n dal yn rhaid cael meddygon teulu i ddelio â’r problemau yna y gall dim ond meddyg delio â nhw. Ac yr wythnos yma rydym ni wedi clywed bod meddygfa Coelbren yn fy rhanbarth i yn mynd i gau, gan fod bwrdd iechyd Abertawe Bro Morgannwg wedi methu’n deg â ffeindio meddygon teulu i weithio yna, er bod yn trio’n ddyfal ers rhai misoedd. O gofio hynny, felly, beth ydych chi fel Llywodraeth yn ei wneud i ffeindio ateb i’r broblem yma?
Mae’n achos sylwadau a thrafodaeth reolaidd gyda’r proffesiwn a chyda phartneriaid yn ei gylch. Wrth gwrs, yn ddiweddar, bûm yn ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, yn rhoi tystiolaeth ynglŷn â recriwtio meddygon. Rwy’n edrych ymlaen at ddarparu ffigurau ar lenwi ein lleoedd hyfforddi ar gyfer meddygon teulu yn ystod yr wythnosau nesaf, ac rwy’n credu bod yr ymgyrch ‘Hyfforddi. Gweithio. Byw’ wedi cael effaith gadarnhaol iawn. Cawn wybod mwy am hynny hefyd—nid yn unig am y proffil cyfryngau cymdeithasol y mae wedi’i gael, ond gyda llenwi’r lleoedd hynny hefyd mewn gwirionedd. Ond bydd yna her bob amser wrth ailfodelu gofal sylfaenol a deall, lle y ceir y canolfannau hynny ar hyn o bryd, a ddylent barhau i fod y mannau lle rydym yn recriwtio ac yn darparu’r gwasanaeth iddynt yn y dyfodol. Felly, mae’n rhan o’r sgwrs ehangach honno am ailffurfio a diwygio gofal sylfaenol.
Rwyf am ei ddweud eto: mae’r sgyrsiau rydym yn eu cael gyda Chymdeithas Feddygol Prydain, gyda Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, ond gweithwyr proffesiynol eraill yn ogystal, yn bwysig iawn ar gyfer gwneud hynny. Nid proses o orfodi yw hon. Mae’n broses o drafod, partneriaeth a dysgu am yr hyn sydd eisoes yn gweithio. Dyna pam roedd fy ymweliad â’r prosiect pennu cyfeiriad yng Nghastell-nedd gyda Jeremy Miles a David Rees yn arbennig o bwysig er mwyn gweld sut y mae rhai meddygon teulu eisoes yn byw eu proffes ac yn newid y ffordd y maent yn darparu gofal, gydag ystod ehangach o ofal ar gael. A dweud y gwir, o ran y meddygon teulu eu hunain, maent yn credu ei bod yn ffordd well iddynt weithio ac yn ffordd well i’w cleifion gael mynediad at y gwasanaeth.